Eitem ar yr agenda
PROSIECTAU SEILWAITH MAWR: DYRANNU ADNODDAU AC YMGYSYLLTIAD CYMUNEDOL
To consider a
report by the Planning Officer: Renewable Energy Schemes (copy enclosed) which
seeks guidance on the resource commitment and level of community engagement for
major infrastructure projects.
10.50 a.m.
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad gan y Swyddog Cynllunio: Cynlluniau Ynni
Adnewyddadwy, a oedd yn ceisio arweiniad
ar yr ymrwymiad o ran adnoddau a lefelau ymgysylltiad cymunedol gyda
phrosiectau seilwaith mawr, wedi’i ddosbarthu gyda’r papurau i’r cyfarfod.
Roedd prosiectau seilwaith mawr yn gynigion datblygu ar raddfa fawr sydd
angen caniatâd a elwir yn ‘ganiatâd datblygu’ dan weithdrefnau a nodir gan
Ddeddf Gynllunio 2008 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Lleoliaeth 2011). Roedd angen i ddatblygwyr oedd am adeiladu
prosiectau seilwaith mawr ymgeisio am ganiatâd cynllunio i’r Arolygaeth
Gynllunio ac roedd yn rhaid ymgynghori’n statudol ag Awdurdodau Lleol. Roedd
Adroddiad yn nodi’r cyd-destun ar gyfer prosiectau seilwaith mawr wedi’i
ystyried gan y Pwyllgor Cynllunio ym Mai 2012, ac mae Atodiadau 1 a 2 i’r
adroddiad yn cynnwys manylion am rôl yr Awdurdod Cynllunio yn y broses
gynllunio. Roedd y goblygiadau o ran
arian ac adnoddau ac effeithiau/risgiau potensial yn gysylltiedig â phob opsiwn
wedi’u cynnwys yn Atodiad 3, ac roedd costau allanol dangosol i ymateb i
brosiectau seilwaith mawr wedi’u cynnwys yn Atodiad 4. Nid oedd unrhyw
reidrwydd statudol ar yr Awdurdod Lleol i gyfranogi yn y broses o asesu
cynlluniau o’r fath. Fodd bynnag, gan fod i rai prosiectau seilwaith mawr
effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sylweddol ar y Sir a
chymunedau lleol, rhoddwyd ymateb
casgliadol i’r Arolygaeth a chyfranogodd y Cyngor, i ryw raddau, yn y broses.
Roedd gofyn am arweiniad gan Aelodau ynghylch lefel y dyraniad adnoddau ac i ba
raddau y dylid cael ymgysylltiad cymunedol gyda phrosiectau seilwaith mawr yn y
dyfodol, yn enwedig o gofio dyhead yr Awdurdod i ddod yn agosach at y
gymuned.
Rhoddodd swyddogion grynodeb o’r prif bwyntiau yn yr adroddiad a oedd yn
ymdrin â dyrannu adnoddau, yr opsiynau ar gael i’r Cyngor yn nhermau sut y
mae’n ymateb i brosiectau seilwaith mawr, ac yn nhermau ymgysylltiad cymunedol
mewn perthynas â phrosiectau mawr o’r fath. Roedd rheidrwydd statudol i
ymgynghori ag Awdurdodau Lleol ar brosiectau seilwaith mawr, ac roedd ganddynt
rôl bwysig i’w chwarae pe byddent yn dewis ymgysylltu â’r broses. Fodd bynnag,
nid oedd unrhyw daliad cynllunio yn gysylltiedig â chynlluniau o’r fath i dalu
am unrhyw gostau fyddai’n codi.
Roedd yr adroddiad yn crynhoi’r gofynion
allweddol o fewn y broses, a phwysleisiwyd bod y ceisiadau yn cynnwys dogfennau
cymhleth, hirfaith, ac y byddai’n rhaid neilltuo cryn dipyn o amser i’w hasesu
cyn ffurfio ymateb i unrhyw ymgynghoriad. Mae amserlenni ar gyfer ymgynghori
wedi’u nodi’n statudol, ac felly byddai’n rhaid cydymffurfio â hwy.
Esboniodd y Cynghorydd J.S. Welch nad oedd trigolion yn ei ward ef wedi bod yn
ymwybodol o gynigion diweddar a
gyflwynwyd yn yr ardal honno, ac awgrymodd y dylai’r Awdurdod Lleol fabwysiadu
ymagwedd mwy rhagweithiol i gynyddu ymwybyddiaeth yn lleol. Cyfeiriodd hefyd at yr effeithiau y gallai
cynigion mewn rhannau amrywiol o’r sir eu cael ar gymunedau ar hyd yr A5 o
safbwynt materion cysylltiedig â thraffig. Roedd y Cynghorydd C.H. Williams yn teimlo
bod gan yr Awdurdod ddyletswydd i sicrhau nad oedd unrhyw effaith niweidiol ar
drigolion y Sir, beth bynnag oedd maint y datblygiadau a gynigiwyd. Cadarnhaodd y Pennaeth Cynllunio a Gwasanaethau
Rheoleiddio y byddai’n rhaid cyflwyno’r cais i’r Awdurdod Cynllunio Lleol (LPA)
pe byddai’r rhifau yn gostwng fel bod y cais islaw trothwy penodol. Byddai’r
LPA wedyn yn gallu derbyn taliad penodol gyda’r cais, gan olygu bod gwell
adnoddau ar gael i ymdrin â’r cais.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd J.M. Davies ynghylch ariannu a
goblygiadau ariannol pob un o’r opsiynau a gyflwynwyd, cyfeiriodd y Pennaeth
Cynllunio a Gwasanaethau Rheoleiddio at Ddatganiad y Prif Swyddog Ariannol
ynghylch y goblygiadau o ran adnoddau a
chyllid, a’r broses ar gyfer ceisio am adnoddau mewnol ychwanegol. Cyfeiriodd y Cynghorydd H.O. Williams at effaith gweledol strwythurau, fel ffermydd gwynt, ar
gymunedau y tu allan i’r ardal gynllunio, a phwysleisiodd bwysigrwydd cynnwys y
cymunedau hyn yn y broses ymgynghori.
Roedd y Swyddog Cynllunio: Cynlluniau Ynni
Adnewyddadwy yn teimlo y dylai’r Awdurdod ymgysylltu â’r broses. Fodd
bynnag, roedd yn bwysig bod yn realistig ynghylch beth fyddai’r Cyngor yn gallu
ei gyfrannu, ac am y rheswm hwn, roedd Opsiwn B yn cael ei argymell i aelodau,
sef defnyddio adnoddau oedd eisoes ar gael.
Rhoddodd fanylion o’r broses ymgynghori hyd yn hyn, a chadarnhaodd nad
oedd unrhyw gyfeiriad yn y Ddeddf Gynllunio at ymgysylltu cymunedol.
Amlinellodd y Rheolwr Rheoli Datblygiad y risg potensial i’r Awdurdod pe
byddai’n penderfynu ymestyn ei gyfraniad y tu hwnt i’w rôl statudol yn y broses
ymgynghori, a nododd y byddai’n bwysig bod yr Awdurdod yn ymddangos fel
rhanddeiliad o fewn y broses tra’n cefnogi’r gymuned leol.
Gyda chaniatâd y Cadeirydd, bu i aelodau o’r cyhoedd a oedd yn bresennol
yn y cyfarfod godi ac amlinellu’r pwyntiau canlynol a materion yn ymwneud â
nifer o geisiadau seilwaith mawr cyfredol neu botensial:-
-
byddai cyfranogiad yr awdurdod lleol yn
bwysig oherwydd yr effaith sylweddol ar y Sir gyfan; cyfeiriwyd at y diwydiant twristiaeth,
fforestydd lleol ac yn enwedig at gyflenwadau dŵr yn yr ardal.
-
awgrymodd cynrychiolydd o
‘Stop the Exploitation of Mynydd Mynyllod’ (STEMM), bod y broses ymgynghori yn
achos y datblygiad arbennig hwnnw yn cael ei rheoli’n ofalus gan yr ymgeiswyr.
Roedd yn cwestiynu didueddrwydd y broses ymgynghori, gan gyfeirio’n benodol at
y mapiau a ddosbarthwyd nad oedd yn cyfeirio at y cymunedau a fyddai’n cael eu
heffeithio o fewn yr ardal Gais.
-
Roedd asesiadau effaith weledol wedi
cael eu gwrthod.
Ymatebodd y Swyddog Cynllunio: Cynlluniau Ynni Adnewyddadwy i’r cwestiynau a’r pryderon a godwyd ynghylch materion ariannu gwahanol
brosiectau, gan gyfeirio’n arbennig at y meini prawf ar gyfer ariannu gan
Lywodraeth Cymru, a’r rhesymau pam bod arian ar gael i Gynllun Clocaenog ond
nid i Gynllun Mynydd Mynyllod.
Cyfeiriodd y Pennaeth Cynllunio a Gwasanaethau Rheoleiddio at y broses
statudol ar gyfer ymgynghori o fewn y ddeddfwriaeth newydd, ac amlinellodd y
goblygiadau ariannol a’r pwysau cyllidebol posibl ar y Cyngor yn nhermau’r
Opsiynau sydd ar gael.
Yn dilyn trafodaeth bellach a gan ystyried y safbwyntiau a fynegwyd yn y cyfarfod,
cytunodd y Pwyllgor y dylid argymell y canlynol:-
Dyrannu adnoddau - OPSIWN 3: bod y Cyngor yn defnyddio adnoddau
mewnol sy’n bodoli eisoes ac yn dyrannu cyllideb o’r gronfa ganolog i sicrhau bod
modd neilltuo adnoddau mewnol ac allanol digonol i ymateb i brosiectau
seilwaith mawr.
Ymgysylltu cymunedol - Opsiwn C: sy’n cwmpasu Opsiwn B ac yn
ychwanegol bod y Cyngor yn neilltuo adnoddau mewnol pellach i gefnogi mudiadau
trydydd person yn rhagweithiol ac i helpu cymunedau lleol ddeall, cyfrannu at,
ac ymateb i brosiectau seilwaith mawr.
Mewn ymateb i geisiadau gan aelodau, cytunodd swyddogion i lunio
strategaeth gyfathrebu i ymgynghoriadau, gan gytuno i ddosbarthu’r cynllun
drafft i aelodau’r Pwyllgor cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor.
Yn dilyn trafodaeth
bellach:-
PENDERFYNWYD – argymell:-
(a)
bod y Cyngor yn cydymffurfio gyda’r darpariaethau a nodir yn Neddf
Gynllunio 2008 ac yn neilltuo adnoddau digonol i sicrhau bod y Cyngor yn gallu
ymateb yn llawn i brosiectau seilwaith mawr, ac felly’n argymell y dylid
mabwysiadu Dyrannu Adnoddau Opsiwn 3 i’r diben hwn, a
(b)
bod y Cyngor yn neilltuo adnoddau
mewnol ychwanegol i gefnogi mudiadau trydydd person yn rhagweithiol ac i helpu
cymunedau lleol ddeall, cyfrannu at, ac ymateb i brosiectau seilwaith mawr ac
felly’n argymell Ymgysylltu Cymunedol Opsiwn C i’r diben hwn.
Dogfennau ategol:
- Major Infrastructure Report 160712, Eitem 7. PDF 94 KB
- Major Infrastructure Report 160712 - Apps, Eitem 7. PDF 126 KB