Eitem ar yr agenda
DYRANIAD CRONFA AELOD ARDAL
Ystyried adroddiad
gan y Rheolwr Ymgysylltiad Cymunedol (copi’n amgaeëdig) sy’n rhoi trosolwg ar y
cyllid a ddyrannwyd i alluogi i Grwpiau Aelodau Ardal gefnogi prosiectau
blaenoriaeth yn eu hardaloedd ac yn gofyn i’r Pwyllgor adolygu llwyddiant y
gronfa.
11.25 a.m.
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad gan y Rheolwr Ymgysylltiad Cymunedol, a oedd yn rhoi
trosolwg o’r arian a ddyrannwyd i alluogi Grwpiau Aelod Ardal i gefnogi
prosiectau a oedd yn cael blaenoriaeth yn eu hardaloedd, ac yn adolygu ei
lwyddiant, wedi’i ddosbarthu gyda’r papurau i’r cyfarfod.
Ym Mawrth 2012, roedd y Pwyllgor wedi derbyn adroddiad ar y dyraniad o
£50,000 i bob un o’r chwe Grŵp Aelod Ardal gyda manylion o’r meini
prawf ar gyfer y dyraniad a sut y dylid
ei ddefnyddio er budd y cymunedau. Gan nad oedd llawer o’r prosiectau wedi’u
cwblhau ar y pryd, cytunwyd y dylid cyflwyno adroddiad pellach gyda
dadansoddiad o’r buddion a gafwyd.
Rhoddodd y Pennaeth Cynllunio a Pherfformio Busnes grynodeb o’r
adroddiad a oedd yn cynnwys manylion o’r cefndir i’r dyraniad arian, sut
ddosbarthwyd yr arian, adolygiad o’r broses, y buddion a gafwyd a’r gwersi a
ddysgwyd o’r broses, a manylion o’r argymhellion ar gyfer dyrannu arian yn y
dyfodol. Roedd ffurflen ar gyfer cynnig
prosiect (Atodiad 1) i gyd-fynd â’r canllawiau, a oedd yn esbonio’r egwyddorion
wrth wraidd y broses ddyrannu a’r amserlen debygol ar gyfer dosbarthu’r arian.
Roedd copi o’r ddogfen ‘Trosolwg o’r Gwariant Hyd Yma’, yn manylu ar bob
prosiect unigol, wedi’i ddosbarthu yn y Papurau Gwybodaeth i’r cyfarfod.
Esboniodd y Cynghorydd J.M. Davies y byddai’n haws mewn Trefi, lle mae
Cynlluniau Tref, i weithio tuag at, a chyflawni prosiectau a chynlluniau
penodol gan fod materion yn ymwneud â ffiniau daearyddol a dylanwadau allanol
eraill yn gallu cymhlethu’r broses o ddyrannu arian i ardaloedd gwledig. Cytunodd y Cynghorydd C.H. Williams gyda’r
safbwynt hwn a thynnodd sylw at y problemau a brofwyd wrth ddyrannu arian i
gynlluniau mewn ardaloedd gwledig.
Tynnodd sylw arbennig at y broses ddyrannu arian i drefi a phentrefi yn
ardal Dyffryn Dyfrdwy.
Mynegodd nifer o Aelodau bryder ynghylch dyrannu arian mewn ardaloedd
penodol o’r sir. Cyfeiriwyd yn benodol at yr arian a ddyrannwyd i roi
cymhorthdal i gynnal maes parcio yn Rhuthun;
honnwyd bod hyn wedi mynd yn groes i Bolisi Cytunedig y Cyngor parthed
taliadau parcio ceir.
Cyfeiriwyd at gael y pentrefi yn y cyffiniau i ddod yn rhan o’r Cynlluniau
Tref a phwysigrwydd cwmpasu anghenion y cymunedau gwledig yn y Cynlluniau Tref.
Nodwyd y dylid cydnabod bod gan wahanol ardaloedd o fewn y sir anghenion,
blaenoriaethau a gofynion gwahanol. Roedd yn bwysig sicrhau bod y Cynlluniau
Tref yn adlewyrchu blaenoriaethau lleol yn ogystal â blaenoriaethau sirol, a’u
bod felly’n ddogfennau gweithio byw allai gael eu diwygio ar unrhyw adeg.
Cefnogodd Aelodau’r safbwynt y dylai dyrannu arian cymunedol yn y dyfodol fod
yn gysylltiedig gyda datblygiad y Cynlluniau Tref.
Esboniodd y Pennaeth Cynllunio a Pherfformio Busnes y byddai dyrannu
arian i gefnogi Cynlluniau Tref, yn enwedig mewn ardaloedd lle'r oedd adfywiad
yn flaenoriaeth, yn bwysig. Cefnogodd y Cyfarwyddwyr Corfforaethol: Dysgu a
Chymunedau y farn y gellid rheoli’r broses o ddyrannu arian yn fwy strategol yn
y dyfodol, yn dilyn datblygiad y Cynlluniau Tref, ac y dylai ymgynghori ar
unrhyw brosiectau i’r dyfodol fod mor gynhwysol â phosibl. Yn dilyn trafodaeth bellach:-
PENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor:-
(a) yn derbyn yr adroddiad
ac yn nodi’r dyraniad untro o arian heb unrhyw ymrwymiad y byddai’r broses yn
cael ei hail-adrodd;
(b) yn argymell bod yn
rhaid i unrhyw gynllun(iau) yn y dyfodol gael eu cyflwyno i gyfarfod Grŵp
Aelod Ardal a’u cymeradwyo’n llawn yn y cyfarfod hwnnw yn hytrach na chael eu
dirprwyo i Aelodau Ward unigol;
(c) yn cytuno y dylai holl
gynlluniau yn y dyfodol gyd-fynd â, a chefnogi’r Cynlluniau Tref/Rhyl Ymlaen
neu brosiectau gwledig y cytunodd y Grŵp Aelod Lleol arnynt; ac
(d) y dylai holl gynlluniau
i’r dyfodol ystyried anghenion nodedig ac amrywiol gwahanol gymunedau ar draws
y Sir.
Dogfennau ategol:
- Mem Area Fund Allocation Rep, Eitem 8. PDF 88 KB
- Mem Area Fund Allocation Append, Eitem 8. PDF 71 KB