Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

Y MAES LLAFUR CYTUNEDIG NEWYDD

Trafod y cyngor fydd y Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig yn ei ddarparu’n ffurfiol i’r awdurdod lleol ar fabwysiadu Maes Llafur Cytunedig newydd Sir Ddinbych ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, ac i roi cyngor ffurfiol i’r awdurdod lleol ar fabwysiadu’r Maes Llafur cytunedig newydd ar gyfer Crefydd, gwerthoedd a Moeseg.

 

Cofnodion:

Fe hwylusodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol drafodaeth ar y cyngor y byddai’r Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig yn ei roi’n ffurfiol i’r awdurdod lleol ynghylch mabwysiadu Maes Llafur Cytunedig newydd Sir Ddinbych ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, gan roi ystyriaeth benodol i fabwysiadu’r Canllawiau RVE fel Maes Llafur Cytunedig Sir Ddinbych o fis Medi 2022 i fis Medi 2027.

 

Nododd yr aelodau fanteision mabwysiadu’r Canllawiau RVE yn eu cyfanrwydd, fel y Maes Llafur Cytunedig, gan gynnwys: byddai’r hyfforddiant a ddarperir gan Lywodraeth Cymru yn berthnasol i’r Canllawiau RVE; byddai cysondeb ar draws llawer o awdurdodau lleol eraill yng Nghymru wrth weithio ar yr un cwricwlwm; cynlluniwyd y Canllawiau RVE i gyd-fynd yn dda â’r cwricwlwm newydd fel rhan o Faes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau, ac mae’r Canllawiau RVE eisoes wedi bod drwy’r ymgynghoriadau perthnasol â rhanddeiliaid a phrosesau sicrhau ansawdd, sy’n golygu mae’n debyg na fyddai rhaid cynnal ymgyfreitha posib.   Fe soniodd  yr athrawon a oedd yn bresennol am  ddatblygiad Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau o fewn eu hysgolion ac roeddent yn credu bod y Canllawiau RVE yn cysylltu’n dda o fewn y cwricwlwm ac yn cefnogi’r awgrym y dylid ei fabwysiadu fel y Maes Llafur Cytunedig, a bod cefnogaeth hefyd yn cael ei hadleisio gan aelodau eraill.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Tony Flynn y dylid cynghori’r awdurdod lleol i fabwysiadu’r Canllawiau RVE yn ei gyfanrwydd, fel ei Faes Llafur Cytunedig ac fe’i heiliwyd gan Collette Owen.

 

Roedd y Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig yn cynnwys tri phwyllgor ar wahân, yn cynrychioli (1) Enwadau Crefyddol ac Argyhoeddiadau Athronyddol Anghrefyddol, (2) Cymdeithasau Athrawon, ac (3) yr Awdurdod Lleol, a chyfeiriodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol at y gofyniad i bob pwyllgor bleidleisio ar wahân ar y cynnig.   Yn seiliedig ar bleidlais bob pwyllgor, yn unfrydol –

 

PENDERFYNWYD cynghori awdurdod lleol Sir Ddinbych i fabwysiadu’r Canllawiau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg fel Maes Llafur Cytunedig o fis Medi 2022 i fis Medi 2027.

 

Gofynnodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol i’r aelodau hefyd ystyried y canlynol –

 

·         Roedd CYSAG Conwy wedi nodi’r diffyg cyfeiriad at ôl-16 yn y canllawiau RVE, ond bod cyfeiriad at ôl-16 wedi’i gynnwys fel rhan o’r crynodeb o’r ddeddfwriaeth o fewn y Cwricwlwm i Gymru, yn benodol ar gyfer RVE gan nad oedd bellach yn berthnasol i bob disgybl ôl-16 ddilyn cwricwlwm RVE.   Fodd bynnag, pe bai plentyn yn dymuno, byddai hawl ganddynt o hyd i dderbyn darpariaeth ar gyfer RVE ac awgrymwyd y dylai hawl fod yn amlwg yn y cyngor a roddir i’r awdurdod lleol.   Nodwyd bod CYSAG Conwy wedi cynnig atodiad i’r Maes Llafur Cytunedig, yn ymgorffori’r cyfeiriad at ôl-16 yn y crynodeb o’r ddeddfwriaeth fel canllaw o ran hynny.   Cynigodd y Cadeirydd bod yr un agwedd yn cael ei mabwysiadu yn Sir Ddinbych, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Cheryl Williams

 

·         O ystyried y dull graddol o roi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith fesul cam, awgrymwyd bod yr awdurdod lleol yn parhau â’r Maes Llafur Cytunedig presennol yn unol â’r dull graddol a hysbysu’r awdurdod lleol fel bo’n briodol.   Cynigodd y Cynghorydd Cheryl Williams y dull hwnnw, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Rachel Flynn.   Oherwydd yr angen i’r Maes Llafur Cytunedig presennol a’r un newydd fod yn hygyrch, y bwriad oedd sicrhau fod modd cael mynediad ato ar wefan Sir Ddinbych ar y dudalen sy’n cynnwys agendâu CYSAG ac ati.

 

Pleidleisiodd pob un o’r tri phwyllgor ar wahân ar y ddau gynnig uchod ac yn unfrydol -

 

PENDERFYNWYD cynghori awdurdod lleol Sir Ddinbych ymhellach i –

 

(a)       gynnwys atodiad i’r Maes Llafur Cytunedig yn ymgorffori’r cyfeiriad at ddarpariaeth RVE ôl-16 fel y manylir yn y crynodeb o’r ddeddfwriaeth o fewn y Cwricwlwm i Gymru, ac

 

(b)       yn unol â’r dull graddol o roi’r Cwricwlwm newydd i Gymru ar waith fesul cam, bod yr awdurdod lleol yn parhau â’r Maes Llafur Cytunedig ar gyfer blynyddoedd 8, 9, 10 ac 11 yn 2022, ar gyfer blynyddoedd 9, 10 ac 11 yn 2023, ar gyfer blynyddoedd 10 ac 11 yn 2024 a blwyddyn 11 yn 2025.

 

Eglurodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol ei fod hefyd wedi paratoi rhywfaint o ddeunyddiau ategol ar gyfer y Maes Llafur Cytunedig, a all fod yn ddefnyddiol i athrawon wrth gynllunio’r cwricwlwm, ac fe arweiniodd aelodau trwy’r dogfennau hynny a oedd yn seiliedig ar wybodaeth o’r Canllawiau RVE a oedd yn ymwneud â’r canlynol –

 

·         Dulliau disgyblu posib gan gynnwys Astudiaethau Crefyddol, Athroniaeth, Diwinyddiaeth, Cymdeithaseg, Seicoleg, ac Anthropoleg ymhlith eraill 

·         Cysyniadau RVE a’u cysylltu â datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ym Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau.

·         Tablau i helpu athrawon nodi cysyniadau posib y byddent efallai am eu datblygu yn eu cwricwlwm a sut y mae modd iddynt gefnogi gwell dealltwriaeth o’r datganiadau sy’n bwysig ar gyfer y dyniaethau.

·         Croesgyfeirio’r cysyniadau a nodir yn benodol yn y datganiad o’r hyn sy’n bwysig a’r disgrifiadau o ddysgu â’r cysyniadau yn y canllawiau RVE

·         Crynodeb o’r saith lens ac enghreifftiau o deithiau dysgu a chynnydd

·         Cwestiynau sydd wedi’u cynnwys yn y Canllawiau RVE a phwyntiau i ysgolion a lleoliadau eu hystyried wrth gynllunio eu cwricwlwm ar gyfer RVE gan gynnwys defnyddio graddfeydd COG (Coch/Oren/Gwyrdd) er mwyn gwerthuso cynnydd. 

 

Roedd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol yn awyddus i glywed barn yr athrawon ar y deunyddiau ategol er mwyn gweithio ymhellach ar y dogfennau cyn eu cyflwyno i’r cyfarfod CYSAG nesaf i ystyried cynghori’r awdurdod lleol ynghylch darparu’r deunydd ategol i bob ysgol.  Mynegodd yr athrawon a oedd yn bresennol eu cefnogaeth a diolchwyd i’r Ymgynghorydd Addysg Grefyddol am y deunyddiau ategol, a fyddai yn eu barn hwy o fudd i ysgolion wrth gynllunio’r cwricwlwm yn ystod y camau cynnar drwy grynhoi’r canllawiau ar un ddogfen a hefyd ar gyfer yr ysgolion sydd ymhellach ymlaen yn y broses o fapio’r cwricwlwm newydd, gan ddefnyddio’r ddogfen ar gyfer croesgyfeirio gwaith a gynhyrchir a gwerthuso cynnydd.

 

Yn ystod trafodaeth bellach, cydnabuwyd bod angen cyflwyno’r deunyddiau ategol i ysgolion fel ffordd o’u cefnogi wrth ddatblygu’r cwricwlwm newydd ac nid er mwyn creu mwy o waith neu bryderon.   Nodwyd y gallai gwahanol ysgolion fabwysiadu gwahanol ddulliau, gyda rhai’n cael budd o’r strwythur a ddarperir yn y ddogfen, ond efallai y byddai ysgolion eraill yn dymuno defnyddio dull mwy organig a rhydd, gydag ysgolion yn defnyddio’r deunyddiau ategol sy’n gweddu orau i bob ysgol.   Cafwyd trafodaeth ynghylch y ffordd orau i symud ymlaen â’r mater a chytunwyd bod y Grŵp Microsoft Teams presennol yn ffordd dda o rannu a datblygu’r deunyddiau ategol ar y cyd a sicrhau y gwneir y defnydd gorau ohono cyn cyflwyno’r ddogfen i gyfarfod nesaf Cadeiryddion Clystyrau Ysgolion a drefnwyd ar ôl y Pasg, a fyddai’n sicrhau cyfranogiad ysgolion yn y broses cyn cyflwyno dogfen derfynol i CYSAG i’w hystyried.

 

Tynnodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol sylw hefyd at ddiffyg fformatio’r canllawiau RVE o ran rhifo tudalennau a pharagraffau/adrannau a’r anhawster o ran llywio’r ddogfen o’r herwydd.   O ganlyniad, fe awgrymwyd cynnwys fformatio rhifau yn y Canllawiau RVE pan fyddai’n cael ei fabwysiadu fel y Maes Llafur Cytunedig. 

 

Cynigiodd y Cadeirydd y ddau gam gweithredu uchod, ac fe’i heiliwyd gan Leah Crimes, ac yn dilyn pleidlais gan bob pwyllgor ar wahân, yn unfrydol -

 

PENDERFYNWYD

 

(a)       rhannu’r deunyddiau ategol a ddarparwyd gan yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol a’u datblygu ymhellach â’r Grŵp Microsoft Teams o Athrawon cyn eu cyflwyno i Gadeiryddion Clystyrau Ysgolion a’u cyflwyno i’r cyfarfod CYSAG nesaf sydd wedi’i drefnu yn dilyn hynny er mwyn cytuno’n derfynol ar gynghori’r awdurdod lleol i ddarparu’r deunyddiau ategol i bob ysgol, a

 

(b)       rhoi cyngor pellach i awdurdod lleol Sir Ddinbych ar fformatio’r Maes Llafur Cytunedig yn briodol, er mwyn hwyluso llywio’r ddogfen a sicrhau ei bod yn hawdd i’w defnyddio.

 

Ar y pwynt hwn, rhannodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol ei nodiadau bras a dehongliad o’r testun ar gyfer pob datganiad o’r hyn sy’n bwysig fel modd darluniadol o gyflwyno’r wybodaeth y gellid ei darparu i ysgolion eu defnyddio, gyda’r cafeat y dylid eu defnyddio ynghyd â’r datganiad o’r hyn sy’n bwysig yn uniongyrchol.

 

Cyn dwyn y cyfarfod i ben, hysbyswyd yr aelodau y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu cyflwyniad i’r Maes Llafur Cytunedig ynghyd â datganiad gan yr Adran Addysg er mwyn cymeradwyo’r ddogfen ar gyfer ysgolion cyn ei chyhoeddi.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Ymgynghorydd Addysg Grefyddol am ei waith caled ac i’r aelodau am eu cyfraniadau.   Mynegodd y Cynghorydd Emrys Wynne ei ddiolch i’r gwasanaeth cyfieithu am roi’r cyfle i’r rheiny oedd yn dymuno defnyddio’r Gymraeg.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.00 am.

 

Dogfennau ategol: