Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGIAD O WASANAETHAU DYDD YNG NGOGLEDD Y SIR

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes (copi’n amgaeëdig) yn rhoi diweddariad ar adolygu Gwasanaethau Dydd yng Ngogledd y Sir, ac yn cynghori ar yr opsiwn a ffefrir er mwyn darparu gwasanaethau yn y dyfodol, ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol.

 

10.10a.m.

 

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes, a oedd yn rhoi diweddariad ar adolygiad Gwasanaethau Dydd yng Ngogledd y Sir, ac yn cynnig yr opsiwn dymunol ar gyfer darparu gwasanaethau i’r dyfodol ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol, wedi’i ddosbarthu gyda’r papurau i’r cyfarfod.

 

Esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes bod angen, fel rhan o foderneiddio gwasanaethau cymdeithasol, adolygu’r ddarpariaeth o wasanaethau dydd arunig i bobl hŷn, Hafan Deg yn Rhyl a Llys Nant ym Mhrestatyn, i sicrhau bod y gwasanaeth a gynigiwyd yn gyson gyda’r polisi ail-alluogi. Darparwyd disgrifiadau manwl o’r canolfannau i Aelodau. Roedd adolygiad o’r gwasanaethau wedi’i gomisiynu yng Ngorffennaf 2011 ac roedd yr argymhellion a wnaed wedi’u crynhoi yn yr adroddiad. Oherwydd mesurau oedd eisoes wedi’u gweithredu, roedd y gofyniad arbedion bellach wedi gostwng i £60,000, i’w gyflawni o’r argymhellion a amlinellwyd ar gyfer 2013/14.

 

Amlinellwyd yr egwyddorion yn yr adroddiad, a thynnodd y  Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes sylw at yr angen i wneud newidiadau i gyflawni anghenion y bobl fwyaf bregus yn y Sir yn y dyfodol.  Aeth ati i gydnabod yr angen am ddarparu gwasanaethau gofal dydd yn Rhyl, Prestatyn ac ardaloedd eraill, a bod mynediad rhwydd at yr adeiladau a ddefnyddiwyd yn hollbwysig.    

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y gwahaniaeth rhwng ymyriad tymor byr a gofal tymor hir, esboniwyd bod y GIG a’r Ddeddf Gofal Cymdeithasol 1990 yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i asesu anghenion gofal cymdeithasol.  Roedd Deddf Cymorth Gwladol 1948 a Deddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 yn darparu ar gyfer darparu gwasanaethau i gyflawni unrhyw anghenion cymwys.  Roedd modd cyflawni hyn trwy drefniadau trydydd person fel sy’n bodoli ar hyn o bryd gyda gofal yn y cartref a gwasanaethau preswyl.

 

Cododd Aelodau'r pwyntiau canlynol wrth gefnogi cadw’r Canolfannau dan sylw:-

 

-          Tynnwyd sylw at bwysigrwydd sicrhau cyfranogiad Aelod Lleol ymhob cam o’r broses ymgynghori. Mynegwyd pryder bod dileu’r cymhorthdal i ffioedd wedi eithrio nifer sylweddol o ddefnyddwyr gwasanaeth potensial o’r broses ymgynghori a allai effeithio yn y pen draw ar yr adborth a geir o’r ymgynghoriad, ac na fyddai darparu gwasanaethau trwy’r sector preifat yn cwrdd â’r safonau a oedd yn cael eu darparu ar hyn o bryd. Roedd y cynnydd mewn ffioedd hefyd wedi rhwystro defnyddwyr rhag defnyddio’r cyfleusterau ac roedd hynny’n rhoi’r argraff nad oedd angen y gwasanaethau. 

-          Codwyd pryderon hefyd bod rhai gofalwyr nawr yn talu am ofal dydd i’w hanwyliaid o’u lwfansau gofalwyr eu hunain. 

-          Cyfeiriwyd at y staff a’r cyfleusterau ardderchog sydd ar gael ar hyn o bryd, y colli swyddi posibl pe byddai’r gwasanaethau’n cael eu preifateiddio, pwysigrwydd yr ysbryd cymunedol a’r gwmnïaeth y mae’r sefydliadau hyn yn eu cynnig, a’r angen i’r Awdurdod barhau i ddarparu gwasanaethau lefel uchel. 

-          Wrth ystyried yr Opsiynau, roedd y Cynghorydd J. Butterfield yn teimlo  y byddai’n bwysig cymryd i ystyriaeth y tanwariant o £713k o fewn y Gyfarwyddiaeth. Esboniodd y byddai’n bwysig cadw’r gwasanaethau o fewn y Canolfannau dan sylw a oedd wedi’u hadeiladu’n bwrpasol. Teimlwyd hefyd na fyddai’r cyhoeddiadau a ddisgwyliwyd ynghylch Adolygiadau Gwasanaeth y GIG yn cael dylanwad mewn perthynas â darparu’r gwasanaeth hwn.

-          Cwestiynwyd y prosesau asesu ac ymgynghori, gyda chyfeiriad arbennig at faterion yn ymwneud â ffioedd.

-                Mynegwyd pryderon bod nifer y llefydd gofal dydd ar gael ym Mhrestatyn wedi gostwng yn sylweddol ar ôl i Llys Nant gau.

-          Codwyd pryderon gan y Cynghorydd D. Simmons ynghylch

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes at y materion allweddol canlynol wrth ymateb i Aelodau:-

 

·        Roedd Aelodau Lleol wedi bod yn rhan o’r broses ymgynghori ac wedi cael eu gwahodd i fynychu cyfarfodydd y Grŵp Ffocws.

·        Roedd y Cabinet wedi cytuno ar ffioedd a thaliadau gydag uchafswm tâl o £50 yr wythnos am wasanaethau gofal cartref, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, er bod modd hepgor hyn pe na fyddai’r defnyddiwr gwasanaeth yn gallu fforddio’r tâl penodol. Cadarnhawyd y byddai gofyn i’r Awdurdod gyflawni unrhyw anghenion a adnabuwyd waeth beth fo’r gost.

·        Byddai ymgynghoriad yn cwmpasu’r gymuned ehangach, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaeth, defnyddwyr gwasanaeth potensial a staff, a byddai Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb hefyd yn cael ei gynnal. 

·        Rhoddwyd manylion o’r ymgynghoriad a gynhaliwyd fel rhan o’r adolygiad gyda staff, defnyddwyr a gofalwyr yn y 2 Ganolfan.

 

Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, cytunodd y Pwyllgor bod yn rhaid mabwysiadu Cynllun Ymgynghori a oedd yn eglur, manwl, tryloyw ac yn cynnwys Aelodau Lleol ar bob cam. Cytunodd Aelodau hefyd y dylai’r Cynllun Ymgynghori nodi holl randdeiliaid â ganddynt ddiddordeb ac y dylid adrodd nôl i’r Pwyllgor maes o law ar ganlyniadau’r ymgynghoriad.

 

PENDERFYNWYD:-

 

(a)   y dylid derbyn yr adroddiad.

(b)   y dylid cymeradwyo’r hoff opsiwn ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol gyda’r holl randdeiliaid perthnasol;

(c)   y dylai Aelodau Lleol fod yn rhan o’r broses ymgynghori ar bob cam, ac

(d)   y dylid cyflwyno canlyniadau’r ymarfer ymgynghori i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Hydref. 

 

 

Dogfennau ategol: