Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 02/2021/1179/PF - TIR YN (RHAN O ARDD) LLYS GWYN, BRYN GOODMAN, RHUTHUN LL15 1EL

Ystyried cais i godi dwy annedd ar wahân a gwaith cysylltiedig ar dir (rhan o ardd) yn Llys Gwyn, Bryn Goodman, Rhuthun, LL15 1EL (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cais i godi 2 annedd ar wahân a gwaith cysylltiedig ar dir yn (rhan o ardd) Llys Gwyn, Bryn Goodman, Rhuthun.

 

Siaradwyr Cyhoeddus – Dywedodd Mr Robert Jones (Asiant) (O BLAID), wrth y pwyllgor ei fod yn bensaer cymwys wedi’i gofrestru gyda’r ARB ac yn aelod o Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain gyda dros 16 mlynedd o brofiad yn y diwydiant. Cadarnhaodd ei fod wedi arwain datblygiad dyluniad y cais. Dywedodd yn 2021 fod cais wedi’i gyflwyno i’r ACLl ar gyfer codi 2 eiddo preswyl y tu ôl i Lys Gwyn, Bryn Goodman yn dilyn ymgynghoriad cyn ymgeisio cadarnhaol yn 2019. Roedd y cynnig yn dilyn cymeradwyo dau eiddo preswyl y tu ôl i Pennant ym mis Ionawr 2020. Dywedodd fod y cynnig hwn a oedd hefyd wedi cynnwys cais dilynol am estyniad bron yn union yr un fath â'r ceisiadau blaenorol o ran lleoliad, gosodiad, graddfa, dyluniad, cymeriad, deunyddiau a golygfa. Roedd y cais a gyflwynwyd wedi'i baratoi yn unol â'r polisi cynllunio lleol a chanllawiau atodol. Roedd yr ACLl wedi cefnogi'r cais gyda'r argymhelliad i’w ganiatáu. Pwysleisiwyd y rhagorwyd ar bellteroedd rhyng-wynebu eiddo cyfagos er mwyn peidio ag effeithio ar fwynderau gweledol trigolion lleol. Byddai eiddo sy'n union i'r gorllewin i'r safle yn fwy na 32 metr, y byddai’n sylweddol uwch na'r gofyniad lleiaf a nodir yn y CCA. Roedd yr amod hwn yn nodweddiadol ar gyfer 12 o'r 14 eiddo sy'n ffinio â'r gefnffordd i'r Gorllewin o'r safle. Ym mhob un o'r lleoliadau byddai'r rhan fwyaf o eiddo dwyreiniol yn uwch na'r eiddo gorllewinol, gan ddilyn teipograffeg leol yr ardal. Nododd y siaradwr fod swyddogion o'r farn bod y cynllun yn dderbyniol ac na fyddai'n arwain at or-edrych annerbyniol nac effaith ormesol ar eiddo cyfagos. Nodwyd hefyd na chafwyd unrhyw wrthwynebiad o'r broses ymgynghori fewnol. 

 

Trafodaeth Gyffredinol – Dywedodd y Cynghorydd Christine Marston wrth yr aelodau eu bod wedi adolygu daearyddiaeth a thopograffeg y safle, yr effaith ar y cymdogion cyfagos a'r mynediad i Bryn Goodman yn ystod yr ymweliad safle. Archwiliwyd y safle gan fynychwyr a chawsant fynediad i eiddo cymydog i ganfod unrhyw effaith weledol. Teimlai'r Cynghorydd Marston fod yr ymweliad safle yn fuddiol iawn i'r rhai a oedd yn bresennol. Roedd y Cynghorydd Peter Scott hefyd yn bresennol ar yr ymweliad safle ac roedd yn cytuno â barn y Cynghorydd Marston.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Emrys Wynne (Aelod Lleol) ei fod hefyd yn yr ymweliad safle. Dywedodd ei fod yn teimlo ei bod yn bwysig i'r aelodau weld y safle. Dywedodd wrth yr aelodau mai un cwestiwn a gododd yn ystod yr ymweliad oedd statws y wal gynhaliol y tu cefn i'r tir.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Wynne at y caniatâd cynllunio a roddwyd i'r eiddo cyfagos gan ddweud mai'r prif wahaniaeth oedd nad oedd datblygiad yn edrych dros unrhyw eiddo cyfagos. Gofynnodd yr aelodau yn ystod yr ymweliad safle am gadarnhad ynghylch cywirdeb y lefelau eiddo yn yr adroddiad. Dywedodd wrth yr aelodau bod nifer o goed eisoes wedi'u tynnu o'r ardal, cyn i'r cais gael ei gyflwyno i'r aelodau. Cadarnhaodd y byddai'r adeiladau newydd arfaethedig yn uwch na'r eiddo presennol ac yn sicr yn effeithio'n weledol ar y cymdogion. Byddai nifer o ffenestri yn edrych dros eiddo cyfagos ac yn amharu ar breifatrwydd y cymdogion. Mynegodd bryder y byddai'r nenlinell yn cael ei newid o goed i dai ac y byddai'n llai deniadol yn weledol. Gofynnodd y Cynghorydd Wynne, os oedd yr aelodau o blaid y cais, fod amod yn cael ei osod i gynnwys ffensys er mwyn cael rhywfaint o breifatrwydd. Cynigiodd y Cynghorydd Emrys Wynne wrthod y cais yn erbyn argymhellion swyddogion ar sail preifatrwydd a gor-edrych. Eiliodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler y cynnig i wrthod.

 

Dywedodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Bobby Feeley, ei bod yn cefnogi'r Cynghorydd Wynne oherwydd ei wrthwynebiad i’r cais. Hysbysodd yr aelodau fod gan y lleiniau yn yr ardal dai mawr ar leiniau mawr. Byddai caniatáu'r cais yn golygu 3 tŷ ar 1 llain. Yn ei barn hi roedd yn afresymegol i'r eiddo arfaethedig edrych dros dai a gerddi cyfagos. Mynegodd y Cynghorydd Feeley bryder hefyd am safon y ffordd gan ei bod mewn cyflwr eithriadol o wael. Roedd mynediad i'r eiddo wedi'i greu drwy hollti'r dreif presennol, gyda ffensys anneniadol. Pwysleisiwyd y byddai datblygu safleoedd pellach yn yr ardal hon yn newid cymeriad yr ardal.

Amlygodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts (Aelod Lleol) y map o’r tai arfaethedig, dywedodd fod yr un tŷ ar un llain yn fwy na’r ddau dŷ arfaethedig gyda’i gilydd gan ddangos pa mor agos oedd y tai arfaethedig. Yn ei farn ef roedd y ddau dŷ arfaethedig yn rhy fawr i'r llain ac nid oeddent yn cynnig digon o le ar gyfer mannau gwyrdd.

 

Diolchodd y Swyddog Cynllunio i'r aelodau am fynd ar yr ymweliad safle a dechreuodd drwy gynnig rhagor o wybodaeth am y pryderon a godwyd yn ystod yr ymweliad. Dywedodd wrth y pwyllgor nad oedd y lefelau ar y safle wedi'u harolygu, roedd y wybodaeth yn yr adroddiad yn cael ei hystyried yn ddigon cywir ar y cyfan, er mwyn galluogi i'r aelodau wneud penderfyniad. Roedd y diagramau yn yr adroddiad yn rhoi darlun i'r aelodau o uchder yr eiddo. Cafodd y coed yn y diagram eu lliwio allan i ddangos y coed yn cael eu gosod yn ôl ar y llain.

Roedd statws unrhyw wal gynhaliol yn ofyniad cyfreithiol ar y datblygwr i sicrhau nad oedd unrhyw ddifrod i dir trydydd parti yn cael ei achosi yn ystod y gwaith adeiladu. Saif y wal y tu allan i ffin y cais cynllunio. Mae'r canllaw yn nodi bod ganddo bellter o 21 metr, roedd y cais hwn yn fwy na'r isafswm hwnnw. Ym marn y swyddog byddai’n anodd gwrthod y cais ar sail colli preifatrwydd oherwydd y pellteroedd dan sylw a’r newidiadau o ran lefelau. Cyfeiriodd y Swyddog Cynllunio yr aelodau at yr amodau a awgrymwyd yn yr adroddiad, a oedd yn cynnwys cynllun tirlunio.

Tynnwyd sylw at y ffaith y byddai’r eiddo arfaethedig yn sefyll wrth ymyl Bryn Goodman a chyn eiddo'r Cyngor, ac y byddai’n parhau â'r llinell o anheddau ar hyd Haulfryn. Dywedwyd y byddai'n rhaid i gontractwyr ddangos ystyriaeth i beidio â difrodi'r ffordd fynediad.

Mae polisi cynllunio yn awgrymu y dylid datblygu safleoedd ar 35 annedd fesul hectar oni bai bod cymeriad yr ardal yn awgrymu'n wahanol. Y cynnig fyddai llai o anheddau fesul hectar pe bai’n cael ei gymeradwyo.  Roedd adeiladau o faint tebyg yn y cyfleuster gerllaw.

 

Mewn ymateb, pwysleisiodd y Cynghorydd Bobby Feeley bwysigrwydd atal torri coed a gwrychoedd cyn cyflwyno ceisiadau cynllunio i'r pwyllgor. Anogodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yr aelodau i wrthod y cais a'i farn ef oedd na fyddai'r eiddo yn cyd-fynd â chymeriad yr ardal ac y byddai’r tai yn ormesol.

Gofynnodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis i'r swyddogion am ragor o wybodaeth ynghylch y mannau parcio a neilltuwyd ar y tir. Dywedodd ei bod yn deall bod safonau yn nodi y dylai pob tŷ gael lle ar gyfer 3 char ac ymwelwyr ychwanegol, gyda man troi ar y safle.  Mewn ymateb, cadarnhaodd y Swyddog Cynllunio na chafwyd unrhyw wrthwynebiadau gan y swyddog priffyrdd o ran mannau troi a pharcio. Yn yr adroddiad roedd yn dangos llefydd o flaen y tai lle byddai mannau parcio. Roedd swyddogion yn ffyddiog bod digon o le parcio a throi ar y safle.

 

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne y byddai'r tai yn wynebu'r gorllewin tuag at olygfeydd hyfryd. Roedd yn bryder mawr y byddai'r eiddo arfaethedig yn effeithio ar breifatrwydd yr eiddo presennol.

 

Diolchodd y Rheolwr Rheoli Datblygu i'r aelodau lleol am eu persbectif a chydnabu bryderon a barn yr aelodau lleol. Dywedodd os teimlai'r aelodau y byddai'r cais yn cael effaith annerbyniol ar fwynderau preswyl o ran or-edrych neu breifatrwydd,  y byddai hynny’n rheswm cynllunio materol derbyniol dros wrthod.

O ran pryderon cyffredinol yr aelodau ynghylch cael gwared ar goed neu wrychoedd cyn i'r datblygiad ddigwydd, pwysleisiodd y Swyddogion mai dim ond yn nhermau Gorchmynion Cadw a rheoliadau gwrychoedd y gallant ddefnyddio'r rheolaethau sydd ar gael. Cadarnhawyd hefyd nad oedd y safle o fewn Ardal Cadwraeth.

 

Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Emrys Wynne, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Gwyneth Kensler, bod y cais yn cael ei wrthod yn groes i argymhelliad y swyddogion gan y byddai’r datblygiad yn cael effaith annerbyniol ar fwynderau preswyl eiddo preswyl cyfagos oherwydd lleoliad, dyluniad a’r posibilrwydd o golli preifatrwydd.   

 

 

PLEIDLAIS:

O BLAID –  6

YN ERBYN – 9 

YMATAL – 2

 

PENDERFYNWYD bod y caniatâd yn cael ei WRTHOD er gwaethaf argymhelliad y swyddog ar gyfer y rhesymau yn y cynnig uchod.

 

Dogfennau ategol: