Eitem ar yr agenda
CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 557452
- Meeting of Pwyllgor Trwyddedu, Dydd Mercher, 2 Mawrth 2022 9.30 am (Item 7.)
- View the declarations of interest for item 7.
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a
Chefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais i yrru
cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 557452.
10.15 am
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD, yn amodol ar sicrhau bod pob gwiriad angenrheidiol
arall sy’n gysylltiedig â chais gyrrwr trwyddedig yn foddhaol, y dylid
caniatáu’r cais am drwydded yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan
Ymgeisydd Rhif 557452.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y
Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynghylch –
(i)
derbyn cais gan Ymgeisydd Rhif 557452
am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat;
(ii)
bod swyddogion wedi atgyfeirio'r cais at
y Pwyllgor Trwyddedu i benderfynu yn ei gylch oherwydd amgylchiadau penodol yr
achos;
(iii)
cafodd trwydded yr Ymgeisydd i yrru
cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat ei dirymu ym Mai 2021 yn dilyn cyfres o
gollfarnau am oryrru (yn y cyfnod rhwng Chwefror 2018 a Medi 2020) ac o
ganlyniad cafodd ei wahardd rhag gyrru am gyfnod o chwe mis yn sgil y drefn
adio pwyntiau cosb (TT99);
(iv)
rhagor o wybodaeth yn ymwneud â’r
achos, yn cynnwys y cais ynghyd â’r adroddiad yn sôn am y gwaharddiad a
geirdaon ar sail cymeriad a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd ac a ddosbarthwyd fel
ychwanegiad i’r rhaglen;
(v)
nad oedd swyddogion wedi cwblhau’r holl
wiriadau angenrheidiol sy’n gysylltiedig â chais y gyrrwr trwyddedig;
(vi)
polisi’r Cyngor mewn perthynas ag
addasrwydd ymgeiswyr, a
(vii)
bod yr Ymgeisydd wedi ei wahodd i
fynychu’r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau'r aelodau wedi hynny.
Cadarnhaodd yr Ymgeisydd ei fod wedi derbyn
yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.
Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y
Cyhoedd yr adroddiad a ffeithiau'r achos.
Esboniodd yr Ymgeisydd ei fod wedi derbyn y
collfarnau goryrru tra roedd yn gyrru beic modur ac, yn sgil y collfarnau
hynny, roedd wedi rhoi’r gorau i’r hobi hwnnw a gwerthu’r beic modur. Mynegodd yr Ymgeisydd edifeirwch am y
troseddau goryrru a rhoddodd sicrwydd ynghylch ei ymddygiad pan yn gyrru.
Ychwanegodd yr Ymgeisydd fod ganddo drwydded cerbyd hacni a cherbydau hurio
preifat am bymtheg mlynedd cyn hynny heb unrhyw broblem a’i fod wedi rhedeg ei
fusnes ei hun dros yr wyth mlynedd diwethaf heb unrhyw broblem. Wrth ymateb i gwestiynau aelodau, cadarnhaodd
yr Ymgeisydd fod pob trosedd goryrru wedi digwydd pan oedd yn gyrru beic modur
ac nad oedd unrhyw drosedd goryrru wedi digwydd pan oedd yn gyrru tacsi, gan
ychwanegu bod ei ymddygiad wrth yrru tacsi wedi bod yn rhagorol bob amser. Yn ei ddatganiad terfynol, ymddiheurodd yr
Ymgeisydd am ei weithredoedd a diolchodd i’r aelodau am ystyried ei gais.
Oedodd y Pwyllgor er mwyn ystyried y cais a -
PENDERFYNWYD, yn amodol ar sicrhau bod pob gwiriad angenrheidiol
arall sy’n gysylltiedig â chais gyrrwr trwyddedig yn foddhaol, y dylid
caniatáu’r cais am drwydded yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan
Ymgeisydd Rhif 557452.
Roedd yr aelodau wedi ystyried amgylchiadau
penodol yr achos yn ofalus, fel yr oeddent i'w gweld yn yr adroddiad, ynghyd â
chyflwyniadau’r Ymgeisydd, atebion i gwestiynau, a’r geirdaon ar sail cymeriad
a ddarparwyd. Roedd yr aelodau hefyd
wedi ystyried yr adrannau perthnasol yn Natganiad Polisi’r Cyngor ynghylch
addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwydded ym myd masnach cerbydau hacni a
cherbydau hurio preifat.
Yn benodol, fe ystyriodd y Pwyllgor adran
4.22 y polisi, lle nodir os bydd gan berson fwy nag un gollfarn, y byddai
hynny’n codi cwestiynau difrifol am eu diogelwch a pha mor addas ydyn nhw, ac
unwaith y gwelir patrwm neu duedd i aildroseddu, ni chaiff trwydded ei rhoi
na’i hadnewyddu. Yn yr achos hwn, mae’r
patrwm o ymddygiad troseddol yn ymwneud â chyfres o gollfarnau goryrru a gafwyd
gan yr Ymgeisydd ac a arweiniodd at waharddiad gyrru am chwe mis o dan y drefn
adio pwyntiau cosb. O ran hynny,
derbyniodd y Pwyllgor esboniad yr Ymgeisydd ei fod wedi cael y collfarnau
goryrru wrth yrru beic modur yn unig, drwy weithgareddau hamdden, ac nid mewn
perthynas â busnes yr Ymgeisydd nac mewn cyd-destun proffesiynol fel gyrrwr
trwyddedig.
Gan gofio’r ddarpariaeth uchod yn y polisi,
fe wnaeth y Pwyllgor yna ystyried adran 3.19 yn yr un polisi, a oedd yn datgan
na ddylid ond gwyro oddi wrth ddarpariaeth yn y polisi mewn amgylchiadau
eithriadol ac am resymau cyfiawn.
Credai’r Aelodau fod yr Ymgeisydd yn gredadwy
ac yn ddiffuant yn ei gyflwyniad i’r Pwyllgor ac wrth ymateb i gwestiynau, ac
ar ôl derbyn esboniad yr Ymgeisydd am yr ymddygiad troseddol, a chan ystyried fod
gan yr Ymgeisydd drwydded lân fel gyrrwr trwyddedig cyn hynny, a’r geirdaon ar
sail cymeriad a ddarparwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon fod yr Ymgeisydd yn
berson addas a phriodol i gael trwydded.
Daeth y Pwyllgor i’r casgliad felly fod yna amgylchiadau eithriadol a
rhesymau cyfiawn, sef bod y collfarnau goryrru a gafodd yr Ymgeisydd yn ymwneud
â beicio modur yn unig ac nad oedd yn gysylltiedig â’i fusnes na phan roedd yn
gyrru yn ei waith fel gyrrwr trwyddedig, dan adran 3.19 y polisi, i wyro oddi
wrth y ddarpariaeth yn adran 4.22 a chaniatáu’r cais.
Cafodd penderfyniad a rhesymau’r Pwyllgor
felly eu cyfleu i’r Ymgeisydd.
Dogfennau ategol:
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 7./1 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 7./2 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 7./3 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 7./4 yn gyfyngedig