Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADEILADAU’R FRENHINES, Y RHYL - CAIS AM GYLLID YCHWANEGOL

Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol a’r Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet am brosiect Adeiladau’r Frenhines, y Rhyl, a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer yr achos busnes wedi’i ddiweddaru a chyllid ychwanegol i ddarparu Cam 1.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo’r achos busnes a ddiweddarwyd a dyrannu cyllid ychwanegol i’r prosiect fel y manylwyd yn adran 6 a 9 yn yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyn cyflwyno’r adroddiad, mynegodd yr Arweinydd ei siom fod un o Gynghorwyr Cyngor Sir Ddinbych wedi gwneud datganiad yn y wasg a allai ddifetha enw da’r Cyngor, y prosiect a thref Y Rhyl er mwyn gwella’i sefyllfa ei hun.  Mae Cyngor Sir Ddinbych yn awdurdod agored, tryloyw ac mae cyfle bob amser i aelodau gwestiynu a chraffu y tu hwnt i’r Cabinet.  Mae wedi cymryd blynyddoedd o waith caled i fagu hyder ymhlith trigolion Y Rhyl a buddsoddwyr posibl er mwyn helpu i newid delwedd Y Rhyl ac nid oedd y wybodaeth anghywir yn y wasg wedi helpu gyda hynny.   Os oedd yr aelod yn bresennol, awgrymwyd y dylai wrando ar y drafodaeth, darllen yr adroddiad a nodi ffeithiau’r sefyllfa. [Yn ystod y drafodaeth, lleisiodd aelodau eraill eu barn ar y mater a chanolbwyntiodd yr Arweinydd ar yr adroddiad a’r argymhelliad yn y drafodaeth.]

 

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad ar y cyd â’r Cynghorydd Julian Thompson-Hill ynghylch diweddaru’r Cabinet am Brosiect Adeiladau’r Frenhines, Y Rhyl gan ofyn am gymeradwyaeth ar gyfer yr achos busnes wedi’i ddiweddaru a chyllid ychwanegol i gyflawni Cam 1 y prosiect.

                                                

Roedd y prosiect yn hanfodol ar gyfer gwaith adfywio tref Y Rhyl a llwyddiant economaidd yr ardal yn y dyfodol a byddai’n ffurfio dolen gyswllt ddefnyddiol wrth gysylltu buddsoddiad ar y promenâd a’r cynigion drwy’r cais i Gronfa Codi’r Gwastad ar gyfer gwelliannau ar y stryd fawr.  Yn ogystal â hyn, amlygwyd llwyddiant rhaglen adfywio ehangach y Cyngor gyda phartneriaid, ac roedd y prosiect yn rhan allweddol o’r rhaglen waith honno er mwyn darparu mannau masnachu a swyddi yn y dref a chamau yn y dyfodol i ddarparu cartrefi newydd a chyflogaeth bellach.  Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cydnabod pwysigrwydd y prosiect ac yn parhau i fod wedi ymrwymo i’r datblygiad.  Amlinellwyd yr elfennau ariannol a’r rhesymeg sy’n gefndir i’r cynnydd yng nghostau’r prosiect yn yr adroddiad ac fe’u trafodwyd ymhellach yn y cyfarfod, ac roedd hynny oherwydd ffactorau a oedd y tu hwnt i reolaeth y Cyngor ac na ellid eu rhagweld, a oedd yn cynnwys codi lefel llawr gorffenedig yr adeilad er mwyn cwrdd ag amodau cynllunio a chostau cynyddol sy’n gysylltiedig â deunyddiau adeiladu a gwaith dymchwel/cael gwared ag asbestos.  Er bod yr holl ddulliau ariannu posibl yn cael eu hymchwilio er mwyn ymdrin â’r diffyg ariannol i gyflawni Cam 1, ar hyn o bryd byddai angen i’r Cyngor ariannu’r swm llawn sydd ei angen.  Nodwyd y byddai methu â chwblhau’r prosiect yn debygol o olygu y byddai rhan sylweddol o’r grant yn cael ei gymryd yn ôl.

 

Cafodd y Cabinet drafodaeth hir am yr adroddiad a mynegwyd cefnogaeth fel a ganlyn -

 

·         Credai’r Cynghorydd Brian Jones mai parhau â’r prosiect fyddai’r peth iawn i’w wneud ar gyfer Y Rhyl ac roedd yn falch o weld cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a photensial am gyllid Codi’r Gwastad y byddai’r ardal yn elwa ohono; cyfeiriodd hefyd at waith caled yr Aelodau Arweiniol a’r swyddogion ar y prosiect.

·         Roedd y Cynghorydd Bobby Feeley yn siomedig fod y costau wedi cynyddu ond roedd yn cydnabod y cynnydd byd-eang mewn costau adeiladu; roedd yn derbyn bod angen adfywio tref Y Rhyl a soniodd am y gwelliannau a welwyd dros y blynyddoedd diwethaf a thalodd deyrnged hefyd i rôl Hamdden Sir Ddinbych Cyf o ran hynny.

·         Roedd y Cynghorydd Mark Young yn sicr na ellid rhagweld y cynnydd yn y costau, gan ddweud bod cost deunyddiau adeiladu wedi codi rhwng 23% a 78%, a nododd y byddai’n fwy cost effeithiol i fwrw ymlaen â’r prosiect nes bydd wedi ei gwblhau, yn hytrach na cholli’r buddsoddiad.  Canmolodd y swyddogion am y gwaith a wnaed ac roedd yn edrych ymlaen at gyflawni’r cynllun.  Wrth ymateb i gwestiwn y Cynghorydd Young ynghylch a oedd y cyllid ychwanegol y gofynnwyd amdano yn ddigonol, dywedodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill fod y swm yn cynrychioli asesiad teg yn seiliedig ar y dybiaeth orau ar y pryd.

·         Tynnodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts hefyd sylw at y cynnydd sylweddol mewn costau adeiladu a oedd wedi effeithio ar nifer o brosiectau ysgolion a chanmolodd waith y Cyngor a’i ymroddiad i adfywio tref Y Rhyl, gan gyfeirio at brosiectau allweddol a ffocws ar fuddsoddi yn y stryd fawr.  Roedd yn gwbl gefnogol i’r argymhelliad, gan nodi y byddai’r prosiect yn creu swyddi a chreu safon byw well ar gyfer trigolion Y Rhyl.

·         Talodd y Cynghorydd Richard Mainon deyrnged i bawb sy’n ymwneud â’r gwaith i fwrw ymlaen â’r prosiect, sy’n rhan allweddol o waith ailddatblygu tref Y Rhyl a fyddai’n cysylltu’r promenâd a chanol y dref, a byddai’n ganolog er mwyn creu dyheadau a chyfleoedd yn y dref.   Amlygodd y gwaith caled a wnaed ar y prosiect gyda rheolaeth dda dros y costau ac roedd yn gwbl gefnogol i’r cynllun.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd gwestiynau gan aelodau nad oeddent ar y Cabinet.

 

Fe wnaeth Aelodau’r Rhyl, y Cynghorwyr Joan Butterfield, Alan James a Barry Mellor fanteisio ar y cyfle i bwysleisio bod Prosiect Adeiladau’r Frenhines yn ganolog i waith adfywio tref Y Rhyl, gan ddiolch i’r Cyngor am flaenoriaethu’r rhaglen adfywio a arweiniodd at welliannau sylweddol ar y promenâd ac mewn ardaloedd eraill yn y dref ac roedd trigolion Y Rhyl wedi eu gwerthfawrogi’n fawr.  Byddai’r prosiect yn gatalydd ar gyfer buddsoddiad gyda buddiannau economaidd sylweddol ar gyfer Y Rhyl a’r ardal ehangach.  Cydnabuwyd a gwerthfawrogwyd cefnogaeth y Cabinet a’r holl gynghorwyr ar draws yr awdurdod yn yr ymdrechion adfywio hynny, yn ogystal â chefnogaeth barhaus gan Lywodraeth Cymru.

 

Fel cynrychiolydd y Pwyllgor Craffu ar Fwrdd Prosiect Adeiladau’r Frenhines, cadarnhaodd y Cynghorydd Hugh Irving ei fod yn hapus gyda’r wybodaeth a gyflwynwyd i’r Bwrdd a bu’n cadw llygad barcud arni, ac o safbwynt craffu nid oedd ganddo unrhyw broblem gydag unrhyw gamau gweithredu hyd yma.  Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Meirick Davies, esboniodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill fod y cais i Gronfa Codi’r Gwastad yn cynnwys elfen ar gyfer gwella Adeiladau’r Frenhines er mwyn gwella’r ymddangosiad gweledol megis gwaith tirlunio.

 

Fe wnaeth y Prif Weithredwr gydnabod pa mor ddiolchgar oedd yr aelodau i’r swyddogion am eu cefnogaeth, yn enwedig wrth ymwneud â phrosiectau anodd, ac roedd yn falch iawn o’r gwaith adfywio sy’n cael ei wneud yn Y Rhyl.  Estynnodd wahoddiad agored i’r holl aelodau drafod y ffordd yr ymdrinnir â gwaith adfywio yn Y Rhyl a chyfeiriodd at brosiectau eraill sydd yn y broses o gael eu cynllunio neu eu datblygu, ynghyd â gwaith i fynd i’r afael ag amddifadedd yn y dref.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo’r achos busnes wedi’i ddiweddaru ac y dylid neilltuo cyllid ychwanegol ar gyfer y prosiect fel y manylir yn adrannau 6 a 9 yr adroddiad.

 

 Ar y pwynt hwn (11.50 am) cafwyd egwyl fer.

 

 

Dogfennau ategol: