Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUN PENDERFYNIADAU DIRPRWYEDIG ARFAETHEDIG AR GYFER CAFFAEL TIR (RHYDD-DDALIADOL A LESDDALIADOL) AT DDIBENION DAL A STORIO CARBON A GWELLIANNAU ECOLEGOL

Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau a'r Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer cynllun penderfyniadau dirprwyedig newydd ar gyfer caffael tir (rhydd-ddaliadol/lesddaliadol) i ddibenion dal a storio carbon a gwelliannau ecolegol.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

 (a)      cymeradwyo cyflwyno’r cynllun newydd o wneud penderfyniad dirprwyedig ar gyfer caffael tir (rhydd-ddaliadol a lesddaliadol) i ddibenion dal a storio carbon a gwelliannau ecolegol fel y cynigir yn Atodiad 1 yr adroddiad, a

 

 (b)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorwyr Brian Jones, Tony Thomas a Julian Thompson-Hill adroddiad ar y cyd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i gynllun newydd o ddulliau dirprwyo penderfyniadau er mwyn caffael tir ar gyfer dal a storio carbon ac at ddibenion gwelliannau ecolegol.

                  

Byddai’r newidiadau arfaethedig i’r cynllun dirprwyo yn y bôn yn hwyluso’r broses o gaffael tir er mwyn galluogi’r Cyngor i gyflawni ei Ddatganiad Newid Hinsawdd ac Argyfwng Ecolegol a’r targedau yn ei Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol (2021/22 - 2029/30).  Cyfeiriwyd at y gwaith ymgynghori ac ymgysylltu a wnaed a rhoddwyd sicrwydd y byddai’r dulliau cyfathrebu agored gyda chymunedau a rhanddeiliaid yn parhau yn y dyfodol.  Nodwyd hefyd nad oedd unrhyw fwriad i brynu tir amaethyddol o safon uchel.  O ran cyllid, roedd rhan o’r gyllideb a neilltuwyd ar gyfer rhaglen waith y targed di-garbon net ar gyfer y math hwn o bryniant tir a byddai angen cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer prosiectau unigol dros £1m.  Amlygwyd hefyd y mesurau diogelu sy’n ymwneud â’r broses o lunio penderfyniadau, gyda matrics sgorio eglur ar gyfer asesu tir a chyfranogiad helaeth yr aelodau etholedig a’r swyddogion yn y broses honno.

 

Amlygodd yr Arweinydd y materion sensitif sy’n gysylltiedig â chaffael tir er mwyn gwrthbwyso allyriadau carbon a’r effaith ar gymunedau gwledig yn genedlaethol.  Er hyn, cyfeiriai’r adroddiad at gynigion i ddiwygio’r broses ddirprwyo’n unig ac roedd yn eglur yn y broses asesu safleoedd na chaffaelir tir a ddefnyddir i gynhyrchu bwyd.  Cafodd hefyd gadarnhad ynghylch yr ymgynghoriad parhaus wrth symud ymlaen.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, canolbwyntiodd y drafodaeth ar y meysydd canlynol -

 

·         yn unol â pholisi gwaredu tir y Cyngor, ymgynghorwyd â gwasanaethau mewnol er mwyn canfod a oedd unrhyw ddefnydd ar gyfer y tir cyn y ceir gwared ag ef, ac roedd hyn hefyd yn cynnwys pa mor addas yw’r tir at ddibenion amgylcheddol.

·         byddai gwell mynediad at dir i ymwelwyr yn ystyriaeth allweddol

·         mae digon o adnoddau ar gael ar hyn o bryd yn y Gwasanaethau Cefn Gwlad ar gyfer cynnal a chadw tir ac mae yna fecanwaith drwy Fwrdd y Gyllideb i wneud cais yn flynyddol am gyllid cyfalaf a chyllid refeniw pe bai angen mwy o adnoddau i reoli dulliau caffael tir yn y dyfodol a byddai hynny’n ystyriaeth wrth symud ymlaen.

·         mae’r Cyngor wedi ymrwymo i leihau cymaint â phosibl o’i allyriadau carbon ac mae ystod o dargedau wedi eu gosod i’r perwyl hwnnw, sy’n cynnwys adeiladau a fflyd; mae caffael tir ar gyfer dal a storio carbon yn ffordd arall i gyfrannu at y broses honno a gwrthbwyso allyriadau na ellir cael gwared arnyn nhw.

·         cafwyd rhywfaint o drafodaeth am gwmnïau preifat yn prynu tir ffermio yng Nghymru ar gyfer plannu coed er mwyn gwrthbwyso’u hallyriadau carbon eu hunain, sy’n fater emosiynol ac yn broblem benodol yng nghanolbarth/De Cymru.

·         wrth ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis a natur ddadleuol y mater, derbyniodd yr Arweinydd ei fod yn fater sensitif ond rhoddwyd sicrwydd ynghylch y meini prawf ar gyfer caffael tir (nad oedd yn cynnwys tir amaethyddol/tir cynhyrchu bwyd) a bod y dull yn rhan o raglen o fesurau lleihau carbon a fyddai’n cyfrannu at raglen amgylcheddol y Cyngor.

·         esboniwyd y sgôr cynaliadwyedd (31 / 36) yn yr Asesiad o Effaith ar Les, gan ei fod yn fesur eang a’i fod yn cynnwys integreiddio gyda gweithgareddau eraill a gweithio mewn partneriaeth a’i fod yn gynaliadwy yn yr hirdymor

·         roedd yr adroddiad yn ymwneud â’r broses o wneud penderfyniadau a sicrhau ei bod yn effeithiol a’r aelodau arweiniol oedd y penderfynwyr allweddol ac felly gellid bod yn sicr ei fod yn benderfyniad gwleidyddol i’r aelodau ei lunio

·         darparwyd gwybodaeth reolaidd am gyflawniadau lleihau carbon y Cyngor a byddai’r Gweithgor Newid Hinsawdd ac Argyfwng Ecolegol yn parhau yn y Cyngor newydd, gyda gwahoddiad agored i’r holl aelodau.

·         mae digon o adnoddau yn y Tîm Newid Hinsawdd ar hyn o bryd a byddai llawer o’u rôl yn canolbwyntio ar gydlynu a chynllunio a chydweithio gyda staff ar draws y Cyngor i hyrwyddo a rhoi’r rhaglen ar waith, ond efallai y bydd angen adolygu’r sefyllfa wrth i’r Strategaeth fynd yn ei blaen.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn -

 

(a)       cymeradwyo cyflwyno cynllun penderfyniadau dirprwyedig newydd ar gyfer caffael tir (rhydd-ddaliadol/lesddaliadol) at ddibenion dal a storio carbon a gwelliannau ecolegol fel y cynigiwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad, a

 

(b)       chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

 

Dogfennau ategol: