Eitem ar yr agenda
ADBORTH O'R GWEITHDY
Derbyn adroddiad
ar lafar am y casgliadau y daethpwyd iddynt yng ngweithdy'r
Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd cyn y cyfarfod.
Cofnodion:
Gan gyflwyno’r eitem,
cynghorodd y Cadeirydd bod aelodau’r Pwyllgor a swyddogion cefnogi wedi cynnal
gweithdy cyn cyfarfod y Pwyllgor. Nod y
gweithdy oedd rhoi cyfle i aelodau adolygu’r argymhellion a oedd wedi’u cynnwys
ym mhapur trafod Archwilio Cymru, ‘Adolygiad o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
yng Nghymru (Hydref 2019)’ a oedd yn ymwneud yn benodol â chraffu Byrddau
Gwasanaethau Cyhoeddus, sef:
(a) er mwyn gwella ei brosesau craffu, bod y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus yn defnyddio canfyddiadau Papur Archwilydd Cyffredinol
Cymru, chwe thema i helpu gwneud craffu yn ‘Barod at y dyfodol’ i adolygu ei
berfformiad presennol a nodi ble mae angen iddynt gryfhau trefniadau; a
(b) bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn sicrhau fod gan
bwyllgorau craffu ymgysylltiad digonol gydag ystod o fudd-ddeiliaid perthnasol
sy’n gallu helpu i ddal y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i gyfrif.
Darparodd y Cydlynydd Craffu,
Rhian Evans, grynodeb o’r agweddau amrywiol o rôl y Pwyllgor a drafodwyd yn
ystod y gweithdy, a’r chwe thema i wneud craffu yn ‘barod at y dyfodol’. Sef, bod y Pwyllgor yn:
·
gwybod ei rôl
·
gyfarwydd gyda’r pwerau
a ymddiriedwyd iddo, beth mae’n gallu ei wneud a beth nad yw’n gallu ei wneud
·
deall yr hyn y mae’n
ceisio ei gyflawni
·
cynllunio ei waith i
gyflawni ei nodau
·
ymwybodol o’r trefniadau
cymorth sydd ar gael iddo a’r offer a’r mecanweithiau mae’n gallu eu defnyddio
i gyflawni ei nodau; a
·
gwerthuso ei
effeithlonrwydd yn rheolaidd gyda’r nod o nodi unrhyw fylchau mewn gwybodaeth a
meysydd sydd angen eu gwella wrth iddo ymdrechu’n barhaus i wynebu heriau i’r
dyfodol
Yn ystod y gweithdy, fe ddaeth
yn amlwg bod y Cydbwyllgor yn gyfarwydd â’i rôl, yn ogystal â graddau ei bwerau
i graffu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’i ddal i gyfrif. Ers ei sefydlu, roedd y Cydbwyllgor Trosolwg
a Chraffu wedi bod yn awyddus i ddeall rôl pob partner o’r Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus statudol a sut mae’r partneriaid hynny’n teimlo eu bod wedi elwa o
fod yn aelod o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
Felly, cytunodd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i gael eitem sefydlog ar
ei raglen fusnes ar ‘gyfraniad partneriaid, a’r manteision i bartneriaid Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych’, gan wahodd pob partner statudol i
roi cyflwyniad ar y thema hon yn eu tro.
Er bod y rhaglen hon wedi dechrau ac
yn ymddangos fel ffordd effeithiol o ddeall gwaith y Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus a’r buddion ar gyfer trigolion a phartneriaid, bu i’r pandemig
Covid-19 ein taro a bu’n rhaid defnyddio adnoddau sefydliadau partner er mwyn
ymateb i’r pandemig. Fodd bynnag, gan
fod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn fforwm strategol lefel uchel, roedd
aelodau’r Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu o’r farn y byddai’n werth i’r
Cydbwyllgor newydd barhau â’r ymarfer hwn yn dilyn yr etholiadau awdurdodau
lleol unwaith y byddwn wedi dychwelyd i ‘fusnes arferol’. Dylid parhau i rannu rhaglenni cyfarfodydd y
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ag aelodau’r Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu er
gwybodaeth yn ogystal ag annog aelodau’r Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu i
fynychu cyfarfodydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i arsylwi’r trafodion.
Roedd yn amlwg y byddai
disgwyl i awdurdodau lleol a chyrff sector cyhoeddus eraill roi rhagor o
ystyriaeth i ddatblygiadau rhanbarthol a gweithio gyda’i gilydd ar sail
ranbarthol yn y dyfodol, h.y. drwy Gydbwyllgorau Corfforaethol. Byddai felly’n allweddol i’r Cydbwyllgor
Trosolwg a Chraffu ddeall sut i weithio’n effeithiol yn lleol, yn is-ranbarthol
ac yn rhanbarthol. Byddai’r Cydbwyllgor
Trosolwg a Chraffu yn cyfrannu at sicrhau synergedd rhwng gwaith y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus a chyrff amrywiol megis Cydbwyllgorau Corfforaethol,
Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru, Bwrdd Uchelgais Economaidd
Gogledd Cymru ac ati.
Byddai’n hanfodol yn y dyfodol
i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu sicrhau fod ei argymhellion yn ystyrlon ac yn
ymarferol. I gyflawni hyn, byddai’n
rhaid iddo ddyfeisio rhaglen gwaith i’r dyfodol briodol a chytbwys. Gellid defnyddio nifer o offer i gyflawni
hyn, er enghraifft cynlluniau a strategaethau amrywiol y Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus, yn ogystal â data allanol megis data’r Cyfrifiad diweddaraf a
fyddai’n cael eu cyhoeddi yn ystod tymor nesaf y Cyngor.
Wrth symud ymlaen, nododd
aelodau y byddai’n ddefnyddiol:
·
cynnal digwyddiad
gweithdy yn achlysurol er mwyn gwerthuso gwaith y Cydbwyllgor a’i
effeithlonrwydd.
·
parhau i gynnal sesiynau
briffio cyn cyfarfodydd rhwng y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd a swyddogion cefnogi
craffu er mwyn trafod materion ffurfiol y cyfarfod. Dylid hefyd anfon gwahoddiadau ar gyfer y
sesiwn friffio cyn cyfarfodydd at aelodau’r Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu a
allai fynychu pe dymunent, byddai eu presenoldeb yn y sesiynau hyn yn hollol ddewisol.
·
cyfethol cynrychiolwyr o
‘restr cyfranogwyr a wahoddwyd’ y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar y Cydbwyllgor
er mwyn trafod eitemau neu feysydd gwaith arbennig, gan y gallai eu mewnbwn i’r
eitemau hyn gynorthwyo aelodau i asesu effeithlonrwydd cynlluniau’r Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus a helpu i ddal y Bwrdd i gyfrif;
·
datblygu cysylltiadau
gwell gyda chynghorau dinas, tref a chymuned yn yr ardal, ynghyd â
budd-ddeiliaid ac unigolion eraill a oedd wedi ymgysylltu gyda datblygiad yr
Asesiad Lles, a’r Cynllun Lles maes o law, fel dull i helpu i werthuso’r
effaith ar yr Asesiad a’r Cynllun i fesur p’un a oedd y Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus yn darparu yn erbyn eu disgwyliadau.
·
gwneud cais i eitem
fusnes reolaidd gael ei rhestru ar raglenni cyfarfodydd busnes y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus i’r dyfodol ar gyflwyno cofnodion cyfarfodydd y
Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu i’r Bwrdd.
Dylid gwahodd Cadeirydd neu Is-gadeirydd y Cydbwyllgor Trosolwg a
Chraffu i fynychu cyfarfodydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i gyflwyno’r
cofnodion. Pe bai angen, gellid hefyd
defnyddio’r eitem fusnes i gyflwyno unrhyw argymhellion gan y Cydbwyllgor
Trosolwg a Chraffu i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus eu hystyried. Byddai hefyd yn gwneud y Cydbwyllgor
Trosolwg a Chraffu’n fwy amlwg i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac yn helpu i
ddatblygu sianeli cyfathrebu cryf rhwng y cyrff. Roedd potensial hefyd i helpu i ddatblygu
perthynas waith adeiladol ac effeithiol rhwng y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
a’r Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu ac fel arall.
Penderfynwyd: cytuno ar y camau gweithredu a
restrir uchod a bod Cadeirydd/Is-gadeirydd y Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu yn
adrodd ar y camau gweithredu arfaethedig i fynd i’r afael ag argymhellion
Archwilio Cymru i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ei gyfarfod nesaf.