Eitem ar yr agenda
ASESIAD LLES CONWY A SIR DDINBYCH 2022
Ystyried adroddiad
gan Swyddog Cefnogi y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (copi’n amgaeëdig) sy’n cyflwyno Asesiad
Llesiant Drafft 2022 y Cyd-Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i’r Pwyllgor
i’w adolygu fel rhan o’r
broses ymgynghori, ac sydd hefyd yn ceisio
argymhellion y Pwyllgor mewn perthynas a’i gynnwys a'i
ganfyddiadau.
Cofnodion:
Cyflwynodd Nicola Kneale,
Cyngor Sir Ddinbych - Rheolwr Cynllunio Strategol yr adroddiad (a ddosbarthwyd
ymlaen llaw) gan nodi bod yr adroddiad yn darparu manylion yr asesiad lles a
oedd wedi cael ei ddatblygu dros y 12 mis diwethaf. Rhoddodd yr adroddiad gyfle i adolygu
canfyddiadau allweddol yr Asesiad Lles Lleol a gwneud argymhellion fel rhan o’r
broses ymgynghori.
Atgoffwyd aelodau o bwysigrwydd
y drafodaeth am yr asesiad yn unol â’r gofynion statudol mewn perthynas â
phrosesu a chynhyrchu asesiad lles 2022.
Roedd yr adroddiad yn cynnig sicrwydd i aelodau ar y broses ddadansoddi
gadarn a gwblhawyd i ddatblygu’r asesiad.
Pwysleisiwyd bod y ddogfen
strategol hon yn allweddol dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015. Y
bwriad oedd defnyddio’r asesiad i ategu at gynlluniau strategol cyrff cyhoeddus
yng Nghymru.
Darparodd y Rheolwr Cynllunio
Strategol gefndir cryno ar y gwaith a oedd wedi’i gwblhau i gyflawni’r
asesiad. Eglurwyd bod y camau cychwynnol
yn cynnwys sefydlu tîm golygyddol traws sector a thraws sirol o ymchwilwyr ac
arbenigwyr o wahanol sefydliadau yn y sector cyhoeddus. Roedd gofyn i’r tîm archwilio lles yr ardal
yn seiliedig ar y Saith Nod Lles dan Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol. Rhoddwyd gwybod i aelodau bod swyddogion wedi
defnyddio arbenigedd y sector cyhoeddus o ran data ac ymchwil, sylwadau
proffesiynol ac wedi datblygu cysylltiadau proffesiynol gyda chyrff ymchwil
cenedlaethol i fwydo’r asesiad. Roedd
ymgysylltiad â gweithwyr proffesiynol, trigolion ac aelodau etholedig hefyd
wedi cyfrannu at yr asesiad. Defnyddiwyd
y wybodaeth a gasglwyd i adolygu a diweddaru’r asesiad cyfredol.
Cynhaliwyd y cam ymchwil a
dadansoddi o fis Ionawr tan fis Medi, yn dilyn hynny, gwiriwyd ansawdd y gwaith
dadansoddol a’r ymgynghoriadau gan y tîm golygyddol a oedd wedi cael ei sefydlu
ynghyd â chydweithwyr o sefydliadau allanol.
Cynhaliwyd y gwiriadau ansawdd cyn cyhoeddi’r asesiad ar gyfer yr
ymgynghoriad.
Nodwyd bod y wybodaeth yn yr asesiad ar gael ar wefan
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych ar fformat 'Wikipedia', fel yr oedd yn flaenorol.
Pwysleisiodd y Rheolwr Cynllunio Strategol bod gwneud
synnwyr o’r wybodaeth a oedd ar gael i swyddogion yn ystod y cam ymchwil, sut i
ddadansoddi’r wybodaeth a dod i gasgliad
wedi bod yn heriol. Teimlwyd bod y
crynodeb gweithredol wedi darparu trosolwg o’r pynciau a’r themâu allweddol a oedd
yn codi o’r gwaith ymchwil a gwblhawyd.
Roedd yr asesiad yn canolbwyntio ar y sefyllfa gyfredol yn ogystal â
thueddiadau cyfredol a blaenorol gan ragweld dyfodol y pynciau y cyfeiriwyd
atynt.
Eglurwyd y pum cwestiwn yn yr
ymgynghoriad a restrir isod i’r Aelodau (fel y manylir yn yr adroddiad) -
i. Ydych chi’n cytuno gyda’r canfyddiadau yn yr Asesiad
Lles?
ii. Oes unrhyw beth y mae angen i ni ei newid?
iii. Oes yna unrhyw beth rydym ni wedi’i fethu?
iv. Ydych chi’n debygol o ddefnyddio’r Asesiad Lles a’i
gynnwys?
v. Unrhyw sylwadau neu
syniadau eraill am yr Asesiad Lles?
Diolchodd y Cadeirydd i’r
Rheolwr Cynllunio Ategol am yr adroddiad manwl a chynhwysfawr ac atgoffwyd
aelodau o’r cyfoeth o wybodaeth sydd ar gael ar-lein.
Gan ymateb i gwestiynau'r
Aelodau, fe wnaeth Rheolwr y Tîm Cynllunio Strategol y pwyntiau canlynol:
·
Roedd swyddogion yn ymwybodol o’r anawsterau a oedd ynghlwm â chynhyrchu
asesiad yn ystod y cyfnod digynsail hwn.
Cydnabuwyd yr angen i fonitro ac adolygu rhai o’r canfyddiadau a’r
casgliadau, yn flynyddol o bosibl wrth i sefyllfaoedd ddatblygu. Byddai’r asesiad yn cael ei gyhoeddi ar-lein,
er mwyn galluogi’r ddogfen i barhau i fod yn fyw ac er mwyn gwneud unrhyw
ddiweddariadau neu newidiadau allweddol yn ôl yr angen.
·
Roedd cyfeiriadau a phenawdau’r Crynodeb Gweithredol a’r Asesiad yn cynnwys
y boblogaeth hŷn a phobl ifanc.
Roedd swyddogion wedi cydnabod y broblem o ymfudiad allanol pobl
ifanc. Roedd y pryder hwn wedi arwain
at boblogaeth hŷn, costau gofal uwch ac incwm refeniw is o fewn
awdurdodau.
·
Cododd aelodau bryderon am y ffaith nad oedd aelodau’n bod yn
hunangynhaliol o ran gweithgynhyrchu ac ynni.
Nodwyd y gellid gwneud mwy o waith ymchwil i hunangynhaliaeth yn yr
ardal. Nododd y Rheolwr Cynllunio Strategol
bryderon yr aelodau a chadarnhaodd bod yr asesiad yn cynnwys cyfeiriadau a
gwaith ymchwil i economi werdd.
·
Awgrymwyd y dylid cynnal adolygiad o effaith Covid a’r arferion a gofynion
gweithio y gellid eu cynnwys wrth adolygu’r mater o gadw trigolion a gweithwyr
proffesiynol ifanc.
·
Nodwyd barn a phryderon aelodau, a byddai’r rhain yn cael eu rhannu â’r
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus er gwybodaeth pan fyddai’r Bwrdd wedi datblygu ei
Gynllun Lles.
·
Roedd comisiwn ar gyfer ffeithluniau wedi dechrau, byddai’n helpu unigolion
i ganolbwyntio ar rai o’r canfyddiadau allweddol yn yr asesiad. Gobeithiwyd y byddai’n ddefnyddiol ac yn
ymarferol ar gyfer ei ddarllenwyr.
·
Roedd aelodau’n cytuno gyda’r argymhellion ond gofynnwyd a fyddai modd
cynnwys nodyn bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a phartneriaid yn ystyried yr
effaith ehangach ar les drwy wasanaethau caffael. Cytunodd aelodau i swyddogion drafod a
llunio’r geiriad ar gyfer argymhelliad ychwanegol yn dilyn y cyfarfod gyda
chytundeb y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd.
Diolchodd y Cadeirydd i bawb a
oedd ynghlwm â’r broses o lunio Asesiad Lles 2022.
Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau a’r arsylwadau uchod –
(i)
derbyn yr adroddiad;
(ii)
cadarnhau canfyddiadau’r Asesiad Lles;
(iii)
argymell bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, gan gynnwys ei aelodau a’i sefydliadau
partner, yn defnyddio ei bwerau caffael mor lleol â phosibl er mwyn rhoi
pwyslais ar gyflogaeth, lleihau ôl-troed carbon yn unol â nodau lleol a
chenedlaethol, cefnogi lles lleol a helpu i gynnal y Gymraeg a’i diwylliant; a
(iv)
chadarnhau y bydd Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych yn defnyddio’r Asesiad Lles a’i gynnwys wrth
graffu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a chefnogi gweithgareddau’r cynllun
gwaith i'r dyfodol.
Dogfennau ategol:
- Well-being Assessment Report 110222, Eitem 6. PDF 204 KB
- Well-being Assessment Report 110222 - App A.docx, Eitem 6. PDF 681 KB
- Well-being Assessment WBIA Report 110222, Eitem 6. PDF 288 KB