Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD BLYNYDDOL ARCHWILIO MEWNOL DRAFFT 2011/12
Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Archwilio
Mewnol (copi’n amgaeëdig) sy’n cyflwyno Adroddiad Blynyddol y Pennaeth
Archwilio Mewnol ar gyfer 2011/12.
11.30 a.m. – 11.45 a.m.
Cofnodion:
Roedd adroddiad gan Bennaeth y
Gwasanaethau Archwilio Mewnol, yn cyflwyno Adroddiad Blynyddol y Pennaeth
Archwilio Mewnol ar gyfer 2011/12, wedi ei gylchredeg â’r papurau ar gyfer y
cyfarfod.
Roedd yr adroddiad yn cyflwyno Adroddiad
Blynyddol y Pennaeth Archwilio Mewnol ar gyfer 2011/12 (Atodiad 1). Roedd y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol blaenorol wedi cymeradwyo fersiwn ddrafft cyn diwedd 2011/12,
gyda’r fersiwn derfynol yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol.
Esboniwyd
y dylai’r adroddiad blynyddol, yn unol â’r ‘Cod Ymarfer ar gyfer Archwilio
Mewnol mewn Llywodraeth Leol yn y Deyrnas Unedig’ (2006), a gyhoeddwyd gan
Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA):-
·
ddarparu barn ar ddigonolrwydd ac
effeithiolrwydd amgylchedd rheolaeth fewnol y sefydliad;
·
datgelu unrhyw amodau i’r farn honno, ynghyd
â’r rhesymau am yr amod;
·
cyflwyno crynodeb o’r gwaith archwilio a
ymgymerwyd i ffurfioli’r farn, yn cynnwys dibyniaeth a roddir ar waith gan
gyrff sicrwydd eraill;
·
tynnu sylw at unrhyw faterion sy’n arbennig
o berthnasol i baratoad y datganiad llywodraethu blynyddol yn ein barn ni;
·
rhoi sylwadau ar gydymffurfio â’r safonau a
gynhwysir yn y Cod Ymarfer a chyfathrebu canlyniadau’r rhaglen sicrwydd ansawdd
archwilio mewnol.
Hysbyswyd
y Pwyllgor fod y Cod yn gofyn am Adroddiad Blynyddol i’r Pwyllgor Archwilio neu
gorff cyfwerth.
Atodiad 1 – Roedd yr
Adroddiad Archwilio Mewnol Blynyddol 2011/12 yn cynnwys Barn yr Archwiliad
Roedd digonolrwydd ac
effeithiolrwydd cyffredinol amgylchedd rheoli mewnol y sefydliad wedi ei
ddiffinio fel y polisïau, gweithdrefnau a’r gweithrediadau ac roedd y
rheiny wedi eu nodi yn yr adroddiad.
Roedd Pennaeth y
Gwasanaethau Archwilio mewnol wedi seilio barn ei archwiliad ar y gwaith
Archwilio Mewnol a wnaethpwyd yn ystod 2011/12, y farn a ffurfiwyd ym mhob maes
adolygu a’r materion a godwyd yn ystod ein gwaith, fel y’i dangosir yn Atodiad
1. Gan ddefnyddio’r cyfraddiadau
sicrwydd newydd o Adroddiadau Archwilio mewnol, fel y’u dangosir yn y tabl a
gynhwysir yn yr adroddiad, barn y Pennaeth Archwilio Mewnol oedd y gallai Sir
Ddinbych gael sicrwydd ‘canolig’ yn nigonolrwydd cyffredinol ac effeithiolrwydd
ei amgylchedd rheoli mewnol yn cynnwys ei drefniadau ar gyfer llywodraethu a
rheoli risg.
Ni chafwyd unrhyw faterion a oedd yn
berthnasol i’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol ac roedd ymateb Rheolaeth i
faterion a godwyd gan Archwilio Mewnol wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ynghyd â
manylion Mesurau Perfformiad Archwilio Mewnol.
O ran cydymffurfio â Safonau’r Cod Ymarfer, byddai Swyddfa Archwilio
Cymru’n adolygu’r gwasanaeth yn flynyddol, ond ni fyddai’n cynhyrchu adroddiad
ffurfiol. Fodd bynnag, nid oedd SAC wedi
codi unrhyw faterion o bryder efo’r gwasanaeth.
Darparodd
Bennaeth y Gwasanaethau Archwilio Mewnol ddiweddariad byr o ran yr un adroddiad
archwilio a gyhoeddwyd ac a oedd â statws coch, a oedd yn ymwneud
Roedd dadansoddiad o gyflenwad Strategaeth Archwilio Mewnol 2011/12 wedi ei
gynnwys yn yr adroddiad, ynghyd â sgorau sicrwydd a nifer y materion a godwyd
ar gyfer yr adolygiadau a gwblhawyd, y diffiniadau a ddefnyddiwyd i ffurfio ein
sicrwydd archwilio a’r cyfraddiadau a ddefnyddiwyd i asesu’r lefelau risg o ran
y materion a godwyd.
Mewn
ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, cadarnhaodd Bennaeth y Gwasanaethau
Archwilio Mewnol y byddai nifer y dyddiau cynlluniedig gwreiddiol yn wahanol
i’r dyddiau gwirioneddol, gan fod y strategaeth yn hyblyg a’i bod yn cael ei hadolygu
wrth i risgiau a blaenoriaethau newid.
Cafwyd ymateb gan Bennaeth y
Gwasanaethau Archwilio Mewnol i gwestiwn gan y Cynghorydd M.L. Holland
ynglŷn â chyllidebau ysgolion ac adolygiad fformiwla ariannu
ysgolion. Esboniodd fod gwaith a wnaethpwyd
mewn Ysgolion Uwchradd yn cynnwys adolygiad o reolaeth ariannol yr ysgol yn
gyffredinol er mwyn darparu sicrwydd i Lywodraeth Cymru. Oherwydd maint Ysgolion Cynradd, byddid yn
edrych ar reolaeth ariannol yr ysgolion fel testun a byddid yn edrych ar sampl
o’r ysgolion i archwilio’r arferion a fabwysiadwyd.
Esboniodd
y Pennaeth Gwasanaethau Archwilio Mewnol y byddai adroddiad ar weddillion
ariannol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Perfformiad ym Medi,
2012. Amlinellodd y Cynghorydd J. Thompson-Hill
ddarpariaethau’r gyllideb ar gyfer ysgolion ac amlygodd fod gwahaniaeth yn
bosib rhwng Ysgolion Uwchradd mawr ac Ysgolion Cynradd bach. Esboniodd hefyd nad oedd gan Sir Ddinbych gap
ffurfiol o ganrannau o weddillion ysgolion.
Yn dilyn trafodaeth fer:-
PENDERFYNWYD
– bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn
cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol 2011/12, yn cynnwys y Farn Archwilio gyffredinol a gynhwyswyd ynddo.
Dogfennau ategol: