Eitem ar yr agenda
ASESIAD LLES CONWY A SIR DDINBYCH 2022 - TROSOLWG O'R YMGYSYLLTU
Ystyried adroddiad
gan Swyddog Cefnogi y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (copi’n amgaeëdig) sy’n disgrifio’r dull ymgysylltu a ddefnyddiwyd i lywio’r Asesiad Lles.
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd Fran Lewis, Pennaeth Gwella
Corfforaethol ac Adnoddau Dynol (PGCAD) Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i
gyflwyno’r eitem hon ar y rhaglen (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).
Arweiniodd
y Pennaeth Gwella Corfforaethol ac Adnoddau Dynol aelodau drwy’r adroddiad a’r broses a
gwblhawyd i lywio asesiad lles 2022.
Atgoffwyd aelodau ei bod yn ofyniad statudol i bob Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus gynhyrchu Asesiad Lles Lleol. Yn yr un modd ag arfer, defnyddiwyd
barn y gymuned ac ymchwil data a thueddiadau demograffig i lywio’r
asesiad. Nodwyd bod ymgysylltu wedi bod
yn heriol iawn yn sgil cyfyngiadau Covid.
Roedd swyddogion wedi addasu eu dull o ymgysylltu â’r gymuned.
Sylweddolwyd y byddai’n rhaid
cwblhau’r broses ymgysylltu o bell.
Roedd swyddogion yn ymwybodol, fodd bynnag, er bod pobl ar y cyfan wedi
addasu i weithio ar lein, roedd yn rhaid cydbwyso hynny gyda ‘blinder
zoom’. Pwysleisiwyd bod swyddogion wedi
gweithio’n galed i hyrwyddo’r ymgysylltiad ac wedi defnyddio dull cynhwysol er
mwyn sicrhau nad oedd pobl yn cael eu neilltuo’n ddigidol.
Cynhaliwyd ymgyrch Sgwrs y Sir ar
draws Siroedd Conwy a Dinbych hefyd.
Roedd y dulliau ymgysylltu ychydig yn wahanol ac wedi cael eu haddasu ar
gyfer y ddwy sir. Yn Sir Ddinbych,
cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd ar-lein yn ôl ardaloedd daearyddol, a
chynhaliwyd cyfarfodydd ar-lein yn ôl themâu lles dinasyddion yng Nghonwy. Roedd y ddau ddull wedi casglu barn y
gymuned.
Roedd Swyddogion yn teimlo bod y
dull hwn yn llwyddiannus, fodd bynnag, nodwyd bod y gyfradd ymateb yn
isel. Cwblhawyd darn o waith i
ddadansoddi’r gwaith ymgysylltu blaenorol a gwblhawyd yn y 18-24 mis blaenorol
i gefnogi’r sesiynau ymgysylltu ar-lein.
Er mwyn sicrhau nad oedd unigolion wedi’u heithrio, cynhaliodd y ddau
awdurdod arolwg ar-lein i’w gwblhau gan gymunedau gan sicrhau bod copïau caled
ar gael hefyd.
Amlygwyd bod y digwyddiad
rhanbarthol a gomisiynwyd i gasglu barn grwpiau nas clywir yn aml wedi
gweithio’n dda. Cynhaliwyd y digwyddiad
gyda chefnogaeth gan y fforwm Lleisiau Cymunedol. Daeth dros 40 o sefydliadau i’r digwyddiad.
Clywodd Aelodau bod gwaith
ymgysylltu wedi cael ei gwblhau gyda nifer o grwpiau cymunedol gwahanol, a
rhoddwyd pwyslais arbennig ar y pwysigrwydd o geisio barn pobl ifanc. Ymgysylltwyd â Chyngor Ieuenctid Sir Ddinbych
a grwpiau ieuenctid yng Nghonwy, fodd bynnag, roedd hyn wedi bod yn heriol yn
ystod yr adolygiad hwn.
Drwy’r broses, nododd y Pennaeth
Gwella Corfforaethol ac Adnoddau Dynol bod swyddogion wedi gallu casglu barn
a’u cysylltu gyda themâu perthnasol a’u defnyddio i gadarnhau gwybodaeth
ymchwil a demograffig.
Roedd crynodeb demograffig wedi’i
gynnwys yn y pecyn (Atodiad i’r adroddiad).
Diolchodd y Cadeirydd i’r Pennaeth
Gwella Corfforaethol ac Adnoddau Dynol am y cyflwyniad manwl ac atgoffwyd
aelodau bod yr eitem hon wedi’i chynnwys ar y rhaglen er mwyn i aelodau
ystyried y broses ymgysylltu yn benodol.
Mewn ymateb i gwestiynau gan
aelodau, eglurodd y Pennaeth Gwella Corfforaethol ac Adnoddau Dynol:
·
Bod y
rheswm dros y gwahaniaeth rhwng nifer yr ymatebion yn y ddau awdurdod yn
aneglur. O ran hysbysebu a hyrwyddo’r
digwyddiadau, mabwysiadwyd dull tebyg iawn.
Defnyddiwyd llwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol gan y ddau awdurdod ac
roedd aelodau hefyd wedi cefnogi drwy hyrwyddo’r ymgysylltiad.
·
Gobeithiwyd
y byddai cynnal digwyddiadau ar amseroedd gwahanol yn annog cyfranogiad
pellach. Nodwyd nad oedd yr ymateb yn
llawer gwell gyda’r nos. Yn y dyfodol,
efallai y gallai’r Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu helpu swyddogion gydag
ymgysylltiadau ac ymgynghoriadau cyhoeddus er mwyn cyflawni rhagor o
gyfranogiad.
·
Diolchodd
Aelodau i’r swyddogion am eu gwaith caled yn trefnu’r digwyddiadau
ymgysylltu. Teimlwyd yn aml iawn nad oedd
trigolion yn dymuno ymgysylltu â digwyddiadau ac roedd hynny’n cael effaith ar
nifer yr ymatebion.
·
Roedd
trigolion ar y cyfan yn ymgysylltu’n well ar faterion sydd o ddiddordeb iddyn
nhw yn hytrach nac ar faterion strategol ehangach.
·
Pwysleisiodd
y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol (Cyngor Sir Ddinbych) bwysigrwydd ymgysylltu,
ymgynghori a chynnwys trigolion mewn cynlluniau yn y dyfodol wrth i’r cynllun
lles ddatblygu. Roedd y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus a swyddogion yn ymrwymo i gefnogi gwaith ymgysylltu ac
ymgynghori yn y dyfodol.
·
Roedd
aelodau’n deall ei bod wedi bod yn gyfnod anodd i gynnal digwyddiadau
ymgysylltu, ond roedd y cyfyngiadau Covid hefyd wedi cyflwyno cyfleoedd i
gynnal digwyddiadau ar-lein.
Ar ddiwedd y drafodaeth:
Penderfynwyd: yn amodol ar y sylwadau uchod, cefnogi’r dull
ymgysylltu a ddefnyddiwyd i lywio
datblygiad yr Asesiad Lles a derbyn y data a’r crynodeb o’r ymatebion a gafwyd.
Diolchodd y Cadeirydd i’r
swyddogion am yr adroddiad a chydnabuwyd yr anawsterau a oedd ynghlwm ag
ymgysylltu â’r cyhoedd.
Dogfennau ategol:
- WBA engagement overview, Eitem 5. PDF 222 KB
- WBA engagement overview report App A, Eitem 5. PDF 336 KB