Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNNAL A CHADW LLEINIAU GLAS A LLWYNI AR YMYL PRIFFYRDD.

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol (copi ynghlwm) ar bolisi’r Cyngor o ran cynnal a chadw ymylon ffyrdd/ perthi a gwasgaru plaladdwyr.

10.55 am – 11.25 am

Cofnodion:

[Cafodd yr eitem hon ei dwyn ymlaen gyda chydsyniad y Cadeirydd]

 

Cyflwynwyd yr adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) gan y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau a Phennaeth y Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol ar bolisi’r Cyngor ar gynnal a chadw lleiniau glas a llwyni a’r defnydd o blaladdwyr.  Gwnaeth y Pwyllgor gais am adroddiad ar ôl ystyried y mater yn flaenorol ym mis Chwefror 2021.

                         

Cyflwynwyd yr adroddiad a’r atodiadau er mwyn galluogi’r Pwyllgor i drafod y polisi a’r ymdriniaeth bresennol cyn dechrau’r flwyddyn ariannol newydd.  Tynnwyd sylw’r Pwyllgor at yr atodiadau a oedd yn rhoi manylion am y polisi ar gynnal lleiniau gwyrdd ar ymyl priffyrdd ynghyd â’r sefyllfa o ran y defnydd o blaladdwyr i ddibenion rheoli chwyn, ac roedd yn  cynnwys Nodyn Gwybodaeth Llywodraeth Cymru ar y defnydd o gynnyrch sy’n cynnwys glyffosad y mae safbwynt y cyngor wedi’i alinio ag ef. Cyfeiriwyd at y newid yn yr hinsawdd ac uchelgeisiau ecolegol y Cyngor ac er nad oes ar hyn o bryd ddewis amgen ymarferol yn lle defnyddio plaladdwyr i gael gwared â chwyn, mae gwaith y parhau er mwyn ceisio dod o hyd i ddulliau eraill o ladd chwyn ac i symud tuag at wireddu’r uchelgeisiau ecolegol hyn.

 

Yn ystod y drafodaeth cododd yr aelodau nifer o faterion gyda’r Aelod Arweiniol, y Pennaeth Gwasanaeth a Rheolwr yr Uned Waith, a chafwyd yr atebion canlynol:

 

·         er nad yn uniongyrchol gysylltiedig â’r adroddiad, ymatebodd y Pennaeth Gwasanaeth i faterion a godwyd gan y Cynghorwyr Emrys Wynne a Bobby Feeley yn ymwneud â phryderon ynghylch llwybr ar hyd yr A525 rhwng Fferm Cantaba a Lôn Jericho, Rhuthun.  Dywedodd nad oedd unrhyw waith arwyddocaol wedi’i wneud pan oedd y lleoliad hwn yn cael ei hystyried fel llwybr teithiol llesol posibl.  Fodd bynnag, yn dilyn y penderfyniad na fyddai’n addas ar gyfer teithio llesol, gwnaed cynlluniau i wella’r sefyllfa.  Crybwyllodd hefyd yr heriau a wynebir o ran blaenoriaethu’r adnoddau ariannol sydd ar gael i ymateb yn y ffordd orau bosibl i’r galwadau ar draws y rhwydwaith priffyrdd a’r llwybrau troed perthnasol, a chadarnhaodd y bydd ef a’r swyddogion perthnasol yn barod i drafod y materion hyn ymhellach, naill ai drwy’r Grŵp Aelodau Ardal, y broses graffu neu fforwm arall priodol.

·         dywedodd unwaith eto nad oes unrhyw ddewis ymarferol amgen yn lle defnyddio cemegau i drin chwyn ar y rhwydwaith priffyrdd ond bod gwaith yn parhau i geisio dod o hyd i ateb.  Mae trafodaethau ar y gweill gyda chontractwr presennol y Cyngor sy’n arbrofi â dulliau amgen posibl ar ran awdurdod lleol yn Lloegr er mwyn dileu’r pwyslais a’r ddibyniaeth ar lyffosad, ac mae gwaith yn mynd yn ei flaen gyda’r Gwasanaethau Cefn Gwlad i geisio dod o hyd i safleoedd yn y sir lle gellid treialu sylwedd addas amgen posibl, megis asid asetig

·         mae triniaethau chwistrellu chwyn wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf o bedair gwaith y blwyddyn i ddwywaith y flwyddyn gyda’r rhan fwyaf o chwistrellu wedi’i gyfyngu i ardaloedd trefol mewn parthau 30mya a chedwir yn llym at grynodiadau glyffosad o 300ml fesul litr.  Mae’r defnydd o lyffosad wedi’i gymeradwyo ac mae chwistrellu chwyn yn digwydd yn unol â’r canllawiau a’r cyfyngiadau presennol.  Nodwyd bod awdurdodau cyfagos yn defnyddio glyffosad i drin chwyn.

·         cafwyd trafodaethau gyda Chyfoeth Naturiol Cymru eisoes mewn perthynas â’r defnydd o gemegau a’r effaith ar gyrsiau dŵr ac ni chodwyd unrhyw bryderon gan fod y Cyngor yn cydymffurfio â’r canllawiau sy’n rheoli’r defnydd hwn.

·         nodwyd problemau a brofwyd yn y gorffennol mewn rhai ardaloedd trefol lle’r oedd chwyn wedi gordyfu gan gyfeirio’n benodol at Princes Street, y Rhyl a rhoddwyd eglurhad ar yr amserlen a’r rhaglen o waith chwistrellu chwyn gyda hyn yn ddibynnol i raddau helaeth ar amodau’r tywydd ac roedd gwersi wedi’u dysgu o’r tymor blaenorol o ran amseru chwistrellu chwyn i gael yr effaith gorau.

·         mewn ymateb i awgrymiadau bod angen mwy o ymgysylltu ag aelodau a’r gymuned er mwyn helpu i adnabod a rhoi sylw i ardaloedd problemus ar y camau cynharaf, dywedodd swyddogion fod yr Uned Waith yn rhoi diweddariadau i aelodau a bod cymaint o rybudd â phosib yn cael ei roi am y rhaglen chwistrellu a thorri gwair yn ogystal â’r gwaith cynnal a chadw cylchol a wneir ar yr A525 a’r A447 - anogwyd aelodau i gysylltu â Rheolwr yr Uned Waith os nad oeddent yn derbyn y wybodaeth berthnasol.

·         o ran goruchwyliaeth a sicrhau bod y gwaith yn cyrraedd y safonau angenrheidiol, caiff yr ardaloedd eu harchwilio gan Gydlynwyr y Gwasanaethau Stryd ac mae gwaith agos yn digwydd gyda’r contractwyr torri gwaith a chwistrellu.

·         oherwydd bod triniaethau lladd chwyn wedi gostwng o bedair gwaith i ddwywaith y flwyddyn er mwyn lleihau faint o gemegau a ddefnyddir ac i helpu i wireddu uchelgeisiau ecolegol y Cyngor, byddai cynnydd mewn materion cysylltiedig â rheoli chwyn i’w ddisgwyl.

·         fel rhywun sy’n cadw gwenyn, dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas ei fod yn fodlon â’r defnydd o lyffosad fel chwynladdwr systemig sydd yn rheoli chwyn yn effeithiol a dywedodd ei fod yn fodlon derbyn yr adroddiad a’i gynnwys ac nad oedd yn teimlo bod angen adroddiad ar hyn bob blwyddyn fel sydd wedi bod yn digwydd oni bai bod newid sylweddol i’r polisi

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd Rachel Flynn at faterion yn ymwneud â Chlymog Japan ger y rheilffordd ym Mhrestatyn a gofynnodd i’r swyddogion fynd ar ôl y mater yn uniongyrchol gyda Network Rail fel y sefydliad cyfrifol; awgrymodd y gallai’r Cyngorydd Flynn hefyd o bosibl gysylltu â Network Rail yn uniongyrchol mewn perthynas â hyn.

·         Caiff llwyni sy’n eiddo i’r Cyngor eu torri yn unol â thelerau’r polisi a chaiff problemau gyda llwyni sydd mewn perchnogaeth breifat eu cydnabod a chyfrifoldeb y perchnogion tir yw’r rhain - roedd y Cyngor wedi chwarae rhan weithredol mewn mynd ar ôl cwynion a godwyd yn y cyswllt hwn ac wedi cysylltu â pherchnogion tir i ddatrys y materion hyn.

·         mae’r manylebau a’r safonau torri wedi’u nodi yn y polisi ac mae disgresiwn i dorri mwy na stribed 1m o led o ymyl y ffordd mewn lleoliadau penodol, yn bennaf am resymau iechyd a diogelwch megis sicrhau gwelededd i ddefnyddwyr y ffyrdd a cherddwyr, a chynhaliwyd archwiliadau rheolaidd i liniaru unrhyw bryderon.  Mewn llawer o ardaloedd nid oedd yn angenrheidiol torri’n ôl fwy nag 1 metr sydd yn cyd-fynd â’r gwaith ar y safleoedd blodau gwyllt a bioamrywiaeth.

·         tynnwyd sylw at drefniadau rheoli presennol y prosiect dolydd blodau gwyllt i ganiatáu twf a datblygiad er mwyn gwneud y mwyaf o’r manteisio bioamrywiaeth ac i drefnu bod dolydd yn cael eu torri o fewn cyfnod penodol o amser tua diwedd Awst/dechrau Medi - roedd y Cadeirydd yn teimlo y byddai’n fuddiol torri’r ardaloedd hynny’n fwy rheolaidd na phob 3 blynedd er mwyn gwella edrychiad y safleoedd a’u gwneud yn fwy deniadol

·         ar hyn o bryd mae 75 o ddolydd blodau gwyllt ar draws y sir a fydd yn cynyddu cyn bo hir i 105 safle, a reolir ar y cyd â’r Gwasanaethau Cefn Gwlad gyda chyfran uchel o leiniau ymyl y ffordd wedi’u cynnwys yn y prosiect.  Cafwyd cyllid gan Lywodraeth Cymru i brynu offer penodol i dorri a chasglu’r glaswellt ar y safleoedd hyn fel bod blodau gwyllt eraill yn ffynnu - bydd y gwaith hwnnw’n digwydd ddiwedd Awst/dechrau Medi.

 

Wedi ystyried y wybodaeth a gafwyd yn yr adroddiad, yr atodiadau ac yn ystod y drafodaeth -

 

PENDERFYNODD  y Cyngor gymeradwyo polisïau ac ymdriniaeth presennol y cyngor mewn perthynas â chynnal a chadw lleiniau ymyl y ffordd a llwyni yn ogystal â’r defnydd o blaladdwyr.

 

Dogfennau ategol: