Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ASESIAD O ANGHENION Y BOBLOGAETH 2020

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro, Gwasanaethau Cymorth Busnes (copi ynghlwm), sy’n ceisio barn aelodau ynglŷn â’r Asesiad o Anghenion y Boblogaeth 2022 a chefnogaeth i’w gyhoeddi.

10.10 am – 10.55 am

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorwyr Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth a Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd a oedd â chyd-gyfrifoldeb dros yr eitem hon.  Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau, Pennaeth Gwasanaeth Dros-dro, Gwasanaeth Cymorth i Fusnesau a’r Prif Reolwr hefyd yn bresennol

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley yr adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) yn ceisio barn aelodau ar yr Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru (AAB) a chefnogaeth i gyhoeddi’r adroddiad.  Rhoddodd drosolwg cyffredinol, yn gryno -

                

·         mae dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd i ddatblygu cyd-asesiad o anghenion gofal a chymorth y boblogaeth ranbarthol ar draws Cymru bob 5 mlynedd a defnyddiwyd yr Asesiad o Anghenion y Boblogaeth (AAB) cyntaf a gyhoeddwyd yn 2017 fel sail i’r ddogfen ddiweddaraf.

·         cyhoeddwyd yr AAB gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru fel ymarfer ar y cyd yn cynnwys y chwe awdurdod lleol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ac Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda’r ddogfen wedi’i rhannu’n wahanol benodau thematig

·         Bydd blaenoriaethau Sir Ddinbych wedi’u cynnwys yn y fersiwn terfynol o’r AAB ynghyd â dogfen debyg ar gyfer pob un o’r awdurdodau lleol a BIPBC.

·         roedd yr AAB yn anelu at wella dealltwriaeth o’r boblogaeth ar draws Gogledd Cymru a sut y bydd eu hanghenion yn esblygu ac yn newid dros y blynyddoedd i ddod.  Mae hwn wedi bod yn ddarn mawr o waith sydd wedi ystyried barn y boblogaeth gydag amrywiaeth eang o ymgynghoriadau wedi digwydd gyda sefydliadau a phartneriaid, a thua 350 o unigolion wedi cymryd rhan mewn arolwg rhanbarthol i hysbysu’r AAB

·         tynnodd sylw at y camau nesaf pan fydd yr AAB yn mynd drwy brosesau cymeradwy’r pum awdurdod lleol arall a BIPBC cyn eu cymeradwyo’n ffurfiol gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth.

 

Diolchodd y Cynghorydd Feeley i bawb a oedd yn rhan o gynhyrchu’r ddogfen sylweddol hon.  Ychwanegodd y Pennaeth Gwasanaeth Dros-dro, Gwasanaeth Cymorth i Fusnesau, y byddai’r negeseuon a’r blaenoriaethau allweddol ar gyfer Sir Ddinbych yn rhan o’r AAB.

 

Gan ymateb i gwestiynau, adroddodd yr Aelodau Arweiniol, y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau, y Pennaeth Gwasanaeth Dros-dro, Gwasanaeth Cymorth i Fusnesau a’r Prif Reolwr

 

·         ar yr amrywiaeth o ddarpariaeth gymunedol sydd ar gael i blant wireddu eu deilliannau personol, gyda darpariaeth wedi’i theilwra ar gyfer plant ag anghenion mwy cymhleth, a rhoddwyd enghreifftiau darluniadol o’r gwasanaethau wedi’u comisiynu a gwaith gyda’r trydydd sector a phartneriaid i ddarparu amrywiaeth o weithgareddau yn Sir Ddinbych.

·         cafwyd sicrwydd bod plant sy’n derbyn gofal yn cael eu lleoli’n lleol ble bynnag bosibl ac y byddai lleoliadau’n cael eu gwneud y tu allan i’r sir dim ond pe bai hynny er lles gorau’r plentyn, er enghraifft gyda gofalwr sy’n berthynas, yn unol â chyfarwyddyd y Llysoedd neu i gael mynediad at ddarpariaeth arbenigol nad yw ar gael o fewn y sir

·         gallai nifer o ffactorau fod wedi cyfrannu at y cynnydd mewn oedolion yr adroddwyd bod amheuaeth eu bod mewn perygl posibl ar draws y rhanbarth o 2016/17 i 2018/19, gyda phobl yn cael eu hannog yn rhagweithiol i roi gwybod am eu hamheuon, y newidiadau deddfwriaethol a ddigwyddodd tua’r adeg honno ac ail-lansiad gweithdrefnau diogelu Cymru.

·         derbynnir bod darlun cymysg ar draws y rhanbarth o nifer y plant sydd ar y gofrestr diogelu plant ond mae’r niferoedd yn Sir Ddinbych wedi aros yn gyson rhwng 75-90 o blant ar y gofrestr bob blwyddyn, a gellid trafod yn fwy manwl y rhesymau y tu ôl i’r amrywiadau hyn yn y Fforwm Rhianta Corfforaethol, cafwyd sicrwydd nad yw plant yn cael eu cofrestru oni bai bod hynny’n wirioneddol angenrheidiol ac er eu lles pennaf.

·         roedd yn ymddangos bod BIPBC wedi darparu data o arolwg cenedlaethol ynghylch canran yr oedolion sy’n cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol (tabl 41 a 42) ond cytunodd y Pennaeth Gwasanaeth Dros dro Cymorth i Fusnesau geisio cadarnhad ynghylch sut y cafwyd y data hwnnw ac adrodd yn ôl.

·         rhoddodd ddiweddariad ar ddatblygiad Bwthyn y Ddôl, uned asesu a chymorth therapiwtig breswyl ar gyfer plant a phobl ifanc a’u teuluoedd ynghyd ag adnoddau staffio a’r costau cysylltiedig.

·         ers cyflwyniad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 bu ffocws ar bennu pa ddarpariaeth sy’n diwallu anghenion yr unigolyn orau i oresgyn ynysu cymdeithasol ac unigedd ac mae gweithwyr cymdeithasol a therapyddion galwedigaethol yn cynnal asesiadau cychwynnol sy’n cael eu hadolygu’n rheolaidd; mae llawer o waith yn ymwneud ag annog pobl ifanc i ymgysylltu mewn gweithgareddau cymunedol lleol ac ar hyn o bryd mae digon o ddarpariaeth dydd yn y prif drefi i ddiwallu’r galw presennol - os bydd y galw am ofal dydd yn cynyddu bydd y sefyllfa’n cael ei hadolygu.

·         mae’r Cyngor yn cadw cofnodion am blant sy’n cael eu haddysgu gartref ac wedi sefydlu perthnasoedd gyda chanran uchel o’r teuluoedd hynny, ond mae angen gwneud diwygiadau cysylltiedig ag addysg yn y cartref i gefnogi lles a deilliannau addysgol, ac fel cam diogelu sydd wedi’i godi gan Gomisiynydd Plant Cymru a Chyfarwyddwyr Gofal Cymdeithasol ac Addysg yng Nghymru.

·         mae gwaith ar y gweill gyda phartneriaid iechyd i wella diagnosis cynnar dementia a gweithiodd tîm o ymarferwyr gofal cymdeithasol dementia yn benodol gydag unigolion sy’n mynd drwy ddiagnosis dementia neu sydd wedi cael diagnosis o ddementia yn barod, gyda llawer o waith yn cael ei wneud i godi ymwybyddiaeth o’r mater.  Fodd bynnag, cydnabuwyd bod rhagor o waith i’w wneud yn y cyswllt hwn.

                                

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley bod y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn lansio Is-grŵp Plant i roi mwy o ffocws ar blant a phobl ifanc sydd hefyd wedi’i adlewyrchu yn y cwestiynau y mae’r Pwyllgor wedi’u gofyn am yr adroddiad.  Roedd y AAB yn ddogfen fyw a bydd ychwanegiadau’n cael eu gwneud wrth i fwy o wybodaeth ddod i law i adlewyrchu anghenion gofal a chymorth newidiol y boblogaeth er mwyn gweld sut orau i ddiwallu’r anghenion hyn wrth symud ymlaen.

 

Croesawodd y Pwyllgor yr adroddiad cynhwysfawr gan amlygu pwysigrwydd cipio a defnyddio’r data hwnnw, i ddibenion hysbysu darpariaeth y dyfodol a sicrhau bod anghenion y  boblogaeth yn cael eu diwallu, ond hefyd i helpu i hysbysu cynlluniau a strategaethau lleol a rhanbarthol eraill.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar y sylwadau a’r safbwyntiau uchod, argymell cyhoeddiad Asesiad o Anghenion Poblogaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.

 

Dogfennau ategol: