Eitem ar yr agenda
ADOLYGIAD O REOLAETH RISG STRATEGOL: ADRODDIAD TERFYNU
Ystyried adroddiad
gan Reolwr y Tîm Gwelliannau Corfforaethol (copi’n amgaeëdig) ar adroddiad
terfynu prosiect ar gyfer Prosiect Adolygu Rheoli Risg Strategol.
10.25 a.m. – 10.50 a.m.
Cofnodion:
Roedd adroddiad gan Reolwr y
Tîm Gwella Corfforaethol ar yr adroddiad terfynu prosiect ar gyfer y Prosiect
Adolygu Rheolaeth Risg Strategol, wedi ei gylchredeg yn y cyfarfod.
Cyflwynodd Rheolwr y Tîm
Gwella Corfforaethol yr adroddiad a oedd yn rhoi sicrwydd i’r Pwyllgor fod yna
broses gadarn ar gyfer rheolaeth risg strategol. Roedd y Pwyllgor Craffu Perfformiad wedi nodi
ei fod yn fodlon fod y broses yn gweithredu’n dda a’i bod yn hawdd ei dilyn.
Roedd yr adroddiad yn
darparu gwybodaeth ynglŷn â’r adolygiad o reolaeth risg strategol a
gweithrediad dilynol proses newydd i gydlynu rheolaeth risg strategol. Roedd y Cyngor wedi cynnal adolygiad o
reolaeth risg strategol oherwydd pryderon ynglŷn â pha mor gadarn oedd y
gweithgaredd o fewn y sefydliad. Roedd
yr adolygiad yn cynnig nifer o newidiadau i’r broses bresennol yn cynnwys
polisi a gweithdrefn newydd i reoli risg strategol, a symud cyfrifoldeb am
gydlynu rheolaeth risg strategol oddi wrth y Gwasanaethau Archwilio Mewnol i’r
Tîm Gwella Corfforaethol. Yn dilyn
gweithrediad y newidiadau, roedd y manteision canlynol wedi eu gwireddu, fel
y’u nodir ar dudalen 5 Adroddiad
Terfynu’r Adolygiad Risg:-
·
System fodern o Reoli Risg, sy’n fwy integredig ac yn fwy effeithiol ac
a fyddai’n ffit i’r pwrpas ac yn syml i’w deall.
·
Roedd templed clir wedi cyfrannu tuag at leihau maint y cofrestrau
risg, fel y’i nodir yn yr Atodiad gan wneud y cofrestrau’n haws eu dilyn a chan
ganiatáu arbedion argraffu ar draws yr awdurdod.
·
Lleihad sylweddol yn nifer y trapiau gwrthrychol a phroblemau o 172 i
30, Atodiad III. Roedd pob un o’r 35 o
achosion o ddyblygu wedi eu dileu oddi ar y cofrestrau. Darparwyd diffiniad o ‘drap gwrthrychol’ i’r
Pwyllgor.
·
Diwylliant o ymwybyddiaeth o risg rhagweithiol a pharhaus ym mhob rhan
o’r Cyngor, a oedd yn lleihau’r posibilrwydd o weithgaredd heb ei gynllunio neu
gostau ariannol a’u heffaith ar enw da’r Cyngor a hyder cwsmeriaid ac yn cynnal
a gwella hyder y cwsmer yng ngallu’r Cyngor i gyflenwi ei ymrwymiadau.
·
Gweithdrefnau atebolrwydd ac adrodd clir wedi eu sefydlu.
·
Gwasanaethau’n cael eu hannog i gymryd agwedd ‘gwasanaeth cyfan’ tuag
at eu cofrestrau gan ganiatáu mwy o ffocws, llai o ddyblygu a llai o
broblemau’n cael eu hadrodd.
·
Tîm pwrpasol yn y Swyddogion Gwella Corfforaethol sy’n cydlynu risg yn
gyson yn y Cyngor drwyddo draw.
Darparwyd manylion staffio yn y cyfarfod.
·
Gellid defnyddio adnoddau, yn cynnwys amser aelodau a swyddogion, yn
fwy effeithiol.
·
Roedd y berthynas rhwng y Gofrestr Risgiau Corfforaethol a chofrestrau
risgiau’r gwasanaeth wedi eu diffinio’n well gan alinio’n gliriach y
cyfrifoldeb am y risgiau hynny â phortffolios y Cyfarwyddwr a’r Cabinet.
System a oedd yn adlewyrchu
honno a ddefnyddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a oedd yn gwneud
cynllunio’n haws lle’r oedd gwasanaethau ar y cyd yn y cwestiwn.
Darparwyd manylion
hyfforddiant Aelodau gan Reolwr y Tîm Gwella Corfforaethol. Cynhelid sesiwn Hyfforddi Rheoli Perfformiad
ar Orffennaf 23ain, 2012 a fyddai’n cwmpasu Rheolaeth Risg a’r Fframwaith
Rheoli Perfformiad.
Mewn ymateb i gwestiwn gan
Mr Whitham ynglŷn â’r Gofrestr Risgiau Corfforaethol, esboniwyd y gellid
nodi risgiau ar lefel gwasanaeth ledled y sefydliad neu risg lefel gwasanaeth
un gwasanaeth. Gallasai’r Tîm
Gweithredol Corfforaethol nodi rhai risgiau lefel uwch a’u hystyried yn brif
risgiau i’r Awdurdod.
Mewn ymateb i awgrym gan y
Cynghorydd M.L. Holland y dylai dogfennaeth fod yn haws i ddefnyddwyr eu deall
o ran defnyddio Saesneg clir, cytunai’r Rheolwr Tîm Gwella Corfforaethol â’r
teimladau’r farn a fynegwyd ac esboniodd fod Atodiadau i’r adroddiad wedi eu
cynhyrchu i’w cyflwyno i’r Bwrdd Trawsnewid Busnes.
Yn dilyn trafodaeth
bellach:-
PENDERFYNWYD – bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi’r
adroddiad terfynu prosiect, Atodiad A.
Dogfennau ategol: