Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CWRICWLWM CYMRU

Cael cyflwyniad ar Ganllawiau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ac i drafod y posibilrwydd o ddefnyddio'r Canllawiau fel Maes Llafur Cytunedig.  [Mae’r canllawiau ar gael trwy’r canlynol dolen  (gweler adroddiad eitem 5 ynghlwm) ynghyd â Chrynodeb o'r Ddeddfwriaeth

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Prif Reolwr Addysg i’w gyfarfod cyntaf o’r CYSAG.

 

Cyflwynodd y Prif Reolwr Addysg yr eitem ar Gwricwlwm newydd Llywodraeth Cymru a fydd yn dod i rym ym mis Medi 2022.   Roedd yn ddiolchgar i’r Ymgynghorydd AG am ei gyflwyniad a’i eglurhad o’r canllawiau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) sydd wedi cael eu rhyddhau’n ddiweddar.

 

Eglurodd yr Ymgynghorydd AG bod angen cynnal Cynhadledd Maes Llafur Cytunedig er mwyn paratoi Maes Llafur Cytunedig i’w fabwysiadu gan yr awdurdod addysg lleol.   Y bwriad oedd cofnodi a rhannu’r cyflwyniad gyda chyfranogwyr er mwyn llywio’r broses honno.   Yn ogystal â chynrychiolwyr CYSAG, gobeithiwyd y byddai gymaint o athrawon a phosibl yn gallu mynychu’r Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig a oedd wedi’i threfnu ar gyfer 14 Mawrth 2022.

 

Rhoddodd yr Ymgynghorydd AG gyflwyniad a oedd yn cynnig trosolwg o’r Cwricwlwm i Gymru ac eglurhad o’r canllawiau CGM.

 

Roedd y meysydd a oedd wedi’u cynnwys yn y cyflwyniad cynhwysfawr yn cynnwys -

 

·         gofynion y ddeddfwriaeth cwricwlwm ac asesu

·         cyflwyniad i’r chwe maes dysgu a phrofiad a manylion pellach am yr iaith a ddefnyddir - ‘datganiadau o’r hyn sy’n bwysig’, ‘egwyddorion cynnydd’, disgrifiadau dysgu’ a ‘chynllunio eich cwricwlwm’

·         cyfeiriadau penodol at y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ar gyfer y maes Dyniaethau a oedd yn cynnwys cyd-destun, sgiliau, gwybodaeth a chysyniadau i’w datblygu

·         dolenni i dudalennau we gan gynnwys crynodeb o ddeddfwriaeth gyda deddfwriaeth benodol yn ymwneud â chanllawiau CGM a sut y gellid eu  mabwysiadu mewn Maes Llafur Cytunedig

·         y newid o addysg grefyddol i grefydd, gwerthoedd a moeseg er mwyn adlewyrchu’r cwmpas ehangach a chynnwys credoau anghrefyddol gan gynnwys dyneiddiaeth, anffyddiaeth a seciwlariaeth

·         newidiadau deddfwriaethol sy’n llywodraethu’r Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig a CYSAG i adlewyrchu credoau crefyddol a chredoau athronyddol anghrefyddol

·         nodau’r Maes Llafur Cytunedig a’r canllawiau CGM a gafodd eu hysgrifennu fel sail i’r Maes Llafur Cytunedig drwy weithio ar y cyd

·         gofynion cyfreithiol ar gyfer Cynhadledd Maes Llafur Cytunedig a chwestiynau i’w hystyried ganddyn nhw a CYSAG.

·         gwaredu’r hawl i dynnu’n ôl o CGM yn y Cwricwlwm i Gymru

·         pwrpas y canllawiau CGM sef darparu cefnogaeth ychwanegol ar sut y gellid dysgu CGM yn y maes Dyniaethau a’r meysydd perthnasol eraill

·         y cyd-destun datblygiad ysbrydol o fewn CGM a oedd yn parhau i fod yn agwedd allweddol

·         cynllunio’r cwricwlwm ar gyfer CGM, gan gynnwys: themâu trawsbleidiol, sgiliau trawsbynciol, sgiliau sy’n hanfodol i’r pedwar diben, datganiadau o’r hyn sy’n bwysig, cysyniadau CGM a’r lens CGM. 

·         dilyniant dysgwyr a siwrneiau dysgu mewn perthynas â CGM gydag enghreifftiau dangosol, a

·         phwyntiau i ysgolion/lleoliadau eu hystyried wrth gynllunio eu cwricwlwm ar gyfer CGM.

 

Wrth gloi, fe wnaeth yr Ymgynghorydd AG gydnabod ei fod wedi cyflwyno cyfoeth o wybodaeth yn y cyflwyniad, ond amlygodd bod y Cwricwlwm i Gymru a’r canllawiau CGM yn llawer mwy cynhwysfawr.  Byddai’r cyflwyniad a’r sleidiau PowerPoint yn cael eu rhannu gydag aelodau CYSAG ac ysgolion er mwyn rhoi cyfle i bawb ystyried y cynnwys yn eu hamser eu hunain.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd -

 

·         roedd y canllawiau CGM yn ddogfen gynhwysfawr ac roedd dolen i’r wefan berthnasol wedi cael ei chynnwys ar y rhaglen er mwyn rhoi cyfle i aelodau gael golwg dros y wybodaeth yn eu hamser eu hunain; er bod y cyflwyniad yn hir, llwyddwyd i grynhoi elfennau o’r canllawiau er hwylustod.

·         cadarnhawyd mai’r cyfieithiad Cymraeg swyddogol ar gyfer ‘Religion, Vales and Ethics Guidance’ oedd ‘Canllawiau ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg’ fel y nodwyd yn y cyflwyniad.

·         cyfeiriodd y Cynghorydd Meirick Davies at yr ymgynghoriad DU a oedd yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ar wahardd yr hawl i broselytio a’r goblygiadau posibl ar gyfer addysg grefyddol.  Nid oedd yr Ymgynghorydd AG yn ymwybodol o’r cynigion ond rhoddodd wybod bod deddfwriaeth yng Nghymru i ddiogelu addysg Gristnogol o fewn y cwricwlwm presennol, a diolchodd i’r Cynghorydd Davies am dynnu ei sylw at hyn.

·         cafwyd trafodaeth ynghylch diben y canllawiau i fod yn amlblwyfol ac addysgu am gredoau amrywiol ar draws Cymru, yn hytrach na gwthio syniadau ffydd a dweud wrth ddisgyblion beth i gredu, ac er y bydd gan ysgolion eglwys ddiben gwahanol mewn perthynas â CGM a’i ddarpariaeth, byddai’n rhaid sicrhau bod elfen amlblwyfol er mwyn adlewyrchu’r amrywiaeth o bobl a chredoau yng Nghymru.

·         roedd y ddeddfwriaeth a oedd yn sail i’r canllawiau CGM yn nodi’n glir bod yn rhaid adlewyrchu mai natur crefyddol bennaf Cymru yw Cristnogaeth yn ogystal â rhoi sylw i’r prif grefyddau eraill a chredoau athronyddol anghrefyddol, felly roedd ymdeimlad o hanes Cymru ynghlwm â’r gwersi.

·         cyfrifoldeb yr ysgolion oedd sicrhau bod disgyblion yn ymwybodol o ddimensiynau moesoldeb ac ysbrydolrwydd ac ystyriwyd bod siwrneiau dysgu CGM yn caniatáu i ddisgyblion archwilio eu ffydd a’u credoau eu hunain, gyda’r rhyddid i wneud eu dewisiadau a’u penderfyniadau personol eu hunain.

·         ni fyddai angen yr hawl i beidio ag astudio AG mwyach yn sgil y ffordd y byddai CGM yn cael i ddysgu drwy’r cwricwlwm newydd

·         eglurwyd bod gan Addoli ar y Cyd ei gyfres ei hun o gyfreithiau a syniadau a oedd ar hyn o bryd yn seiliedig ar fod yn gyfan gwbl neu’n bennaf o gymeriad Cristnogol

·         rhoddodd cynrychiolwyr athrawon wybod am y cynlluniau a’r datblygiadau yn eu hysgolion eu hunain mewn perthynas â’r cwricwlwm newydd a chroesawyd y cyflwyniad a oedd yn cynnig eglurhad o addysg CGM yn y dyfodol a diolchwyd i’r Ymgynghorydd AG am ei waith caled.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Ymgynghorydd AG am ei gyflwyniad diddorol a chynhwysfawr a oedd wedi derbyn ymateb da gan CYSAG, a nododd y byddai ysgolion yn elwa’n fawr o’r cyflwyniad wrth iddynt ddatblygu’r cwricwlwm newydd ac addysg CGM.

 

PENDERFYNWYD  derbyn a nodi’r cyflwyniad gan yr Ymgynghorydd AG mewn perthynas â’r canllawiau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

 

 

Dogfennau ategol: