Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DEFNYDDIO LLAI O BLASTIGAU UNTRO A LLEIHAU CARBON YN Y GWASANAETH PRYDAU YSGOL

Ystyried adroddiad gan y Prif Reolwr Arlwyo a Glanhau (copi ynghlwm) sy’n rhoi diweddariad ar y cynnydd, a’r heriau,  mewn perthynas â lleihau’r defnydd o blastigau untro a lleihau carbon o fewn y Gwasanaeth Arlwyo Ysgolion.

11.20 am – 11.50 am

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon, gan gynnwys y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd a’r Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd, y cyntaf yn dal y portffolio ar gyfer y maes gwasanaeth dan sylw a’r ail yn dal y portffolio ar gyfer yr amgylchedd, ynghyd â’r Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a’r Pen Rheolwr Arlwyo a Glanhau.  Estynnwyd croeso cynnes hefyd i ddau ddisgybl o Gyngor Myfyrwyr Ysgol Dinas Brân a fyddai’n cael eu gwahodd i ofyn cwestiynau am y mater.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yr adroddiad gan y Pen Rheolwr Arlwyo a Glanhau, a oedd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed, a’r heriau a gododd, wrth fynd ati i leihau plastig untro a charbon yn y Gwasanaeth Arlwyo Ysgolion, yn ogystal ag amcangyfrif o’r costau cysylltiedig.  Wrth osod y cyd-destun dywedodd fod yr adroddiad yn seiliedig ar y ddarpariaeth gyfredol ac y byddai gweithredu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddarparu prydau ysgol am ddim i’r holl blant mewn ysgolion cynradd yn cael effaith arwyddocaol ar y gwasanaeth.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Pwyllgor gan gyfeirio at y materion a ganlyn –

 

·         roedd dull ariannu cyfredol y gwasanaeth arlwyo ysgolion yn dibynnu ar incwm o werthu diodydd mewn ysgolion uwchradd, a werthid mewn poteli plastig untro yn bennaf.  Roedd y dewisiadau ar gyfer rhoi’r gorau i werthu diodydd mewn poteli plastig untro’n cynnwys (1) peidio â gwerthu unrhyw ddiodydd a bod y disgyblion yn dod â’u diodydd eu hunain i’r ysgol, a fyddai’n creu diffyg o £220,000, neu (2) gwerthu diodydd wedi’u tywallt i gynwysyddion y gellid eu hailddefnyddio

·         Arbrofwyd â dewis 2 yn Ysgol Glan Clwyd ond oherwydd y trafferthion a gafwyd a’r effaith ariannol, fel y nodwyd yn yr adroddiad, daeth y gwasanaeth i’r casgliad na ellid rhoi’r dull ar waith yn yr holl ysgolion uwchradd oherwydd yr heriau ymarferol, prinder lle mewn rhai ysgolion a gwastraff ar ffurf cwpanau plastig na ellid eu hailgylchu; nid oedd yn ariannol ymarferol chwaith

·         roedd y gwasanaeth wedi cael hwyl ar leihau plastig untro mewn meysydd eraill ac wedi lleihau swm y deunydd pecynnu bwyd a gâi ei brynu a’i daflu.  Bu cynnydd, fodd bynnag, ym mhrisiau deunyddiau amgen y gellid eu hailgylchu ac roedd pryder nad oedd y myfyrwyr yn ailgylchu’r deunyddiau hynny.  Rhoddwyd y gorau i ddefnyddio cyllyll a ffyrc plastig lle bo modd a châi bwyd ei weini ar blatiau, ond roedd llawer o ysgolion heb ystafelloedd bwyta digon mawr i’r disgyblion

·         camau gweithredu penodol y gwasanaeth wrth gyflawni’r swyddogaeth arlwyo heb ddefnyddio llawer o garbon, a heriau yn y dyfodol wrth wella cyfraddau ailgylchu ymysg disgyblion, swydd newydd i hyrwyddo newid ymddygiad, a thrafodaethau ynglŷn â’r posibilrwydd o gael llai o gig coch ar fwydlenni, a oedd yn bwnc llosg.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts ymrwymiad y gwasanaeth i leihau plastig untro a charbon er gwaethaf yr heriau a gododd, a’r cynnydd a wnaed mewn nifer o feysydd.  Cyfeiriodd eto at effaith ariannol drom y camau gweithredu a nodwyd yn yr adroddiad - £220,000 y flwyddyn wrth roi’r gorau i werthu diodydd mewn ysgolion uwchradd, a £197,000 y flwyddyn wrth werthu diodydd wedi’u tywallt i gwpanau y gellid eu hailddefnyddio.  Byddai’n rhaid gwneud iawn am y diffyg hwn drwy gynyddu’r cymhorthdal refeniw, codi prisiau prydau ysgol neu drosglwyddo’r costau i’r ysgolion.  Byddai darparu prydau ysgol am ddim i holl ddisgyblion ysgolion cynradd hefyd yn cynyddu ôl troed carbon y gwasanaeth.  Soniwyd y câi pob ysgol ei thrin yn gyfartal o dan y dull ariannu presennol, ac oni ddymunai ysgol unigol fabwysiadu dull gwahanol (a gwneud iawn am unrhyw ddiffyg yn y gyllideb) byddai’r dull cyson hwnnw’n aros yn ei le.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Brian Jones at waith a wnaed yn y gorffennol gyda’r nod o leihau plastig untro a phwysleisiodd fod angen i gyllidebau ariannol fod yn gyson â’r blaenoriaethau newid hinsawdd, a bod angen dod o hyd i ffyrdd dyfeisgar o fynd i’r afael â’r problemau a godai.  Croesawodd gyfranogiad y ddau fyfyriwr o Ysgol Dinas Brân a’r gwaith oedd yn mynd rhagddo ar y cyd ag ysgolion ac eraill wrth geisio dod o hyd i ddulliau dyfeisgar o symud cynlluniau rhag newid hinsawdd ymlaen.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y myfyrwyr o Ysgol Dinas Brân i ofyn cwestiynau, a gan gyfeirio at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a chaffael cynaliadwy fe holont pam nad oedd y gwasanaeth yn defnyddio pethau gwell na nwyddau plastig untro yn unol â’r Ddeddf, a faint o wastraff ychwanegol a gynhyrchwyd drwy ddarparu plastig untro wrth fodloni’r galw gan fyfyrwyr.  Holodd y myfyrwyr hefyd ynghylch gwir gostau defnyddio plastig o gymharu â deunyddiau amgen ecogyfeillgar, a heriont y cyfeiriad ym mharagraff 10.2 o’r adroddiad ynglŷn ag awydd ysgolion i newid, ar sail ymrwymiad parhaus y Cynghorau Ysgol.  Mewn ymateb bu i’r Aelodau Arweiniol a swyddogion –

 

·         esbonio’r graddfeydd amser llym ar gyfer gweini prydau bwyd yn yr wyth o ysgolion uwchradd ynghyd â’r prinder lle a oedd yn cael effaith arwyddocaol ar y modd y darperid y gwasanaeth, gan hefyd geisio bodloni hoffterau’r disgyblion a sicrhau bod y gwasanaeth yn ariannol hyfyw

·         ymhelaethu ynghylch y camau a gymerwyd i ddefnyddio llai o ddeunydd pecynnu plastig untro ar frechdanau a phasta, a’r heriau o ddefnyddio cyllyll a ffyrc dur a phlatiau gan ystyried fod amser yn gyfyng a bod dim digon o le mewn rhai ysgolion, yn ogystal â’r ffaith nad oedd rhai disgyblion yn dychwelyd eu cyllyll a ffyrc ar bob achlysur a bod hynny’n creu costau, a bod deunyddiau amgen fel bambŵ yn llai fforddiadwy i ddisgyblion

·         amrywiai swm y gwastraff o un ysgol i’r llall, ac nid oedd rhai disgyblion yn ailgylchu unrhyw blastig untro; ni châi llestri ac ati eu dychwelyd bob tro ac weithiau roedd disgyblion yn eu taflu (ar y llawr ar brydiau), ac nid oedd hynny o fewn rheolaeth y gwasanaeth. Roedd angen addysgu disgyblion a newid ymddygiad yn hynny o beth er mwyn sicrhau y câi’r gwastraff a gynhyrchid wrth ddarparu’r gwasanaeth ei waredu yn y ffordd orau  Sicrhawyd cyllid i ariannu swydd newydd i hyrwyddo newid ymddygiad a byddai gweithio â’r gwasanaeth arlwyo ac ysgolion yn cael blaenoriaeth

·         esboniodd fod paragraff 10.2 yn cyfeirio at ansicrwydd a oedd gan ysgolion awydd cyson/ar y cyd i newid i ddull newydd, a gododd yn sgil trafodaeth gyffredinol mewn cyfarfod penaethiaid clwstwr ynglŷn â gwerthu diodydd. Roedd penaethiaid wedi mynegi pryderon ynglŷn â rhoi’r gorau i werthu sudd ffrwythau (gan ystyried y buddion iechyd) a defnyddio caniau yn lle plastig (gan ystyried nad oedd modd eu cau ar ôl eu hagor a bod damweiniau’n gallu digwydd â chaniau wedi rhwygo ar gae’r ysgol).  Bu Ysgol Glan Clwyd yn awyddus i gynnal yr arbrawf gwerthu diodydd ond pan gyflwynwyd y drefn newydd ni ddymunai’r rhan helaeth o ddisgyblion gymryd rhan

·         cydnabuwyd mai gwerthu diodydd mewn ysgolion oedd y broblem fwyaf i’r gwasanaeth o ran plastig untro, ac er mai’r ffordd symlaf o fynd i’r afael â hynny oedd rhoi’r gorau i werthu diodydd mewn ysgolion, byddai goblygiadau mawr yn deillio o gymryd y cam hwnnw, nid yn unig oherwydd y diffyg yn y gyllideb y byddai’n rhaid gwneud iawn amdano, ond hefyd yng nghyd-destun iechyd a ffactorau eraill sydd efallai’n anhysbys, ac roedd angen trafod y mater yn wleidyddol ac ymgynghori â’r holl ysgolion er mwyn dod i gytundeb ynglŷn â’r ffordd orau ymlaen

·         wrth ehangu’r gwasanaeth er mwyn bodloni’r gofynion i ddarparu prydau ysgol am ddim i’r holl ddisgyblion cynradd byddai’n anorfod y byddai ôl troed carbon y gwasanaeth yn tyfu hefyd, ac roedd hynny’n her sylweddol.

 

Yn ystod trafodaeth drylwyr bu’r aelodau’n craffu  ar yr adroddiad yn fanwl a chawsant gyfle i ofyn cwestiynau a thrafod amryw agweddau ar yr adroddiad â’r Aelodau Arweiniol a’r swyddogion.  Rhoes y Cadeirydd ganiatâd hefyd i fyfyrwyr Ysgol Dinas Brân ac eraill nad oeddent yn aelodau o’r Pwyllgor ofyn cwestiynau dilynol.  Cydnabu’r Pwyllgor yr heriau wrth geisio cydbwyso anghenion y gwasanaeth a’r ddarpariaeth prydau ysgol â blaenoriaethau yng nghyd-destun yr hinsawdd a’r ecoleg, yn enwedig felly’r goblygiadau ariannol a’r angen i newid ymddygiad er mwyn cyflawni’r uchelgeisiau hynny.

 

Bu’r drafodaeth yn canolbwyntio’n bennaf ar y materion canlynol –

 

·         yn ddelfrydol defnyddid cyllyll a ffyrc dur ond roedd cyfyngiadau ar ddarparu’r gwasanaeth oherwydd prinder lle, diffyg cyfleusterau a chadeiriau mewn ysgolion, ynghyd â hyd yr amser cinio a’r ffaith bod miloedd o gyllyll a ffyrc dur yn mynd ar goll bob blwyddyn, gan gynnwys rhai a daflwyd yn amhriodol; er y byddai modd defnyddio cyllyll a ffyrc bambŵ roedd y rheiny’n llawer drutach na rhai plastig gyda phob cyllell a fforc yn costio tua 10-15c yn fwy, a byddai’n rhaid trosglwyddo’r gost i’r cwsmeriaid

·         roedd gobaith y gallai’r Cyngor wneud mwy yn y dyfodol wrth gydweithio ag ysgolion i wella ymddygiad, gyda’r nod o sicrhau y câi’r holl ddeunydd a gynhyrchid o brydau ysgol ei ailgylchu, ac er mwyn mynd i’r afael â phroblemau sbwriel

·         roedd dull ariannu’r gwasanaeth arlwyo’n seiliedig ar yr holl ysgolion gyda’i gilydd ac felly byddai newid y drefn mewn un ysgol yn cael effaith ariannol ar bob un o’r lleill; pe byddai un ysgol yn rhoi’r gorau i werthu diodydd, er enghraifft, byddai’n rhaid rhannu’r diffyg yn y gyllideb yn gyfartal ymysg yr holl ysgolion, ac felly byddai angen i’r holl ysgolion gytuno cyn cyflwyno dull o’r fath

·         bu gobaith y byddai’r arbrawf gwerthu diodydd yn Ysgol Glan Clwyd yn llwyddo ac y byddai modd ei gyflwyno ymhob ysgol uwchradd, ond yn anffodus ni fu’r arbrawf yn llwyddiant ac fe greodd broblemau eraill

·         rhoddwyd sicrwydd fod gan bob ysgol awydd i geisio mynd i’r afael â phlastig untro a lleihau carbon ac er bod y gwasanaeth wedi gwneud cynnydd yn hynny o beth mewn meysydd fel pecynnu a gwaredu gwastraff, roedd yr heriau mewn ysgolion yn anodd eu goresgyn mewn gwirionedd, ac roedd hi’n anodd dod dros goblygiadau ariannol y newidiadau hynny

·         cafwyd rhywfaint o drafodaeth ynglŷn â’r sefyllfa genedlaethol, gan ystyried fod newid hinsawdd yn bwnc byd-eang, a holwyd a ddylai’r Cyngor wneud cais i Lywodraeth Cymru weithio ag awdurdodau lleol ledled Cymru a darparu’r cyllid angenrheidiol i gyflwyno newid sylweddol, yn enwedig gan ystyried yr heriau ariannol yr oedd llywodraeth leol eisoes yn eu hwynebu a’r gwasgfeydd ar ysgolion a gwasanaethau eraill.  Cynigiodd y Cadeirydd y byddai cysylltu â Llywodraeth Cymru’n ffordd o symud y mater yn ei flaen.

·         roedd y rhan helaeth o ysgolion yn gweini prydau bwyd i wahanol ddisgyblion ar adegau gwahanol, ac o ganlyniad i Covid-19 wedi defnyddio rhannau eraill o’r ysgol heblaw am y ffreutur, a oedd wedi bod yn her barhaus

·         diystyrwyd cyflwyno blaendal ar gyfer cyllyll a ffyrc ailddefnyddadwy a chynwysyddion diodydd, oherwydd y gwaith gweinyddol a fyddai’n deillio o hynny a’r perygl o draws-heintio

·         nid oedd rhai ysgolion yn caniatáu caniau ac ni fyddai newid o gynwysyddion plastig untro i ganiau’n ddelfrydol beth bynnag, gan mai cynwysyddion untro oedd y rheiny hefyd; nid oedd codi arwyddion ac ati i nacáu taflu sbwriel yn atal y broblem o reidrwydd

·         esboniwyd fod angen cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru ynglŷn â bwyd a maeth, a bod diffyg cyfleusterau a phrinder lle i hunanweini bwyd ynghyd â pheryglon traws-heintio wrth ddefnyddio cynwysyddion ailddefnyddadwy, a chadarnhawyd na fu unrhyw wahaniaeth yn yr incwm a gynhyrchwyd wrth werthu diod ar ôl rhoi’r gorau i ddefnyddio’r ffynhonnau dŵr yn yr ysgolion

·         canfu gwaith ymchwil y dylai rheolwyr arlwyo sy’n ceisio lleihau allyriadau carbon fod yn ystyried mabwysiadu dulliau gwaredu gwastraff nad ydynt yn defnyddio llawer o garbon yn ogystal â gweini llai o gig coch - byddai’n rhaid cael trafodaeth wleidyddol am y cig gan y byddai hynny’n benderfyniad arwyddocaol i’r sir

·         rhoddwyd sicrwydd y cymerwyd camau i leihau plastig untro a bod cynnydd wedi’i wneud, a chytunwyd y gallai newidiadau bach a graddol wneud gwahaniaeth mawr pe byddai pawb yn ymdrechu ar y cyd

·         roedd dull ariannu cyfredol y gwasanaeth yn seiliedig ar y system yn ei chyfanrwydd ac yn trin pob ysgol yn gyfartal beth bynnag ei maint, a phe dymunai Ysgol Dinas Brân fabwysiadu dull gweithredu gwahanol a’i bod yn barod i wneud iawn am y diffyg yn y gyllideb, roedd gan yr ysgol hawl i wneud hynny a byddai’r Cyngor yn cynnig pob cymorth y gallai yn hynny o beth.

 

Siomwyd y Cynghorydd Graham Timms o glywed ymateb y Pwyllgor ynglŷn â gofyn i Lywodraeth Cymru arwain ar y mater, a dywedodd y dylai’r Cyngor fod yn mynd i’r afael â’r sefyllfa.  Holodd a wnaed unrhyw waith i ddatblygu a phennu costau gwasanaeth a fyddai’n cael gwared â phlastig untro ac yn lleihau carbon, wedi’i ariannu a’i weithredu gan y Cyngor, ynghyd â gwaith i addysgu plant ynglŷn â’r ymddygiad gorau.  Rhybuddiodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts rhag llunio cynllun gwasanaeth am y tro, gan ystyried nad oedd hi’n hysbys beth fyddai goblygiadau’r gofyn i ddarparu prydau ysgol am ddim i’r holl ddisgyblion cynradd yn y dyfodol, ac roedd wedi nodi bod yr adroddiad yn ymdrin â’r sefyllfa fel yr oedd hi ac yn amodol ar elfennau ansicr yn y dyfodol fel ailstrwythuro posib a buddsoddiadau.  Cydnabu myfyrwyr Ysgol Dinas Brân hefyd y sefyllfa ariannol oedd ohoni, ond gan bwysleisio fod newid hinsawdd hefyd yn sefyllfa’r oedd angen mynd i’r afael â hi.  Awgrymodd y Cadeirydd y gallai argymhelliad y Pwyllgor i geisio cymorth gan Lywodraeth Cymru gynnwys yr arbrawf gwerthu diodydd yn Ysgol Glan Clwyd fel enghraifft o’r anawsterau a wynebwyd, ac awgrymodd y gallai Ysgol Dinas Brân ddymuno cysylltu â Llywodraeth Cymru eu hunain er mwyn mynegi eu siom ynglŷn â phrinder cyllid i symud pethau yn eu blaenau.

 

Er nad oedd cynllun presennol i ddatrys y problemau a godwyd, cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaeth fod yno ymrwymiad i ddal ati.  Gan ystyried y gofynion newydd i ddarparu prydau ysgol am ddim roedd angen i’r gwasanaeth roi blaenoriaeth i gyflawni’r gwaith hwnnw yn y deunaw mis nesaf, ac er y gallai gymryd mwy o amser na hynny i gyflawni nodau’r gwasanaeth i leihau carbon a phlastig untro, rhoddwyd sicrwydd fod pawb yn ymrwymo i ddatrys y broblem.  Wrth ddod â’r drafodaeth i ben ailgyflwynodd y Cadeirydd ei gynnig, a eiliwyd gan y Cynghorydd Ellie Chard, ac ar sail pleidlais bu i’r Pwyllgor –

 

BENDERFYNU , yn amodol ar y sylwadau a phryderon uchod, yn gofyn i’r Cabinet ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ar ran y Cyngor gan ofyn iddo –

 

(a)       weithio ag awdurdodau lleol ledled Cymru mewn ymdrech i leihau a rhoi terfyn ar ddefnyddio plastig untro a nwyddau na ellid eu hailgylchu wrth gyflenwi prydau ysgol, eu paratoi a’u gweini, a

 

(b)       darparu adnoddau ariannol digonol i’r holl awdurdodau lleol fel y gallant gyflawni’r amcanion uchod, hwyluso cynlluniau lleihau carbon yn y Gwasanaethau Arlwyo Ysgolion a sicrhau y gellid darparu gwasanaeth prydau ysgol cynaliadwy.

 

Diolchodd y Cadeirydd i fyfyrwyr Ysgol Dinas Brân am eu cyfraniad a’u cwestiynau heriol, a hefyd i’r holl aelodau am eu cyfraniad hwythau i’r drafodaeth, yn enwedig felly’r Cynghorydd Graham Timms, ac i’r swyddogion am ddod â’r adroddiad gerbron y Pwyllgor ac ateb cwestiynau yn ei gylch.

 

 

Dogfennau ategol: