Eitem ar yr agenda
SAFONAU A PHERFFORMIAD Y GWASANAETH LLYFRGELLOEDD
Ystyried
adroddiad gan y Prif Lyfrgellydd (copi ynghlwm) yn nodi manylion perfformiad y
Cyngor mewn perthynas â 6ed Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru
2017-2020 (sydd wedi’i ymestyn i 2020-2021) a’r cynnydd a wnaed o ran datblygu
llyfrgelloedd fel mannau lles a gwytnwch unigol a chymunedol.
10.40 am – 11.10 am
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, yr
adroddiad gan y Pen Llyfrgellydd (a ddosbarthwyd o flaen llaw) ynglŷn â
pherfformiad y Cyngor wrth weithredu Chweched Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd
Cyhoeddus Cymru 2017 – 2020 (a ymestynnwyd hyd 2020 – 2021) a’r cynnydd a wnaed
wrth ddatblygu llyfrgelloedd yn lleoedd a gyfrannai at les a chadernid
unigolion a chymunedau.
Atgoffodd y Cynghorydd Thomas y Pwyllgor fod awdurdodau llyfrgelloedd yng
Nghymru dan ddyletswydd statudol i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr ac
effeithlon i’w trigolion, a bod yr adroddiad yn cymharu perfformiad Sir
Ddinbych â’r safon genedlaethol. Rhoes
ganmoliaeth i’r gwasanaeth gwerthfawr a ddarperid yn Sir Ddinbych, gan nodi fod
Covid-19 wedi cael effaith drom arno hefyd, ac achubodd y cyfle i ddiolch i’r
staff am eu gwasanaeth rhagorol ar adegau anodd; symudodd rhai aelodau o staff
i swyddi dros dro ddechrau’r pandemig fel rhan o’r drefn o ffonio preswylwyr yn
rhagweithiol. Roedd y data perfformiad
ar gyfer 2020 – 21 yn cynnwys y deuddeg o hawliau craidd yr oedd Sir Ddinbych
yn dal i’w bodloni, ynghyd â chwech o ddangosyddion ansawdd y cynhaliwyd
hunanasesiad ar eu cyfer fel y nodwyd yn yr adroddiad. Darparwyd nifer o astudiaethau achos difyr ac
addysgiadol ynglŷn â gweithgarwch y gwasanaeth.
Amlygodd y Pennaeth Cymunedau a Chwsmeriaid lwyddiant y gwasanaeth
llyfrgelloedd a’r modd yr addaswyd y ddarpariaeth yn unol â’r gwahanol lefelau
rhybudd Covid a gofynion y byd cyfoes, gan nodi fod lawrlwythiadau digidol wedi
cynyddu 166% yn ystod y cyfnod clo cyntaf.
Cyfeiriodd at ymdrechion aruthrol y gwasanaeth llyfrgelloedd a oedd wedi
arwain at yr adroddiad cadarnhaol, gan gydnabod serch hynny fod angen llawer
iawn o waith er mwyn meithrin cadernid cymunedau a’u gallu i gynnal eu hunain,
a bod gan y gwasanaeth llyfrgelloedd ran allweddol i’w chwarae yn hynny o beth.
Yn ystod y drafodaeth croesawodd y Pwyllgor yr adroddiad cadarnhaol a
chydnabu mor bwysig oedd y gwasanaeth llyfrgelloedd i les pobl ac mor werthfawr
oedd ei gyfraniad i gymunedau. Rhoes
aelodau enghreifftiau o’r ddarpariaeth yn eu wardiau hwy, gan ganmol y
cynlluniau a’r amrywiaeth o wasanaethau a ddarperid, gan gynnwys gwaith â
phartneriaid, a rhoi diolch i’r holl staff.
Atebodd yr Aelod Arweiniol, y Pennaeth Cymunedau a Chwsmeriaid a’r Pen
Llyfrgellydd gwestiynau fel a ganlyn –
·
yn unol â’r sefyllfa
gyffredinol mewn canol trefi, nid oedd nifer yr ymweliadau â llyfrgelloedd wedi
dychwelyd i’r lefelau a gafwyd cyn y pandemig, ac felly’r oedd hi ledled Cymru;
roedd gwaith yn mynd rhagddo i ail-greu cysylltiadau ag ysgolion a dod â gwasanaethau
partneriaid a gweithgareddau grŵp yn ôl er mwyn hybu niferoedd; cydnabuwyd
hefyd fod angen i bobl fagu hyder er mwyn ailgydio mewn gwahanol weithgareddau
a gwasanaethau yn y gymuned
·
cydnabuwyd bod y gwasanaeth
llyfrgelloedd yn ymestyn y tu hwnt i waliau brics a mortar, a bod pobl yn
defnyddio llyfrgelloedd mewn ffyrdd tra gwahanol bellach, fel y gwelwyd wrth i
fwy o bobl ddefnyddio gwasanaethau’n ddigidol, gan gynnwys y Gwasanaeth Archebu
a Chasglu
·
roedd bagiau atgofion i
helpu pobl â dementia ar gael i’w benthyg yn yr un modd â llyfrau a bu’r rhain
yn boblogaidd dros ben; derbyniwyd cyllid yn ddiweddar i ddarparu jig-sôs i
bobl oedd yn byw â dementia a hyderid y byddai’r rheiny hefyd yr un mor
boblogaidd
·
ar sail cyfraniadau
ariannol Cyngor Tref Rhuddlan a Chyngor Dinas Llanelwy i’w llyfrgelloedd lleol,
ynghyd â gwaith mewn partneriaeth a’r weledigaeth gytûn ar gyfer llyfrgelloedd
yn gweithio mewn cymunedau, roedd y llyfrgelloedd hynny’n arbennig o
lwyddiannus – awgrymodd y Cadeirydd y gallai fod yn werth ehangu’r dull o
weithio mewn partneriaeth i gynorthwyo llyfrgelloedd lleol mewn trefi a
chymunedau ledled y sir
·
er bod llai o blant a phobl
wedi cymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf yn 2021, roedd yn dal yn gynllun
llwyddiannus dros ben ac roedd Sir Ddinbych yn dal i berfformio’n dda. Roedd
yno ragor o waith ag ysgolion ar y gweill, gan ystyried mor bwysig oedd darllen
yng nghyd-destun addysg a lles
·
lleihawyd lefelau staff
mewn ffordd a fyddai’n lleihau unrhyw effaith ar ddefnyddwyr y llyfrgelloedd a
rhoddwyd sylw manwl i ymatebion cwsmeriaid; ni chafwyd unrhyw ymatebion
negyddol. Byddai’r gwasanaeth yn dal i ddefnyddio’i adnoddau yn y ffordd fwyaf
effeithiol y gallai er budd y trigolion
·
roedd nifer ymweliadau a
benthyciadau’n cynyddu fesul dipyn ac roedd rhagor o wasanaethau’n bwriadu
ailagor yn yr wythnos ddilynol wrth i’r cyfyngiadau lacio, ac roedd hi’n anodd
cymharu â’r cyfnod cyn y pandemig gan fod cymaint o bethau wedi newid yn y ddwy
flynedd aeth heibio a bod pobl yn ymddwyn yn wahanol; roedd pawb yn gyfrifol am
helpu i feithrin hyder pobl i ailgydio â gweithgareddau yn y gymuned, a’r neges
bendant oedd bod llyfrgelloedd yn fannau diogel a chroesawgar i ymwelwyr.
Bu’r Prif Weithredwr yn falch o glywed y farn gadarnhaol o’r gwasanaeth
llyfrgelloedd a gosododd her ar gyfer y dyfodol o ganfod beth yn rhagor y
gellid ei wneud i ddiogelu’r cyfleusterau hyn er mwyn gwella bywydau
trigolion. Wrth gloi, talodd y Cadeirydd
deyrnged unwaith eto i’r gwasanaeth ardderchog a ddarperid a gwaith yr holl staff.
Bu i’r Pwyllgor –
BENDERFYNU, yn amodol
ar y sylwadau uchod –
(a) cydnabod ymdrechion llyfrgelloedd y sir i addasu i’r pandemig Covid-19 a
darparu gwasanaeth ardderchog i drigolion Sir Ddinbych;
(b) derbyn a nodi’r wybodaeth a ddarparwyd ynghylch perfformiad y Gwasanaeth
Llyfrgelloedd yn ôl Chweched Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru
yn ystod 2020/21 ynghyd â’r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau yn ystod
2021/22, a
(c) gofyn am adroddiad arall ynghylch
perfformiad y Gwasanaeth yn ôl Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru yn ystod
2021/22 i ddod gerbron y Pwyllgor ym mis Ionawr 2023.
Ar yr adeg hon (11.17 am) cymerodd y pwyllgor egwyl fer.
Dogfennau ategol:
- LIBRARY STANDARDS REPORT, Eitem 6. PDF 227 KB
- LIBRARY STANDARDS REPORT - APPENDIX 1, Eitem 6. PDF 477 KB