Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNNYDD AR GYFLAWNI STRATEGAETH DAI A DIGARTREFEDD SIR DDINBYCH

Ystyried adroddiad gan yr Uwch Swyddog Cynllunio Strategol a’r Swyddog Tai (copi ynghlwm) ar y cynnydd a wnaed hyd yma ar gyflawni’r Strategaeth a’r Cynllun Gweithredu Tai a Digartrefedd diwygiedig a gymeradwywyd gan y Cyngor Sir ym mis Rhagfyr 2020.

10.10 am – 10.40 am

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorwyr Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau a Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth, a rannai’r cyfrifoldeb am gyflawni’r Strategaeth Tai a Digartrefedd.  Roedd y Pennaeth Cwsmeriaid a Chymunedau, y Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai, yr Uwch-swyddog Cynllunio Strategol a Thai a’r Rheolwr Datblygu Tai hefyd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad (a ddosbarthwyd o flaen llaw) ynglŷn â’r cynnydd a wnaed hyd yn hyn wrth gyflawni’r Strategaeth Tai a Digartrefedd ddiwygiedig a’r Cynllun Gweithredu a gymeradwywyd gan y Cyngor Sir fis Rhagfyr 2020.  Roedd y Strategaeth yn cynnwys chwech o feysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu ar sail chwech o brif themâu, ac roedd y cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r cynllun gweithredu ynghlwm wrth yr adroddiad fel atodiad.  Roedd y Grŵp Strategol Tai a Digartrefedd yn goruchwylio’r drefn o gyflawni’r cynllun gweithredu ynghyd â dyrannu’r Grant Tai Cymdeithasol gyda’r nod o hybu datblygiadau tai fforddiadwy.  Amlygodd y Cynghorydd Thomas y cynnydd a wnaed mewn meysydd allweddol, gan gynnwys lansio’r gwasanaeth paru tai gwag a’r gwaith a wnaed i greu cyflenwad o dai fforddiadwy, gan gynnwys tai Passivhaus sy’n defnyddio ynni’n effeithlon a gwaith oedd yn mynd rhagddo ar safleoedd yn Ninbych a Phrestatyn, ynghyd â’r cynnydd a wnaed wrth baratoi datblygiadau yn y dyfodol.

 

Tynnodd y Cynghorydd Feeley sylw at yr adroddiad trylwyr a’r modd y diwygiwyd y Strategaeth er mwyn rhoi mwy o bwyslais ar fynd i’r afael â digartrefedd, gan gynnwys thema benodol ynglŷn â’r pryderon a’r cynlluniau pennaf yn hynny o beth.  Roedd hi’n falch o ddweud y cyflwynwyd y cynllun Tai yn Gyntaf yn unol â’r cynllun a bod arian ar ei gyfer yn y cyllidebau presennol; roedd gwaith yn mynd rhagddo i greu llety dros dro am y tro cyntaf yn Sir Ddinbych a hynny yn Epworth Lodge yn y Rhyl a llety Gofal Ychwanegol Awel y Dyffryn yn Ninbych, a fyddai’n agor yn llawn ym mis Chwefror.  Roedd y Strategaeth yn hyrwyddo cadernid ac annibyniaeth a hefyd yn cyfrannu at gyflawni blaenoriaethau corfforaethol.  Yn olaf, achubodd ar y cyfle i ddiolch i’r holl swyddogion am eu cyfraniadau.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai nad oedd y gwaith o gyflawni’r Strategaeth ond megis dechrau, gan ystyried fod y Cyngor wedi’i mabwysiadu ym mis Rhagfyr 2020.  Byddai’r rhan helaeth o’r camau gweithredu, fodd bynnag, yn cael eu cyflawni mewn pryd er gwaethaf mân anawsterau mewn rhai meysydd, yn bennaf oherwydd Covid-19 a materion oedd a wnelont â’r Cynllun Datblygu Lleol.  Soniodd hefyd am waith y Grŵp Strategol Tai a Digartrefedd yn cadw golwg ar gynnydd, a dywedodd ei bod yn galonogol bod y Pwyllgor yn craffu ar y cynllun gweithredu.

 

Dywedodd y Cadeirydd na nodwyd unrhyw broblemau o bwys gyda chynnydd y cynllun gweithredu.  Yna gofynnodd i’r Pwyllgor ganolbwyntio ar y mân broblemau a nodwyd, ar y sail bod y camau gweithredu eraill wedi’u cyflawni eisoes neu’n cadw at yr amserlen.

 

Atebodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion y cwestiynau/sylwadau fel a ganlyn –

 

·         Tai Teg oedd y gofrestr tai fforddiadwy a rhoddwyd sicrwydd y câi’r gofrestr ei hadolygu’n gyson a bod Cynghorwyr yn cael gwybod am unrhyw dai a oedd ar gael yn eu hardaloedd; roedd yno ddolen gyswllt at Tai Teg ar wefan y Cyngor

·         adeg y cyfarfod roedd yno 168 o aelwydydd yn ddigartref yn y sir, gan gynnwys 218 o unigolion, a bu cynnydd yn nifer y bobl dan fygythiad o fynd yn ddigartref yn bennaf oherwydd diddymu’r moratoriwm a gyflwynodd Llywodraeth Cymru ar droi pobl allan yn ystod y pandemig Covid-19; roedd cryn waith yn mynd rhagddo er mwyn cefnogi pobl dan fygythiad o fynd yn ddigartref

·         nid oedd gan y Cyngor ddyletswydd ond i ddarparu tai i drigolion Sir Ddinbych, ac nid oedd yn darparu tai i bobl o’r tu allan i’r sir a gysylltai â’r Cyngor ynglŷn â bod yn ddigartref - mewn achosion felly byddai’r Tîm Atal Digartrefedd: yn gweithio â’r awdurdod lleol lle bu’r bobl dan sylw’n byw ddiwethaf

·         am nifer o resymau roedd achosion yn codi o bryd i’w gilydd lle byddai awdurdodau lleol, gan gynnwys Cyngor Sir Ddinbych, yn darparu llety i bobl ddigartref o’r tu allan i’r sir, a holwyd a oedd yno anghydraddoldeb yn hynny o beth rhwng Sir Ddinbych a’r awdurdodau cyfagos, yn enwedig felly ynghylch defnyddio gwestai ar gyfer llety dros dro - dywedodd y Prif Weithredwr y cynhelid mwy o waith ymchwil ar y cyd â’r awdurdodau eraill er mwyn canfod y sefyllfa oedd ohoni, a chynigiodd y Cadeirydd bod yr aelodau’n derbyn adroddiad ynglŷn â hynny faes o law

·         roedd oedran y bobl a gysylltai â’r Cyngor ynglŷn â bod yn ddigartref yn amrywio, ond roedd nifer arwyddocaol ohonynt yn iau na 35

·         roedd yr aelodau wedi trafod y broblem o bobl yn byw mewn carafanau gwyliau’n ddiawdurdod yn y gorffennol, ac felly roedd hynny wedi’i gynnwys yn y cynllun gweithredu, ac amlygwyd hefyd y gwaith oedd eisoes wedi’i wneud a’r sylw a roes un o’r pwyllgorau craffu i’r mater.  Er mwyn dal i fynd i’r afael â’r broblem roedd angen adnoddau sylweddol a dull gweithredu strategol/corfforaethol.  Dywedodd y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad mai ei wasanaeth ef a fyddai’n arwain y gwaith yn ôl pob tebyg, ac y byddai’n cwrdd â swyddogion allweddol yn y dyfodol agos gyda’r nod o fwrw ymlaen mewn modd priodol.  Cytunodd i feithrin cyswllt â’r Cydlynydd Craffu er mwyn canfod pryd y cyflwynwyd yr adroddiad diwethaf ar y mater i bwyllgor craffu a phenderfynu a oedd angen darparu rhagor o wybodaeth neu gyflwyno adroddiad o’r newydd.

·         roedd yr adroddiad yn amlygu effaith Covid-19 ar gynnydd y Cynllun Datblygu Lleol newydd a chyfeiriodd y Cynghorydd Mark Young at effaith yr oedi gyda Nodyn Technegol 15 a’r Mapiau Llifogydd, a oedd hefyd y tu hwnt i reolaeth y Cyngor.  Rhoes sicrwydd, fodd bynnag, y byddai’r Grŵp Cynllunio Strategol yn dal ati â’i waith ac yn trosglwyddo’r wybodaeth angenrheidiol i’r Cyngor newydd

·         dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynglŷn â thai gwag at y Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai yn gyntaf; dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas ei fod yntau’n fodlon cynorthwyo a chadarnhaodd ei fod yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r holl Gynghorwyr bob tri mis, gan gynnwys manylion ynghylch tai gwag mewn wardiau penodol.

·         cytunodd y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad y byddai’n canfod a fedrai preswylwyr carafanau gwyliau gofrestru’r mannau hynny fel eu cyfeiriad ar y gofrestr etholwyr, a dod â’r wybodaeth yn ôl i’r Pwyllgor

·         cytunodd y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad y byddai hefyd yn ymchwilio i gais y Cynghorydd Meirick Davies yn Nhrefnant a darparu’r wybodaeth iddo’n uniongyrchol

·         darparwyd y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â Llys Awelon yn Rhuthun ynghyd â’r rhesymau dros oedi’r datblygiad, a ddigwyddodd yn bennaf oherwydd Covid-19 yn ogystal â materion eraill fel amodau cynllunio, llofnodi cytundeb y tendr a chynnydd ym mhrisiau defnyddiau adeiladu.  Rhoddwyd sicrwydd y byddai’r datblygiad yn mynd yn ei flaen yn unol â’r cynllun er gwaethaf y trafferthion a gafwyd, a bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi neilltuo rhagor o gyllid ar gyfer y cynllun.  Byddai’r datblygiad yn mynd rhagddo’n gynnar iawn yn y Flwyddyn Newydd, yn ôl pob tebyg.

 

Wrth i’r Pwyllgor ddod â’r drafodaeth i ben –

 

PENDERFYNWYD , yn amodol ar y sylwadau uchod a darparu’r wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani yn ystod y drafodaeth –

 

(a)       cydnabod y gwaith a wnaed hyd yn hyn wrth gyflawni Cynllun Gweithredu’r Strategaeth Tai a Digartrefedd, ynghyd â’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r Strategaeth honno, a

 

(b)       gofyn am adroddiad arall ynglŷn â chynnydd y Cynllun Gweithredu i’w gyflwyno i’r Pwyllgor yn hydref 2022.

 

 

Dogfennau ategol: