Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

Rhybudd o Gynnig

Rhybudd o Gynnig a gyflwynodd y Cynghorydd Rachel Flynn i’w ystyried gan y Cyngor Llawn (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Rachel Flynn y Rhybudd o Gynnig i'w ystyried gan y Cyngor Llawn:-

 

Nododd y Cynghorydd Flynn fod y Rhybudd o Gynnig wedi ei gyflwyno ar ran Grŵp Trawsbleidiol y Merched o’r Grŵp Merched mewn Gwleidyddiaeth.

 

 

 “Rydym ni’n gofyn am i Gyngor Sir Ddinbych gymryd safbwynt mwy pendant gyda'i bolisi a’i weithdrefnau achwyniad. Yng ngoleuni'r ddeddf amrywiaeth a chydraddoldeb a ddiweddarwyd, rydym ni’n gofyn i’r cyngor ffurfio gweithdrefn fewnol newydd i sicrhau y gellir dwyn ymddygiad cynghorwyr i gyfrif. 

 

Rydym hefyd yn gofyn i’r cyngor adolygu ei bolisïau a’i weithdrefnau ar gyfer adolygu cwynion yn ymwneud â bwlio ac aflonyddu, yn ymwneud â Chynghorwyr, Swyddogion ac eraill boed yn rhithiol, corfforol neu ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

Argymhelliad

1. Fod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn edrych ar y broses gwyno gyfredol i sicrhau ei fod yn addas i'r diben.

2. Fod y cyngor yn creu gweithgor amrywiaeth a moeseg i archwilio sut mae’r cyngor yn diogelu a hyrwyddo amrywiaeth a moeseg dda yng Nghymru, gan gynnwys ymwybyddiaeth o sut mae merched yn dal i gael eu trin yn anghyfartal ac effeithiau casineb at ferched a gwahaniaethu rhywiol ar ferched. 

3. Ein bod yn fwy pendant fel cyngor o ran mynd i’r afael ag ymddygiad annerbyniol mewn unrhyw fforwm cyngor Cymuned, Tref neu Sir.”

 

CYNIGIODD y Cynghorydd Rachel Flynn y Rhybudd o Gynnig, EILIWYD hynny gan y Cynghorydd Barry Mellor.

 

Ymatebodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, drwy ddiolch i'r Cynghorydd Flynn am ddod â'r Rhybudd o Gynnig ymlaen. Fel Aelod Arweiniol Cydraddoldeb ac Arweinydd y Cyngor roedd yn ymrwymedig i sicrhau fod y Cyngor yn ymdrechu yn barhaus i osod Cydraddoldeb yn greiddiol i’r holl waith a gaiff ei wneud.  Roedd y Cyngor yn ymrwymedig i amrywiaeth ac roedd wedi gwneud datganiad ym Medi 2021 i ymrwymo i ddod yn gyngor amrywiol a byddai’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, yn ddiweddarach yr wythnos hon, yn ystyried cynllun gweithredu drafft yn ymwneud â rhai o’r rhwystrau i gymryd rhan mewn democratiaeth leol. Yn nhermau anghydfod rhwng aelodau, byddai dyletswydd gyfreithiol newydd ar Arweinwyr Grŵp yn dod i rym yn dilyn yr etholiadau ym mis Mai i hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ran ymddygiad ymhlith eu Grwpiau. 

 

Hefyd, roedd Adolygiad annibynnol Penn yn ddiweddar o’r fframwaith moesegol yng Nghymru wedi adrodd i Lywodraeth Cymru ac wedi gwneud argymhellion yn ymwneud â’r defnydd o gwmpasiad o brosesau datrysiad lleol.  Roedd disgwyl ymateb y Llywodraeth i’r Adolygiad, a manylion unrhyw gynigion i newid canllawiau a/neu ddeddfwriaeth o ganlyniad.

 

Ymatebodd y Cynghorydd Hugh Evans i’r argymhellion a gâi eu cynnwys o fewn y Rhybudd o Gynnig fel a ganlyn -

 

1.       Mae’r argymhelliad hwn yn cyfeirio at y broses datrysiad lleol a ddefnyddir i geisio datrys materion rhwng aelodau o’r Cyngor Sir ar sail anffurfiol heb yr angen i gynnwys yr Ombwdsmon. 

Cytunodd y Cynghorydd Evans y dylai fod yna adolygiad o’r broses.  CYNIGIODD y Cynghorydd Evans fod Gweithgor o aelodau'n cael ei sefydlu i ymgymryd ag adolygiad o waith gyda'r Pwyllgor Safonau a'r Swyddog Monitro i ddatblygu proses addas yng nghyd-destun y ddyletswydd newydd y cyfeiriodd ato, ac unrhyw newidiadau a gyflwynwyd o ganlyniad i Adolygiad Penn.

2.       Roedd gan y Cyngor, ar un adeg, Grŵp Cydraddoldeb a ddiddymwyd fel rhan o raglen i brif ffrydio materion cydraddoldeb. 

Fodd bynnag, mae yna waith parhaus yn cael ei wneud gan y tîm Gwella Busnes a Moderneiddio i ystyried sefydlu Grŵp Cydraddoldeb a chynigiodd y Cynghorydd Evans y dylai'r gwaith barhau ac y dylid ystyried unrhyw orgyffwrdd rhwng materion cydraddoldeb a'r fframwaith moesegol. 

3.       Byddai’r Cyngor yn darparu cefnogaeth, hyfforddiant ac arweiniad i Gynghorau Tref a Chymuned ond nid oedd ganddo unrhyw rôl uniongyrchol mewn datrys anghydfod o fewn y Cynghorau hynny ac eithrio drwy'r Ombwdsmon a'r Pwyllgor Safonau. 

Fel aelodau, dylai pawb gofio eu cyfrifoldebau i drin ei gilydd gyda pharch ac ystyriaeth ac y byddai pawb yn herio ymddygiad annerbyniol pan welir hynny. 

 

Yr adolygiad o’r broses datrys lleol fyddai’r mecanwaith priodol i ystyried pa newidiadau fyddai angen eu gwneud yng nghyd-destun y ddyletswydd newydd ar Arweinwyr Grŵp ac Adolygiad Penn.

 

CYNIGIODD y Cynghorydd Hugh Evans y gwelliannau canlynol i’r argymhellion fel a ganlyn–

 

Argymhelliad 1 – Fod Grŵp o aelodau yn cael ei sefydlu i weithio gyda’r Swyddog Monitro a’r Pwyllgor Safonau i adolygu'r broses datrys lleol presennol a gwneud argymhellion mewn perthynas ag unrhyw newidiadau i'w mabwysiadu.

 

Argymhelliad 2 – Fod Swyddogion yn gweithio i sefydlu cynigion ar gyfer Grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth i gynnwys cylch gorchwyl priodol.

 

Argymhelliad 3 - Fod y Cyngor yn gweithio gyda’r Cynghorau Tref a Chymuned i ddarparu cefnogaeth a chymorth o fewn cyd-destun y fframwaith moesegol presennol ac unrhyw newidiadau a wneir o ganlyniad i Adolygiad Penn. 

 

EILIODD y Cynghorydd Mark Young y gwelliannau a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Hugh Evans.

 

Cafodd pleidlais ei chynnal a chymeradwyodd y mwyafrif o aelodau'r gwelliannau gydag un bleidlais yn erbyn y gwelliant.

 

Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd gan fod y gwelliant wedi ei dderbyn, hwn  nawr oedd y Rhybudd o Gynnig gwreiddiol a byddai pleidlais yn cael ei chynnal ar y Rhybudd o Gynnig gwreiddiol.

 

Cynhaliwyd pleidlais a chymeradwyodd y mwyafrif o aelodau'r Rhybudd o Gynnig gwreiddiol gydag un bleidlais yn erbyn (y Cynghorydd Gwyneth Kensler).

 

PENDERFYNWYD:

(1)    fod Grŵp o aelodau yn cael ei sefydlu i weithio gyda’r Swyddog Monitro a’r Pwyllgor Safonau i adolygu'r broses datrys lleol presennol a gwneud argymhellion mewn perthynas ag unrhyw newidiadau i'w mabwysiadu.

(2)    fod Swyddogion yn gweithio i sefydlu cynigion ar gyfer Grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth i gynnwys cylch gorchwyl priodol.

(3)    fod y Cyngor yn gweithio gyda’r Cynghorau Tref a Chymuned i ddarparu cefnogaeth a chymorth o fewn cyd-destun y fframwaith moesegol presennol ac unrhyw newidiadau a wneir o ganlyniad i Adolygiad Penn.

 

 

Dogfennau ategol: