Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

Rhybudd o Gynnig

Rhybudd o Gynnig a gyflwynodd y Cynghorydd Paul Penlington i’w ystyried gan y Cyngor Llawn (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Paul Penlington y Rhybudd o Gynnig i'w ystyried gan y Cyngor Llawn:-

 

“Fod y cyngor hwn yn rhoi’r dasg i swyddogion i geisio cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru er mwyn ariannu ailadeiladu Ysgol Uwchradd Prestatyn yn llawn".

 

Ar y pwynt hwn fe hysbysodd y Cynghorydd Penlington aelodau ei fod yn dymuno diwygio ychydig ar eiriad y Rhybudd o Gynnig.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd y byddai hyn yn dderbyniol.

 

Darllenodd y Cynghorydd Penlington y gwelliant fel a ganlyn-

 

“Mae’r Cyngor hwn yn rhoi’r dasg i swyddogion i geisio cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru er mwyn ariannu ailadeiladu Ysgol Uwchradd Prestatyn yn llwyr, wedi ei seilio ar ddyluniadau cynharach a luniwyd ar gyfer rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif a oedd yn moderneiddio i ddiwallu anghenion presennol disgyblion uwchradd Prestatyn a'n datganiad argyfwng newid hinsawdd a newid ecolegol".

 

CYNIGIODD y Cynghorydd Penlington y Rhybudd o Gynnig, EILIWYD hyn gan y Cynghorydd Glenn Swingler.

 

Eglurodd yr Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd, y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts mai’r weithdrefn sydd mewn grym oedd bod y Bwrdd Moderneiddio Addysg yn asesu cyflwr yr holl ysgolion yn Sir Ddinbych ac mai dyma'r broses oedd wedi bod mewn grym ers y 14 mlynedd diwethaf.  Roedd dros £2m wedi ei wario ar Ysgol Uwchradd Prestatyn i fynd i’r afael ag ardaloedd brys ac roedd hyn wedi cynnwys adnewyddu labordai, uwchraddio’r system wresogi, ffenestri newydd, toiledau newydd ayb. Byddai’r costau adeiladu safonol ar gyfer ysgol gyfan gwbl newydd ynghyd â chostau carbon net oddeutu £55m.  Felly byddai cost yr astudiaeth ddichonoldeb ei hun yn £850,000.  Cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol nad oedd yn ymwybodol o gynlluniau a oedd wedi eu llunio ar gyfer adeilad newydd i Ysgol Uwchradd Prestatyn nac astudiaeth ddichonoldeb yn 2017. Byddai’n cadarnhau gyda swyddogion.

 

Nododd y Cynghorydd Hilditch-Roberts o ran y ffordd ymlaen, gan ystyried y symiau yr oedd hyn yn ei olygu, ei bod yn bwysig fod gan y cyngor broses i bennu’r drefn flaenoriaeth o ran buddsoddi mewn adeiladau ysgolion.  Mae’r broses yn seiliedig ar dystiolaeth, gan ystyried anghenion priodol yr holl ysgolion i sicrhau yr ymdrinnir â’r rhai sy’n wynebu’r angen mwyaf yn gyntaf. Cynhaliwyd arolwg cyflwr cynhwysfawr o’r holl ysgolion er mwyn nodi’r ysgolion oedd angen gwelliannau. Cynhaliwyd yr arolwg cyn cyflwyno cynigion Ysgolion yr 21ain Ganrif Band B i Lywodraeth Cymru a oedd wedi eu cyflwyno i’r Cabinet a’r Pwyllgor Craffu ar sawl achlysur.  Cafodd yr arolwg hwn ei ystyried gan y Bwrdd Moderneiddio Addysg a darparwyd gwybodaeth seiliedig ar dystiolaeth y gallent ei defnyddio i argymell trefn flaenoriaeth ysgolion a oedd angen gwaith. 

 

CYNIGIODD y Cynghorydd Hilditch-Roberts welliant yng ngoleuni’r Rhybudd o Gynnig fod y Bwrdd Moderneiddio Addysg yn cael cais i adolygu arolygon cyflwr yr holl ysgolion i weld a oeddent wedi eu newid yn sylweddol i gyflwr yr ystâd ysgol a fyddai’n codi'r cwestiwn a yw trefn flaenoriaeth gyfredol yr ysgolion yn parhau yn gyfredol a chywir.  Fe allai canlyniad yr adolygiad hwn gael ei adrodd i’r Cabinet yn ogystal ag unrhyw argymhellion allai fod gan y Bwrdd Moderneiddio Addysg o ganlyniad.   

 

EILIODD y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones y gwelliant a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts.

 

Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd y dylai trafodaeth ddigwydd ar y gwelliant a phe byddai’r gwelliant yn cael ei dderbyn yna byddai hynny’n dod yn Rhybudd o Gynnig a byddai pleidlais ar hynny fel y Rhybudd o Gynnig gwreiddiol.  Os na chytunir ar y gwelliant byddai aelodau’n cyfeirio'n ôl at y Rhybudd o Gynnig fel y cafodd ei gyflwyno gan y Cynghorydd Penlington.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Paul Penlington y gwelliant a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts.

 

Cynhaliwyd y bleidlais ar y gwelliant a gyflwynwyd gan yr Aelod Arweiniol Addysg, y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts dros zoom ac roedd y canlyniad fel a ganlyn -

 

O blaid – 32

Ymatal – 0

Yn erbyn – 5

 

Cafodd y gwelliant ei dderbyn a daeth yn Rhybudd o Gynnig gwreiddiol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y Rhybudd o Gynnig gwreiddiol ac roedd y mwyafrif o blaid, nododd 2 Gynghorydd eu bod yn erbyn (y Cynghorwyr Rhys Thomas a Glenn Swingler) ac ymatalodd 1 Cynghorydd (y Cynghorydd Gwyneth Ellis).

 

PENDERFYNWYD gofyn i’r Bwrdd Moderneiddio Addysg adolygu arolygon cyflwr yr holl ysgolion i weld a oeddent wedi eu newid yn sylweddol i gyflwr yr ystâd ysgol a fyddai’n codi'r cwestiwn a yw trefn flaenoriaeth gyfredol yr ysgolion yn parhau yn gyfredol a chywir.  Fe allai canlyniad yr adolygiad hwn gael ei adrodd i’r Cabinet yn ogystal ag unrhyw argymhellion allai fod gan y Bwrdd Moderneiddio Addysg o ganlyniad.

 

                                                                                                                  

 

Dogfennau ategol: