Eitem ar yr agenda
CYLLIDEB 2022/23 - CYNIGION TERFYNOL<0}
Ystried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi ynghlwm)
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill, adroddiad y Gyllideb 2022/23 – Cynigion
Terfynol (a ddosbarthwyd eisoes).
Roedd yn ofynnol yn ôl y gyfraith i'r Cyngor bennu cyllideb gytbwys y
gellir ei chyflawni cyn dechrau pob blwyddyn ariannol a gosod lefel Treth y
Cyngor i ganiatáu i filiau gael eu hanfon at breswylwyr.
Derbyniodd y cyngor y Setliad Llywodraeth Leol Drafft ar gyfer 2022/23 ar
21 Rhagfyr ac arweiniodd at setliad cadarnhaol o 9.2% a oedd yn cymharu â'r
cyfartaledd o 9.4% i Gymru. Disgwyliwyd y Setliad Terfynol ar 1 Mawrth ond mae
Llywodraeth Cymru (LlC) wedi nodi na fydd yna lawer o newidiadau.
O fewn y ffigwr a gyhoeddwyd nododd Llywodraeth Cymru bod nifer o
gyfrifoldebau newydd, nad oes gan bob un ohonynt symiau canlyniadol clir yn y
data. Mae’r disgwyliadau sydd angen eu
hariannu yn cynnwys y canlynol:
·
Yr holl godiadau cyflog ar
gyfer swyddi addysgu a swyddi nad ydynt yn rhai addysgu, sydd wedi'u cynnwys yn
y Grant Cynnal Refeniw;
·
Y cyfrifoldeb i dalu’r Cyflog
Byw Gwirioneddol i’n Gofal Cymdeithasol ein hunain a Gofal Cymdeithasol y sector
preifat.
·
Y costau gweithredol craidd
mewn cysylltiad â'r Cydbwyllgor Corfforedig newydd; a
·
Lliniaru ar gyfer y ffaith y
bydd y Gronfa Caledi Covid yn dod i ben o ddiwedd y flwyddyn ariannol
bresennol.
Mae setliad drafft LlC yn cynnwys codiadau setliad cyfartalog dangosol o
3.5% ar gyfer 2023/24 a 2.4% ar gyfer 2024/25 (ffigyrau amcangyfrifedig CSDd
fyddai 3.3% a 2.2%). Er y caiff hyn ei
groesawu o safbwynt cynllunio, mae'n dangos y bydd angen gwneud penderfyniadau
anodd dros y blynyddoedd nesaf.
Fel rhan o’r setliad roedd yna “drosglwyddiadau i mewn” o £0.275m sydd wedi
eu trosglwyddo i’r meysydd gwasanaeth perthnasol fel yn y blynyddoedd
blaenorol:
·
Ffioedd Clwyd ar gyfer
Ailgylchu Gwastraff Rhanbarthol £0.109m
·
Grant Gweithlu Gofal Cymdeithasol:
£0.166m.
Roedd y cynigion terfynol i fantoli cyllideb 2022/23 yn cael eu dangos yn y
Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn Atodiad 1.
Roedd y pwysau a nodwyd yn creu cyfanswm o £17.628m. Byddai angen setliad drafft o tua 11% er mwyn
ariannu’r pwysau hyn i gyd. Roedd y
setliad net +9.2% yn cynhyrchu refeniw ychwanegol o £15.005m gan adael bwlch
cyllido o £2.623m. Roedd yr eitemau
canlynol wedi eu cynnwys yn y cynigion er mwyn pontio’r bwlch:
·
Roedd Cyllidebau Incwm Ffioedd
a Thaliadau wedi bod yn destun chwyddiant yn unol â’r polisi Ffioedd a
Thaliadau a gytunwyd a oedd yn cynyddu incwm allanol o £0.120m;
·
Roedd arbedion effeithlonrwydd
gweithredol o £0.634m wedi'u nodi a oedd o fewn cyfrifoldeb dirprwyedig y
Pennaeth Gwasanaeth mewn ymgynghoriad ag Aelodau Arweiniol (gweler Atodiad 2 yr
adroddiad am grynodeb fesul categori);
·
Ni ofynnwyd am unrhyw arbedion
gan y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol nac Ysgolion.
·
Argymhellwyd bod Treth y
Cyngor yn cynyddu o 2.95% a fydd, ynghyd â mân newidiadau i Sylfaen Treth y Cyngor, yn creu refeniw ychwanegol o
£1.869m.
Roedd hyn yn cymharu â chynnydd y flwyddyn flaenorol o 43.8% a 4.3% y
flwyddyn cyn hynny.
Cadarnhaodd Swyddog Adran 151 fod gwaith wedi ei wneud gydag Awdurdodau
Lleol eraill yng Nghymru ar gyfer ymagwedd ar y cyd a CLlLC mewn perthynas â
dyraniad ar gyfer cyflog a’r Cyflog Byw Gwirioneddol mewn lleoliadau Gofal
Cymdeithasol. Nododd y Swyddog Adran 151
hyn i sicrhau aelodau mewn perthynas â’r ffigyrau o fewn yr adroddiad.
Mynegodd y Cynghorydd Paul Penlington bryder pe byddai treth y cyngor yn
cael ei godi o 2.95% a chododd y pwynt fod tua £14m y flwyddyn ar gyfer
gwasanaethu benthyciadau ar gyfer prosiectau’r cyngor. Hefyd cyfeiriodd y
Cynghorydd Penlington at ymarfer sganio'r gorwel ar gyfer gwaith cyfalaf a
holodd ynglŷn â beth oedd y gwaith cyfalaf, beth fyddai cost y gwaith ac a
fyddai yna ragor o ddyledion o ganlyniad i’r gwaith.
Ymatebodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol drwy
gadarnhau fod cynnydd o 2.95% yn nhreth y cyngor yn ffigwr realistig y gellid
ei gyflawni a gallai hynny ddarparu'r lefel o wasanaethau a ddisgwyliwyd gan
breswylwyr Sir Ddinbych. Roedd yna
ffigwr pwysig a oedd o fewn y gyllideb ar gyfer gwasanaethu gwariant cyfalaf
hanesyddol. Roedd hynny ar gyfer ystod o
bethau ar gyfer ysgolion, polisïau llifogydd ayb a gaiff eu gweithredu gan y
cyngor ac mae rhai o’r rheiny yn mynd yn ôl gryn amser gan eu bod fel arfer yn
cael eu talu dros gyfnod o 25 mlynedd. Gyda phrosiectau adeiladu, weithiau maent yn mynd y tu hwnt i’r amser a
nodwyd ac uwchlaw’r gyllideb, ond fe wneir popeth bob amser i leihau'r effaith
yn nhermau hynny.
Yn nhermau ymarfer sganio’r gorwel, yng Ngweithdy’r Gyllideb ym mis
Gorffennaf gyda’r Swyddog Adran 151 a’r Aelod Arweiniol Cyllid, yn nhermau
cyfalaf, gofynnwyd i wasanaethau beth oeddent yn credu y byddent eu hangen yn
ystod y 5-10 mlynedd nesaf. Daeth y
rhestr i tua £180m, swm na allai Sir Ddinbych ei ddiwallu, ond roedd yn rhoi
syniad o raddfa'r hyn fyddai ei angen yn y dyfodol. Byddai angen Achos Busnes
ar bob cynllun unigol a byddai rhaid iddynt fynd trwy’r broses fewnol cyn cael
eu cynnwys yn y Cynllun Cyfalaf. Byddai
rhai o’r cynlluniau hynny yn gofyn am elfen o gyllid gyda pheth cyllideb wedi
ei ddyrannu i fodloni hynny.
Cododd y Cynghorydd Glenn Swingler y ffaith fod costau byw ar ei uchaf ers
dros 30 mlynedd. Roedd y mynegai prisiau
manwerthu yn 7.5%. Roedd prisiau Nwy a
Thrydan yn cynyddu ac roedd disgwyl iddynt godi 50% arall. Roedd prisiau bwyd yn cynyddu a byddai
taliadau Yswiriant Gwladol uwch yn cael eu cyflwyno. Roedd yr arian gan
Lywodraeth Cymru i’r Cyngor yn uwch na’r disgwyl a oedd i’w groesawu. Fodd bynnag, roedd gan Gyngor Sir Ddinbych
gyllideb uwch na £200m. Gan y byddai’r
costau cynyddol yn gorfodi hyd yn oed mwy o unigolion Sir Ddinbych i dlodi, i
golli eu cartrefi, i fod angen prydau ysgol am ddim, cael mynediad i fwy o ofal
iechyd, gyda theuluoedd yn chwalu ayb, byddai hynny yn y pendraw yn costio
llawer mwy o arian i’r cyngor.
Ar y pwynt hwn CYNIGIODD y Cynghorydd Glenn Swingler na ddylai Cyngor Sir
Ddinbych gynyddu Treth y Cyngor ar gyfer 2022/2023. Cynigiwyd hyn o ganlyniad i’r caledi yr oedd
pobl Sir Dinbych yn ei brofi ar hyn o bryd gan y byddai’r cynnydd yng nghostau
byw yn achosi anawsterau ariannol i lawer o bobl.
EILIODD y Cynghorydd Gwyneth Ellis y cynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd
Swingler am gynnydd o 0% yn Nhreth y Cyngor.
Ymatebodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, y Cynghorydd Thompson-Hill, i’r
Cynghorydd Swingler gan egluro y byddai cynnydd o 2.95% yn nhreth y cyngor yn
darparu incwm o £1.723m. Byddai angen
cynlluniau gan y Cynghorydd Swingler ynglŷn â pha rai o’r pwysau £17m na
fyddai'n cael eu diwallu neu pa wasanaethau fyddai’n cael toriadau gwerth
£1.723m.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd, Gary
Williams, wrth aelodau y byddai angen iddynt drafod y gwelliant a gynigiwyd gan
y Cynghorydd Swingler. Yn dilyn y
drafodaeth, byddai pleidlais yn cael ei chynnal ar y gwelliant ac wedyn byddent
yn mynd yn ôl at yr argymhellion cadarn o fewn yr adroddiad.
Mynegodd y Cynghorydd Swingler bryder eto yn ymwneud â’r pwysau ariannol
sy’n cael ei roi ar y bobl sy’n gweithio yn Sir Ddinbych ac ailadroddodd na
ddylai Cyngor Sir Ddinbych gyflwyno unrhyw gynnydd yn nhreth y cyngor am
flwyddyn.
Mynegodd yr Aelod Arweiniol Cyllid a’r Swyddog Adran 151 bryder gan y
byddai yna fwlch yn y gyllideb pe na fyddai yna gynnydd yn nhreth y cyngor. Nodwyd fod angen cyllideb
gytbwys ac na fyddai’r cynnydd yn creu cyllideb gytbwys. Byddai angen i’r
Cynghorydd Swingler ddangos pa bwysau na fyddai’n cael eu hariannu ac ym mha
feysydd y byddai yna doriadau i'r gwasanaeth i fodloni’r swm o incwm a gollir. Cadarnhawyd hefyd gan
swyddogion y byddai angen i drafodaethau gael eu cynnal gyda gwasanaethau yn
ymwneud ag arbedion posibl. Fe fyddai amser yn fater gan fod angen cyllideb gytbwys cyn diwedd y
flwyddyn ariannol a byddai hyn yn achosi problemau i'r holl wasanaethau o fewn
y sir.
Nododd y Cynghorydd Gwyneth Ellis y byddai'r Asesiad o Effaith ar Les yn
ystyried y colli incwm a’r cynnydd mewn costau byw gan y byddai hyn yn cael
effaith negyddol ar iechyd a lles meddyliol pobl o fewn y sir. Yn y cyswllt hwn cwestiynodd pam y byddai’r
effaith yn niwtral.
Ymatebodd y Swyddog Adran 151, Steve Gadd, fod asesiadau bob amser yn
anodd o ganlyniad i’r prif reswm dros yr asesiad o effaith niwtral tra’n
cydnabod y byddai unrhyw gynnydd yn nhreth y cyngor yn cael effaith ar
gyllidebau unigol. Yng Nghymru roedd Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor a oedd
yn golygu nad oedd y bobl fwyaf diamddiffyn a’r rhai ar fudd-daliadau yn talu
treth y cyngor ac felly roedd rhaid cydbwyso hynny gyda gwir ddarpariaeth y
gwasanaethau a gaiff eu darparu i bawb yn Sir Ddinbych. Yn Lloegr, er
enghraifft, nid oedd Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor yn bodoli, ond gan ei
fod yn bodoli yng Nghymru, roedd yn cynnig amddiffyniad i’r rhai a fyddai’n ei
chael yn anodd i dalu. Roedd yn broses anodd i wneud yr asesiad o effaith ar les ar rywbeth
penodol sy'n helpu i ariannu pob un gwasanaeth yn y cyngor. Heb dreth y cyngor
ni fyddai ysgolion yn cael eu hariannu, ni fyddai modd ariannu gofal
cymdeithasol, ac ni fyddai modd ariannu pob gwasanaeth yn y cyngor. Roedd yn broses anodd
iawn ond mae’r ddwy ochr wedi eu cynnwys yn yr Asesiad o Effaith ar Les gan
Swyddogion.
Nododd y Cynghorydd Gwyneth Ellis ei bod yn gwerthfawrogi fod gwneud yr
asesiad o effaith ar les yn anodd ond o dan Sir Ddinbych iachach dylid ystyried
lles emosiynol a meddyliol pobl. Roedd y
cynnydd yn nhreth y cyngor yn mynd i gael effaith ar les emosiynol a meddyliol
pobl a chredai’r Cynghorydd Ellis, yn ei barn hi, ei fod yn anghywir na
fyddai’n cael ei ystyried yn yr adroddiad.
Nododd y Swyddog Adran 151 os oedd y bleidlais ar y gwelliant yn cael ei
dderbyn gan nad oedd yna gyfres o gynigion y gellir eu derbyn yn ystod y
cyfarfod, yna ni fyddai yna gyllideb gytbwys.
Pe byddai un rhan o'r gyllideb yn cael ei diddymu yna ni fyddai cynigion
y gyllideb yn ddilys. Nododd hefyd pe byddai'r gwelliant yn cael ei ganiatáu,
ni fyddai aelodau yn gallu pleidleisio ar y gyllideb gan na fyddai'n gyllideb
gytbwys.
Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd tra gallai
pleidlais gael ei chymryd ar y gwelliant, a phe byddai’n cael ei dderbyn,
byddai’n newid yr argymhelliad, byddai rhaid rhoi ystyriaeth wedyn i’r
argymhelliad fel y mae wedi ei basio. Roedd hyn o ganlyniad i’r ffaith nad oedd
yna unrhyw awgrymiadau yn cael eu cyflwyno i ariannu’r bwlch y byddai’r
gwelliant wedi ei achosi. Roedd gan
Aelodau gyfrifoldeb cyfreithiol i osod cyllideb gytbwys na fyddai’n bodoli pe
byddai'r gwelliant yn cael ei basio.
Nododd y Prif Weithredwr, Graham Boase, fod cynnydd o 2.95% yn lefel
rhesymol o dreth y cyngor yn ei farn ef. Roedd rhaid i’r gyllideb gyfan gael ei
hystyried gyda'i gilydd gan ei bod yn anodd i ynysu rhannau penodol o'r
gyllideb. Roedd cyllideb gytbwys yn
gofyn am gynnydd o 2.95% yn nhreth y cyngor.
Cododd y Cynghorydd Graham Timms bwynt o drefn i gynnig fod y cwestiwn yn
ymwneud â’r gwelliant yn cael ei roi i bleidlais. Eiliwyd hynny gan y
Cynghorydd Andrew Thomas.
Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd mai’r
gwelliant a gynigiwyd oedd i ddiwygio’r argymhelliad yn yr adroddiad fel y
byddai argymhelliad 3.3 yn nodi “fod y Cyngor yn cymeradwyo cynnydd o 0% ar
Dreth y Cyngor ar gyfartaledd”.
Gofynnodd y Cynghorydd Paul Penlington am bleidlais wedi’i chofnodi.
Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd y byddai
angen 7 aelod i gefnogi’r cais am
bleidlais wedi’i chofnodi.
Cefnogodd y Cynghorwyr Paul Penlington, Gwyneth Ellis, Gwyneth Kensler,
Rhys Thomas, Alan Hughes, Arwel Roberts a Glenn Swingler y cais am bleidlais
wedi’i chofnodi ar gyfer y gwelliant a gynigiwyd gan y Cynghorydd Glenn
Swingler.
Ar y pwynt hwn, cadarnhaodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies y byddai’n
ymatal o’r bleidlais gan ei fod wedi colli rhan helaeth o’r drafodaeth.
Cafwyd pleidlais wedi’i chofnodi, fel a ganlyn:
O BLAID - Y Cynghorwyr Gwyneth Ellis, Alan Hughes, Gwyneth Kensler, Paul
Penlington, Arwel Roberts, Glenn Swingler, Rhys Thomas
YN ERBYN – Y Cynghorwyr Alan James, Brian Blakeley, Joan Butterfield,
Jeanette Chamberlain-Jones, Ellie Chard, Gareth Davies, Hugh Evans, Bobby
Feeley, Rachel Flynn, Tony Flynn, Huw Hilditch-Roberts, Martyn Holland, Hugh
Irving, Brian Jones, Pat Jones, Geraint Lloyd Williams, Richard Mainon,
Christine Marston, Barry Mellor, Melvyn Mile, Bob Murray, Merfyn Parry, Pete
Prendergast, Anton Sampson, Peter Scott, Andrew Thomas, Tony Thomas, Julian
Thompson-Hill, Graham Timms, Cheryl Williams, Eryl Williams, Huw Williams a
Mark Young.
YMATAL - Y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies
O BLAID – 7
YMATAL– 1
YN ERBYN – 33
Felly methodd y gwelliant ac aeth y drafodaeth yn ôl at yr argymhellion
gwreiddiol fel y nodir yn yr adroddiad.
Nododd y Cynghorydd Graham Timms y byddai’r setliad a dderbyniwyd yn gwneud
gwahaniaeth i bobl Sir Ddinbych. Yn 2017
roedd y Cynghorydd Timms wedi codi mater talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol i holl
weithwyr Sir Ddinbych. Cadarnhaodd fod
Llywodraeth Cymru yn talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol, fel roedd y GIG yng Nghymru. Roedd 14 o gynghorau hefyd yn talu’r Cyflog
Byw Gwirioneddol i'w gweithwyr. Roedd gan Sir Ddinbych gyfrifoldeb i dalu’r
Cyflog Byw Gwirioneddol. O fewn y
rhaglen gwaith i’r dyfodol roedd y Cyflog Byw Gwirioneddol wedi ei gyflwyno i’w
ystyried gan y Cyngor nesaf. Fe ddylai
Sir Ddinbych symud ymlaen gyda thalu'r Cyflog Byw Gwirioneddol a galwodd ar yr
Aelod Arweiniol Cyllid i ddod yn ôl i'r Cyngor Llawn gyda chynigion ynglŷn
â sut y gellid cyflwyno hyn.
Cefnogodd y Cynghorydd Joan Butterfield y Cynghorydd Timms o ran talu’r
Cyflog Byw Gwirioneddol i holl Weithwyr Sir Ddinbych.
Nododd yr Aelod Arweiniol Cyllid, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, ei bod
yn llesol i gael setliad cyllideb tair blynedd ar gyfer cynllunio ymlaen
llaw.
O ran y Cyflog Byw Gwirioneddol, ni aethpwyd ymlaen â hyn gan nad oedd y
dyfarniad cyflog cenedlaethol wedi ei gytuno ac nid oedd modd dod ag adroddiad
ymlaen heb gadarnhau dyfarniad cyflog. O safbwynt y goblygiadau o ran yr hyn
oedd wedi’i gynnwys yn y gyllideb, roedd yn debygol y byddai holl staff Sir
Ddinbych wedyn yn cael eu cynnwys yn yr elfen Cyflog Byw Gwirioneddol.
Nododd y Cynghorydd Meirick Ll Davies y nodwyd ar dudalen 18 o’r pecyn
Cymreig, eitem rhif 5, “fod y Cabinet yn cadarnhau ei fod wedi darllen...”, dylai
ddweud “fod y Cyngor yn cadarnhau ei fod wedi darllen....”
Ymddiheurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd am y
camgymeriad ac roedd mewn gwirionedd yn gywir yn y papurau Saesneg.
Yn nhermau'r Cyflog Byw Gwirioneddol, talwyd y Cyflog Byw Gwirioneddol i
holl staff y Cyngor ar adeg y fargen dâl ddiwethaf. Nid oedd y fargen dâl a oedd i ddod i rym ar
1 Ebrill 2021 yn dal heb ei chytuno’n genedlaethol rhwng y cyflogwyr a’r
undebau llafur. Byddai’r cynnig terfynol
a oedd wedi ei wneud gan y cyflogwyr wedi golygu y byddai’r Cyflog Byw
Gwirioneddol yn parhau i gael ei dalu i holl staff Sir Ddinbych. Roedd rhai o’r
undebau llafur wedi pleidleisio mewn perthynas â gweithredu diwydiannol, nid
oedd y bleidlais gan un undeb llafur yn bodloni’r trothwy cyfreithiol yn
nhermau'r nifer a bleidleisiodd. Roedd
undeb llafur arall yn pleidleisio ar hyn o bryd ac roedd disgwyl cadarnhad gan
y Cyd-gyngor Cenedlaethol o Gyflogwyr a’r Undebau Llafur ynglŷn ag a
fyddai trafodaethau yn cael eu cwblhau. Byddai’r fargen a gâi ei chynnig wedi
golygu y byddai’r Cyflog Byw Gwirioneddol yn parhau i gael ei dalu i holl staff
Sir Ddinbych.
Cynigiodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill gymeradwyo’r cynigion i aelodau
gymeradwyo Cynigion Terfynol y Gyllideb ar gyfer 2022/2023, eiliwyd hyn gan y
Cynghorydd Christine Marston.
Cafwyd pleidlais dros zoom fel a ganlyn:
O BLAID – 33
YMATAL– 3
YN ERBYN – 3
PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn:
(i)
Nodi effaith Setliad Drafft Llywodraeth Leol 2022/2023;
(ii)
Cefnogi’r cynigion a amlinellir yn Atodiad 1, ac y manylir arnynt yn Adran
4, er mwyn cwblhau’r gyllideb ar gyfer 2022/23.
(iii)
Cymeradwyo’r cynnig o gynnydd cyfartalog o 2.95% yn Nhreth y Cyngor.
(iv)
Dirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Cyllid ac Eiddo mewn ymgynghoriad â’r Aelod
Arweiniol Cyllid i addasu’r defnydd o arian a gaiff ei gynnwys yng nghynigion y
gyllideb o hyd at £500,000 os oes yna symud rhwng y ffigyrau yn y setliad
drafft a therfynol er mwyn galluogi gosod Treth y Cyngor yn amserol.
(v)
Cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar
Les.
Dogfennau ategol:
- Budget Report Welsh, Eitem 5. PDF 267 KB
- App 1 MTFP, Eitem 5. PDF 199 KB
- App 2 Service Pressures and Savings, Eitem 5. PDF 186 KB
- App 3 Council Tax Sensitivity, Eitem 5. PDF 359 KB
- App 4 Wellbeing Impact Assessment, Eitem 5. PDF 101 KB