Eitem ar yr agenda
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD
Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Cofnodion:
Nid oedd unrhyw
faterion brys.
Cwestiwn i’r Cyngor Llawn gan y Cynghorydd Rhys
Thomas
“Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ym mis Rhagfyr eu bod
am lacio rheolau mewnfudo ar gyfer gweithwyr gofal tramor. Yna cyhoeddodd yr
Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y byddai’r mesurau hyn yn dod i rym yn gynnar
y flwyddyn nesaf ac yn gweithredu am 12 mis.
Rydym ni oll yn ymwybodol
o’r diffyg sylweddol o weithwyr gofal yn Sir Ddinbych, felly a yw’r Aelod
Arweiniol yn ymwybodol o’r newidiadau hyn ac a ydynt wedi dod i rym yn lleol”?
Ymateb gan yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Bobby
Feeley:
Rydym yn ymwybodol o’r newidiadau hyn sydd i’w
croesawu. Yn lleol yma yn Sir Ddinbych, rydym hefyd yn ymwybodol o’r dyfarniad
newydd ac yn cefnogi darparwyr sy’n awyddus i wneud y mwyaf o gyfleoedd i
recriwtio gweithwyr gofal yn unol â llacio rheolau mewnfudo gan Lywodraeth y DU.
Yn wir, cyhoeddwyd ym mis Rhagfyr y bydd gweithwyr gofal, cymorthyddion gofal a
gweithwyr gofal cartref yn gymwys ar gyfer fisa iechyd a gofal am gyfnod o 12
mis. Golyga hyn y byddwn yn gallu recriwtio gweithwyr gofal ychwanegol er mwyn
hybu gweithlu gofal cymdeithasol i oedolion a ddylai ei gwneud yn haws ac yn
fwy sydyn i gyflogwyr gofal cymdeithasol recriwtio gweithwyr cymwys er mwyn
llenwi’r bylchau.
Mae pandemig y coronafeirws wedi amlygu ystod o
brinder staff yn y sector gofal cymdeithasol, gan roi pwysau ar y gweithlu
presennol er gwaethaf ymdrechion anhygoel a diflino staff gofal cymdeithasol.
Er fy mod yn siŵr bod fy llythyr i’r Prif Weinidog a anfonwyd ar eich rhan
wedi helpu rhywfaint, mae’n rhaid dweud fod y newidiadau i’r ddeddfwriaeth hefyd
yn dilyn argymhelliad gan y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo i wneud gweithwyr gofal
a gofalwyr cartref yn gymwys ar gyfer fisa Iechyd a Gofal ac i ychwanegu’r
alwedigaeth i’r rhestr galwedigaethau gweithwyr medrus. Ar y pryd, roedd yr
ymateb gan Lywodraeth y DU a rannais gyda chwi oll yn eithaf siomedig, ond yn
fuan wedyn mae’n ymddangos ein bod wedi derbyn y canlyniad roeddem ei
eisiau. Yn amlwg, ni fydd hyn yn datrys
y broblem dros nos, ond mi fydd o gymorth, ac rwy’n ddiolchgar iawn am
hynny.