Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

POLISÏAU CYNNAL A CHADW PRIFFYRDD AR GYFER FFYRDD DIDDOSBARTH

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Asedau a Risgiau Priffyrdd (copi ynghlwm) sy’n cyflwyno polisi’r Cyngor ar gyfer cynnal a chadw ffyrdd diddosbarth ynghyd â’r meini prawf a’r fformiwla a fydd yn cael eu defnyddio i ddyrannu a gwario’r cyllid ychwanegol sydd wedi’i neilltuo ar gyfer priffyrdd y sir.

 

10.10 – 11.00 a.m.

 

 

 

Cofnodion:

Gohiriodd y Cadeirydd y cyfarfod am ddau funud er mwyn caniatáu i swyddogion ac Aelodau Arweiniol ymuno â’r cyfarfod.

 

Arweiniodd y Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol yr aelodau trwy’r adroddiad (dosbarthwyd eisoes). Pwysleisiwyd wrth aelodau fod 44% o’r rhwydwaith ffyrdd a welir yn yr awdurdod yn ffyrdd di-ddosbarth. Atgoffwyd Aelodau fod swyddogion wedi parhau i bwysleisio’r angen i fuddsoddi mwy yn y rhwydwaith ffyrdd. Pwysleisiodd y Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol mai’r egwyddor allweddol erioed fu sicrhau bod o leiaf un ffordd o ansawdd da yn gwasanaethu unrhyw gymuned. Clywodd Aelodau na fyddai ffyrdd eraill sy’n gwasanaethu cymuned yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer gwelliant ar brydiau. Cyfeiriwyd Aelodau at y dyfyniadau o God Ymarfer Priffyrdd Sir Ddinbych, a oedd yn nodi’r meini prawf a’r dull gweithredu o ran gwaith

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol fod dwy agwedd i’r gwaith priffyrdd. Rhoddodd fanylion y ddwy agwedd i’r Aelodau. Y cyntaf oedd y Rhaglen Gyfalaf, sef cyllid i wneud gwaith atgyweirio i ffyrdd a gytunwyd yn yr awdurdod. Cadarnhawyd y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i bob Grŵp Ardal Aelodau i gytuno'r rhaglen waith. Yr ail agwedd oedd gwaith cynnal a chadw priffyrdd mewnol a gaiff ei ariannu gan refeniw. Rhoddwyd rhagor o gyd-destun i Aelodau am yr adnoddau oedd ar gael ar gyfer y tîm cynnal a chadw mewnol. Yn yr awdurdod, roedd 14 gweithredwr priffyrdd yn cael eu cyflogi, roedd y nifer hon wedi lleihau o’r blynyddoedd blaenorol.

 

Roedd yr Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd yn teimlo bod y cyllid priffyrdd yn hynod o bwysig a dylid ei gynnwys yn y Cynllun Corfforaethol. Roedd yr Aelod Arweiniol o’r farn fod yr adran mewn sefyllfa fwy cadarnhaol nag ar ddechrau’r tymor.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod Arweiniol a’r swyddogion am yr adroddiad a nododd y pwysau ar swyddogion oherwydd y gwaith anodd. Pwysleisiodd fod cynnal a chadw priffyrdd wedi bod yn fater cynyddol i geisio ei ddatrys.

 

Gan ymateb i gwestiynau aelodau'r Pwyllgor rhoddodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion y manylion canlynol:

·         O’r gyllideb a ddyrannwyd o £2.5 miliwn ar gyfer 2021/22, roedd £800,000 wedi’i ddyrannu ar gyfer trin wynebau ffyrdd. Dywedodd swyddogion fod mwyafrif y gwaith trin wynebau ffyrdd wedi’i wneud ar rwydwaith ffyrdd A a B. Roedd gwaith ailwynebu wedi’i drefnu ar gyfer ffyrdd B. Dywedodd swyddogion fod 50% o’r gyllideb wedi’i ddyrannu ar gyfer 80% o’r rhwydwaith. Pwysleisiodd swyddogion fod yr adran yn rheoli risg a bod gan ffyrdd prysurach risg uwch a bod angen eu blaenoriaethu os oedd angen eu hatgyweirio.

·         Roedd cyllid ychwanegol o £900,000 wedi’i ddarparu. Roedd dyraniad o £450,000 wedi’i wneud ar gyfer ffyrdd gwledig. Roedd y gwaith wedi'i restru ar y rhestr wrth gefn yr oedd swyddogion wedi’i dosbarthu i Grwpiau Ardal Aelodau eisoes.

·         Clywodd Aelodau fod amlder arolygiadau wedi newid. Roedd canol trefi yn cael eu harolygu bob mis; roedd gweddill y rhwydwaith yn cael ei arolygu bob 4 mis, a ffyrdd gwledig yn cael eu harolygu bob 6 mis. Pan fyddai swyddogion wedi cael gwybod am dwll mewn ffordd, roedd polisi ar waith a oedd yn nodi y dylid ei atgyweirio cyn pen 10 diwrnod. Gan ymateb i gwestiynau Aelodau, y cyfnod hwyaf ar gyfer atgyweirio twll mewn ffordd felly, fyddai chwe mis a deg diwrnod.   Fodd bynnag pe bai cynghorydd, aelod o staff neu’r cyhoedd wedi rhoi gwybod am dwll mewn ffordd cyn yr arolygiad a raglennir, byddai’n cael ei atgyweirio cyn pen 10 diwrnod o’r dyddiad y rhoddwyd gwybod amdano.  Dyna pam mae’n bwysig bod pawb yn rhoi gwybod am dyllau mewn ffordd pan fyddan nhw’n eu gweld.

·         Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol fod swyddogion yn ddiolchgar a gobeithiol am gyllid ychwanegol bob amser. Pe bai cyllid yn cael ei ddyfarnu ar gyfer dibenion penodol, byddai’n rhaid iddo gael ei ddefnyddio ar gyfer y rheswm hwnnw. Pe bai cyllid yn dod i law, byddai’n cael ei ddefnyddio yn ystod y flwyddyn, a byddai cyllid yr awdurdod yn cael ei gario ymlaen i’r flwyddyn ddilynol.

·         Dywedwyd y dylai swyddogion o’r gwasanaeth neu feysydd eraill o’r Cyngor roi gwybod am unrhyw faterion y byddant yn eu gweld yn ystod eu swyddi o ddydd i ddydd.

·         Cadarnhaodd swyddogion, os oes cilfannau yn ffurfio rhan o’r briffordd a fabwysiadwyd, dylid eu cynnal i’r un safon â’r briffordd.

·         Roedd pob ffordd wledig yn cael ei harchwilio ddwywaith y flwyddyn. Cyfeiriwyd at sganiwr, sef contract allanol a oedd yn defnyddio laserau i ystyried cyflwr y ffordd. Roedd pob ffordd A, a B, a hanner ffyrdd C yn cael eu harchwilio gan ddefnyddio’r system hon.

·         Nododd swyddogion fater sylweddol dŵr ar ffyrdd. Pwysleisiodd swyddogion bwysigrwydd clirio dŵr i gynorthwyo â chynnal cyflwr y ffordd.

·         Cadarnhawyd bod cyllideb fechan wedi’i dyrannu i droedffyrdd. Dywedodd swyddogion fod nifer fach o gwynion wedi dod i law am gyflwr llwybrau troed.

·         Cadarnhaodd swyddogion y byddent yn mynd i’r afael â phryderon Aelodau o ran materion mewn wardiau unigol y tu allan i’r cyfarfod.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am yr ymatebion manwl i bryderon a chwestiynau’r Aelodau.  Nodwyd bod cynnal a chadw priffyrdd yn bwnc anodd i bawb.

 

Felly:

 

Penderfynwyd: - yn amodol ar roi ystyriaeth i’r arsylwadau a’r sylwadau uchod, bod y Pwyllgor yn

 

(i)           fodlon bod y dull cywir o ran cynnal a chadw priffyrdd yn cael ei ddilyn, o ran sicrhau’r aliniad gorau rhwng y risg i ddefnyddwyr a defnyddio’r cyllid sydd ar gael;

(ii)          cytuno dylid gwneud ymdrech i annog pob cynghorydd a gweithiwr i fabwysiadu a meithrin dull corfforaethol ‘Un Cyngor’ o ran rhoi gwybod am broblemau neu faterion sy’n ymwneud â’r rhwydwaith priffyrdd; a

(iii)        cytuno bod adroddiad gwybodaeth yn cael ei ddosbarthu i aelodau’r Pwyllgor am gyflwr a chynlluniau cynnal a chadw ar gyfer cilfannau sy’n gyfagos i rwydwaith priffyrdd y Sir.

 

Dogfennau ategol: