Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

GOSOD RHENT TAI, A CHYLLIDEBAU REFENIW A CHYFALAF 2022/23

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm), yn ceisio cymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer cynnydd rhent blynyddol Tai Sir Ddinbych, Cyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai a Chyllidebau Refeniw ar gyfer 2022/21, a Chynllun Busnes y Stoc Dai.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

 

(a)       mabwysiadu Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2022/23 (Atodiad 1 i’r adroddiad) a Chynllun Busnes y Stoc Dai (Atodiad 2 i’r adroddiad);

 

(b)       cynyddu rhent anheddau'r Cyngor yn unol â Pholisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhent Tai Cymdeithasol i rent wythnosol cyfartalog o £97.27 i’w weithredu o ddydd Llun 4 Ebrill 2022;

 

(c)        nodi’r adroddiad ychwanegol (Atodiad 3 i’r adroddiad) am Effeithiolrwydd Cost, Fforddiadwyedd a Gwerth am Arian, a

 

(ch)     bod y Cabinet yn cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 4 i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y cynnydd rhent blynyddol ar gyfer Tai Sir Ddinbych, Cyllidebau Cyfalaf a Refeniw'r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2022/23 a Chynllun Busnes y Stoc Dai.

 

Fe arweiniodd y Cynghorydd Thompson-Hill yr aelodau drwy’r adroddiad gan fanylu ar ffigurau’r gyllideb a thybiaethau o ran lefel incwm a gyfrifwyd er mwyn gallu darparu gwasanaethau refeniw, y rhaglen buddsoddi cyfalaf i gynnal safonau ansawdd tai ac i ddatblygu’r rhaglen adeiladu newydd.  Roedd adolygiad blynyddol Cynllun Busnes y Stoc Dai yn dangos ei fod yn parhau’n gadarn ac yn ariannol hyfyw a bod digon o adnoddau i gefnogi’r gwasanaeth tai ac anghenion buddsoddi’r stoc.  O ran y cynnydd rhent blynyddol, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bolisi rhent pum mlynedd ym mis Rhagfyr 2019 ar gyfer rhent tai cymdeithasol a chyfrifwyd y rhenti a osodwyd gan ystyried y polisi a’r mecanwaith hwnnw ar gyfer codi rhent.  Y codiad ar gyfer 2022/23 oedd 3.1% CPI gan arwain at rent wythnosol cyfartalog o £97.27 (cynnydd cyfartalog o £2.92 mewn rhent wythnosol). Fel rhan o’r broses gosod rhenti, ystyriwyd y fforddiadwyedd i denantiaid, gwerth am arian ac asesiad o effeithlonrwydd cost a amlinellwyd yn yr adroddiad.  Er bod 2021 wedi bod yn flwyddyn anodd o ran sefyllfa ariannol cartrefi ac y byddai hynny’n parhau yn 2022, ystyriwyd bod fforddiadwyedd rhenti wythnosol yn rhesymol.

 

Ychwanegodd y Swyddog Arweiniol – Tai Cymunedol y byddai’r cynnydd yn arwain at £500,000 o gyllid ychwanegol yn y cynllun busnes bob blwyddyn a rhoddodd drosolwg o’r gwariant, gan ddweud bod tenantiaid y cyngor wedi cydnabod y defnydd effeithlon a wneir o gyllid yn arolwg y tenantiaid, gydag 85% yn datgan eu bod yn cael gwerth am arian o’u rhent.  Soniwyd am yr effaith a gafwyd ar sefyllfa ariannol cartrefi a dilynodd y gwasanaeth lwybr cefnogol drwy ddarparu cyngor a chymorth yn ymwneud â chyllidebu.  Ar gais y Cynghorydd Tony Thomas, rhoddodd y Swyddog Arweiniol adroddiad am y meddalwedd incwm rhenti a gyflwynwyd er mwyn rhagfynegi ôl-ddyledion rhent a bu’n llwyddiannus er mwyn lliniaru/lleihau ôl-ddyledion, gan roi mwy o amser i staff gefnogi tenantiaid.

 

Roedd y Cabinet yn cydnabod yr angen i gydbwyso lefel y cynnydd mewn rhent er mwyn diwallu anghenion buddsoddi yn y stoc dai yn y dyfodol yn erbyn y fforddiadwyedd ar gyfer tenantiaid.

 

Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau’r aelodau fel a ganlyn -

 

·         cafodd balansau eu cario ymlaen a chafodd rhywfaint o wariant cyfalaf ei ohirio oherwydd y pandemig - roedd yn bolisi gan y cyngor i gadw lleiafswm balans o £1m wrth gefn

·         fe wnaeth 72% o gartrefi tenantiaid dderbyn cymorth ariannol ar gyfer costau tai a byddai’r budd-dal yn ddigon i dalu am y cynnydd yn y cartrefi hynny

·         rhoddwyd mwy o fanylion am y mesurau fforddiadwyedd gan roi enghreifftiau o gartrefi gwahanol er mwyn dangos pa mor gymhleth yw’r asesiadau hynny

·         yn gyffredinol, roedd lefel rhent y Cyngor fymryn yn is na chymdeithasau tai ac awdurdodau lleol eraill, a darparwyd gwasanaeth cyfatebol neu well

·         mae'r angen i fuddsoddi yn y stoc dai yn hanfodol er mwyn cwrdd â safonau ansawdd a thargedau datgarboneiddio, ac adeiladu cartrefi newydd er mwyn diwallu’r angen am dai

·         roedd y cynnydd mewn rhent yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru ac roedd y CPI wedi codi ers hynny at 5.1% a fyddai'n effeithio ar ddulliau ariannu gwaith tai yn y dyfodol

·         byddai rhewi lefelau rhent yn arwain at golled gylchol o £500,000 a byddai effaith niweidiol ar fuddsoddiad yn y stoc dai yn y dyfodol, na ellid ei ddigolledu mewn blynyddoedd i ddod

·         ni ellid lliniaru’r cynnydd rhent drwy ddefnyddio cronfeydd wrth gefn gan y byddai angen taliad rheolaidd bob blwyddyn a byddai angen cadw lleiafswm o £1m mewn cronfa wrth gefn

·         mae’n bwysig gwneud newidiadau cynyddrannol bob blwyddyn er mwyn cyd-fynd â chynnydd mewn costau a gosod sylfaen ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol

·         gwnaed buddsoddiad i gefnogi tenantiaid er mwyn cael cymaint o incwm/cadernid â phosibl a darparwyd cefnogaeth arbenigol gan Gyngor ar Bopeth a Sir Ddinbych yn Gweithio

·         roedd lefelau ôl-ddyledion rhent yn cael eu monitro’n agos gyda 3.2% o arian yn ddyledus yn Sir Ddinbych o’i gymharu â chyfartaledd Cymru sef 4.2% ar draws yr awdurdodau lleol

·         amlygwyd effaith derbyniadau cyfalaf ar y Cyfrif Refeniw Tai a chymhlethdodau’r amrywiadau o ran cyllidebau a benthyca

·         yn dilyn adroddiad ITV ar gyflwr gwael rhai tai (yn Lloegr yn bennaf) rhoddwyd sicrwydd ynghylch safonau ansawdd yn Sir Ddinbych

·         roedd 50% o’r tai yn cwrdd â tharged y Cyngor o fod â graddfa Tystysgrif Perfformiad Ynni C neu well ac roedd 90% yn cwrdd â tharged presennol Llywodraeth Cymru o gael Tystysgrif Perfformiad Ynni D neu well; byddai angen cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru er mwyn cwrdd â thargedau yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD -

 

 (a)      y dylid mabwysiadu Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2022/23 (Atodiad 1 i’r adroddiad) a Chynllun Busnes y Stoc Dai (Atodiad 2 i’r adroddiad);

 

 (b)      cynyddu rhent anheddau'r Cyngor yn unol â Pholisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhent Tai Cymdeithasol i rent wythnosol cyfartalog o £97.27 i ddod i rym ddydd Llun 4 Ebrill 2022;

 

 (c)       nodi’r adroddiad ychwanegol (Atodiad 3 i’r adroddiad) am Arbedion Effeithlonrwydd Cost, Fforddiadwyedd a Gwerth am Arian, ac

 

 (ch)    Y Cabinet yn cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 4 i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Ar y pwynt hwn (11.45 am) cafwyd egwyl fer.

 

 

Dogfennau ategol: