Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD PARTNERIAETH RANBARTHOL GOGLEDD CYMRU

I ystyried adroddiad ar weithgareddau’r Bwrdd Partneriaethau Rhanbarthol yn ystod 2020/21 a’i feysydd o flaenoriaeth ar gyfer 2021/22 (copi ynghlwm).

 

11:45 – 12:15

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedol (CC:C) y Pennaeth Cydweithredfa Gwelliant Lles a Gofal Cymdeithasol Gogledd Cymru (NWSSIC) i aelodau a chroesawyd hi i’r cyfarfod.

 

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn egluro ei fod yn adroddiad statudol a ddarparwyd yn flynyddol yn unol â  Rhan 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Roedd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru (Bwrdd) yn cynnwys 6 awdurdodau lleol Gogledd Cymru ac yn gweithio ar y cyd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, cyrff cyhoeddus eraill a gwasanaethau sector gwirfoddol i wella canlyniadau lles preswylwyr Gogledd Cymru.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr drosolwg o un o brosiectau’r Bartneriaeth - Rhaglen Drawsnewid Plant a Phobl Ifanc y mae’r Cyfarwyddwr yn ei arwain. Un o’r prosiectau a oedd yn ffurfio rhan o’r Rhaglen hon oedd Canolfan Asesu Preswyl Plant Bwthyn y Ddôl.  Cynrychiolwyr Sir Ddinbych ar y bwrdd prosiect y Ganolfan hon oedd Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd ynghyd â’r Cynghorydd Christine Marston, cynrychiolydd Craffu.  Er bod anawsterau wedi codi yn y prosiect gan fod y contractwr a benodwyd wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, mae cynlluniau mewn lle i’r tendr dylunio ac adeiladu gael ei hysbysebu yn ystod mis Rhagfyr 2022. Roedd y Rhaglen Drawsnewid Plant wedi arwain at ddatblygiadau arwyddocaol ledled y rhanbarth. Datblygu tîm aml-asiantaeth a gwella mynediad a gwybodaeth ynghylch iechyd, lles a chadernid.

 

Roedd pedair rhaglen ranbarthol a oedd yn rhan o’r trawsnewid yn ogystal â nifer o weithgorau a oedd wedi cyflawni cynnydd sylweddol o ran integreiddio a gwella gwasanaeth drwy’r Byrddau Comisiynu Rhanbarthol a Gweithlu Rhanbarthol.

 

Eglurodd cynrychiolydd y NWSSIC bod cannoedd o brosiectau yn barhaus yn rhanbarthol ac yn lleol, ond nid oedd fformat yr adroddiad yn caniatáu i’w cynnwys. Roeddynt yn cynnig dosbarthu rhestr o brosiectau a gyflawnir gan y Bwrdd a oedd yn amlygu’r hyn a oedd wedi'i gyflawni’n lleol i breswylwyr Sir Ddinbych.

 

Gan ymateb i gwestiynau’r Pwyllgor, dywedwyd wrth yr aelodau:

·         Bod y Bwrdd yn fwrdd strategol nad oedd yn dod yn rhan ar lefel gweithredol, er enghraifft gyda gweithwyr gofal Sir Ddinbych yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, roedd gwaith gofal yn faes â blaenoriaeth ar lefel strategol, a roedd dull rhanbarthol yn cael ei ystyried i wella gwasanaethau a chymorth ar gyfer gofalwyr.

·         Roedd y Bwrdd wedi bod yn hyblyg drwy’r pandemig, dysgu gwersi a newid dull o weithio. Mae fforwm wedi’i sefydlu i ddarparu cymorth cydfuddiannol a chymorth, dyfeisio datrysiadau ynghyd ag adnabod gwersi a ddysgwyd.

·         Roedd y Bwrdd wedi rhoi diweddariadau rheolaidd i'r Gwasanaeth Cynllunio At Argyfwng Rhanbarthol yn ystod y pandemig yn unol â’r Ddeddf Argyfyngau Sifil o ran effaith Covid ar y gweithlu, darpariaeth gofal preswyl a chartref, ac iechyd meddwl a lles plant ayyb.

·         Roedd enghreifftiau o ble oedd rhaglenni trawsnewid y Bwrdd wedi addasu eu cynlluniau i fodloni anghenion eu grŵp poblogaeth o ran Covid yn cynnwys:

o   Sefydlu grwpiau cefnogi i bobl gydag anableddau dysgu sy’n ynysu

o   Darparu iPads mewn cartrefi gofal i breswylwyr i gyfathrebu gyda’u teuluoedd a ffrindiau.

·         Gallai’r Pwyllgor wahodd unrhyw Fyrddau i gyfarfodydd y dyfodol o’r pwyllgor craffu i ddarparu enghraifft o astudiaethau achos, yn anffodus nid oedd modd ychwanegu enghreifftiau o astudiaethau achos yn yr Adroddiad Blynyddol gan mai Llywodraeth Cymru sydd yn penderfynu ar ei fformat.

·         Roedd cynlluniau ar droed i wella cyfathrebiad rhwng y Bwrdd a’i bartneriaid ar gyfer gwybodaeth fwy rheolaidd a phenodol i ardal.

·         Roedd y Grŵp Llywio Gwerth Cymdeithasol wedi ailddechrau gydag un o’r cyfarwyddwyr yn camu i mewn i’r swydd Cadeirydd.

·         Yn hanesyddol roedd 6 awdurdod lleol wedi cyfuno cyllid i gefnogi gweithio’n rhanbarthol. Yn ddiweddar, yn ystod y 18 mis diwethaf roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cydnabod y dylent gyfrannu hefyd.  Roedd bellach yn cyfrannu.  

·         Roedd grantiau Llywodraeth Cymru megis Cronfa Gofal Integredig ac arian Rhaglen Grant Gweddnewid yn cael eu cadw gan y Bwrdd Iechyd i ddechrau cyn cael eu hailddosbarthu h.y. Sir Ddinbych a oedd yn cynnal y Tîm Cydweithredol Rhanbarthol. Roedd newidiadau i’r ffrwd Cronfa Gofal Integredig ar y gweill ond nid oedd unrhyw fanylion ar gael hyd yma.

·         Codwyd pryder mewn cyfarfod diweddar o'r Bwrdd gyda chynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynghylch canfyddiad i bob salwch a chyflyrau eraill yn cael eu hesgeuluso oherwydd  triniaeth Covid. Roedd llythyr wedi dod gan Brif Weithredwr y Bwrdd Iechyd yn gwahodd yr Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth i gyfarfod i drafod y pwnc.

 

Mewn ymateb, gofynnodd y Pwyllgor i newid yr argymhellion i ychwanegu pryder ynghylch yr elfen cyllid y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.

 

Ar ddiwedd trafodaeth y Pwyllgor:

 

Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau uchod:

 

(i)   bod y Pwyllgor yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried y gwaith y mae'n ofynnol i'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru ei wneud.

(ii) mynegi eu pryderon ynghylch sefyllfa ariannol y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru;

(iii)                nodi'r gwaith a'r cynnydd yn 2020-21 ar y meysydd gwaith sy'n cael eu dwyn ymlaen trwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru; a

(iv)   cynnwys Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru 2021/22 i’r rhaglen gwaith i'r dyfodol.

 

Dogfennau ategol: