Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

GWASANAETHAU CEFNOGI ATAL DIGARTREFEDD A CHYSYLLTIEDIG Â THAI

I ystyried adroddiad yn edrych ar effeithiolrwydd y gwasanaeth amlddisgyblaethol wrth gyflenwi gwasanaethau digartrefedd yn unol â gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cefnogi atal digartrefedd a chysylltiedig â thai; ac adolygu’r camau gweithredu sy’n codi o’r Archwilio Mewnol o ‘Ddarpariaeth Llety i’r Digartref’ yn unol â’r atgyfeiriad gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn Ionawr 2021 (copi ynghlwm).

10:45 – 11:30

 

 

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol i’w gyfarfod diwethaf cyn y bydd yn ymddeol. Diolchodd y Cadeirydd am ei wasanaeth a dymunwyd yn dda iddo yn ei ymddeoliad.

 

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gwahodd aelodau i edrych ar effeithiolrwydd gwasanaeth wedi’i ailstrwythuro, i’w weithredu ym mis Ebrill 2021, a gyflawnwyd gyda gweledigaeth Llywodraeth Cymru i gefnogaeth ddigartrefedd a thai. Mabwysiadu traws-wasanaeth/ dull corfforaethol y pwyslais yn cael ei roi ar ymyrraeth ac ataliaeth digartrefedd.

 

Adolygiad Archwilio Mewnol o Ddarpariaeth Llety ar gyfer bobl ddigartref wedi’i gwblhau ym mis Mawrth 2020 a roddodd raddfa sicrwydd isel. Mae’r adroddiad dilynol Archwilio Mewnol yn dangos fod chwech o gamau gweithredu wedi eu cwblhau, a deg cam sy’n weddill yn y broses o gael eu trin. Mi wnaeth Adran Archwilio gydnabod bod datblygiad wedi'i wneud ond ar hyn o bryd, roedd y graddfa sicrwydd isel yn parhau. Canmolodd yr Aelod Arweiniol y staff gwasanaeth am eu holl waith dan bwysau y pandemig.

 

Dywedodd Ann Lloyd, Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro, o ganlyniad i ailstrwythuro roedd tîm amlddisgyblaethol wedi ei roi ar waith. Roedd adnoddau cynyddol yn golygu bod gan y tîm eu cyfranogwyr iechyd meddwl eu hunain, cwnselydd, gweithwyr cymdeithasol a chyfranogwyr cefnogi pobl digartref i ddarparu cefnogaeth mwy cyfannol. Roeddynt yn aros am swyddog proffesiynol iechyd meddwl cam-drin sylweddau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar secondiad i gwblhau’r tîm.

 

Roedd disgwyliad bod y nifer o bobl mewn llety argyfwng dros dro yn aros yn statig ar hyn o bryd – 150 – 180 aelwyd. Roedd lleihad wedi bod yn y nifer o deuluoedd yn cael eu cyflwyno a oedd yn ymddangos yn dilyn Llywodraeth Cymru yn stopio troi pobl allan, a nid yw’r broses Llys wedi dal i fyny gydag ôl-groniad o achosion. Roedd disgwyl iddynt gynyddu. Roedd cynnydd yn y nifer o bobl dan 35 oed yn sy'n datgan eu bod yn ddigartref.

 

Gan weithio ar y cyd gyda’r Gwasanaethau Tai, roeddynt wedi gallu sicrhau 99 tenantiaeth aelwyd drwy brydlesi uniongyrchol gan Dai Cymunedol Sir Ddinbych a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig eraill.

 

Roedd cyllid wedi cael ei ddarparu ar gyfer Gweithwyr Cefnogi Tenantiaeth, yn ffocysu ar ataliaeth ac ymyrraeth er mwyn arafu nifer o aelwydydd sydd yn dod yn ddigartref. Roedd cyllid wedi’i sicrhau gan y Grant Cymorth Tai i dendro darpariaeth i hyrwyddo ymgysylltiad â aelwydydd gyda phroblemau megis dyledion, ôl-ddyledion rhent neu anghydfod rhwng cymdogion ac ymyrraeth gynnar i atal dod yn ddigartref.

 

Roedd llety argyfwng gwell ansawdd yn cael ei geisio ond roedd y rhwystr o ddim eiddo ar gael yn parhau. Roedd llai o eiddo rhent ar gael a roedd y rhai hynny oedd ar gael yn costio gormod.

 

 

Gan ymateb i gwestiynau’r Pwyllgor, dywedodd y swyddog:

·         Bod gweithredu ailstrwythuro a chreu dilynol o’r tîm amlddisgyblaethol wedi cael effaith cadarnhaol ar gefnogi dinasyddion, er y cymhlethdodau oedd yn codi gyda’r pandemig.

·         Roedd Sir Ddinbych ar flaen y gad o ran newidiadau rheoleiddiol Llywodraeth Cymru – model ailgartrefu cyflym – o’i gymharu ag awdurdodau lleol eraill.

·         Nid oedd toriad wedi bod yn y gyllideb graidd i'r Gwasanaeth. Ni allai’r Grant Cymorth Tai gael ei ddefnyddio’n gyfreithiol i ategu’r Cyllideb Craidd a oedd yn cyflenwi’r gwasanaethau statudol a ddarparwyd.

·         Nid oedd rhent yn cael ei dalu gan yr Awdurdod ar eiddo a oedd yn cael eu rhentu gan y portffolio Tai Cymunedol. Cyfrifoldeb yr deiliad tŷ oedd talu’r rhent.

·         Yn gorfforaethol roedd y Uwch Dîm Arweinyddiaeth wedi sefydlu is-grŵp Digartrefedd i edrych yn benodol ar faterion llety, i wella ansawdd ac argaeledd llety mewn argyfwng a llety parhaol.

·         Dylai cyfleuster llety dros dro i deuluoedd - Epworth Lodge – fod ar gael yn y flwyddyn newydd.

·         Roedd galw uwch yng ngogledd y sir yn hytrach nag i’r de. Roedd llety mewn argyfwng ar gael yn ne y sir ond byddai’n debygol o fod yn sefydliad Gwely a Brecwast.

·         Gwnaethpwyd bob ymdrech i letya unigolyn digartref dros dro neu’n barhaol yn eu hardal leol a/ neu yn agos i gefnogaeth teulu, os oedd yn ddiogel i wneud ac os oedd eiddo addas ar gael.  Fodd bynnag, nid oedd hyn bob amser yn bosibl, yn arbennig mewn sefyllfa o argyfwng.

·         Er ei bod yn ymddangos yn rhyfedd fod y Cyngor yn penderfynu cael gwared ar ddarn o dir mewn un rhan o’r sir - byddai’r darn hwnnw wedi gallu cael ei ddefnyddio ar gyfer datblygu eiddo i gymhwyso anghenion pobl ddigartref - y Rhyl oedd gyda’r angen fwyaf am lety ar y pryd ac yng ngogledd y sir.

·         Gallai unigolyn digartref gael llety mewn argyfwng (Gwely a Brecwast neu westy) yn syth. Weithiau o bosib byddai'r llety y tu allan i'r Sir.

·         Roedd hi’n anodd iawn dod o hyd i lety ‘Symud Ymlaen’ ar gyfer pobl dan 35 oed oherwydd diffyg hawl i gael budd-dal tai llawn a

·         Bydd y datblygiad posibl o safle Maes Emlyn yn y Rhyl yn cael ei ymgynghori yn y cyfarfod o’r Grŵp Ardal yr Aelodau'r Rhyl ym mis Ionawr 2022.

 

Gofynnodd y Cadeirydd os byddai modd cael adroddiad ar ddiweddariad gyda'r cynllun gweithredu gwella i’r cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau sydd wedi’i drefnu ar gyfer 7 Gorffennaf 2022.

 

 

Felly:

 

Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau a’r arsylwadau uchod bod y Pwyllgor -

 

(i)     wedi sicrhau bod gweithredu gwasanaeth digartrefedd amlddisgyblaethol a dull traws-wasanaeth Corfforaethol yn unol â gweledigaeth o ddigartref a chymorth tai Llywodraeth Cymru, ac yn cyfrannu at amcanion Gwasanaeth Atal Digartrefedd i sicrhau bod pawb yn cael eu diogelu a’u cefnogi yn unol mewn cartrefi sy’n bodloni eu gofynion; a

(ii) ar ôl adolygu’r cynnydd wrth fynd i’r afael â chamau gweithredu archwilio, cais bod adroddiad gyda diweddariad ar y cynnydd gyda’r cynllun gweithredu gwelliant yn cael ei ddarparu iddo yn ystod haf 2022. Bydd y Prif Archwilydd Mewnol yn darparu crynodeb o’r cynnydd a wnaethpwyd i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar 16 Mawrth 2022 fel rhan o’r adroddiad Diweddariad Archwilio Mewnol.

 

Dogfennau ategol: