Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

BWRDD UCHELGAIS ECONOMAIDD GOGLEDD CYMRU

I ystyried adroddiad gan y Prif Weithredwr ar adroddiad Chwarter 2 y Bwrdd ar ei berfformiad, gwaith a chynnydd mewn cyflenwi ei brosiectau yn ystod 2021-22 (copi ynghlwm).

10:10 – 10:45

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd adroddiad Chwarter 2 Bwrdd Uchelgais Economaidd (y Bwrdd) (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar ran yr Arweinydd a Prif Weithredwr. Atgoffodd y Pwyllgor bod yr adroddiadau ar gyfer chwarter 1 a 3 wedi eu dosbarthu i aelodau er gwybodaeth, tra roedd adroddiadau ar gyfer chwarteri 2 a 4 wedi'u cyflwyno i'r Pwyllgor Craffu i'w trafod.

 

Eglurodd y HoPPP bod y Bwrdd yn brosiect 20 mlynedd ac yn cynnwys nifer o fyrddau rhaglen gan gynnwys:

·         Digidol

·         Ynni Carbon Isel

·         Tir ac Eiddo

·         Amaethyddiaeth, bwyd a thwristiaeth ac

·         Arloesi o fewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel

 

Roedd cynrychiolwyr Sir Ddinbych o bob Bwrdd Rhaglen yn cyfarfod bob chwarter i rannu gwybodaeth ar draws y Byrddau.

 

Amlygodd yr HoPPP bod atodiad yr adroddiad yn fanwl iawn a byddai cyfle i drafod ymhellach pan fydd y Swyddog Portffolio yn mynychu ar gyfer adroddiad chwarter 4. Cafodd aelodau o’r Pwyllgor eu sicrhau os na fydd unrhyw gwestiynau yn gallu cael eu hateb yn llawn yn y cyfarfod, yna bydd ymatebion manwl yn cael eu dosbarthu yn ddiweddarach.

 

Gan ymateb i gwestiynau’r Pwyllgor , dywedodd Hop:

·         Bydd gwybodaeth mewn perthynas â phroses caffael y Bwrdd yn cael eu canfod a’u dosbarthu i’r Pwyllgor.

·         Mae’r swyddfa Portffolio’r Bwrdd wedi cyflawni proses recriwtio ar gyfradd fawr. Roedd nifer o benodiadau Rheolwyr Rhaglen a Swyddog Cludiant Rhanbarthol wedi cael eu gwneud yn llwyddiannus.

·         Roedd y fethodoleg a gyflawnwyd ar gyfer achos busnes prosiect yn broses manwl a hir. Er yr oedd yn ymddangos nad oedd unrhyw achosion busnes llawn wedi cwblhau nifer o achosion wedi clirio camau 1 a 2 o ddatblygiad, ac yn datblygu’n dda drwy’r cam achos busnes amlinellol – yn arbennig Canolbwynt Busnes Bwyd Rhanbarthol ar safle Grŵp Llandrillo Menai Coleg Glynllifon.

·         Roedd y Swyddog Partneriaeth Sgiliau yn mynd i’r afael â’r ychwanegiad diweddar o’r risg bwlch sgiliau ym mhob un Bwrdd Rhaglen i nodi anghenion a risgiau ac i helpu  i gydlynu camau gweithredu i fynd i’r afael â gofynion sgiliau yn y dyfodol.

·         Bydd y sefyllfa o ran rheolwyr Prosiect newydd Prifysgol Bangor ar gyfer y Canolfan Ragoriaeth Carbon Isel a Rhaglenni Gweithgynhyrchu Gwerthu Uwch, yn cael eu hymchwilio a byddai ceisio sicrwydd eu bod wedi ymrwymo i ddarparu prosiectau sydd wedi eu dyrannu atynt.

·         Bydd gofyn i’r Swyddog Arweiniol Sir Ddinbych ymateb i bryderon ynghylch cysylltedd digidol ar gyfer:

o   Ffeibr llawn mewn safleoedd allweddol phrosiectau Campysau Cysylltiedig a

o   darpariaeth ardal wledig a

·         Ceisir cadarnhad gan y Swyddog Arweiniol ac Aelod Arweiniol Cynllunio, Diogelu'r Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel ar y cyfrifoldebau priodol y Bwrdd a Chyngor Sir Ddinbych o ran datblygiad yn y dyfodol o’r safle strategol allweddol ym Modelwyddan.

·         Nad oedd unrhyw gyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu i’r Bwrdd gan Lywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU, i ddigolledu ar gyfer oedi datblygiad prosiect oherwydd y pandemig.  Fodd bynnag, byddai prosiectau yn edrych ar gyfleoedd cyllid posibl sydd ar gael gyda’r bwriad o wella eu heffaith economaidd ar y rhanbarth.

 

Gofynnodd y Cadeirydd os byddai modd i’r briff a gyflwynwyd yn flaenorol i aelodau ar nodau ac amcanion y Bwrdd gael ei gynnig eto ar ôl etholiadau awdurdod lleol mis Mai 2022.

 

Bydd y Pwyllgor:

 

Penderfynwyd:  yn amodol ar y sylwadau uchod a darparu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani yn ystod y trafodaeth, i

 

(i)   dderbyn adroddiad Chwarter 2 2021-22 ar y gwaith a gyflawnwyd a’r cynnydd a wnaethpwyd gan y Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (Bwrdd);

(ii) cais bod sesiwn briffio yn cael ei drefnu ar gyfer pob swydd cynghorydd sirol yn etholiadau awdurdod lleol mis Mai 2022 ar weledigaeth, nodau ac amcanion y Bwrdd; a

(iii)                chytuno ar adroddiadau Chwarter 2 yn cael eu dosbarthu i’r Pwyllgor er gwybodaeth, yn debyg i adroddiadau Chwarter 1 a 3.

 

Dogfennau ategol: