Eitem ar yr agenda
SEFYDLU CYDBWYLLGOR CORFFORAETHOL GOGLEDD CYMRU
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol (copi ynghlwm) ar y trefniadau sydd angen eu gwneud ar gyfer sefydlu Cydbwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru (CJC) a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i roi cymeradwyaeth mewn egwyddor i drosglwyddo swyddogaethau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i’r CJC drwy gytundeb dirprwyo.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cytuno mewn egwyddor bod swyddogaethau Bwrdd Uchelgais
Economaidd Gogledd Cymru yn cael eu trosglwyddo ar ffurf cytundeb dirprwyo i
Gyd-bwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru ar yr amodau canlynol;
(a) bod y fframwaith statudol y
mae Llywodraeth Cymru yn ei lunio yn caniatáu ar gyfer dirprwyo swyddogaethau
gweithredol perthnasol i Gyd-bwyllgor Corfforaethol,
(b) bod Cyd-bwyllgor
Corfforaethol Gogledd Cymru yn cytuno i sefydlu Is-bwyllgor, gan gytuno ar aelodaeth
gyda’r Cyngor, i ymgymryd â swyddogaethau’r Bwrdd Uchelgais Economaidd.
Cynigir y trawsnewid yma er
mwyn cyflawni model llywodraethu symlach, gan osgoi dyblygu. Bydd adroddiad manylach arall am y
fframwaith a fydd yn cael ei weithredu yn cael ei gyflwyno mewn cyfarfod arall
o’r Cabinet.
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad ar y trefniadau sydd i'w gwneud i sefydlu
Cydbwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru ac yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet
mewn egwyddor i drosglwyddo swyddogaethau Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru i’r
Cydbwyllgor Corfforaethol drwy gytundeb dirprwyo.
Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd rywfaint
o gefndir i gread y Cydbwyllgor Corfforaethol ar 1 Ebrill 2021 ynghyd â’r
swyddogaethau y bydd yn eu harfer o 30 Mehefin 2022 a’r gofyniad i osod
cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022/23 erbyn 31 Ionawr 2022. Rhoddodd drosolwg
cynhwysfawr o’r trefniadau i sicrhau bod y Cyd-bwyllgor Corfforaethol wedi’i
sefydlu’n gywir fel y gall arfer ei swyddogaethau erbyn 30 Mehefin 2022 a
chyfeiriodd at yr adroddiad safonau sydd i’w ystyried gan bob un o chwe phrif
gyngor Gogledd Cymru yn ystod mis Rhagfyr. Bydd
y Cyd-bwyllgor Corfforaethol yn gyfrifol am baratoi Cynllun Datblygu Strategol
a Chynllun Cludiant Rhanbarthol a bydd ganddo bwerau cyffredinol ym maes lles
economaidd. Cafodd
y Cabinet wybod am y rhesymeg y tu ôl i drosglwyddiad arfaethedig
swyddogaethau'r Bwrdd Uchelgais Economaidd i'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol drwy
gytundeb dirprwyo ac am yr egwyddorion y cytunodd Prif Weithredwyr ac Arweinwyr
arnynt fel sail ar gyfer gweithredu unrhyw drosglwyddiad er mwyn gwireddu model
llywodraethu wedi’i resymoli a fyddai’n osgoi dyblygu. Ceisiwyd cytundeb mewn
egwyddor gan y Cabinet a fyddai'n ddibynnol ar ddatblygiad fframwaith
deddfwriaethol priodol gan Lywodraeth Cymru i ganiatáu’r dirprwyo. Bydd adroddiadau pellach ar
sefydliad y Cyd-bwyllgor Corfforaethol yn cael eu rhoi gerbron y Cabinet maes o
law.
Wrth
ystyried yr adroddiad cwestiynodd y Cynghorydd Bobby Feeley y fiwrocratiaeth
gysylltiedig â hyn gofynnodd am eglurder pellach ynghylch y goblygiadau
ariannol, yn cynnwys y costau perthnasol i Sir Ddinbych ac i Gymru gyfan. Gofynnodd y Cynghorydd Mark
Young hefyd am eglurhad ar yr effaith ar y Cynllun Datblygu Lleol yn sgil
dyletswydd y Cyd-bwyllgor Corfforaethol i baratoi Cynllun Datblygu Strategol,
gam amlygu pwysigrwydd penderfyniadau lleol ar gyfer cymunedau lleol. Mewn ymateb i’r materion hyn a
chwestiynau pellach gan Aelodau heb fod yn aelodau o’r Cabinet, dywedodd yr Arweinydd, Pennaeth y
Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd a’r Pennaeth Cyllid ac Eiddo bod:
·
y Cyd-bwyllgor Corfforaethol
wedi’i greu gyda dyletswyddau cyfreithiol o fis Mehefin 2022 ac mai’r bwriad
oedd gwneud ei weithrediad mor syml ac anfiwrocrataidd â phosibl, sydd yn un
o'r amcanion y tu ôl i’r penderfyniad mewn egwyddor a geisir
·
mae’r rhanbarth wedi derbyn
grant o £250k gan Lywodraeth Cymru i helpu i sefydlu’r Cyd-bwyllgor
Gorfforaethol ac i’w ddefnyddio ar gyfer y cyngor arbenigol a’r capasiti rheoli
prosiect a fydd yn angenrheidiol i wneud hynny.
·
Mae’n ofynnol i’r Cyd-bwyllgor
Corfforaethol bennu ei gyllideb erbyn 31 Ionawr ar gyfer y flwyddyn ariannol i
ddod a chytuno ar y cyfraniadau y bydd pob awdurdod lleol yn eu gwneud ar gyfer
treuliau’r Cyd-bwyllgor nad yw ffynonellau eraill o gyllid yn eu diwallu.
·
mae swyddogion Adran 151
wrthi’n gweithio ar y gyllideb gychwynnol a thra bydd yr elfen gorfforaethol/
ddemocrataidd i raddau helaeth yn cael
ei chynnal gan swyddogion allweddol cyfredol, mae gwaith yn mynd rhagddo i
ddynodi'r gofynion ariannol ar gyfer darparu’r elfennau cynllunio a chludiant
gyda nifer o opsiynau i’w hystyried; gobeithir y bydd Llywodraeth Cymru yn
darparu cyllid ychwanegol ar gyfer cyflawni'r dyletswyddau newydd a bydd
galwadau'n cael eu gwneud arnynt yn y cyswllt hwnnw.
·
unwaith y bydd y gyllideb ar
gyfer 2022/23 wedi’ gosod bydd yr effaith ariannol ar Sir Ddinbych ac ar draws
Gogledd Cymru yn hysbys ac mae’n bwysig sicrhau bod Sir Ddinbych yn cael gwerth
am arian o'i gyfraniad.
·
Mae ar y Cyd-bwyllgor
Corfforaethol ddyletswydd i gynhyrchu Cynllun Datblygu Strategol sydd yn gynllun
haen wahanol ac ar wahân i’r Cynllun Datblygu Lleol y mae’n rhaid i bob
awdurdod lleol ei gynhyrchu gan dalu sylw i rai ffactorau penodol.
·
bydd ar y Cyd-bwyllgor
Corfforaethol ddyletswydd gyfreithiol o ran y Gymraeg a bydd yn rhaid iddo
gytuno ar gynllun iaith Gymraeg a diwallu safonau'r Gymraeg.
·
Darparwyd canllawiau gan
Lywodraeth Cymru i ddatblygu trefniadau craffu gyda rheoliadau pellach yn cael
eu hymgynghori yn eu cylch ar hyn o bryd o ran yr opsiynau a fyddai ar gael i'r
Cyd-bwyllgor yn y cyswllt hwnnw: creu pwyllgorau craffu yn benodol o fewn
strwythur y Cyd-bwyllgor Corfforaethol, creu cydbwyllgor craffu i’r diben
penodol hwnnw, neu ddefnyddio trefniadau craffu sydd eisoes yn bodoli.
Eglurodd
yr Arweinydd y cefndir i’r ymdriniaeth ranbarthol sy’n cael ei harddel o ran
darpariaeth gwasanaeth er mwyn cadw'r nifer presennol o awdurdodau lleol yng
Nghymru gan ddweud fod manteision ac anfanteision i hyn. Pwysleisiodd bwysigrwydd
sicrhau fod yr ymdriniaeth ranbarthol yn gweithio i drigolion Sir Ddinbych.
PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn cytuno mewn egwyddor bod swyddogaethau
Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru yn cael eu trosglwyddo drwy gytundeb dirprwyo i
Gydbwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru ar yr amod:
(a) bod y fframwaith statudol sy’n cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru yn
caniatáu dirprwyo’r swyddogaethau gweithredol perthnasol i Gyd-bwyllgor
Corfforaethol,
(b) Bod Cyd-bwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru yn cytuno i sefydlu
Is-bwyllgor, gyda’r Cynghorau i gytuno ar yr aelodaeth, i ymgymryd a swyddogaethau’r
Bwrdd uchelgais Economaidd.
Cynigir y trawsnewid hwn er mwyn gwireddu model llywodraethu wedi'i
resymoli sy’n osgoi dyblygu gwaith. Bydd adroddiad manwl pellach ar y fframwaith ar gyfer gweithredu’n cael
ei roi gerbron cyfarfod arall o’r Cabinet.
Dogfennau ategol:
- ESTABLISHING NW CJC, Eitem 9. PDF 217 KB
- ESTABLISHING NW CJC - Appendix 2021-11-17 CJC report Cabinet Eng (00000003), Eitem 9. PDF 285 KB