Eitem ar yr agenda
CYNLLUN STRATEGOL CYMRAEG MEWN ADDYSG 2022-2032
- Meeting of Cabinet, Dydd Mawrth, 14 Rhagfyr 2021 10.00 am (Item 7.)
- View the declarations of interest for item 7.
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo cyflwyno cynllun i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Ionawr 2022 gan sicrhau
cydymffurfiaeth â’r gofyniad i lunio Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg
10 mlynedd newydd.
Cofnodion:
Cyflwynodd
y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yr adroddiad yn gofyn i'r Cabinet
gymeradwyo'r Cynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg newydd i'w gyflwyno i
Lywodraeth Cymru.
Mae
gofyniad statudol i fod â Chynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg yn nodi sut y bydd
y Gymraeg yn cael ei datblygu mewn ysgolion dros y deng mlynedd nesaf. Mae’r Cyllun yn seiliedig ar
saith o ddeilliannau sy’n adlewyrchu siwrnai’r dysgwr mewn addysg y dysgwr ac
yn gyson â blaenoriaethau Cymraeg 2050 ac Addysg yng Nghymru. Ein
cenhadaeth Genedlaethol. Mae
Llywodraeth Cymru (LlC) wedi gosod targed o
rhwng 37% a 41% i Sir Ddinbych gynyddu nifer y disgyblion blwyddyn 1
sy’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg (27% o ddisgyblion Blwyddyn 1 Sir
Ddinbych yn 2021). Mae’r Cynllun newydd
yn nodi sut y bydd Sir Ddinbych yn cyrraedd y targed drwy gynyddu capasiti
ysgolion cyfrwng Cymraeg a newid dynodiad iaith rhaid ysgolion cyfrwng Saesneg. Cafwyd hefyd fanylion y broses
ymgynghori.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts at darged Llywodraeth Cymru o
filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a phwysleisiodd er bod y cynllun yn
cyfeirio at fesurau y gellir eu cymryd dros y deng mlynedd nesaf, ei fod yn
canolbwyntio ar ddim ond un elfen o ymateb cymunedol ehangach i ddatblygiad y
Gymraeg a bod ar y Cyngor hefyd gyfrifoldeb corfforaethol i ddatblygu’r Gymraeg
ledled y sir. Rhoddodd
rhagor o wybodaeth ar y saith canlyniad a nodir yn y Cynllun a sut y byddant yn
cael eu gwireddu drwy gydweithio â phartneriaid. Ychwanegodd y Pennaeth Addysg
y bydd cynllun gweithredu’n cynnal y Cynllun Strategol a fydd yn cynnwys rhagor
o fanylion ynghylch sut y bydd y Gymraeg yn cael ei datblygu a’r canlyniadau’n
cael eu gwireddu.
Atebodd
yr Aelod Arweiniol a’r Pennaeth Addysg gwestiynau’n cadarnhau nad yw targed LlC
ar gyfer cynyddu nifer y disgyblion blwyddyn 1 sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg
yn debygol o newid. Bydd
y Cynllun terfynol yn cael ei gyflwyno i LlC ym mis Ionawr a bydd ei
weithrediad yn y dyfodol yn cael ei fonitro gan Grŵp Strategol y Gymraeg
Mewn Addysg. Mae
llawer o gefnogaeth ar gael ar gyfer rhieni di-Gymraeg ac mae’r gefnogaeth hon
wedi cynyddu ymhellach yn ystod y cyfnod clo a chyflwyniad dysgu ar-lein ar
gyfer disgyblion. Fodd
bynnag derbynnir y gellir gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth o'r mater hwnnw a
faint o gefnogaeth sydd ar gael i rieni ac mae gwaith ar y gweill gyda’r Tîm
Cyfathrebu yn y cyswllt hwnnw.
Gwahoddodd
yr Arweinydd ragor o gwestiynau gan aelodau heb fod yn aelodau o'r Cabinet ac
ymatebodd swyddogion i'r pwyntiau canlynol a godwyd–
· cadarnhawyd bod ysgolion cyfrwng Saesneg wedi ymrwymo o hyd i ddatblygu'r cynllun Cymraeg Campus gydag ysgolion wedi ennill y wobr Efydd ac yn cymryd camau i ennill y wobr Arian ac yn y pen draw'r wobr Aur.
· Adroddwyd ar drafodaethau cenedlaethol ynglŷn â chyfuno Grŵp Strategol y Gymraeg mewn Addysg a Fforwm Iaith y Cyngor yn seiliedig ar arfer da gyda’r nod o wella a chryfhau’r gwaith hwn wrth symud ymlaen
· adroddwyd ar fodelu ffigyrau’r data a’r rhesymeg y tu ôl i wahanol dargedau ar gyfer canrannau’r plant 3 oed a 5 oed sy’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yng ngoleuni’r ddarpariaeth a’r presenoldeb amrywiol mewn lleoliadau cyn-ysgol sydd y tu allan i reolaeth y sir o gymharu â phlant oedran ysgol.
· eglurwyd y cymhlethdodau i ddysgwyr o dde'r sir sy'n mynychu ysgolion y tu allan i Sir Ddinbych o ran y gwahanol bolisïau derbyn, cludiant ysgol ac ati, ond cafwyd sicrwydd bod hwn yn fater a fydd yn cael ei ystyried ymhellach a’i drafod gyda’r ysgolion ac aelodau lleol.
· derbyniwyd yr heriau o ran cynyddu nifer yr athrawon sy’n siarad Cymraeg ac adroddwyd ar y camau sy’n cael eu cymryd i gynhyrchu rhagor o staff sy’n gallu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg sy’n cynnwys gwaith partneriaeth gyda phrifysgolion a GwE, mapio gallu ieithyddol i ddatblygu a gwella sgiliau staff presennol a chymryd camau i ddenu staff newydd sy’n gallu siarad Cymraeg i Sir Ddinbych.
· pwysleisiwyd eto mai trosolwg strategol a ddarperir yn y Cynllun ac y bydd cynllun gweithredol ar wahân a fydd yn cynnwys y manylion am sut y bydd hyn yn cael ei ddarparu.
· adroddwyd ar lwyddiant y rhaglen drochi yn Ysgol Glan Clwyd a chynlluniau i staff ymweld ag ysgolion eraill i gyflwyno’r ddarpariaeth hon. Mae’r angen i edrych ar ymarferoldeb darpariaeth trochi yn ne'r sir hefyd wedi’i gydnabod a'i gynnwys yn y Cynllun.
· roedd peth trafodaeth ar gontinwwm y Gymraeg a darpariaeth chweched dosbarth a chyfeiriwyd at ddogfen statudol sydd ar ddod ar ddosbarthiad newydd ysgolion pan fydd angen trafodaeth bellach ar y deilliannau ac unrhyw oblygiadau o safbwynt darpariaeth cludiant ysgolion.
· eglurwyd y sefyllfa o safbwynt Athrawon Bro gydag ysgolion yn ffafrio derbyn cyllid uniongyrchol i ddarparu cymorth gyda’r Gymraeg yn hytrach na defnyddio’r gwasanaeth hwnnw.
Roedd
y Cabinet yn falch o gefnogi’r Cynllun a chamau i ddatblygu’r Gymraeg mewn
addysg. O
ystyried y cwestiynau a’r sylwadau a gafwyd gan yr aelodau roedd yr Arweinydd
yn teimlo y byddai rhinwedd mewn cynnal Gweithdy i ystyried a thrafod y Cynllun
mewn mwy o fanylder. Cadarnhaodd
yr Aelod Arweiniol y byddai’n amserol trefnu sesiwn ar gyfer yr aelodau unwaith
y bydd y cynllun gweithredu wedi’i ddatblygu er mwyn gallu egluro’n well sut y
bydd y canlyniadau'n cael eu gwireddu a'i bod yn debyg mai yn nhymor newydd y
Cyngor y bydd hyn yn digwydd. Cydnabu’r
Cabinet hefyd bod hyrwyddo a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn fater llawer
ehangach a thynnodd y Prif Weithredwr sylw at y ffaith fod gan y Cyngor rôl i’w
chwarae nid yn unig o ran arwain a hwyluso'r gwaith o hyrwyddo’r Gymraeg a
diwylliant Cymru o fewn y sefydliad ond hefyd yn y gymuned ehangach a
chadarnhaodd ei ymrwymiad i'r gwaith hwnnw. Yng ngoleuni uchelgeisiau’r
Cyngor yn y cyswllt hwn gofynnodd yr Aelod Arweiniol bod y Gymraeg yn cael ei
gwneud yn flaenoriaeth gorfforaethol yn ystod tymor nesaf y Cyngor.
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo cyflwyniad y cynllun i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Ionawr
2022 i sicrhau cydymffurfiaeth a’r gofyniad i greu Cynllun Strategol y Gymraeg
Mewn Addysg 10 mlynedd newydd.
Ar y pwynt hwn (11.40 am) cymerodd y pwyllgor egwyl
fer.
Dogfennau ategol:
- WESP, Eitem 7. PDF 226 KB
- WESP - Appendix 1 Welsh in Education Strategic Plan DCC, Eitem 7. PDF 347 KB
- WESP WBIA, Eitem 7. PDF 95 KB