Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ASESIAD O ANGHENION LLETY SIPSIWN A THEITHWYR SIR DDINBYCH 2021

Ystyried adroddiad (sy’n cynnwys atodiad cyfrinachol)  gan y Cynghorydd Mark Young, Aelod Arweiniol Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd, Cymunedau Diogelach a Cham-drin Domestig (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Asesiad drafft Llety Sipsiwn a Theithwyr 2021 i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn

 

(a)       cadarnhau ei gefnogaeth i’r dull a fabwysiadwyd i gyflawni Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr Sir Ddinbych fel un cadarn ac un oedd yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru; a

 

(b)       cymeradwyo fersiwn ddrafft Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr 2021 i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru;

 

(c)        dirprwyo awdurdod i’r Aelod Arweiniol Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd, Cymunedau Mwy Diogel a Cham-drin Domestig i gytuno ar fân newidiadau golygyddol sydd eu hangen i’r Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr, cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru, a

 

(d)       cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mark Young yr adroddiad yn amlinellu ymdriniaeth, casgliadau ac argymhellion Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr drafft 2021 (a cheisiodd gymeradwyaeth y Cabinet i gyflwyno’r Asesiad o Anghenion drafft i Lywodraeth Cymru.

               

Mae gofyniad statudol i ymgymryd â, a chyflwyno asesiad o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr i Lywodraeth Cymru bob pum mlynedd ac yna i fynd ati i ddiwallu’r anghenion hynny.  Mae Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr  hefyd yn ofynnol ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol newydd.  Roedd manylion am y broses asesu a’i rheolaeth wedi’u darparu a oedd yn cynnwys sefydlu Bwrdd Prosiect ynghyd â Grŵp Tasg a Gorffen Craffu i gefnogi’r gwaith hwnnw.  Cwblhawyd yr asesiad ac adolygwyd y broses gan y Grŵp Tasg a Gorffen a’r Pwyllgor Craffu Cymunedau.  Gwahoddwyd y Cynghorwyr Barry Mellor a Graham Timms i adrodd ar waith y Grŵp Tasg a Gorffen a’r Pwyllgor Craffu Cymunedau yn y drefn honno.

 

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, cadeirydd y Grŵp Tasg a Gorffen, bod y grŵp wedi bod yn gysylltiedig â gwahanol gamau o'r broses asesu  ac wedi adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Craffu ar eu casgliadau.  Roedd y Grŵp yn fodlon bod yr asesiad wedi’i gynnal yn unol â methodoleg Llywodraeth Cymru a'i fod yn dilyn y Briff Gwaith cytunedig a’r Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid, ac yn argymell felly y dylid cymeradwyo’r Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr Drafft i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru  Diolchodd y Gynghorydd Graham Timms, Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau i’r Grŵp Tasg a Gorffen am eu gwaith dyfal a chytunodd fod y trefniadau a’r broses a fabwysiadwyd ar gyfer darparu’r asesiad wedi gweithio’n dda ac y dylid ystyried eu defnyddio eto yn y dyfodol wrth ddewis safleoedd posibl i fod yn lleiniau ar gyfer y gymuned Sipsiwn a Theithwyr.  Adroddodd ar drafodaethau’r Pwyllgor a'r gymeradwyaeth a roddwyd i’r broses asesu a’r argymhelliad bod y Cabinet yn cymeradwyo’r Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr  drafft i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Mark Young wybodaeth am gasgliadau’r Asesiad o Anghenion Drafft sef:

 

·         bod angen 8 llain breswyl i ddiwallu anghenion dynodedig 3 aelwyd/grwpiau teulu estynedig yn y sir, a

·         nad oes tystiolaeth o’r angen am safle tramwy parhaol oherwydd niferoedd isel gwersylloedd diawdurdod, natur tymor byr gwersylloedd a diffyg galw am y fath gyfleusterau’n lleol. 

Argymhellwyd y dylid defnyddio dull o reolaeth yn seiliedig ar arfer gorau o bob rhan o’r DU i ymdrin â gwersylloedd diawdurdod , gan gydbwyso anghenion cymunedau teithiol a chymunedau lleol.  Dylid cynnwys aelodau etholedig a’r gymuned deithiol yn natblygiad yr ymdriniaeth honno yn Sir Ddinbych i adlewyrchu’r gofynion lleol.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorwyr Mark Young, Barry Mellor a Graham Timms am y diweddariad cynhwysfawr a chydnabu waith caled pawb oedd yn rhan o hyn.  Cymeradwyodd yr ymdriniaeth a ddefnyddiwyd a alluogodd ymgysylltiad buan gydag aelodau yn y broses ac yn narpariaeth yr asesiad.  Roedd gwaith y Grŵp Tasg a Gorffen a’r Pwyllgor Craffu Cymunedau wedi'i osod allan yn glir ac roedd argymhellion y Pwyllgor Craffu wedi’u hadlewyrchu yn yr adroddiad.  Gobeithiwyd y byddai’n bosibl i waith y Grŵp Tasg a Gorffen barhau yng nghamau nesaf y broses wrth ddewis safleoedd posibl ar gyfer y lleiniau.  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts ynghylch canlyniad gwahanol yr asesiad diweddaraf, sef nad oes angen dynodedig am safle tramwy parhaol, cadarnhawyd mai casgliad yr Ymgynghorwyr Annibynnol, ar ôl ymgymryd â’r asesiad yn unol â methodoleg Llywodraeth Cymru, oedd nad oes angen safle tramwy parhaol.  Mae’n ofynnol cynnal asesiad bob pum mlynedd ac mae’n debygol y bydd amgylchiadau’n newid yn ystod y cyfnod hwnnw.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn

 

(a)       cadarnhau ei gefnogaeth i’r dull o fynd ati i gyflawni Asesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr Sir Ddinbych fel un cadarn ac un a oedd yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru;

 

(b)       Cymeradwyo’r Asesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr drafft 2021 i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

(c)        Dirprwyo awdurdod i’r Aelod Arweiniol Cynllunio, Diogelu’r Cyhoedd, Cymunedau Diogelach a Cham-drin Domestig gytuno ar unrhyw  fân newidiadau golygyddol sy’n angenrheidiol i’r Asesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr drafft cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

(d)       cadarnhau ei fod wedi darllen, yn deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Dogfennau ategol: