Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYMERADWYO CAIS CRONFA CODI’R GWASTAD LLYWODRAETH Y DU – ETHOLAETH DYFFRYN CLWYD

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol (copi ynghlwm) yn ceisio awdurdod dirprwyedig i'r swyddogion a enwir a'r Arweinydd i gytuno i gyflwyno cais i Lywodraeth y DU gan Gyngor Sir Ddinbych ar gyfer etholaeth Dyffryn Clwyd.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn

 

(a)       cefnogi thema’r cais, y prosiectau arfaethedig i gael eu cynnwys yn y cais a gwerth dangosol eang pob prosiect, a

 

(b)       dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr a Phennaeth Cynllunio,  Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd a’r Arweinydd, i fireinio’r prosiectau a chostau’r prosiect fel y bo angen a chytuno i gyflwyno cais i Lywodraeth y DU gan Gyngor Sir Ddinbych ar gyfer etholaeth Dyffryn Clwyd.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo dirprwyo awdurdod i'r diben o gytuno ar gais am gyllid Codi’r Gwastad i’w gyflwyno i Lywodraeth y DU gan Gyngor Sir Ddinbych ar gyfer Etholaeth Dyffryn Clwyd.  Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion am thema’r cais ynghyd â’r prosiectau arfaethedig a gwerth dangosol bras pob prosiect.

 

Bwriad Cronfa Codi’r Gwastad y DU yw cefnogi buddsoddiad mewn mannau ble gall wneud y gwahaniaeth mwyaf i fywyd bob dydd a bydd yn cael ei ddarparu drwy awdurdodau lleol yn seiliedig ar ardaloedd etholaeth.  Mae tair ardal etholaeth yn Sir Ddinbych ac roedd yr adroddiad yn cynrychioli’r trydydd cais i’w roi gerbron y Cabinet er ystyriaeth yn dilyn cymeradwyo cais ar gyfer De Clwyd (a gyflwynwyd yn rownd 1 ac a oedd yn llwyddiannus) a Gorllewin Clwyd (a roddwyd gerbron y cyfarfod diwethaf i’w gyflwyno yn rownd 2). Pe cymeradwyid y cais byddai’r ceisiadau at ei gilydd yn werth cyfanswm o oddeutu £35 miliwn o fuddsoddiad yn Sir Ddinbych a thalwyd teyrnged i bawb a oedd yn rhan o'r broses o baratoi'r prosiectau angenrheidiol yn barod i'w cyflwyno o fewn cyfraddau amser tynn.   Cafwyd sicrwydd y bydd rhagor o waith yn cael ei wneud ar y prosiectau hynny na chawsant eu cynnwys yn y cais gyda’r nod o geisio dod o hyd i ffynonellau priodol eraill o incwm i’w datblygu a bydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda Llywodraethau Cymru a’r DU i sicrhau'r ddarpariaeth orau ar gyfer y sir.

 

Roedd cais Dyffryn Clwyd yn ymwneud â dau brosiect cydlynol yn targedu Adfywio Canol Trefi ac Adfywio Amgylcheddol ac os yn llwyddiannus byddant yn dod â manteision sylweddol ac yn cael effaith gadarnhaol ar yr ardal.  Gweithiwyd yn agos â James Davies AS a oedd wedi cadarnhau ei fod yn llwyr gefnogi'r cais.  Gofynnwyd i’r Cabinet felly gefnogi cyflwyniad y cais i Lywodraeth y DU.

 

Roedd y Cabinet yn cefnogi argymhellion yr adroddiad a’r buddsoddiad posibl yn yr ardal.  Yng ngoleuni’r cyfraddau amser tynn ar gyfer darparu’r prosiectau, amlygodd aelodau’r angen am benderfyniad cyflym ac os yn llwyddiannus, rhyddhad di-oed y cyllid er mwyn symud y prosiectau yn eu blaen erbyn Mawrth 2024. Disgwylir y bydd yn rhaid cyflwyno’r ceisiadau erbyn dechrau'r gwanwyn a rhoddodd swyddogion sicrwydd bod deialog ar y gweill gyda swyddogion Llywodraeth y DU yn y cyswllt hwnnw ac er mwyn cyflymu'r broses a galluogi darparu'r prosiectau o fewn y cyfraddau amser.   Nododd y Cabinet hefyd bod angen 10% (tua £2m) o arian cyfatebol ar gyfer cais Dyffryn Clwyd ac mae posibilrwydd o ddefnyddio’r arian cyfatebol hwnnw wrth aros am arian y Codi’r Gwastad os yw’r cais yn llwyddiannus.  Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau nad oeddent ar y Cabinet cadarnhawyd bod prosiectau wedi'u cyflwyno ar gyfer ardaloedd gwledig fel rhan o'r broses ond y buont yn aflwyddiannus am nad oeddent yn cwrdd â’r meini prawf na'r cyfraddau amser angenrheidiol ar gyfer y Gronfa Codi'r Gwastad.  O ran y prosiect yn ymwneud ag Ysbyty Dinbych cafwyd eglurhad ar y gwahaniaethau rhwng y cyllid Cronfa Codi'r Gwastad yr oedd cais yn cael ei wneud amdano sy'n canolbwyntio ar gysylltu'r safle'n agosach â’r dref ac o bosibl galluogi datblygu ynghynt, tra byddai'r cyllid Bargen Twf yn canolbwyntio ar fuddsoddiad yn y safle i hwyluso'r datblygiad tai.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn

 

(a)       yn cefnogi thema’r cais, y prosiectau arfaethedig i’w cynnwys yn y cais a gwerth dangosol bras pobl prosiect a,

 

(b)       Dirprwyo awdurdod i’r Prif Swyddog Gweithredol a’r Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Adran 151, Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd a’r Arweinydd, i freinio’r prosiectau a chostau’r prosiectau fel sy’n ofynnol, a chytuno ar gais i’w gyflwyno i Lywodraeth y DU gan Gyngor Sir Ddinbych ar gyfer Etholaeth Dyffryn Clwyd.

 

 

Dogfennau ategol: