Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGU CHWE TRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HUR PREIFAT

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio, Adfywio a Rheoleiddio (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r aelodau adolygu chwe trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hur preifat oherwydd methu â chydymffurfio â gofyniad  Cyngor i ymgymryd â phrawf gwybodaeth gyrrwr yn llwyddiannus

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (JT) adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio, Adfywio a Rheoleiddio (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r aelodau ystyried addasrwydd chwe Ymgeisydd, rhifau 040517; 038993; 039711; 039820; 039981 and 039853 (adroddiadau unigol cyfatebol wedi eu rhestru yn Atodiadau 1 – 6 i’r prif adroddiad) i barhau fel gyrwyr trwyddedig ar ôl iddynt fethu â chydymffurfio â gofyniad y Cyngor i ymgymryd â phrawf gwybodaeth gyrrwr o fewn yr amserlen a bennwyd.

 

Wrth ystyried yr adroddiadau, holwyd rhai cwestiynau cyffredinol i’r swyddogion mewn perthynas â chyflwyno’r profion a’r prosesau ar gyfer gyrwyr presennol ynghyd â chynnwys y prawf gwybodaeth a manylion cyfraddau llwyddo. Mynegodd yr aelodau beth pryder ynglŷn â’r diffyg ymateb gan y gyrwyr trwyddedig er gwaethaf cael eu hatgoffa nifer o weithiau, a dywedodd y swyddogion nad oedd y rhai nad oeddynt wedi cydymffurfio â gofyniad y Cyngor i gymryd y prawf yn perthyn i un cwmni neu weithredwr. Ystyriodd yr aelodau yr amgylchiadau unigol a oedd yn ymwneud â phob Ymgeisydd ar wahân, gan drin pob achos ar ei haeddiannau ei hun, fel a ganlyn -

 

(1) Ymgeisydd Rhif 038993 (Atodiad 2) – Dyddiad adnewyddu 31 Gorffennaf 2012

 

Roedd yr Ymgeisydd wedi methu prawf gwybodaeth gyrrwr ar 2 Awst 2011. Ers hynny, anfonwyd 4 llythyr atgoffa at yr Ymgeisydd ac roedd wedi ei hysbysu ar 14 Mai 2012 y byddai’r mater yn cael ei gyfeirio i’r Pwyllgor Trwyddedu. Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol i gefnogi ei achos, ac yn ystod ei gyflwyniad, gofynnodd nifer o gwestiynau i’r swyddogion a chwestiynu dilysrwydd penderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu ar 23 Mehefin 2010 i ymestyn y prawf gwybodaeth i yrwyr presennol. Sefydlwyd bod y Pwyllgor Trwyddedu ar 23 Mehefin 2010 wedi penderfynu cyflwyno’r prawf i ymgeiswyr newydd a gyrwyr trwyddedig presennol adeg adnewyddu. Gofynnodd y Cadeirydd i’r Ymgeisydd gyfyngu ei gyflwyniad i’r rhesymau pam nad oedd wedi ymgymryd â’r prawf gwybodaeth yn llwyddiannus yn unol â’r gofyn.

 

Dywedodd yr Ymgeisydd (1) mai ei ddealltwriaeth ef o gydarfod Pwyllgor Trwyddedu 23 Mehefin 2010 oedd cyflwyno’r prawf gwybodaeth i ymgeiswyr newydd yn unig ac nid i yrwyr presennol, a (2) er gwaethaf ceisiadau, nid oedd wedi cael y ‘llyfr glas’ (Amodau Trwyddedu Cerbydau Hacni a Cherbydau Hur Preifat) ar yr hwn yr oedd rhai o’r cwestiynau yn y prawf gwybodaeth wedi eu seilio, a (3), roedd ganddo gyfrifoldebau eraill a galwadau ar ei amser yn ystod y deuddeg mis diwethaf ac nid oedd wedi cael cyfle i gymryd y prawf. Dywedodd hefyd nad oedd y tyst a oedd wedi dymuno ei alw i gefnogi ei achos ar gael.

 

Cymerodd yr aelodau y cyfle i holi’r Ymgeisydd mewn perthynas â’i gred nad oedd y prawf yn berthnasol i yrwyr presennol a’r ymdrechion a wnaeth i gael copi o’r ‘llyfr glas’. Mewn ymateb i gwestiwn uniongyrchol, cadarnhaodd yr Ymgeisydd y byddai’n barod i ail-sefyll y prawf gwybodaeth. Dywedodd nad oedd yn dymuno gwneud datganiad terfynol ond diolchodd i’r aelodau am y cyfle i gyflwyno ei achos.

 

Ar y pwynt hwn, ymneilltuodd y pwyllgor i ystyried yr achos ac fe –

 

BENDERFYNWYD gohirio ystyried addasrwydd Ymgeisydd Rhif 038993 er mwyn galluogi i’r Ymgeisydd gael copi o Amodau Trwyddedu Cerbydau Hacni a Cherbydau Hur Preifat a chyfle i sefyll y prawf gwybodaeth yn y saith diwrnod nesaf. Pe byddai’r Ymgeisydd yn methu â sefyll y prawf gwybodaeth yn llwyddiannus, byddai’r mater yn dod yn ôl gerbron y pwyllgor.

 

Roedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu fel a ganlyn -

 

Roedd yr Ymgeisydd wedi bod yn yrrwr am gyfnod maith a nodwyd ei barodrwydd i ail-sefyll y prawf gwybodaeth. Yn wyneb y resymau a roddwyd gan yr Ymgeisydd pam nad oedd wedi ymgymryd â’r prawf yn llwyddiannus hyd yma, roedd yr aelodau yn ystyried ei bod yn rhesymol ei fod yn cael cyfle arall i sefyll y prawf. Fodd bynnag, pe na byddai’n cymryd y cyfle i gwblhau’r prawf yn llwyddiannus byddai’r mater yn cael ei ddwyn yn ôl gerbron y pwyllgor i’w ystyried ymhellach.

 

Ar y pwynrt hwn (3.10 p.m.) torrodd y cyfarfod ar gyfer egwyl luniaeth.

 

(2) Ymgeisydd Rhif 040517 (Atodiad 1) – Dyddiad Adnewyddu 31 Awst 2011

 

Anfonwyd saith llythyr atgoffa at yr Ymgeisydd ers dyddiad adnewyddu ei drwydded ond nid oedd wedi gwneud unrhyw ymdrech i gysylltu â swyddogion. Ar 20 Ebrill 2012 hysbyswyd yr Ymgeisydd y byddai’r mater yn cael ei gyfeirio at y Pwyllgor Trwyddedu i’w ystyried. Ni chafwyd unrhyw ymateb gan yr Ymgeisydd ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Ar y pwynt hwn, ymneiltuodd y pwyllgor i ystyried yr achos ac fe –

 

BENDERFYNWYD atal Ymgeisydd Rhif 040517 am gyfnod o dri mis, yn ystod yr hwn y cawsai’r cyfle i ymgymryd â’r prawf gwybodaeth gyrrwr. Os na fyddai’r Ymgeisydd yn ymgymryd â’r prawf yn llwyddiannus, byddai’r mater yn cael ei ddwyn gerbron y pwyllgor i’w ystyried ymhellach. Byddai cwblhau’r prawf yn llwyddiannus o fewn y cyfnod atal tri mis yn arwain at godi’r ataliad.

 

Roedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu fel a ganlyn -

 

Nid oedd yr ymgeisydd wedi gwneud unrhyw ymdrech i gysylltu â swyddogion er gwaethaf llythyrau atgoffa ac nid oedd wedi son pryd y byddai’n cymryd y prawf. Yn wyneb methiant yr Ymgeisydd i gydymffurfio â gofyniad y Cyngor ac ymateb i’r awdurdod trwyddedu, ystyriwyd ei bod yn briodol atal y drwydded ond rhoi cyfle i’r Ymgeisydd gwblhau’r prawf yn llwyddiannus a chadw ei drwydded.

 

(3) Ymgeisydd Rhif 039711 (Atodiad 3) – Dyddiad Adnewyddu 30 Medi 2011

 

Anfonwyd chwe llythyr atgoffa at yr Ymgeisydd ers dyddiad adnewyddu ei thrwydded ond nid oedd wedi ceisio cysylltu â’r swyddogion o gwbl. Ar 20 Ebrill 2012 hysbyswyd yr Ymgeisydd y byddai’r mater yn cael ei gyfeirio at y Pwyllgor Trwyddedu, ac roedd wedyn wedi cysylltu â swyddogion i drefnu sefyll y prawf. Yn anffodus roedd yr Ymgeisydd wedi methu’r prawf y diwrnod blaenorol ac roedd i sefyll y prawf eto y diwrnod canlynol. Nid oedd yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Ar y pwynt hwn, ymneilltuodd y pwyllgor i ystyried yr achos ac fe –

 

BDNERFYNWYD gohirio ystyried addasrwydd Ymgeisydd Rhif 039711 er mwyn rhoi cyfle i’r Ymgeisydd ail-sefyll y prawf gwybodaeth gyrrwr. Pe na byddai’r Ymgeisydd yn sefyll y prawf yn llwyddiannus byddai’n arwain at ddwyn y mater yn ôl gerbron y pwyllgor i’w ystyried.

 

Roedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu fel a ganlyn -

 

Roedd yr Ymgeisydd wedi dangos ei pharodrwydd i gymryd y prawf gwybodaeth ac wedi trefnu ail-sefyll y prawf y diwrnod canlynol. Felly, ystyriwyd ei bod yn briodol rhoi cyfle pellach i’r Ymgeisydd gwblhau’r prawf yn llwyddiannus. Pe na byddai’r Ymgeisydd yn cwblhau’r prawf yn llwyddiannus, byddai’r mater yn cael ei ddwyn yn ôl gerbron y pwyllgor i’w ystyried.

 

 (4) Ymgeisydd Rhif 039820 (Atodiad 4) – Dyddiad Adnewyddu 31 Hydref 2011

 

Anfownyd pedwar llythyr atgoffa at yr Ymgeisydd ers dyddiad adnewyddu ei drwydded ac fe’i hysbyswyd ar 30 Ebrill y byddai'r mater yn cael ei gyfeirio at y Pwyllgor Trwyddedu. Cysylltodd yr Ymgeisydd â’r Swyddog Trwyddedu i drefnu sefyll y prawf ar 23 Mai 2012 ond ni fynychodd yr apwyntiad. Ers hynny roedd yr Ymgeisydd wedi trefnu sefyll y prawf y diwrnod canlynol. Nid oedd yr Ymgeisydd wedi mynychu’r cyfarfod i gefnogi ei achos oherwydd salwch.

 

Ar y pwynt hwn, ymneilltuodd y pwyllgor i ystyried yr achos ac fe –

 

BENDERFYNWYD gohirio ystyried addasrwydd Ymgeisydd Rhif 039820 i roddi cyfle i’r Ymgeisydd sefyll y prawf gwybodaeth. Pe na byddai’r Ymgeisydd yn ymgymryd â’r prawf yn llwyddiannus byddai’n arwain at ddwyn y mater yn ôl gerbron y pwyllgor i’w ystyried.

 

Roedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu fel a ganlyn -

 

Roedd yr Ymgeisydd wedi dangos ei barodrwydd i gymryd y prawf gwybodaeth ac wedi trefnu sefyll y prawf y diwrnod canlynol. Felly, ystyriwyd ei bod yn briodol rhoi cyfle i’r Ymgeisydd gwblhau’r prawf yn llwyddiannus. Pe na byddai’r Ymgeisydd yn cwblhau’r prawf yn llwyddiannus, byddai’r mater yn cael ei ddwyn yn ôl gerbron y pwyllgor i’w ystyried.

 

(5) Ymgeisydd Rhif 039981 (Atodiad 5) – Dyddiad Adnewyddu 31 Hydref 2011

 

Anfonwyd pum llythyr atgoffa at yr Ymgeisydd ers dyddiad adnewyddu ei drwydded ond nid oedd wedi gwneud unrhyw ymdrech i gysylltu â swyddogion. Ar 30 Ebrill 2012 hysbyswyd yr Ymgeisydd y byddai’r mater yn cael ei gyfeirio at y Pwyllgor Trwyddedu i’w ystyried. Ni chafwyd unrhyw ymateb gan yr Ymgeisydd ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Ar y pwynt hwn, ymneilltuodd y pwyllgor i ystyried yr achos ac fe –

 

BENDERFYNWYD atal Ymgeisydd Rhif 039981 am gyfnod o dri mis, yn ystod yr hwn y cawsai’r cyfle i ymgymryd â’r prawf gwybodaeth gyrrwr. Os na fyddai’r Ymgeisydd yn ymgymryd â’r prawf yn llwyddiannus, byddai’r mater yn cael ei ddwyn gerbron y pwyllgor i’w ystyried ymhellach. Byddai cwblhau’r prawf yn llwyddiannus o fewn y cyfnod atal tri mis yn arwain at godi’r ataliad.

 

Roedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor trwyddedu fel a ganlyn -

 

Nid oedd yr ymgeisydd wedi gwneud unrhyw ymdrech i gysylltu â swyddogion er gwaethaf llythyrau atgoffa ac nid oedd wedi son pryd y byddai’n cymryd y prawf. Yn wyneb methiant yr Ymgeisydd i gydymffurfio â gofyniad y Cyngor ac ymateb i’r awdurdod trwyddedu, ystyriwyd ei bod yn briodol atal y drwydded ond rhoi cyfle i’r Ymgeisydd gwblhau’r prawf yn llwyddiannus a chadw ei drwydded.

 

(6) Ymgeisydd Rhif 039853 (Atodiad 6) – Dyddiad Adnewyddu 31 Hydref 2011

 

Anfonwyd pum llythyr atgoffa at yr Ymgeisydd ers dyddiad adnewyddu ei drwydded ond nid oedd wedi gwneud unrhyw ymdrech i gysylltu â swddogion. Ar 30 Ebrill 2012 hysbyswyd yr Ymgeisydd y byddai’r mater yn cael ei gyfeirio at y Pwyllgor Trwyddedu i’w ystyried ac roedd wedyn wedi cysylltu â'r swyddogion i drefnu sefyll y prawf. Yn anffodus, roedd wedi methu’r prawf y diwrnod blaenorol ac roedd i ail-sefyll yn fuan. Nid oedd yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Ar y pwynt hwn, ymneilltuodd y pwyllgor i ystyried yr achos ac fe –

 

BENDERFYNWYD gohirio ystyried addasrwydd Ymgeisydd Rhif 0389853 er mwyn rhoi cyfle i’r Ymgeisydd ail-sefyll y prawf. Pe na byddai’r Ymgeisydd yn ymgymryd â’r prawf yn llwyddiannus, byddai’r mater yn cael ei ddwyn yn ôl gerbron y pwyllgor i’w ystyried.

 

Roedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu fel a ganlyn -

 

Roedd yr Ymgeisydd wedi dangos ei barodrwydd i gymryd y prawf gwybodaeth ac wedi trefnu ail-sefyll y prawf y diwrnod canlynol. Felly, ystyriwyd ei bod yn rhesymol rhoi cyfle i’r Ymgeisydd gwblhau’r prawf yn llwyddiannus. Pe na byddai’r Ymgeisydd yn cwblhau’r prawf yn llwyddiannus, byddai’r mater yn cael ei ddwyn yn ôl gerbron y pwyllgor i’w ystyried.

 

Dogfennau ategol: