Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DIGWYDDIAD LLIFOGYDD 20 IONAWR 2021 - ADRODDIAD YMCHWILIO LLIFOGYDD ADRAN 19

Ystyried adroddiad gan y Peiriannydd Perygl Llifogydd, Wayne Hope, o’r ymchwiliad i’r llifogydd ar 20 Ionawr 2021 (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Brian Jones, Adroddiad Ymchwiliad i Lifogydd Adran 19 - Llifogydd 20 Ionawr 2021.

 

Ar 20 Ionawr 2021, cafwyd llifogydd helaeth ar draws Sir Ddinbych o ganlyniad i Storm Christoph. Cynhaliodd swyddogion y Cyngor, yn ogystal â swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru, ymchwiliadau i’r llifogydd yn unol ag Adran 19 y Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr.  Cynhaliwyd yr ymchwiliad er mwyn dod i ddeall y rhesymau pam y digwyddodd y llifogydd, pa mor debygol oedd hi y byddent yn digwydd eto ac i asesu a ellid sefydlu mesurau i leihau llifogydd yn y dyfodol.

 

Prif ffynonellau llifogydd mis Ionawr 2021 oedd yr Afon Clwyd, yr Afon Ystrad a’r Afon Alyn.  Roedd y rhain yn cael eu cyfrif yn brif afonydd, a chyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru oedd cynnal ymchwiliad manwl o bob un o leoliadau’r llifogydd. Roedd pum lleoliad gwahanol wedi’u heffeithio gan lifogydd o brif afonydd. Roedd y rhain yn amrywio o gymunedau mawr fel Rhuthun a Dinbych (Brwcws), i eiddo unigol ynysig o fewn cymunedau Llandyrnog, Llanrhaeadr a Llanarmon yn Iâl.

 

Cafwyd hefyd rywfaint o lifogydd dŵr wyneb lleol yng nghymunedau Llanynys, Llanfair Dyffryn Clwyd, Llanelwy, Bodelwyddan a Dyserth, a chafodd y gymuned olaf honno hefyd lifogydd o’r rhan o’r cwrs dŵr cyffredin a elwir yn Afon Ffyddion. Cyfrifoldeb Cyngor Sir Ddinbych, fel Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, oedd ymchwilio i’r digwyddiadau.

 

Roedd Adroddiad yr Ymchwiliad eisoes wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu, ac yn dilyn hynny, roedd y gwaith o fynd drwy’r argymhellion yn mynd rhagddo. 

 

Yn dilyn yr achosion o lifogydd, sefydlwyd Grŵp Tasg a Gorffen Llifogydd a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Sir Ddinbych, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru, ynghyd â chynrychiolwyr o Undeb yr Amaethwyr. Bydd y Grŵp Tasg a Gorffen yn cyflwyno adroddiad ffurfiol i’r Cyngor Llawn cyn Ebrill 2022.

 

Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, Tony Ward, wrth yr aelodau bod y Rheolwr Risg ac Asedau, Tim Towers, y Peiriannydd Perygl Llifogydd, Wayne Hope, a chynrychiolydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn bresennol yn y cyfarfod i ateb unrhyw gwestiynau.

 

Yn ystod y trafodaethau, codwyd y pwyntiau canlynol:

·         Mewn perthynas â’r llifogydd yn Stryd y Felin a Stryd Clwyd, Rhuthun, mae lefel y bwnd wedi cael ei godi, ond holodd yr aelodau lleol sut y dylent ymateb os yw llifogydd yn debygol o ddigwydd yn y dyfodol.  Hefyd, a fyddai’n bosib archwilio bod y draeniau’n glir yn fwy rheolaidd nag a wneir ar hyn o bryd, e.e. bob tri mis.   Cadarnhaodd y swyddogion bod adolygiad cynhwysfawr wrthi’n cael ei gynnal mewn perthynas â systemau draenio’r priffyrdd.   Oherwydd amser cynnal yr adolygiad, byddai’n canolbwyntio ar fannau problemus systemau draenio’r priffyrdd.  Gwnaed gwaith gwella i arglawdd Cae Ddol er mwyn codi rhannau penodol o’r arglawdd.  Sefydlwyd Grŵp Llifogydd Partneriaeth ac roedd gwaith ar y gweill gyda Chyngor Tref Rhuthun i sicrhau bod y gymuned yn cael ei chynnwys.

·         Cadarnhawyd bod CNC yn cynnal gwaith modelu er mwyn ymchwilio i lifogydd yn y dyfodol ac effaith y newid yn yr hinsawdd.

·         Codwyd y ffaith na chynhwyswyd Pont Llannerch yn adroddiad yr ymchwiliad i’r llifogydd.  Eglurwyd bod yr ymchwiliad i’r llifogydd wedi canolbwyntio ar eiddo a lle’r oedd perygl i fywydau. Cadarnhaodd y swyddogion hefyd nad oedd gofyn i’r ymchwiliad gynnwys seilwaith, ond bod cynlluniau’n cael eu datblygu i ganfod cyfleoedd am gyllid i ddisodli’r bont.

·         Cadarnhawyd y gallu i wrthsefyll stormydd, gan fod timau wrth gefn ynghyd â chontractwr ar gael i helpu. Roedd gwybodaeth mewn perthynas ag ymateb i stormydd ar gael ar wefan CNC.

·         Roedd ardal Rhuddlan mewn perygl o nifer o ffynonellau, a gwnaed rhywfaint o waith yn yr ardaloedd mewn perygl. Cadarnhawyd ei bod yn her ceisio rheoli llif afonydd a llifddwr afonol, ond bod cynlluniau gwaith wedi’u sefydlu gyda’r timau perthnasol i leihau’r risg.

·         Roedd cynlluniau’n dal i fynd rhagddynt mewn perthynas â Chynllun Amddiffyn Rhag Llifogydd Dyserth, ac roedd y cynllun wedi cyrraedd y cam datblygu.

·         Roedd gwaith yn mynd rhagddo i ymchwilio i fanteision plannu coed yn y dyfodol, ac roedd CSDd a CNC yn cydweithio’n agos ar hyn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Brian Jones y dylid cymeradwyo adroddiad yr ymchwiliad, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Christine Marston.

 

Cynhaliwyd pleidlais a chytunwyd yn unfrydol y dylid cymeradwyo adroddiad yr ymchwiliad.

 

Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolydd CNC a’r swyddogion am yr adroddiad cynhwysfawr ac am ddod i gyfarfod y Cyngor Llawn.

 

PENDERFYNWYD:

(i)             y byddai’r aelodau’n ystyried  adroddiad yr ymchwiliad i’r llifogydd ac yn rhoi eu hadborth a’u sylwadau;

(ii)           y byddai’r Cyngor yn ceisio sicrwydd gan Gyfoeth Naturiol Cymru y bydd yr argymhellion a nodwyd yn adroddiadau ymchwiliadau llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu cyflawni.

 

Dogfennau ategol: