Eitem ar yr agenda
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD
Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Cofnodion:
Dim materion brys.
Ar y pwynt hwn fe gyflwynodd y Cynghorydd Arwel
Roberts Ddeiseb i’r Cyngor Llawn yn ymwneud â Ffordd Abergele yn Rhuddlan.
Nododd fod problem wedi bod gyda gyrwyr yn anwybyddu’r terfyn cyflymder ar hyd
Ffordd Abergele ac roedd y ddeiseb yn galw am ostwng y terfyn cyflymder o 40
milltir yr awr i 30 milltir yr awr ar hyd y ffordd. Diolchodd y Cynghorydd Roberts i Gyngor Tref
Rhuddlan am brynu dyfais sy’n dangos cyflymder a hefyd i Gyngor Sir Ddinbych am
drefnu i leoli’r ddyfais. Roedd y
ddeiseb hefyd yn galw am groesfan i gerddwyr, preswylwyr ac ymwelwyr am resymau
diogelwch pan fyddant yn ceisio croesi’r ffordd ac roedd yna angen mawr am fwy
o balmentydd is ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn. Cadarnhaodd y Cynghorydd Roberts y byddai’n
trosglwyddo’r ddeiseb i’r swyddogion priffyrdd yn Ninbych.
Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol,
AD a Democrataidd y byddai ymateb yn cael ei anfon i’r Cynghorydd Arwel Roberts
o fewn 14 diwrnod wedi i’r ddeiseb gael ei derbyn gan yr adran berthnasol.
Yn y cyswllt hwn, gofynnodd y Cynghorydd Glenn Swingler gwestiwn:
“A wnaethpwyd unrhyw
gynnydd dros y 4 blynedd anodd ddiwethaf i rwystro a hefyd i gefnogi’r
teuluoedd hynny o Sir Ddinbych sydd mewn perygl o gael eu gwneud yn ddigartref,
heb fod bai arnynt o gwbl?”
Ymateb gan Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth – “diolch am
eich cwestiwn ac am eich diddordeb parhaus ac empathi tuag at
ddigartrefedd. Fel y dywedwyd gennych,
gall unrhyw un gael ei wneud yn ddigartref, heb fod bai arno o gwbl. Mae cynnydd wedi ei wneud, a gwnaed pob
ymdrech i gefnogi teuluoedd sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Fy uchelgais i yn y pen draw fyddai gweld
diwedd ar ddigartrefedd yma yn Sir Ddinbych.
Er bod cynnydd strategol da wedi ei wneud, bydd rhai datrysiadau’n
cymryd ychydig yn fwy o amser i gael eu cyflawni’n llawn. Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn gyfnod
anodd, yn enwedig i’r gwasanaeth hwn.
Mae’r pandemig yn bendant wedi cynyddu’r llwyth gwaith, ac mae swyddi
gweigion yn parhau i effeithio ar ein gwasanaeth digartrefedd. Mae gennym strwythur newydd a fydd yn
canolbwyntio ar rwystro digartrefedd, ac ’rydym wedi ymgysylltu’n agosach â’r
gwasanaeth tai. Mae gostyngiad wedi bod
yn nifer y teuluoedd sy’n cael eu hystyried yn ddigartref. Mae hyn, yn amlwg, yn rhannol o ganlyniad i
Lywodraeth Cymru yn rhwystro achosion o droi allan yn ystod y pandemig. Ond fel y bydd hyn dod i ben, mae’n debyg
iawn y gwelwn bobl yn dod at y gwasanaeth eto.
’Rydym yn y broses o dendro am gontract ymyrraeth gynnar Grant Cymorth
Tai. Bydd hyn yn golygu cyfryngu, er
enghraifft, gyda Landlordiaid, clirio dyledion efallai, cynorthwyo gydag
ôl-ddyledion rhent, a chynorthwyo gyda phob math o faterion teuluol
eraill. ’Rydym wedi bod yn cynnal
prosiect peilot gyda Civica dros y 12 mis diwethaf, sydd wedi bod yn
llwyddiannus ac, mewn gwirionedd, wedi rhwystro 84 o aelwydydd rhag mynd yn
ddigartref. ’Rydym hefyd wedi defnyddio
cyllid y rhaglen Grant Cymorth Tai i ddatblygu tîm gweithwyr cefnogi
tenantiaeth arbenigol, sydd yn gweithio ledled y sir a’r sector rhentu preifat
er mwyn ceisio atal pobl rhag mynd yn ddigartref yn y lle cyntaf. Lansiwyd grant caledi i denantiaid yn
gynharach eleni gan Lywodraeth Cymru er mwyn ceisio cynorthwyo’r rhai sydd mewn
ôl-ddyledion. ’Rydym wedi annog pobl i
wneud cais am y grant hwn ond, yn anffodus, nid yw’r niferoedd sydd wedi gwneud
cais wedi bod mor uchel â’r disgwyl.
’Rydym wedi bod yn gweithio hefyd gyda’r gwasanaeth tai a chyda
Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, er mwyn manteisio ar atal dros dro’r
polisi Un Llwybr Mynediad at Dai, sydd wedi arwain at roi tenantiaeth barhaol i
99 o aelwydydd. Pan ddarllenais yr
wybodaeth ddiweddaraf gan yr archwilio mewnol, sydd yn mynd gerbron y Pwyllgor
Craffu Partneriaethau ar 16 Rhagfyr, cefais fy sicrhau ei fod wedi gwella’n
dda. I ddweud y gwir, pan gyrhaeddais y diwedd ’roeddwn wedi synnu pan sylwais
fod y sgôr sicrwydd yn parhau i fod yn isel.
’Roedd hyn yn aflonyddu arnaf, felly siaradais â Lisa Harte o’r
Archwilio Mewnol, ac ’roedd hi’n cytuno gyda mi ein bod wedi gwneud cynnydd ond
oherwydd nad oedd rhai adrannau heb gael sylw digonol ’roedd yn rhaid i’r sgôr
sicrwydd aros yn isel.
Bydd adroddiad llawn a gonest yn mynd gerbron y Pwyllgor Craffu
Partneriaethau ar 16 Rhagfyr, a bydd amser ar gyfer cwestiynau ac atebion manwl
yr aelodau, ond ’rwy’n gobeithio y bydd yr eglurhad byr hwn yn ddigon ar hyn o
bryd. Mae Ann Lloyd, Pennaeth y
Gwasanaeth, a Nicola Stubbins, y Cyfarwyddwr Corfforaethol sy’n gyfrifol am
wasanaethau cymdeithasol, yma’r bore yma, pe hoffech ofyn cwestiwn atodol.”
Cadarnhaodd y Cynghorydd Swingler y byddai’n gofyn
cwestiwn atodol a diolchodd i’r Aelod Arweiniol am yr ymateb cynhwysfawr ac
roedd am iddo gael ei nodi ei fod yn cefnogi’r Tîm Atal Digartrefedd a oedd wedi gwneud gwaith
ardderchog.
“A yw ad-drefnu wedi gweithio neu a oes rhagor o
waith i’w wneud a pha mor ddrwg yw’r lefelau staffio?”
Ymatebodd y Cynghorydd Bobby Feeley i'r cwestiwn
atodol fel a ganlyn:
“mae am
weithio ond mae’n ddyddiau cynnar iawn. Roedd angen ymagwedd fwy cyfannol tuag
at ddigartrefedd a’i atal rhag digwydd yn y lle cyntaf a dyna pam mae strwythur
newydd. Rydym wedi gwella o ran staffio
ond mae gennym 1 swydd wag.”
Ymatebodd Ann Lloyd fel a ganlyn:
“Yn dilyn ymgynghoriad, fe wnaethom lenwi’r swyddi
ond, yn anffodus, fe wnaethom golli rhai aelodau o’r tîm oherwydd iddynt
ymgeisio am swyddi eraill o fewn y Cyngor, felly rydym wedi gweld newid
sylweddol o ran y tîm staffio ers yr ymgynghoriad ac i lawer ohonynt, roedd
hynny’n ddyrchafiad, felly roedd yn newyddion da iddyn nhw ond nid i ni. Mae
wedi cymryd ychydig o amser i ni gael y tîm mewn sefyllfa sefydlog ond mae’r
holl swyddi roeddem eu heisiau yn ein tîm amlddisgyblaethol yno. Mae gennym
gwnselydd penodol, ymarferydd iechyd meddwl penodol, rôl rheolwr troseddwyr
penodol, a gweithiwr cymdeithasol yn y tîm. Rydym wrthi’n cyflwyno’r rôl
derfynol, sef unigolyn iechyd meddwl / camddefnyddio sylweddau sydd ar
secondiad o Betsi Cadwaladr. Bydd gan yr unigolyn fynediad at yr holl
ddarpariaeth prif ffrwd drwy wasanaethau Betsi Cadwaladr ar gyfer camddefnyddio
sylweddau ac iechyd meddwl ond bydd yn weithiwr penodol i’r tîm digartrefedd,
felly’n canolbwyntio ar yr unigolion hynny ag anghenion lefel is ac anghenion
lefel canolig ond hefyd yn gallu cael mynediad at rai o’r gwasanaethau yno. Y
broblem fwyaf sydd gennym ar hyn o bryd yw symud pobl o lety brys i denantiaeth
barhaol ac mae hynny’n fater y byddwn yn cael trafferth ag ef am beth amser.
Nid yw’r farchnad dai dros y 12 mis diwethaf wedi helpu o gwbl oherwydd, yn
amlwg, mae prisiau rhent wedi codi’n ofnadwy ac mae prisiau tai wedi codi’n
ddychrynllyd hefyd ac felly rydym yn ymdrechu’n galed i gael eiddo fforddiadwy,
ond mae gennym y dull corfforaethol o ran hynny rŵan. Rydym yn gweithio’n
agos ag adrannau eraill, Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, Tai Cymunedol, ac mae
gennym Is-Grŵp yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth sydd yn edrych ar hyn o safbwynt
corfforaethol. Gan weithio ar y cyd, rydym yn symud ymlaen ac rydym wedi derbyn
Cynllun Gweithredu Lefel Uchel: Rhoi Terfyn ar Ddigartrefedd gan Lywodraeth
Cymru yn ddiweddar sydd angen ei archwilio, ac mae arnom angen datblygu Cynllun
Pontio Ail-Gartrefu Cyflym sydd yn gynllun pum mlynedd ar sut y byddwn yn symud
i fodel Ail-Gartrefu Cyflym Llywodraeth Cymru sy’n golygu y byddwn yn cynnig
tenantiaeth i rywun bron yn syth ag y maent yn dod yn ddigartref. Rydym yn
rhoi’r gefnogaeth honno ar waith yn syth. Mae’n eithaf uchelgeisiol ond gyda
chefnogaeth y cyngor cyfan, rydym yn siŵr o gyrraedd y nod.”
Awgrymodd y
Cadeirydd, y Cynghorydd Alan James, pe bai unrhyw ddatganiadau pellach yn cael
eu cyhoeddi y gellid eu hanfon at bob cynghorydd a phe bai unrhyw ymholiad yn
codi, gellid cysylltu â’r swyddog perthnasol yn uniongyrchol.