Eitem ar yr agenda
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU AR GYFER 2022
Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad
(copi wedi’i amgáu), ar flaenoriaethau’r Adain Drwyddedu ynghyd â’r wybodaeth
ddiweddaraf ar eitemau a aildrefnwyd a’r rhaglen gwaith i'r dyfodol
ddiwygiedig.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD
–
(a) nodi cynnwys yr
adroddiad, a
(b) cymeradwyo'r rhaglen gwaith
i’r dyfodol diwygiedig ar gyfer 2022 fel y manylir yn atodiad yr adroddiad i’w
gymeradwyo.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y
Cyhoedd adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) am flaenoriaethau’r Adain
Drwyddedu ynghyd â diweddariad am eitemau oedd wedi’u haildrefnu a’r Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol ddiwygiedig ar gyfer 2022.
Roedd blaenoriaethau'r Adain Drwyddedu
yn adlewyrchu’r ddyletswydd a roddwyd ar yr awdurdod mewn cysylltiad â’i
gyfrifoldebau ar gyfer swyddogaeth a rheoliadau, rheolaeth, a gorfodaeth
effeithiol o drwyddedai ynghyd ag ymrwymiad yr awdurdod i gymunedau mwy diogel
a datblygiad yr economi. Yn anffodus oherwydd blaenoriaethau nad oedd modd eu
rhagweld, mae’r rhaglen waith i’r dyfodol a gymeradwywyd wedi cael ei diwygio
gydag eitemau wedi’u haildrefnu a chyflwynwyd rhaglen waith ddiwygiedig i’w
hystyried.
Rhoddodd Swyddogion ddiweddariad am yr
eitemau a fydd yn cael eu dwyn ymlaen i gyfarfod y pwyllgor ym mis Rhagfyr a
gafodd eu trafod gydag aelodau, sef -
·
Adolygu
Datganiad o Bolisi Trwyddedu Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat
Roedd y ddogfen ymgynghori ar
Ddatganiad Polisi Trwyddedu arfaethedig ar gyfer busnesau tacsis yn agos at ei
chwblhau ac roedd swyddogion yn gweithio gyda Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd y
Cyngor i gyhoeddi’r ymgynghoriad drwy borth Sgwrs y Sir.
·
Adolygu
Datganiad o Egwyddorion - Deddf Gamblo 2005
Roedd adolygiad o Ddatganiad o
Egwyddorion Deddf Gamblo 2005 yn cael ei gynnal ar draws chwe Awdurdod Lleol
Gogledd Cymru ac ar ôl ei gwblhau, bydd swyddogion yn cyflwyno cynigion i’r
Pwyllgor Trwyddedu.
·
Adolygu’r
Polisi Masnachu ar y Stryd
Roedd y Pwyllgor Trwyddedu eisoes wedi
ystyried a chymeradwyo polisi drafft ar gyfer ymgynghoriad a sefydlu
Is-grŵp (gan gynnwys y Cadeirydd neu’r Is-gadeirydd ynghyd â
chynrychiolydd o’r Grŵp Ardal Aelodau) i ystyried y polisi ymhellach.
Roedd paratoadau yn parhau gyda Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd y Cyngor gyda’r
bwriad o gyhoeddi’r ymgynghoriad drwy borth Sgwrs y Sir ar yr adeg briodol. Gan
ymateb i gwestiynau, fe soniodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd am gyfarfod
yr Is-grŵp ar 24 Tachwedd 2021 ynglŷn â’r gwaith pellach oedd ei
angen i geisio barn Cynghorau Dinas/Tref/Cymuned a Grwpiau Aelodau Ardal ynglŷn
â manylion pob ardal unigol er mwyn teilwra’r polisi fel y bo’n briodol, gan
ystyried y byddent mewn sefyllfa well i gynghori ar eu hardaloedd penodol. Roedd y materion i gael eu hystyried yn
ymwneud yn bennaf ynglŷn â lle y dylai masnachu ar y stryd gael ei gynnal,
os o gwbl. Roedd templed wrthi’n cael ei baratoi i’w ddosbarthu.
·
Datganiad o
Bolisi Trwyddedu – Deddf Trwyddedu 2003
Yn eu cyfarfod diwethaf, fe awdurdododd
y Pwyllgor Trwyddedu swyddogion i ymgynghori ar Ddatganiad o Bolisi diwygiedig.
Fodd bynnag, roedd hi wedi dod i’r amlwg ers hynny nad oedd fersiwn bresennol y
polisi yn cyrraedd gofynion hygyrchedd a byddai angen ei addasu’n sylweddol. O
ganlyniad, roedd swyddogion eisiau defnyddio’r templed a luniwyd gan awdurdodau
Gogledd Cymru gan nad oedd yna wahaniaethau mawr o ran y cynnwys, dim ond mewn
ymddangosiad a fformat. Byddai swyddogion yn adrodd yn ôl i’r cyfarfod mewn
Pwyllgor yn y dyfodol ar ôl yr ymgynghoriad.
·
Adolygu Ffioedd
a Thaliadau
Cafodd y ffioedd a thaliadau ar gyfer
gweinyddu trwydded tacsi eu hadolygu ddiwethaf yn 2018 ac er y dylid eu
hadolygu’n rheolaidd, bu’n rhaid gohirio'r gwaith hwnnw oherwydd pandemig
Covid-19. Roedd gwaith yn mynd rhagddo i weithredu system ymgeisio ar-lein a
fyddai’n gwneud newid mawr i’r broses ymgeisio. Yn ogystal roedd swyddogion
wedi derbyn ceisiadau i adolygu taliadau tariff cerbydau hacni a gafodd eu
diweddaru ddiwethaf yn 2018. O
ganlyniad, cynigiodd swyddogion i fwrw ymlaen â’r ddau adolygiad ar y cyd ac
ymgynghori gyda thrwyddedai presennol gyda’r bwriad o adrodd yn ôl i’r Pwyllgor
ym mis Mawrth 2022.
Nododd yr Aelodau y diweddariad a chymeradwyo’r
diwygiadau arfaethedig i’r rhaglen gwaith i’r dyfodol. O ystyried faint o
fusnes oedd angen ei drafod yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor a’r gwaith y byddai
hynny’n ei olygu, cafwyd trafodaeth ynglŷn â gwerth cynnal rhag-gyfarfod
cyn y cyfarfod er mwyn i aelodau fod yn gyfarwydd â’r eitemau ar yr adroddiad
cyn eu hystyried yn ffurfiol. Ar ôl trafodaeth fer, cytunwyd y byddai’r Rheolwr
Gwarchod y Cyhoedd a Busnes yn trafod gyda’r Cadeirydd ac Is-gadeirydd yn nes
at yr amser ynglŷn â fyddai rhag-gyfarfod gydag aelodau yn fanteisiol.
Roedd y Cynghorydd Brian Jones yn awyddus iawn bod unrhyw waith oedd yn weddill
yn cael ei gwblhau yn ystod tymor y Cyngor presennol lle bo hynny’n bosibl.
PENDERFYNWYD
–
(a) nodi cynnwys yr
adroddiad, a
(b) cymeradwyo'r rhaglen gwaith
i’r dyfodol diwygiedig ar gyfer 2022 fel y manylir yn atodiad yr adroddiad i’w
gymeradwyo.
Dogfennau ategol: