Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD PERFFORMIAD CORFFORAETHOL: CHWARTER 4 2011/2012
Ystyried adroddiad
gan y Cynghorydd H H Evans, Arweinydd y Cyngor (copi’n amgaeëdig) yn rhoi
gwybodaeth ar feysydd perfformiad allweddol y Cyngor, a galluogi i’r Cabinet ymgymryd â’i swyddogaeth
rheoli perfformiad.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Barbara Smith yr adroddiad a oedd yn
rhoi gwybodaeth ynglŷn â meysydd perfformiad allweddol y Cyngor, i
alluogi’r Cabinet i ymgymryd â’i swyddogaeth o reoli perfformiad.
Paragraff 2.1, mae canran yr holl ddisgyblion sy’n gadael addysg
orfodol, hyfforddiant a dysgu sy’n seiliedig ar waith heb gymhwyster allanol
cymeradwy, wedi gostwng i 0.8% sy’n cyfartalu ag 11 o ddisgyblion.
Fe eglurodd y Cynghorydd Eryl Williams i’r Pwyllgor y
byddai’r dangosydd yn gwella oherwydd y gwaith caled sy’n cael ei wneud i newid
agwedd rhai plant tuag at addysg.
Disgwylir i’r niferoedd leihau ymhellach fyth yr haf hwn.
Paragraff 2.2, canran y cyfeiriadau amddiffyn oedolion a
gwblhawyd lle mae’r risg wedi ei reoli: fe drafodir y dangosydd hwn yn yr Her
Gwasanaeth.
Paragraff 2.3, o’r ddau berson a adroddwyd i fod mewn llety
anaddas, roedd un yn feichiog ac ni wnâi’r ail gydweithredu.
Roedd Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes wedi gohebu ag
awdurdodau lleol sy’n perfformio’n dda i drafod materion tebyg.
Ynglŷn â
pharagraffu 12.1 a 12.2 cafwyd problemau gyda
Cododd y Cynghorydd Eryl Williams fater cyfnod ysgol
allweddol 1 a 3. Mynegodd y Cynghorydd
Williams bryder nad yw Estyn yn ystyried bod cyfnod allweddol 3 yn bwysig. Pryder arall oedd a oedd plant cyfnod
allweddol 2 yn cael eu hasesu ar ddiwedd yr ysgol gynradd a dechrau ysgol iau.
Fe fu’r Cynghorydd Williams a Karen Evans yn ymweld â Tower
Hamlets yr wythnos diwethaf. Mae Sir
Ddinbych a Tower Hamlets ag ardaloedd difreintiedig a chefnog o fewn eu
hardaloedd ond nid oedd Tower Hamlets yn cynnwys cyfnod allweddol 3 yn eu
ffigurau o gwbl. Teimlai Tower Hamlets fod cyfnodau allweddol 2 a 4 yn dangos
yn union be safon yr oedd plant wedi ei gyrraedd ac fe ddosbarthwyd cyfnod
allweddol 4 yn gyfnod pwysicaf.
Croesawodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad. Roedd oddeutu £15miliwn wedi
ei wario ar ffyrdd ledled y Sir ac nid oedd ymatebion i’r arolwg preswylwyr yn
ymatebol o’r ffaith yma. Mae angen
ymchwilio canfyddiad y cyhoedd yn gyffredinol.
Mynegodd y Cynghorydd Thompson-Hill bryder ynglŷn â mesur
dangosyddion ar y blaenoriaethau.
Rhoddodd Rheolwr y Tîm Gwella Corfforaethol ymateb drwy
esbonio’r canlynol:-
(a)
Mae Mesurau Perfformiad yn mesur perfformiad y
Cyngor.
(b)
Mae Dangosyddion yn dynodi a ydi’r hyn mae Sir
Ddinbych yn ei wneud yn cael effaith.
Dywedodd y Cynghorydd Williams ei bod yn hanfodol fod
rhestrau’r gwaith priffyrdd sydd ar ôl yn gadarn ac yn gywir.
Dywedodd y Prif Weithredwr mai dyma’r adroddiad olaf ar y
Cynllun Corfforaethol cyfredol. Roedd
angen adolygu Dangosyddion Perfformiad ac roedd yna hefyd gyfle i adolygu
blaenoriaethau a’r ffordd y byddid yn eu mesur.
Cyfeiriodd at:-
(a)
y ddau berson ifanc yn y ddalfa a oedd wedi eu
crybwyll yn flaenorol mewn adroddiadau oherwydd bod y Llys wedi cymeradwyo bod
eu llety’n anaddas.
(b)
Ynglŷn
â’r ffyrdd, roedd yna fuddsoddi mewn gwella ffyrdd ond nid oedd Sir Ddinbych
wedi gallu arddangos y gwelliannau i aelodau’r cyhoedd ac roedd angen unioni
hynny.
Dywedodd y Pennaeth Busnes a Chynllunio wrth y Cabinet fod
cynllun corfforaethol newydd yn cael ei ddatblygu gyda blaenoriaethau a
dangosyddion newydd. Byddai Aelodau’n
cael eu cynnwys yn y broses.
Byddid yn cyflwyno’r Adroddiad Perfformiad Corfforaethol i
gyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad ar Fehefin 28ain 2012.
PENDERFYNWYD, yn amodol
ar yr uchod, bod y Cabinet yn derbyn ac yn cymeradwyo’r adroddiad.
Dogfennau ategol: