Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGIAD O’R GOFRESTR RISG GORFFORAETHOL, MEDI 2021

Ystyried adroddiad gan yr Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad a'r Swyddog Cynllunio Strategol a Pherfformiad (copi ynghlwm) i dderbyn diweddariad ar yr adolygiad o’r Gofrestr Risg Gorfforaethol a gynhaliwyd ym mis Medi. 

 

10.40am – 11.10am

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill Adolygiad o’r Gofrestr Risg Gorfforaethol, Medi 2021 (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth oedd yn datblygu a pherchen ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol ochr yn ochr â’r Cabinet. Cafodd ei hadolygu'n ffurfiol ddwywaith y flwyddyn gan y Cabinet yn ystod sesiwn friffio’r Cabinet.  Cafodd ei chyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’r diwrnod blaenorol hefyd.

 

Nododd y Cynghorydd Thompson-Hill bod dwy risg newydd wedi’u huwchgyfeirio i’r Gofrestr Risg Gorfforaethol ac yn crynhoi'r Risgiau o fewn y Gofrestr. 

 

Roedd risgiau 18 a 35 yn mynd i gael eu cyfuno wrth symud ymlaen, a byddai'r sgôr yn debygol o gynyddu o D2 i C2.

 

Mynegodd yr Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad ei ddiolch i Emma Horan, y Swyddog Cynllunio Strategol a Pherfformiad am ei gwaith wrth gwrdd â Pherchnogion Risg a'r Tîm Arwain Strategol i lunio diweddariad cynhwysfawr iawn.

 

Roedd adolygiad archwilio mewnol diweddar mewn perthynas â rheoli risg wedi cael ei gynnal, ac argymhellion o’r archwiliad wedi cael eu cyflwyno.  Un o’r argymhellion oedd cynnwys cyfeiriad ar gyfer siwrnai bob risg.  Roedd gwaith i’w wneud o hyd o ran hynny, a fyddai’n cael ei symud ymlaen i’r adolygiad nesaf.

 

Yn ystod trafodaethau codwyd y pwyntiau canlynol:

·         Recriwtio a chadw staff – Cadarnhawyd bod recriwtio a chadw staff wedi dod yn fater sylweddol, nid yn unig o fewn Cyngor Sir Ddinbych, ond ar hyd y wlad.   

Roedd gan Covid effaith sylweddol ar staffio.  Roedd darn o waith yn cael ei gynnal ar gyfer pob Gwasanaeth i gael Cynllun Gweithredu Cynllunio’r Gweithlu, a fyddai’n bwydo i mewn i Gynllun Gweithredu Sir Ddinbych.  Bu problemau o ran recriwtio mewn Gwasanaethau penodol, yn enwedig o fewn Gofal Cymdeithasol a Gofal Cartref.  Byddai’r Awdurdod yn edrych ar y gallu i greu swyddi graddfa gyrfa i ddatblygu talent mewnol.  Mewn rhai meysydd, gallai gymryd amser i hyfforddi gweithwyr, a allai achosi problemau yn y tymor byr.  Roedd adroddiad ar fin cael ei ddarparu yn y Flwyddyn Newydd.

·         Roedd Deddf Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) wedi gosod nifer o ofynion ychwanegol ar y Cyngor. 

Bu oedi wrth dderbyn canllawiau manwl, a oedd yn tanategu disgwyliadau newydd a ffyrdd o weithio, a fyddai angen polisïau a gweithdrefnau datblygol wrth symud ymlaen.  Yn anffodus. ni fyddai cyllid ychwanegol ar gael ar gyfer mynd i’r afael â’r gofynion newydd, ac o ganlyniad, roedd y sgôr y Risg yn gywir. 

·         Awgrymwyd y byddai trosedd seiber yn cael ei amlygu fel risg. 

Ar hyn o bryd, nid oedd yn cael ei rhestru ar wahân fel risg, ond roedd yn cael ei chynnwys o ran a oedd gan y Cyngor yn gallu i ymateb i ddigwyddiadau mawr, gan gynnwys amhariadau a achosir gan ddigwyddiadau o dywydd garw, ac ati. Cam Gweithredu: Bydd Iolo McGrgeor yn sicrhau bod Trosedd Seiber yn cael ei thrafod gyda pherchennog y risg yn ystod adolygiad mis Chwefror o’r gofrestr i roi mwy o bwyslais arni.

·         Risg 44 – Clefyd Coed Ynn – roedd y risg wedi sgorio’n uchel oherwydd peidio deall graddfa’r broblem. 

Ers i hyn ddod yn risg, gwnaed darn o waith i ddeall yn well beth oedd y cyngor yn ei wynebu.  Roedd wedi cael ei israddio oherwydd hyder a gwybodaeth swyddogion bod y risg yn ymddangos yn amlach.  Serch hynny, roedd risg B2 yn parhau i fod yn risg gritigol.

·         Roedd terfynu contract Civica gyda Chyngor Sir Ddinbych yn cael ei ystyried yn risg.   

Cadarnhawyd bod Civica wedi penderfynu tynnu nôl o'r math o gontract partneriaeth oedd ganddynt gyda Sir Ddinbych, a byddai ar y Gofrestr Risg Gwasanaeth Cyllid, ond roedd yn rhan o Risg 13 y Gofrestr hefyd.

·         Byddai colli cyllid Ewropeaidd yn cael ei gynnwys dan Cofrestr Risg Brexit ar wahân, a oedd yn cael ei fonitro’n agos gan y Tîm Gweithredol Corfforaethol. 

Disgwyliwyd y byddai’r risgiau ar y gofrestr ar wahân hon yn cael eu cynnwys ar y brif Gofrestr Risg Gorfforaethol yn ystod yr adolygiad nesaf ym mis Chwefror.

·         Roedd Risg 47 yn ymwneud â phwerau i sefydlu Cyd-bwyllgor Corfforaethol rhanbarthol yn bryder i bob awdurdod lleol ledled Gogledd Cymru.

 

Penderfynodd y Pwyllgor -

 

i dderbyn adolygiad o’r Gofrestr Risg Gorfforaethol, Medi 2021, ar ôl ystyried y diwygiadau i’r Gofrestr Risg Gorfforaethol (atodiad 1), gan gynnwys statws bob risg yn erbyn Datganiad Parodrwydd i Dderbyn Risg yr Awdurdod (atodiad 2), a’r sicrwydd a ddarparwyd yn ystod y drafodaeth.

 

 

Dogfennau ategol: