Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYMERADWYO CAIS CRONFA CODI’R GWASTAD LLYWODRAETH Y DU – ETHOLAETH GORLLEWIN CLWYD

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol (copi ynghlwm) yn ceisio awdurdod dirprwyedig i'r swyddogion a enwir a'r Arweinydd i gytuno i gyflwyno cais i Lywodraeth y DU gan Gyngor Sir Ddinbych mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar gyfer etholaeth Gorllewin Clwyd.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

(a)       yn cefnogi thema’r cais, y prosiectau arfaethedig sydd i’w cynnwys yn y cais, a gwerth dangosol bras pob prosiect, ac

 

(b)       yn dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr a Phennaeth Cynllunio, Gwasanaethau Diogelu’r Cyhoedd a Chefn Gwlad, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151, Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd a’r Arweinydd, i gaboli’r prosiectau a chostau’r prosiectau fel bo’r angen, ac i benderfynu ar gais i’w gyflwyno i Lywodraeth y DU gan Gyngor Sir Ddinbych mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar gyfer etholaeth Gorllewin Clwyd.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddirprwyo awdurdod at ddibenion cytuno ar gais ar gyfer cyllid Codi’r Gwastad i’w gyflwyno i Lywodraeth y DU gan Gyngor Sir Ddinbych mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer Etholaeth De Clwyd.

 

Diben Cronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU oedd buddsoddi mewn isadeiledd a fydd yn gwneud y gwelliant mwyaf i fywyd pob dydd ac yn cael ei ddarparu drwy awdurdodau lleol. Roedd ceisiadau yn seiliedig ar ardaloedd etholaeth AS. Roedd tair ardal yn Sir Ddinbych: Dyffryn Clwyd, Gorllewin Clwyd a De Clwyd. Cyflwynwyd y cais ar gyfer De Clwyd yn y rownd gyntaf, ac roedd y cais yn llwyddiannus.  Roedd yr adroddiad yn ymwneud â chais yr ail rownd ar gyfer etholaeth Gorllewin Clwyd, a rannir gyda CBSC, a oedd yn gweithredu fel yr ymgeisydd/awdurdod arweiniol. Gallai pob ardal etholaeth wneud cais am hyd at £20 miliwn o gyllid cyfalaf a byddai elfen CSDd yn oddeutu £10 miliwn. Roedd y prosiectau arfaethedig i’w cynnwys yn y cais wedi’u nodi yn yr adroddiad ynghyd â ffigurau bras o’r costau a fydd yn gliriach unwaith y bydd yr achosion busnes manwl wedi’u datblygu.  O ystyried bod y prosiectau’n cael eu craffu a’u cymeradwyo’n drylwyr ar lefel leol, nid oedd yr Arweinydd yn ystyried bod angen craffu pellach ar hyn o bryd.  Roedd yr AS David Jones wedi cadarnhau ei fod yn cefnogi elfen CSDd o’r cais, cynhaliwyd ymgynghoriad manwl gydag aelodau lleol, ac ymgysylltwyd â Chyngor Tref Rhuthun. Disgwyliwyd y byddai’r dyddiad cau ar gyfer ail rownd y ceisiadau o gwmpas mis Rhagfyr 2021.

 

Soniodd y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad am y broses a gymerwyd i ddatblygu’r cais, a oedd yn cynnwys trafodaethau manwl ar lefel leol a chydweithio agos gyda’r AS David Jones i ddyfeisio thema ynghyd ag asesu a sgorio prosiectau drwy ffurfio achosion busnes. Y thema ar gyfer y cais oedd buddsoddiad diwylliannol a threftadol. Byddai gwaith pellach yn cael ei gwblhau ar y prosiectau nad ydynt yn cael eu datblygu fel rhan o’r cais, gyda’r bwriad o geisio ffrydiau cyllido amgen i’w datblygu fel sy’n briodol.

 

Croesawodd y Cabinet yr adroddiad a'r posibilrwydd o fuddsoddiad sylweddol yn yr ardal, ac roeddent yn gefnogol iawn o'r argymhellion i ddatblygu'r cais. Talodd y Cynghorwyr Bobby Feeley, a Huw Hilditch-Roberts (aelodau Rhuthun) deyrnged i’r gwaith gwych a gwblhawyd gan swyddogion a'r gymuned leol i ddatblygu'r prosiectau hyn, gan amlygu'r cyfoeth o wybodaeth a oedd ei hangen arnynt i lywio'r broses a'r gwaith a gwblhawyd mewn ychydig iawn o amser, ynghyd â chefnogaeth David Jones, yr AS a'i gymeradwyaeth. Pe bai’r cais yn llwyddiannus, byddai’r buddion i Rhuthun a’r ardal ehangach yn drawsnewidiol, gyda buddion amlwg i breswylwyr a chymunedau lleol o ran cyfleusterau newydd a gwell, gan wneud gwahaniaeth amlwg i fywydau pobl a’r economi lleol.  Fel Cadeirydd Grŵp Ardal Aelodau Rhuthun, nododd y Cynghorydd Emrys Wynne ei fod yn gefnogol iawn o’r cynigion.

 

Mewn ymateb i gwestiynau a sylwadau’r Cabinet, cynghorodd yr arweinydd a swyddogion -

 

·         nad oedd yn hysbys ar hyn o bryd pryd fyddai penderfyniad yn cael ei wneud ar y cais ar ôl ei gyflwyno i Lywodraeth y DU ond roedd disgwyl penderfyniad cyflym o ystyried bod disgwyl i'r prosiectau gael eu darparu erbyn mis Mawrth 2024, ac roedd yr angen i weithredu’n gyflym wedi cael ei godi gyda’r Tîm Rhanbarthol sy’n arwain ar y Gronfa Codi'r Gwastad.

·         roedd trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda James Davies, AS mewn perthynas â chais Dyffryn Clwyd er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r heriau o ran dyrannu pob prosiect mewn un cais, a gobeithiwyd y byddai modd mynd i'r afael â'r heriau hyn cyn cyflwyno adroddiad i'r Cabinet ym mis Rhagfyr, a'r bwriad oedd ei ddwyn ymlaen o fewn yr amserlen ar gyfer cyflwyno cais yr ail rownd i Lywodraeth y DU.

·         roedd llwyddiant cais De Clwyd yn y rownd gyntaf wedi cael ei gyhoeddi, ond roeddent yn dal i aros am ddyraniad grant ffurfiol gan Lywodraeth y DU, a oedd wedi gofyn am ragor o wybodaeth ar brosiectau a oedd yn cael eu llunio ar hyn o bryd – roedd gwaith yn mynd rhagddo gydag arweinwyr prosiect i ddechrau datblygu’r prosiectau hynny cyn gynted â phosibl.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r swyddogion am eu gwaith diflino yn datblygu’r cais a phrosiectau hanfodol, ac i bawb sydd wedi cyfrannu at y broses, a allai, wneud gwahaniaeth sylweddol pe bai’n llwyddiannus.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      cefnogi thema’r cais, y prosiectau arfaethedig i’w cynnwys yn y cais a gwerth dangosol pob prosiect, a

 

 (b)      rhoi awdurdod wedi’i ddirprwyo i’r Prif Weithredwr a Phennaeth Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Adran 151, Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd a’r Arweinydd, i fireinio’r prosiectau a’r costau cysylltiedig yn ôl yr angen a chytuno i Gyngor Sir Ddinbych gyflwyno cais i Lywodraeth y DU, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ar gyfer etholaeth Gorllewin Clwyd.

 

Ar y pwynt hwn (11.45 am) cymerodd y pwyllgor egwyl byr.

 

 

Dogfennau ategol: