Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

PONT LLANNERCH

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd (copi ynghlwm) yn ceisio cefnogaeth y Cabinet i ddisodli’r bont yn amodol ar sicrhau’r cyllid angenrheidiol.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cadarnhau cefnogaeth i’r egwyddor o newid y bont, yn amodol ar sicrhau’r cyllid angenrheidiol. Golyga hyn gysylltu â Llywodraeth Cymru i wneud cais am nawdd allanol.

 

Cofnodion:

[Symudwyd yr eitem hon ymlaen ar y rhaglen gyda chydsyniad y Cadeirydd]

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Brian Jones yr adroddiad yn ceisio cefnogaeth y Cabinet i ddisodli Pont Llannerch (sydd wedi’i lleoli rhwng Trefnant a Thremeirchion), a gollwyd ym mis Ionawr 2021 yn ystod storm Christoph, yn amodol ar sicrhau’r cyllid angenrheidiol.

 

Roedd Pont Llannerch yn ffurfio rhan o lwybr a ddefnyddiwyd yn helaeth a chysylltiad pwysig ar gyfer cymunedau yn yr ardal. Roedd swyddogion wedi bod yn gweithio gydag ymgynghorwyr i ystyried beth allai fod yn bosibl yn nhermau gosod pont newydd yn ei lle a hefyd faint fyddai hyn yn ei gostio, ac oherwydd y lleoliad a'r elfennau technegol, daethpwyd i’r canlyniad y gallai gostio rhwng £6 miliwn a £7 miliwn ac fe fyddai’n amodol ar sicrhau’r cyllid perthnasol.  Cynigwyd y dylid cymryd camau i geisio cyllid allanol, yn arbennig cysylltu â Llywodraeth Cymru, ac ymgymryd â pheth gwaith paratoi er mwyn datblygu achos busnes mwy cadarn, ac felly cynyddu'r potensial o ddenu cyllid allanol.  Roedd ymarfer ymgysylltu cyhoeddus wedi cael ei gynnal a’r brif neges a ddeuai yn ôl oedd bod y gymuned eisiau i ni osod pont newydd yn lle’r bont a gwneud hynny cyn gynted â phosibl ac mae’r ymarfer hefyd wedi darparu tystiolaeth o gefnogaeth gymunedol sylweddol i gryfhau’r achos busnes. Roedd y Cynghorydd Jones yn gefnogol o ymdrechion yr aelodau lleol i sicrhau pont newydd ac eglurodd, er gwaethaf eu hymdrechion, nad oedd darparu pont newydd dros dro yn hyfyw o ystyried y cymhlethdodau sydd ynghlwm â chyflwr y tir a ffactorau eraill.

 

Roedd y Cabinet yn cydnabod gwerth Pont Llannerch i gymunedau gwledig ac yn gefnogol o argymhellion yr adroddiad. Ymatebodd y Cynghorydd Jones i gwestiynau gan gadarnhau y byddai unrhyw bont newydd a adeiladir yn bodloni safonau modern ac hefyd yn cymryd barn pobl leol i ystyriaeth i sicrhau ei bod yn ateb y gofyn, a’i bod hefyd yn debyg i'r bont rhestredig gradd II blaenorol. Roedd yn hyderus y byddai achos busnes cryf yn sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru ac amlygodd y posibilrwydd o gynnwys teithio llesol a chysylltedd cymunedau i gryfhau’r achos ymhellach.  Os na fyddai modd sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru, byddai ffynonellau cyllido allanol eraill yn cael eu hystyried. Nodwyd, er bod y bont wedi’i chynnwys ar restr y Cyngor o brosiectau posibl i’r dyfodol (o ystyried y posibilrwydd na fydd pont newydd yn cael ei hariannu’n llawn, ac y bydd angen cyfraniad ariannol o bosibl), nid oedd cyllid wedi cael ei ddyrannu hyd yma o fewn yr adnoddau cyfalaf cyfyngedig at y diben hwnnw.

 

Amlygodd yr Aelodau Lleol, y Cynghorwyr  Christine Marston a Meirick Davies bwysigrwydd y bont i gymunedau lleol a’r effaith andwyol mae colli’r bont wedi’i chael yn gymdeithasol ac yn economaidd, ac mae hyn yn amlwg yn y cyfoeth o ymatebion a gafwyd i'r ymarfer ymgysylltu cyhoeddus. Roedd y Cynghorydd Davies hefyd yn teimlo y dylid cofnodi statws rhestredig y bont ac y dylai’r argymhelliad gael ei gryfhau ymhellach i sicrhau’r cyllid hanfodol ar gyfer pont newydd.  Atebodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion i bwyntiau a godwyd, ac roedd y cwestiynau pellach fel a ganlyn -

 

·         ystyriwyd y dylid datblygu achos busnes cadarn cyn cysylltu â Llywodraeth Cymru i geisio cyllid yn ffurfiol, fodd bynnag, rhoddwyd gwybod i Lywodraeth Cymru yn y dechrau pan gollwyd y bont am fwriad y Cyngor i geisio cyllid ar gyfer pont newydd.

·         o ystyried graddfa a natur y prosiect sydd ei angen o ganlyniad i’r llifogydd sylweddol, roedd yn rhesymol i’r Cyngor droi at Lywodraeth Cymru am gyllid – os na fyddai’r ymgais yn llwyddiannus, byddai'n rhaid i'r Cyngor ail-ystyried y sefyllfa.

·         ystyriwyd pa mor ymarferol fyddai darparu pont dros dro a allai gostio oddeutu £1 miliwn, ond o ystyried y lleoliad a chyflwr y tir, a fyddai’n rhwystr i’r gwaith hwnnw, ni ystyriwyd y byddai'r opsiwn hwn yn ymarferol nac yn hyfyw 

·         o ran amserlen, roedd angen deall cyflwr y tir ar y safle yn llawn ac ymgymryd â gwaith modelu o ran yr afon er mwyn cael caniatâd gan Gyfoeth Naturiol Cymru i ymgymryd â’r gwaith hanfodol, ac nid oedd yn debygol y byddai modd datblygu achos busnes digonol cyn haf 2022

·         nid oedd ffrwd gyllido benodol wedi cael ei nodi eto gan mai’r bwriad oedd ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ynghylch ffrydiau cyllido posibl a allai fod ar gael.

·         sicrhawyd y byddai aelodau lleol yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd wrth i waith ddatblygu drwy gynnal trafodaethau / cyflwyno adroddiadau rheolaidd i Grŵp Ardal Aelodau Elwy.

 

Cafwyd dadl bellach am eiriad yr argymhelliad ac roedd y Cabinet yn glir mai'r argymhelliad ar hyn o bryd oedd cytuno i geisio'r cyllid hanfodol i godi pont newydd drwy gysylltu â Llywodraeth Cymru ac ystyried ffynonellau cyllido allanol eraill. Os na fyddai’r dull hwn yn llwyddiannus, byddai’r cyngor yn ailystyried ei sefyllfa. Nododd y Cynghorydd Brian Jones unwaith eto ei fod yn cefnogi ymdrechion yr aelodau lleol i ddisodli'r bont a chytunodd i sicrhau bod momentwm y gwaith yn parhau gyda'r gobaith o ddatblygu achos busnes erbyn diwedd tymor y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cadarnhau cefnogaeth i’r egwyddor o osod pont newydd yn lle’r bont, yn ddibynnol ar sicrhau’r cyllid angenrheidiol i wneud hynny.  Bydd hyn yn cynnwys cysylltu â Llywodraeth Cymru i ofyn am gyllid allanol.

 

 

Dogfennau ategol: