Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM FEIFOD

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth (copi ynghlwm) ar ddyfodol Meifod yn dilyn ystyriaeth o’r opsiynau gan fudd-ddeiliaid perthnasol, Grŵp Tasg a Gorffen y Pwyllgor Craffu Perfformiad a’r Pwyllgor Craffu Perfformiad. 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

 

(a)       Bod Meifod yn cael ei agor fel gwasanaeth wedi ei reoli gan y Cyngor ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu cyn gynted ag y bo’n ddiogel i wneud hynny, yn dilyn buddsoddiad angenrheidiol i’r adeilad/cyfleusterau presennol. Yr oedd disgwyl y gallai’r gwasanaeth ailagor erbyn Chwefror 2022, fodd bynnag gall hyn fod yn gynt os gorffennir y gwaith yn gyflym;

 

(b)       bod swyddogion yn darparu opsiynau i aelodau eu hystyried drwy’r broses wleidyddol sefydledig ar:

 

·         ffyrdd newydd o weithio ym Meifod i wella dysgu a sgiliau ar amrediad o weithgareddau, gan gynnwys gweithio â phren

 

·         modelau cyflawni gwasanaeth amgen ar gyfer y gweithredu ym Meifod, gyda’r bwriad o wella cynaliadwyedd hir-dymor y gwasanaeth, gan fod y brydles ar yr adeilad yn dod i ben mewn 4 blynedd

 

(c)        bod swyddogion yn sefydlu grŵp budd-ddeiliaid yn cynnwys unigolion sy’n mynychu Meifod a pherthnasau cynrychioladol, neu eiriolwyr, i sicrhau eu bod yn cael ymwneud ag ailagoriad y gwasanaeth ynghyd â datblygu opsiynau ar gyfer ei weithredu yn y dyfodol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley adroddiad ar ddyfodol Meifod yn dilyn ystyriaeth o’r opsiynau gan fudd-ddeiliaid perthnasol, Grŵp Tasg a Gorffen y Pwyllgor Craffu Perfformiad a’r Pwyllgor Craffu Perfformiad.  Cymerodd y cyfle hefyd i ddiolch i bawb a oedd wedi bod ynghlwm â’r broses am eu gwaith caled.

 

Roedd Meifod yn wasanaeth cyfleodd gwaith uchel ei barch i oedolion ag anableddau dysgu dan reolaeth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol.  Roedd y gwasanaeth wedi’i leoli mewn uned ffatri a rentir yn Ninbych sy’n cynhyrchu ac yn gwerthu cynnyrch coed. Roedd y cyfleuster wedi bod ar gau ers mis Mawrth 2020 yn sgil y pandemig Covid-19 ac o ganlyniad, roedd y Cyngor wedi cymryd y cyfle i ystyried dyfodol y cyfleuster. Roedd pawb yn cytuno bod Meifod yn wasanaeth gwerthfawr ac yn cefnogi’r cynnig i ailagor y cyfleuster cyn gynted â phosibl; rhagwelwyd y byddai modd cwblhau'r gwaith hanfodol ac ailagor Meifod erbyn mis Chwefror. Roedd y brydles bresennol yn dod i ben ym mis Medi 2025, a oedd yn rhoi digon o amser i hyrwyddo’r cyfleuster, cyflwyno gweithgareddau amgen ac ystyried dulliau darparu gwasanaeth newydd i wella cynaliadwyedd hirdymor y cyfleuster, o ystyried y cynnydd yng nghostau darparu’r cyfleuster. Nododd y Cynghorydd Feeley nad oedd hi nag unrhyw un arall, hyd eithaf ei gwybodaeth, wedi ystyried cau'r cyfleuster, ond roedd angen gwneud newidiadau i wella'r cynnig ym Meifod. Y bwriad wrth symud ymlaen oedd sicrhau fod pawb sydd â diddordeb yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas ag ailagor Meifod a'r cynlluniau ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys cysylltu â theuluoedd defnyddwyr cyfredol a darpar ddefnyddwyr.

 

Diolchodd y Cynghorydd Arwel Roberts, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Perfformiad i’r Grŵp Tasg a Gorffen am eu gwaith, soniodd am drafodaethau manwl y Pwyllgor gan gefnogi argymhellion y Grŵp Tasg a Gorffen ymhellach fel yr amlinellir yn yr adroddiad i fuddsoddi yn y gwasanaeth i sicrhau ei fod yn cael ei ailagor cyn gynted â phosibl er mwyn diogelu ei ddyfodol a darparu ystod well o weithgareddau i ddefnyddwyr gwasanaeth yn ogystal â sicrhau bod y ddarpariaeth yn cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol a pholisi iaith Gymraeg y Cyngor i’r dyfodol.  Roedd hefyd yn falch iawn ei fod wedi clywed barn rhiant un o’r defnyddwyr gwasanaeth yn y cyfarfod.

 

Nododd y Cabinet yr argymhellion a oedd yn adlewyrchu casgliadau’r Pwyllgor Craffu Perfformiad ac roeddent yn falch o nodi’r adroddiad cadarnhaol er mwyn diogelu dyfodol Meifod a’r cyfle i ddarparu ystod well o weithgareddau i wneud y gwasanaeth yn fwy cynhwysol ac annog rhagor o bobl i ddefnyddio’r gwasanaeth. Fel aelod lleol, siaradodd y Cynghorydd Mark Young yn gadarnhaol am ddyfodol Meifod, ac ynghyd â‘i gyd-aelod lleol, y Cynghorydd Rhys Thomas, gofynnodd a fyddai modd iddynt dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf  am y cynlluniau i ailagor ac unrhyw newidiadau i'r cyfleuster yn y dyfodol, a chynigodd helpu swyddogion i gyfathrebu gyda defnyddwyr y gwasanaeth a’u teuluoedd i'r dyfodol. Cadarnhaodd y Cynghorydd Feeley unwaith eto eu bwriad i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf â phawb sydd â diddordeb a chysylltu â theuluoedd defnyddwyr presennol yn ogystal â defnyddwyr y dyfodol. Mewn ymateb i gwestiynau pellach, rhannodd y swyddogion y wybodaeth ddiweddaraf ar y gwaith sydd angen ei gwblhau cyn ailagor y cyfleuster a sicrhawyd y byddent yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y cyfleuster yn ailagor cyn gynted â phosibl. Mewn ymateb i awgrym gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts i addasu’r geiriad yn yr argymhellion i ‘Wasanaethau Meifod’, cadarnhaodd y Cynghorydd Feeley ei bod yn hapus â’r argymhellion presennol yn yr adroddiad.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd gwestiynau gan aelodau nad oeddent ar y Cabinet. Er bod aelodau’n gefnogol iawn o argymhellion yr adroddiad, gofynnwyd cwestiynau mewn perthynas â’r angen i arallgyfeirio i feysydd eraill o ystyried llwyddiant blaenorol Meifod gyda phryderon y byddai’r sylfaen sgiliau’n dirywio neu’n cael ei golli, a cheisiwyd rheswm dros y gostyngiad yn atygfeiriadau’r cyfleuster a chynlluniau i gynyddu'r defnydd.  Mewn ymateb i hyn a chwestiynau/sylwadau eraill, fe wnaeth yr Aelod Arweiniol a swyddogion -

 

·         gadarnhau na fyddai unrhyw ddefnyddwyr gwasanaeth y cael eu gorfodi i gymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd nad ydynt yn dymuno cymryd rhan ynddynt

·         mewn ymateb i’r Cynghorydd Rhys Thomas a chais pellach i gynnwys aelodau lleol, cyfeiriwyd at y bwriad i sefydlu grŵp budd-ddeiliaid i ymgysylltu â’r cynlluniau i ailagor y gwasanaeth a datblygu opsiynau i’r dyfodol.

·         nodi argymhellion gan y Cynghorydd Arwel Roberts mewn perthynas ag argaeledd ffynonellau cyllid eraill ac unigolion a allai helpu gyda hyn o bosibl

·         derbyn y dyhead i barhau â gweithgareddau gwaith coed yn ogystal â ffyrdd newydd o weithio fel y nodir yn yr argymhelliad, a nodwyd y byddai cyfle i ddefnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd/eiriolwyr leisio eu barn am opsiynau datblygu i’r dyfodol yn y grŵp budd-ddeiliaid.

·         roedd nifer y bobl a oedd yn mynychu Meifod wedi gostwng yn ddiweddar, gyda’r rheiny a oedd yn defnyddio’r gwasanaeth yn ffafrio gweithgareddau eraill; roedd y cynigion hyn yn cynnig cyfle i ehangu’r ystod o weithgareddau ac annog rhagor o bobl i ddefnyddio’r gwasanaeth.

·         gwnaethpwyd atgyfeiriadau gan y Tîm Anableddau Cymhleth a oedd yn hyrwyddo Meifod ynghyd â gwasanaethau cymorth eraill, ond roedd diffyg diddordeb mewn gwaith coed.

·         gwerthfawrogwyd y gweithgareddau ymarferol yn arbennig ym Meifod, ond nid oedd digon o wasanaethau eraill ar gael a’r bwriad oedd manteisio ar yr agwedd honno, a gwneud y gwasanaeth yn fwy hygyrch/deniadol gyda rhagor o ddewis o weithgareddau.

 

O ran rhai o’r pryderon a godwyd, darparwyd sicrwydd i’r Cabinet y byddai’r argymhelliad i sefydlu grŵp budd-ddeiliaid i ystyried opsiynau i’r dyfodol yn sicrhau bod dull yn cael ei ddatblygu i fynd i’r afael â’r materion hynny ac yn darparu dyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer Meifod er lles pawb a oedd a wnelo â’r gwasanaeth, a byddai unrhyw opsiynau’n cael eu hystyried ymhellach gan aelodau drwy’r prosesau democrataidd arferol. 

 

PENDERFYNWYD-

 

 (a)      Ailagor Meifod fel gwasanaeth sy’n cael ei gynnal gan y Cyngor ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu cyn gynted ag y mae’n ddiogel, yn dilyn y buddsoddiad hanfodol i’r adeilad/cyfleusterau presennol. Rhagwelir y byddai’r gwasanaeth yn gallu ailagor erbyn mis Chwefror 2022, ond fe allai fod yn gynt os bydd y gwaith yn cael ei gwblhau’n gyflym.

 

 (b)      bod swyddogion yn darparu opsiynau i aelodau eu hystyried drwy’r broses wleidyddol sefydledig mewn perthynas â:

 

·         ffyrdd newydd o weithio ym Meifod i wella dysgu a sgiliau ar draws ystod o weithgareddau gan gynnwys gweithio gyda choed.

 

·         dulliau darparu gwasanaeth amgen i’w gweithredu ym Meifod gyda’r bwriad o wella cynaliadwyedd hirdymor y gwasanaeth pan ddaw prydles yr adeilad i ben mewn 4 blynedd.

 

 (c)       bod swyddogion  yn sefydlu grŵp budd-ddeiliaid, gan gynnwys aelodau teulu cynrychiadol ac unigolion sy’n mynychu Meifod neu eu heiriolwyr i sicrhau eu bod yn ymgysylltu’n llawn gydag ailagor y gwasanaeth ac yn datblygu unrhyw opsiynau i’w gweithredu yn y dyfodol.

 

 

Dogfennau ategol: