Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD AR AMODAU CYNLLUNIO - CAIS RHIF 40/2021/0309 – LLAIN C7, PARC BUSNES LLANELWY, LLANELWY

Ystyried yr amodau cynllunio i’w gosod ar y caniatâd cynllunio a roddwyd ar 6 Hydref 2021 ar gyfer adeiladu Cartref Gofal Preswyl â 198 o welyau (dosbarth defnydd C2), tirlunio, mannau parcio a gwaith cysylltiedig ym Mharc Busnes Llanelwy (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr amodau cynllunio i’w gosod ar y caniatâd cynllunio a roddwyd ar 6 Hydref 2021 ar gyfer adeiladu Cartref Gofal Preswyl â 198 o welyau (dosbarth defnydd C2), tirlunio, mannau parcio a gwaith cysylltiedig ym Mharc Busnes Llanelwy.  Cyfeiriwyd at gywiriad i amod 1 ar y taflenni glas.

 

Atgoffodd y Cadeirydd  yr aelodau bod caniatâd cynllunio wedi’i roi yn groes i argymhellion y swyddogion, ar yr amod bod yr amodau cynllunio yn dod yn ôl gerbron y Pwyllgor  i’w cymeradwyo yn seiliedig ar y drafodaeth honno, ac roedd gosod yr amodau hynny ar y caniatâd cynllunio yn cynrychioli parhad o’r broses honno.

 

Trafodaeth Gyffredinol - Mynegodd y Cynghorydd Merfyn Parry bryderon, gyda chefnogaeth y Cynghorwyr Peter Scott a Brian Jones am y bwriad i osod amod sŵn rhif 9 - “Bydd ffenestri nad ydynt yn agor yn cael eu gosod ym mhob ystafell gyfanheddol yn y datblygiad a gymeradwywyd a byddant yn cael eu cadw felly bob amser, heblaw am pan fydd angen gwagio’r adeilad ar frys.”  Cyflwynwyd y ddadl y dylid gallu agor rhywfaint ar y ffenestri er lles trigolion i adael i awyr iach gylchredeg.   Cymharodd y Cynghorydd Scott y cais hwn ag ardal breswyl Pant Glas, Llanelwy, ger yr A55. Penderfynodd Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru na fyddai angen cynllun lleihau sŵn yn yr achos hwn ac eto, byddai’r lefelau sŵn yn uwch na’r safle cartrefi gofal.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Brian Jones at Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru fel yr arbenigwyr ar sŵn o’r lôn gerbydau a dywedodd fod y Cyngor ei hun yn cadw preswylwyr mewn cartrefi gofal preifat heb system awyru mecanyddol a ble nad oedd ffenestri wedi’u selio.   Ar y sail honno, cynigiodd y dylid dileu amod sŵn arfaethedig rhif 9  o’r amodau a awgrymwyd, ac fe eiliodd y Cynghorydd Merfyn Parry.

 

Atgoffodd y Swyddogion  yr aelodau o gefndir y cais, gan nodi nad oedd pob aelod yn bresennol pan roddwyd y caniatâd cynllunio.  Roedd yr adroddiad asesiad sŵn a gyflwynwyd gyda’r cais yn derbyn y gellid bod sŵn annerbyniol o’r A55 a defnydd diwydiannol o’i chwmpas ac roedd y swyddogion wedi argymell y dylid gwrthod y cais.   Roedd y Pwyllgor wedi caniatáu’r cais ar y sail y gellid lliniaru’r sŵn drwy amodau cynllunio ac roedd ffenestri nad oedd yn agor wedi cael eu trafod yn helaeth fel ffordd o leihau sŵn. O ganlyniad, roedd disgwyliad cyfreithiol dilys y byddai amod o’r fath yn cael ei osod o gofio’r hyn a gytunwyd yn flaenorol.

 

Yn ystod trafodaeth bellach, ystyriodd y Cynghorydd Brian Jones y byddai’n briodol ail edrych a dileu’r amod arfaethedig am ffenestri nad oedd yn agor yng ngoleuni gwybodaeth newydd ar y mater, a thynnodd sylw hefyd at ffyrdd eraill o liniaru sŵn yn cynnwys rhwystrau lladd/atal sŵn yn lle ffenestri nad oedd yn agor. Atgoffodd y swyddogion y Pwyllgor  am ymatebion i'r ymgynghoriadau ar y cais, yn enwedig ymateb Llywodraeth Cymru fel awdurdod priffyrdd cefnffordd yr A55, ynddo dynododd fater â sŵn ac roedd wedi dweud y dylai unrhyw ganiatâd gynnwys mesurau lliniaru sŵn digonol oherwydd agosrwydd y safle at yr A55.  Roedd Llywodraeth Cymru wedi derbyn awgrymiadau lliniaru sŵn yr ymgeisydd ar gyfer awyru drwy ffyrdd mecanyddol ac felly roedd wedi cyfarwyddo y byddai ffenestri nad oedd yn agor yn cael eu gosod. O ganlyniad, byddai peidio â gosod yr amod hwn yn groes i gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru fyddai angen cael gwybod cyn symud ymlaen â’r amodau ar gyfer caniatâd. Pwysleisiodd y swyddogion fod caniatâd cynllunio wedi’i roi ar delerau lliniaru sŵn drwy osod amodau, byddai symud oddi wrth y penderfyniad hwn a dileu’r amod sŵn arfaethedig yn arwain at fwy o berygl o adolygiad barnwrol gan bartïon â diddordeb a allai ymestyn i Lywodraeth Cymru. Byddai perygl o her gyfreithiol a pherygl o niwed ariannol/enw da i’r awdurdod.

 

Wrth ystyried y ffordd ymlaen, cyfeiriodd y swyddogion at y dewisiadau sydd ar gael i’r Ymgeisydd yn dilyn gosod amodau cynllunio. Roedd hyn yn cynnwys hawl yr Ymgeisydd i apelio yn erbyn unrhyw amodau cynllunio a osodwyd neu gyflwyno cais i amrywio unrhyw amodau cynllunio - byddai hyn yn rhoi cyfle i ail ymgynghori â Llywodraeth Cymru ac eraill. Tynnodd y Cynghorydd Merfyn Parry sylw at achos blaenorol ble’r oedd amod wedi cael ei ddileu gan swyddogion ond eglurwyd y gallai amodau gael eu hamrywio a’u dileu ar ôl penderfynu ond nid ar y cam hwn o’r broses gan nad oedd caniatâd wedi’i roi eto.  Roedd yn glir o gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru bod angen i fesurau lliniaru sŵn fod yn eu lle, ac er bod mesurau gwahanol ar safleoedd eraill, ar hyn o bryd dim ond yr amod a gynigiwyd oedd yn ymarferol. Awgrymodd y swyddogion y dylid rhoi caniatâd gydag amod 9 yn ei le ac y dylid annog yr Ymgeisydd i gyflwyno cais wedi’i amrywio yn nes ymlaen gyda ffordd wahanol o liniaru sŵn y gellid ei brofi ac ymgynghori arno’n briodol.   Roedd safbwyntiau cymysg yn parhau ymhlith aelodau ynghylch dileu amod arfaethedig rhif 9 a gofynnodd y Cadeirydd am bleidlais.

 

Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Brian Jones y dylid dileu amod arfaethedig rhif 9 o’r amodau a awgrymwyd, yn groes i argymhellion y swyddogion, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Merfyn Parry.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID DILEU’R AMOD - 6

YN ERBYN DILEU’R AMOD - 7

YMATAL – 0

 

METHODD y cynnig i ddileu amod arfaethedig rhif 9 o’r amodau a awgrymwyd. Gofynnodd y Cadeirydd am bleidlais ar y set lawn o amodau arfaethedig.

 

Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Peter Scott y dylid cymeradwyo’r amodau arfaethedig a nodwyd yn yr adroddiad, yn unol ag argymhellion y Swyddogion, yn llawn yn cynnwys amod arfaethedig rhif 9, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Christine Marston.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID – 13

YN ERBYN – 0

YMATAL – 0

 

PENDERFYNWYD gosod yr amodau arfaethedig llawn ar y caniatâd cynllunio fel y nodwyd yn yr adroddiad a chymeradwyo’r cywiriad yn y papurau atodol fel amodau cynllunio.

 

 

Dogfennau ategol: