Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 22/2020/0735/PF - TIR GERLLAW FFERM HENDRERWYDD, HENDRERWYDD, DINBYCH

Ystyried cais i adeiladu annedd menter wledig, gosod gwaith trin preifat a gwaith cysylltiedig ar dir gerllaw fferm Hendrerwydd, Hendrerwydd, Dinbych (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i adeiladu annedd menter wledig, gosod gwaith trin preifat a gwaith cysylltiedig ar dir gerllaw fferm Hendrerwydd, Hendrerwydd, Dinbych.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Ian Jones (O blaid) - rhoddodd hanes cefndirol gan ddweud bod ei deulu wedi byw ar y fferm ers blynyddoedd yn ffermio gwartheg godro. Enillodd y busnes statws organig yn 2006 yn cynnig safonau uchel a chynaliadwyedd, a thynnodd sylw at y ffaith bod nifer y ffermydd llaeth wedi lleihau oherwydd meini prawf llym.   Gofynnwyd am ganiatâd cynllunio ar gyfer llety o ansawdd ar y safle i Reolwr Buches Odro gan fod y bwthyn gwyliau 2 ystafell wely yn anaddas i’r diben hwn.

 

Trafodaeth Gyffredinol - Roedd y Cynghorydd Huw Williams (Aelod Lleol) wedi gofyn am i’r cais gael ei atgyfeirio at y Pwyllgor  i drafod egwyddor y cynnig a’r angen am annedd ychwanegol i gefnogi menter y fferm.   Soniodd am lwyddiant y busnes a’i bwysigrwydd o ran cynaliadwyedd i’r dyfodol a’r rhaglen amgylcheddol y dylid ei chefnogi, a byddai hefyd yn darparu annedd i fodloni’r anghenion hynny a byddai o fudd i’r gymuned. Roedd mwyafrif y profion TAN 6 wedi cael eu bodloni ac roedd safle arfaethedig yr annedd wedi cael ei egluro oherwydd cyfyngiadau yn ardaloedd eraill cyfadeiladau’r fferm. Anogodd yr aelodau i roi caniatâd.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Merfyn Parry fwy o gyd-destun gan ddweud ei bod yn fferm flaengar oedd wedi gwneud y newidiadau angenrheidiol i ddod yn organig a soniodd am y gwaith oedd ynghlwm â gweithredu’r busnes a sicrhau lles anifeiliaid.  Roedd profion cynllunio wedi cyfiawnhau’r angen am annedd ychwanegol i weithiwr fferm. O ran pryderon am bellter yr annedd arfaethedig o gyfadeiladau’r fferm, roedd y rhesymu y tu ôl i’r lleoliad wedi cael ei gyfiawnhau o ran cyfyngiadau tir nad oedd yn eiddo i’r Ymgeisydd; lleoliad y piblinellau nwy a’r perygl o lifogydd.  Nid oedd y Cynghorydd Parry yn ystyried bod maint yr annedd yn rhy fawr ac mewn ymateb i awgrym y swyddogion y dylid defnyddio’r bwthyn gwyliau, soniodd am y trefniadau a gynigiwyd gan yr Ymgeisydd o ran tai, gyda’r bwriad o ddenu ymgeisydd o safon uchel i’r rôl a oedd angen byw ar y safle ac a oedd yn rhan o’r pecyn recriwtio. Ni fyddai’r bwthyn gwyliau 2 ystafell wely yn denu teulu modern i weithio, a’r bwriad oedd ei ddefnyddio fel bwthyn gwyliau neu ar gyfer gweithlu dros dro os oedd angen - nid oedd eiddo arall addas yn yr ardal. O ganlyniad, roedd yn credu bod y cais yn pasio’r meini prawf ar gyfer TAN 6 a chynigiodd y dylid caniatáu’r  cais, a eiliwyd gan y Cynghorydd Mark Young.  Gofynnodd y Cynghorydd Young a oedd yn arferol yn yr amgylchiadau hyn, o gofio y gellid bodloni anghenion lles yr anifeiliaid yn well ar y safle, i weithiwr fferm fyw filltir i ffwrdd fel y cyfeiriwyd yn yr adroddiad.

 

Cadarnhaodd swyddogion nad oedd anghydfod o ran yr angen am ail annedd i weithiwr fferm a’r mater oedd, a oedd yr holl ddewisiadau wedi cael eu hystyried o ran llety arall cyn rhoi caniatâd i adeiladu annedd newydd yng nghefn gwlad agored.  Roedd swyddogion yn ystyried bod y bwthyn gwyliau presennol oedd yn atodiad i’r ffermdy yn addas ac ar gael i’r diben hwn - os nad yn ei ffurf bresennol yna drwy ei addasu.  Roedd Ymgynghorwyr y Cyngor wedi awgrymu anheddau addas posibl o fewn milltir i’r safle ond efallai y bydd gan yr aelodau farn wahanol, ac nid oedd enghreifftiau penodol oedd yn adlewyrchu’r cais presennol i gyfeirio atynt. Ymatebodd y Cynghorydd Mark Young ei bod yn arferol i weithwyr amaethyddol fyw ar y safle fel sy’n amlwg ar ffermydd eraill yn y sir a chaniatâd blaenorol a roddwyd, a chredai bod hyn yn well i les yr anifail a’r staff a’r amgylchedd.

 

Trafododd yr aelodau rinweddau’r cais a chyflwynodd y Cynghorydd Parry ddadleuon pellach am annigonolrwydd y bwthyn gwyliau o ran recriwtio/denu staff a’r potensial i’w addasu.  Cyfeiriwyd hefyd at ei ddefnydd ar wahân fel llety gwyliau a’i ddefnydd posibl ar gyfer staff dros dro yn ystod cyfnodau prysur. Cyfeiriodd y Cynghorydd Brian Jones at yr agenda newid hinsawdd a ffermio organig a thynnodd sylw at yr angen i hyrwyddo’r agenda hwnnw gan dderbyn bod rhwystrau clir rhag datblygu’r uchelgeisiau hynny oherwydd y polisïau/ystyriaethau cynllunio presennol , ac roedd angen gwneud gwaith i sicrhau dull mwy cydlynus.   Ymatebodd swyddogion i’r materion a godwyd gan ddweud nad oedd y materion ynghylch datblygu’r diwydiant ffermio organig a’r llety gwyliau presennol ddim yn addas ar gyfer safon y staff i’w recriwtio yn ystyriaethau cynllunio materol a rhaid bod rhesymau cynllunio cadarn i wyro oddi wrth bolisi cynllunio a gwrthsefyll her gyfreithiol.    Nid oedd y cyllid o’r llety gwyliau yn rhan o’r cynnig busnes na’r cais ac os oedd yr aelodau o blaid caniatáu’r cais, gellid gosod amod i gyfyngu ar ddeiliadaeth yr annedd i weithiwr fferm. Dangosodd y prawf angen gweithredol i ddau weithiwr fferm fod yn byw ar y safle ac o ganlyniad nid oedd cyfiawnhad i gadw’r bwthyn gwyliau wrth gefn i’r cyfleustra posibl ar gyfer gweithwyr ychwanegol, er dros dro, nad oedd caniatâd ar eu cyfer ar hyn o bryd.

 

Cafwyd trafodaeth bellach ynghylch pa mor addas oedd y llety gwyliau, a chadarnhaodd y swyddogion eu barn bod y llety gwyliau ar gael ac yn addas i fodloni anghenion busnes y fferm ac roedd cynlluniau yn eu lle (o ganiatâd blaenorol a roddwyd yn 2005) oedd yn dangos y gellid gwella’r annedd i 100 metr sgwâr, 4 ystafell wely, a gyda chais cynllunio diwygiedig, gellid ei ymestyn a’i uwchraddio ymhellach. Dadleuodd y Cynghorydd Parry fod yr holl brofion TAN 6 wedi cael eu bodloni oherwydd nad oedd y llety gwyliau yn addas fel ail annedd yn ei ffurf bresennol ac nad oedd yn addas ar gyfer ei ddatblygu ymhellach oherwydd oed yr adeilad a materion o ran inswleiddio.  Tynnodd y Cynghorwr Cyfreithiol sylw at y risg posibl o wneud penderfyniad ar y sail honno a digonolrwydd y rhesymeg dros wyro oddi wrth y polisi. Er na fyddai apêl gan yr Ymgeisydd yn yr achos hwnnw, roedd posibilrwydd o adolygiad barnwrol.

 

Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Merfyn Parry, ac eiliodd y Cynghorydd Mark Young y dylid caniatáu’r cais, yn groes i argymhellion y swyddogion, ar y sail bod yr holl brofion TAN 6 wedi cael eu bodloni ac nad oedd y llety gwyliau’n addas fel ail annedd i weithiwr amaethyddol yn ei ffurf bresennol nac yn addas i’w ddatblygu ymhellach oherwydd ei oed a’i gyflwr strwythurol. 

 

PLEIDLAIS:

O BLAID – 8

YN ERBYN – 6

YMATAL – 1

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R  cais cynllunio yn groes i argymhellion y swyddogion, er gwaethaf yr adroddiad, ar sail bod yr holl brofion TAN 6 wedi cael eu bodloni oherwydd nad oedd y llety gwyliau oedd yn atodiad i’r ffermdy presennol yn addas fel ail annedd i weithiwr amaethyddol yn ei ffurf bresennol nac yn addas i’w ddatblygu ymhellach oherwydd ei oed a’i gyflwr strwythurol ac y dylai adroddiad ar yr amodau cynllunio arfaethedig ynghlwm â’r caniatâd ddod yn ôl gerbron y pwyllgor i’w gymeradwyo.

 

 

Dogfennau ategol: