Eitem ar yr agenda
CYNLLUNIAU CYNLLUN TEITHIO LLESOL COVID-19
Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd i gynnig
diweddariad pellach ar ganfyddiadau’r prosiect (copi ynghlwm).
Cofnodion:
Roedd aelod o'r cyhoedd, Mr Stuart Davies, wedi
gofyn am gael cyfarch y Pwyllgor, a chytunwyd iddo gael siarad ar ôl yr aelodau
a'r swyddogion.
Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant
a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Brian Jones, adroddiad ar y Cynllun Teithio
Llesol. Roedd yr adroddiad yn rhoi
manylion am y cynlluniau teithio llesol dros dro a roddwyd ar waith yn nifer o
ganol trefi Sir Ddinbych ddiwedd 2020, ac oedd bellach wedi cael eu dileu.
Roedd yr adroddiad yn
cynnig diweddariad pellach ar ganfyddiadau’r prosiect fel dilyniant i adroddiad
a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau ym mis Rhagfyr 2020 ac oedd
wedi’i gynnwys yn Atodiad A yr adroddiad.
Cafwyd crynodeb gan y Rheolwr Traffig, Parcio a
Diogelwch ar y Ffyrdd ar gefndir y cynllun gwreiddiol. Roedd
cynlluniau wedi cael eu datblygu ar gyfer canol trefi Dinbych, Llangollen, y
Rhyl a Rhuthun. Cafodd y rhain gyllid
gan LlC ym mis Mehefin 2020, ac eithrio Dinbych, a dynnwyd yn ôl. Roedd adroddiad Rhagfyr 2020, sydd wedi’i
gynnwys yn Atodiad A, yn darparu mwy o fanylion am y grant a’r broses a
ddilynwyd.
Yn dilyn oedi ar y cychwyn yn sgil argaeledd
contractwr a phrinder deunyddiau, rhoddwyd cynlluniau Llangollen, y Rhyl a
Rhuthun ar waith ym mis Tachwedd 2020.
Cynllun Rhuthun - Cafodd y cynllun yn Rhuthun broblemau
cychwynnol y deliwyd a nhw'n bennaf drwy wneud mân addasiadau i’r cynllun.
Cafwyd cwynion gan nifer o fusnesau a effeithiwyd yn uniongyrchol gan y mesurau
am golli mannau parcio a llwytho y tu allan i’w heiddo. Er fod rhai mesurau
lliniaru ar gyfer y colledion hynny wedi’u cynnwys o fewn y cynllun
cyffredinol, ni ystyriwyd hyn yn ddigon gan rai perchnogion busnes. Yng
ngoleuni’r pryderon hyn, cynhaliwyd cyfarfodydd gyda GAA Rhuthun a arweiniodd
at i’r Aelod Arweiniol benderfynu tynnu’r cynllun yn ôl, a digwyddodd hyn ym
mis Chwefror 2021.
Cynllun Llangollen - Ychydig iawn o adborth a gafwyd i
gychwyn mewn ymateb i’r cynllun yn Llangollen yn dilyn ei gyflwyno yn gynnar ym
mis Tachwedd 2020. Fodd bynnag, o fis Mawrth 2021 ymlaen, gwelwyd nifer o
achosion o gerddwyr yn baglu dros sylfaeni’r pyst dros dro a osodwyd. Wrth i’r
achosion hyn barhau, cafodd y pyst eu disodli gyda photiau plannu blodau cul a
lwyddodd i roi diwedd ar yr achosion o faglu. Roedd y cynllun dros dro hefyd
wedi arwain at gynnydd mewn cerbydau mawr yn gyrru ar y palmant er mwyn gallu
mynd heibio rhwystrau a achoswyd gan y lôn draffig wrthwynebol.
Er gwaethaf y pryderon, roedd GAA Dyffryn Dyfrdwy
yn awyddus i gadw’r cynllun dros dro gan fod y palmant ychwanegol a grëwyd yn
ddefnyddiol iawn ar gyfer y nifer fawr o gerddwyr yn Llangollen. Roedd y farn
hon hefyd wedi’i seilio ar yr adborth a gafwyd o ymgynghoriad ar-lein dilynol.
Er y cafwyd safbwyntiau cymysg am y cynllun dros dro, nododd o leiaf 60% o’r
ymatebwyr eu bod yn teimlo y dylai’r cynllun barhau oherwydd ei fod yn gweithio’n
dda, neu oherwydd eu bod yn teimlo ei bod yn rhy gynnar i lunio casgliadau i’r
gwrthwyneb. Nododd sylwadau gan swyddogion ar y safle fod digon o ddefnydd yn
cael ei wneud o’r palmentydd ehangach, hyd yn oed y tu allan i’r cyfnodau brig,
megis ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau’r ysgol.
Yn dilyn llacio cyfyngiadau Covid Llywodraeth
Cymru yng nghanol mis Awst 2021, ac ar ôl symud i Lefel Rhybudd 0, penderfynodd
yr Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd ddileu’r cynllun dros dro
yn dilyn trafodaeth gydag aelodau lleol.
Cynllun y Rhyl - Ar ôl ei roi ar waith, ychydig iawn o
adborth a gafwyd gan drigolion am y cynllun dros dro yn y Rhyl. Fodd bynnag, codwyd pryderon gan fusnesau
lleol a ddywedodd bod colli parcio ar y stryd wedi cael effaith niweidiol ar eu
busnesau. Cododd rhai trigolion ac aelodau lleol bryderon bod y cynllun wedi
cynyddu ciwiau traffig ar gyffordd yr A548 Ffordd Wellington/Stryd Bodfor. Yn
dilyn ymgynghoriad gyda GAA y Rhyl, daeth yr Aelod Arweiniol i benderfyniad, a dilëwyd
y cynllun ddiwedd Ebrill 2021.
O ganlyniad i’r ymateb arbennig o negyddol i
gynllun Dinbych, cytunwyd i gynnal ymgynghoriad byr ar gyfer y pedwar cynllun
dros dro arfaethedig.
Ac eithrio cynllun Dinbych, cafodd y tri chynllun
arall eu cefnogi gan ymatebwyr yr ymgynghoriad ar y cyfan. Erbyn i’r prosiectau
gael eu cyflwyno ddiwedd Hydref/dechrau Tachwedd, roedd nifer ymwelwyr cyfnod
brig y gwanwyn/yr haf wedi gostwng ac roedd y “cyfnod atal byr” ym mis Hydref
newydd ddigwydd. Oherwydd y tywydd oerach, ynghyd â chyfnod clo pellach rhwng
20 Rhagfyr 2020 a’r Gwanwyn, roedd nifer o’r canol trefi yn eithaf gwag. Felly
roedd diben y cynlluniau dros dro hyn yn llai amlwg, yn enwedig gan fod hyn yn
aml wedi dod ar draul parcio ar y stryd. Roedd hyn yn sicr yn ffactor ar gyfer
dileu cynlluniau’r Rhyl a Rhuthun yn gynnar.
Cadarnhawyd bod CSDd wedi bod mewn trafodaethau â
Llywodraeth Cymru ac wedi cyfleu rhai o’r problemau a’r heriau a wynebwyd mewn
perthynas â’r cynlluniau.
Yn ystod y drafodaeth:
·
Bu i aelodau’r
Pwyllgor gydnabod er mai nod y cynllun brys a ariannwyd yn llawn gan LlC oedd
helpu busnesau canol y dref yn ystod argyfwng cenedlaethol pan oedd rheolau
cadw pellter cymdeithasol mewn grym, bod yr amserlenni tynn a’r rheolau llym
oedd yn gysylltiedig wedi llesteirio ei gyflawniad a’i effeithiolrwydd
cyffredinol.
·
Dywedodd
swyddogion bod yr awdurdodau lleol eraill a oedd wedi gweithredu'n gyflym heb
ymgynghori â busnesau lleol er mwyn sefydlu’r cynlluniau’n gyflym, hefyd wedi
cael eu beirniadu am eu gweithrediad a’u cyflawniad.
·
Roedd
aelodau lleol Llangollen o’r farn y bu’r cynllun yn llwyddiant yno, a’i fod
wedi helpu cadw trigolion lleol ac ymwelwyr yn ddiogel yn ystod tymor
twristiaid eithriadol o brysur yn yr ardal.
·
Cafwyd
trafodaethau rheolaidd wrth weithredu'r cynllun yng nghyfarfodydd Uwch Dîm
Arwain y Cyngor, a bu awdurdodau lleol yn adrodd yn rheolaidd i LlC ar eu
cynlluniau, eu llwyddiannau ac unrhyw wrthwynebiadau a heriau y bu'n rhaid
iddyn nhw eu hwynebu.
·
Byddai
gwersi a ddysgwyd o’r ymarfer penodol hwn yn fuddiol wrth ddatblygu cynlluniau
teithio llesol hirdymor yn y dyfodol gyda’r nod o fynd i’r afael ag effeithiau
newid hinsawdd.
Ar y pwynt hwn, rhoddwyd cyfle i Mr Stuart Davies
gyfarch y Pwyllgor Craffu Partneriaethau. Cyfeiriodd
Mr Davies at yr adroddiad oedd yn ymwneud â Llangollen a oedd, yn ei farn ef,
yn anghyflawn. Teimlai bod yr adroddiad
wedi methu â chydnabod materion pwysig.
Roedd yn cydnabod yr amserlen fer yr oedd rhaid gweithio iddi, ond
teimlai y cytunwyd ar y cynllun mewn egwyddor heb ymgynghori ymlaen llaw â
Chyngor Tref Llangollen nag aelodau'r cyhoedd.
Aeth ymlaen i nodi nad oedd yr adroddiad yn cydnabod deiseb ag arni 600
o lofnodion wedi’u dilysu a oedd yn gwrthwynebu’r cynllun, a gyflwynwyd i
swyddogion a chynghorwyr CSDd. Nododd
bod 80% o’r busnesau lleol wedi gwrthwynebu’r cynllun. O ystyried nifer yr anafiadau i aelodau’r
cyhoedd, roedd swyddogion a chynghorwyr perthnasol CSDd wedi methu ag ymarfer
diwydrwydd dyladwy drwy gofnodi asesiad risg a oedd yn rhoi ystyriaeth i’r
perygl o anafiadau i’r cyhoedd, er i’r cyhoedd fynegi pryder am hyn o’r cychwyn
cyntaf. Bu i ymgynghoriad cyhoeddus mis
Gorffennaf gydnabod bod mwyafrif yr ymatebion yn nodi nad oedden nhw’n cael eu
hannog i ddefnyddio mwy ar fesurau teithio llesol. Yn dilyn sawl anaf i’r cyhoedd ac er i Gyngor
Tref Llangollen wneud cais am asesiad risg ar gyfer defnyddio amddiffynwyr lôn,
ac yna potiau plannu, fel estyniad i gerddwyr ar briffordd gyhoeddus, ni chafwyd
asesiad o’r fath. Anwybyddwyd pryderon
cychwynnol gan y cyhoedd nes i gopïau o ffilm TCC a ffotograffau gan Mr Davies
o’r damweiniau a ddigwyddodd gael eu hanfon at Aelodau Seneddol a’r Wasg. Ym marn Mr Davies, roedd Llangollen wedi cael
rhywfaint o’r cyhoeddusrwydd gwaethaf posib o ganlyniad i’r wasg genedlaethol,
gydag adroddiadau’n ymddangos ar y BBC ac yn y Daily Mail. Hyd yn oed
wedyn, yn ei farn ef, roedd swyddogion CSDd yn parhau i asesu bod y cynllun yn
addas i’r diben heb unrhyw ddogfennau na thystiolaeth wedi’i seilio ar ffeithiau
i gefnogi eu datganiad. Aethpwyd ymlaen
i addasu’r cynllun yn Llangollen, ar gost ychwanegol, gan wrthod ceisiadau’r
cyhoedd i ddileu’r cynllun. Roedd cau
Short Street yn rhan o’r cynllun ac fe seiliwyd hyn ar safbwyntiau personol gan
ddyfynnu pryderon diogelwch amhenodol.
Datgelodd ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth dilynol na fu unrhyw ddamweiniau
yno yn y pum mlynedd diwethaf. Galwodd
Mr Davies ar y Pwyllgor Craffu Partneriaethau i ofyn pam na chynhaliwyd
asesiadau risg priodol, gan fod hynny wedi arwain at anafiadau difrifol i’r
cyhoedd. Pam na roddwyd ystyriaeth i’r
farn gyhoeddus a pham fod CSDd wedi ceisio datblygu rhywbeth nad oedd yn addas
i’r diben yn y lle cyntaf? Dilëwyd
cynllun teithio llesol Rhuthun, felly pam na ddigwyddodd hyn yn Llangollen?
Yn dilyn datganiad Mr Stuart Davies, cynigiodd y Cynghorydd Rachel Flynn
bod y cyngor yn adolygu’r broses a ddefnyddiwyd i weithredu a dileu pob Cynllun
Teithio Llesol Covid-19 yn Sir Ddinbych, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Joan
Butterfield.
Cynhaliwyd pleidlais a chytunwyd yn unfrydol i
dderbyn yr argymhelliad ychwanegol.
Yn dilyn
trafodaeth fanwl ar bob agwedd ar y Cynlluniau, bu i’r Pwyllgor:
BENDERFYNU: - yn
amodol ar y sylwadau a’r arsylwadau uchod, y byddai’n –
(i) derbyn
y wybodaeth a ddarparwyd; ac yn
(ii) gofyn
i’r Cyngor adolygu’r broses a ddefnyddiwyd i weithredu ac i ddileu pob Cynllun
Teithio Llesol Covid-19 yn Sir Ddinbych, gyda golwg ar adnabod arferion da a
gwersi i’w dysgu y gellid eu defnyddio wrth ddosbarthu ffrydiau cyllido brys
tymor byr allai fod ar gael yn y dyfodol.
Dogfennau ategol:
- Covid AT schemes - Final report Welsh, Eitem 6. PDF 220 KB
- Covid AT Schemes Report 041121 - App A.Cymraeg, Eitem 6. PDF 221 KB