Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUN ADFER CANOL TREFI YN DILYN COVID A MENTRAU ARDRETHI ANNOMESTIG CENEDLAETHOL

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd a’r Pennaeth Cyllid ac Eiddo sy’n darparu gwybodaeth ynghylch cyflwr presennol canol ein trefi, y camau adferol yr ydym wedi'u cymryd hyd yma a mentrau i'r dyfodol i fynd i’r afael â’r heriau y mae busnesau'n eu hwynebu (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, adroddiad ar y Cynllun Adfer Canol Trefi yn dilyn Covid a Mentrau Ardrethi Annomestig Cenedlaethol (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion nifer yr eiddo busnes gwag sydd yna yng Nghanol y Trefi a mentrau Ardrethi Annomestig Cenedlaethol (NNDR).  Roedd yr adroddiad hefyd yn amlygu’r heriau y mae busnesau canol tref yn eu hwynebu ledled y sir a’r dulliau sy’n cael eu defnyddio i fynd i’r afael â’r rhain.

 

Er bod cyfanswm yr Eiddo Gwag o fewn ardal y Cyngor wedi cynyddu o 267 eiddo (Ebrill 2020) i 294 eiddo (Medi 2021), mae cyfanswm eiddo Ardrethi Busnes hefyd wedi cynyddu o 4,361 eiddo (Ebrill 2020) i 4,455 eiddo (Medi 2021).  Mae’r adeiladau gwag yn cynrychioli 6.7% o’r 4,455 o eiddo Ardrethi Busnes cyffredinol.

 

Mae yna wahanol eithriadau rhag ardrethi eiddo gwag, e.e. y cyfnod eithriad cychwynnol o 3 neu 6 mis, eiddo y mae ei berchennog yn destun achos ansolfedd, eiddo y mae ei werth ardrethol yn is na’r trothwy taladwy, adeiladau rhestredig, tir, mastiau telathrebu ac eiddo y gwaherddir ei feddiannu yn ôl y gyfraith. Roedd Atodiad 1 yr adroddiad yn dangos dadansoddiad o’r eiddo gwag a’r eithriadau cysylltiedig.

 

Roedd yna ddwy fenter allweddol gan Lywodraeth Cymru (LlC) yn cynnig cymorth i ddosbarthiadau penodol o Fusnesau drwy gynlluniau rhyddhad.  Byddai’r mentrau hyn yn cynnig gostyngiad yn yr Ardrethi Busnes neu hyd yn oed yn eu dirymu.

 

Dyma’r ddau gynllun:

·         Y Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach, sy’n cynnig hyd at 100% o ryddhad i Fusnesau sydd â Gwerth Ardrethol o dan £6,000, a rhyddhad ar raddfa i fusnesau sydd â Gwerth Ardrethol rhwng £6,001  a £12,000.

·         Y Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch, sy’n cynnig gostyngiad o 100% mewn Ardrethi Busnes i Fusnesau cymwys yn 2020/21 a 2021/22.

 

Roedd yna ddewis pellach i Awdurdodau Lleol roi gostyngiad yn yr ardrethi taladwy, gan ddefnyddio’r grymoedd a roddwyd o dan Ddeddf Lleoliaeth 2011.  Byddai’n gwneud hyn drwy ddyfarnu rhyddhad yn ôl disgresiwn. Fodd bynnag, byddai cost lawn unrhyw ddyfarniad a roddwyd o dan y cynllun hwn yn cael ei dalu gan y Cyngor.

 

Problem arall gyda dyfarniad o dan y Ddeddf Lleoliaeth oedd y gallai Busnesau eraill hawlio bod y Cyngor wedi creu amgylchedd gwrth-gystadleuol am ei fod yn rhoi cymhorthdal i rai trethdalwyr, gan roi eraill dan anfantais drwy wneud hynny.

 

Er bod cynlluniau rhyddhad ar gael, roedd siopau wedi cau yn lleol ac yn genedlaethol, a arweiniodd at nifer o eiddo gwag.  Roedd pedwar rheswm dros hyn:

·         Er bod yr Ardrethi Busnes wedi’u gostwng, ni welwyd gostyngiad cyfwerth mewn rhenti eiddo ac mewn nifer o achosion, nid oedd y landlordiaid wedi cynnig gostyngiad mewn rhent.

·         Roedd rhai cwmnïau mawr wedi symud siopau unigol i eiddo mwy, e.e. bu i Carphone Warehouse gau eu siopau ym Mharc Manwerthu Prestatyn ac yn y Rhyl, a’u cynnwys yn yr eiddo mwy ym Mharc Manwerthu Clwyd yn y Rhyl.

·         Roedd unedau siopau eraill hefyd wedi cau ac wedi’u cynnwys mewn siopau eraill, fel Argos yn siop Sainsbury’s neu Costa Coffee yn rhan o garej.

·         Mae’r newid i siopa ar-lein wedi cynyddu ymhellach yn sgil Covid-19.  Mae nifer o fusnesau, banciau yn enwedig, wedi cau nifer o ganghennau am fod pobl yn defnyddio gwasanaethau ar-lein.

Yn ogystal, mae cwsmeriaid bellach yn gwneud llawer mwy o ddefnydd o siopau manwerthu fel mannau casglu neu ollwng, ar ôl archebu’r nwyddau ar y rhyngrwyd.

 

Mae data ar nifer yr ymwelwyr i’r trefi i’w weld yn Atodiad 3.  Mae’r data’n dangos yr effaith negyddol amlwg y mae Covid-19 wedi’i gael ar ganol trefi yn sgil canllawiau’r llywodraeth ar gyfyngiadau masnachu a theithio. 

 

Roedd y Tîm Datblygu Economaidd a Busnes (DEB) wedi comisiynu arolwg busnes er mwyn cael dealltwriaeth o’r heriau roedd busnesau’n eu hwynebu yn sgil Covid-19.  Trefnwyd y lansiad i gyd-fynd â diwedd y cyfnod ffyrlo er mwyn cael gwell dealltwriaeth.  Bydd adroddiad ar y canfyddiadau ar gael yn gynnar yn 2022.

 

Cynigiodd rhaglen thematig Trawsnewid Trefi becyn cymorth hyblyg ac eang i Awdurdodau Lleol yng Nghymru, gyda’r nod o adfywio canol trefi ledled Cymru.  Roedd y rhaglen yn dilyn dull ‘Canol Trefi yn gyntaf' o adfywio a chafodd ei chyflwyno a’i blaenoriaethu ar lefel ranbarthol.  Yn achos Gogledd Cymru, goruchwyliwyd y blaenoriaethu gan Grŵp o Swyddogion Adfywio Rhanbarthol, oedd yn cynnwys y chwech awdurdod lleol. Mae prosiectau a ddarperir drwy’r pecyn hwn ar hyn o bryd yn cynnwys Stryd y Castell Llangollen 2020, Hummingbird Dinbych, Marchnad y Frenhines Cam 1 a Phorth Canol Tref y Rhyl Cam 1.

 

Roedd y tîm DEB yn cefnogi’r cais ar gyfer Cronfa Codi’r Gwastad. Diben y Gronfa hon oedd buddsoddi mewn seilwaith, gan gynnwys adfywio canol trefi a strydoedd mawr, gwella cludiant lleol a buddsoddi mewn asedau diwylliannol a threftadaeth.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi dewis y Rhyl fel un o bedair tref beilot ar gyfer y Gronfa Entrepreneuriaeth Canol Tref. Roedd y gronfa yn cynnig hyd at £10,000 y busnes mewn refeniw i sefydlu neu adleoli yn y dref.  Hyd yma, mae 22 o fusnesau wedi mynegi diddordeb, ac mae’r ceisiadau yn cael eu prosesu gan Busnes Cymru.

 

Yn ystod y trafodaethau, codwyd y pwyntiau canlynol:

·         Yn ystod cyfnodau prysur yn y flwyddyn, roedd ambell ardal yn gweld nifer uchel o ymwelwyr, ac awgrymwyd y gallai cludiant o un dref i’r llall i ymwelwyr leddfu achosion o dorfeydd yn heidio i’r un mannau poblogaidd. 

Cadarnhawyd bod swyddogion yn edrych ar ddewisiadau creadigol i annog ymwelwyr i grwydro gwahanol drefi, gan gynnwys cysylltu â gweithredwyr masnachol i drafod y posibilrwydd o gludiant.

·         Cadarnhawyd bod mynd i’r afael ag eiddo busnes gwag a’u llenwi yn flaenoriaeth i CSDd a Llywodraeth Cymru.

·         Awgrymwyd y gallai cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd ym mhob un o gyfarfodydd Grwpiau Ardal yr Aelodau (GAA) fod yn ffordd ymarferol o gyfleu gwybodaeth i bob aelod, yn hytrach nag aros i eitem gael ei chyflwyno yn y Pwyllgor Craffu. 

Cadarnhaodd y swyddogion y gellid darparu diweddariad rheolaidd (e.e. bob 3 mis) i gyfarfodydd GAA, ac y gallai’r wybodaeth honno gynnwys y diweddaraf am brosiectau adfywio a mentrau Cronfa Codi’r Gwastad.

·         Roedd siopau dros dro yn cael eu treialu yn y Rhyl. 

Byddai’r rhain yn rhoi cyfle i fasnachwyr bach a busnesau newydd arddangos eu cynnyrch a’u busnesau.

·         Roedd annog busnesau o gyrion y dref i ddod i mewn i ganol y dref yn un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.

Roedd Llywodraeth Cymru yn rhedeg cynllun o’r enw “Canol Trefi yn Gyntaf”, a bydd y wybodaeth honno'n cael ei rhannu â'r aelodau.  Roedd y Cynllun Canol Trefi’n Gyntaf yn cysylltu â gwaith y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) ar gyfer dyfodol Sir Ddinbych.

·         Holwyd tybed a oedd rhai busnesau’n gyndyn o ymuno â chynlluniau neu newid eu horiau gweithredu neu fodelau busnes er mwyn manteisio ar arferion byw cyfoes, y mae rhai ohonynt wedi newid yn sylweddol ers cychwyn y pandemig, ond cadarnhawyd y byddai busnesau’n cael anogaeth i addasu. 

Roedd CSDd am gynnal arolwg penodol mewn perthynas â hyn, a byddai’r canlyniadau’n cael eu rhannu â’r aelodau.

·         Y ddau Brosiect Digidol oedd:

o   Trefi SMART MaybeTech – Byddai’r prosiect yn cael ei redeg ar y cyd â Menter Môn, Ardal Gwella Busnes y Rhyl a’r darparwr technoleg, MaybeTech, ac yn cynnig platfform digidol i fusnesau canol tref y Rhyl.

Dewiswyd y Rhyl fel lleoliad peilot ar gyfer mabwysiadu technoleg newydd i wella cystadleurwydd a chynaliadwyedd y dref.  Roedd y platfform yn cynnig data craff i fusnesau i’w helpu i lywio penderfyniadau ar adfer a thyfu eu busnes.

o   Cynllun Grant Digidol Cyngor Sir Ddinbych – Roedd y cynllun yn cynnig cymorth ariannol i fusnesau fabwysiadu technoleg ddigidol er mwyn gwella cynhyrchiant, sefydlogrwydd a thwf.

Roedd y cynllun ar agor i fusnesau ledled y sir oedd yn fodlon cynnal adolygiad o’u busnes gyda Cyflymu Cymru i Fusnesau fel arbenigwyr pwnc. Roedd canfyddiadau’r adolygiad yn helpu penderfynu pa grant i wneud cais ar ei gyfer a pha becynnau oedd yn cael eu hariannu.

·      Dywedodd y swyddogion nad oedd canlyniadau’r arolwg ond un elfen o’r wybodaeth yr oedden nhw’n ei defnyddio i helpu cyfeirio busnesau canol tref bach a chanolig at becynnau cymorth oedd ar gael iddyn nhw. 

Roedd setiau data eraill, fel gwybodaeth am nifer yr ymwelwyr, hefyd yn cael eu defnyddio.  Roedden nhw hefyd yn annog aelodau i lywio’r Gwasanaeth os oedden nhw’n ymwybodol o eiddo busnes gwag yn eu wardiau nad oedd i’w gweld ar restr y Cyngor.

·      Er bod pob ymdrech yn cael ei wneud i helpu busnesau lleol oroesi a ffynnu yn sgil y pandemig, roedd nifer o fusnesau wedi cael eu taro’n galed ac, yn dibynnu ar natur y busnes, yn parhau i wynebu anhawster am beth amser nes y byddai rhyw fath o 'fusnes arferol' a hyder ymysg defnyddwyr yn dychwelyd.

 

Ar ddiwedd trafodaeth drylwyr bu i’r Pwyllgor:

 

BENDERFYNU, yn amodol ar y sylwadau a’r arsylwadau uchod, derbyn y wybodaeth am waith sydd ar y gweill i gefnogi adferiad canol trefi’r Sir yn dilyn Covid-19, mentrau ardrethi annomestig cenedlaethol a lleihau nifer yr eiddo busnes gwag.

 

 

Dogfennau ategol: