Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DEDDF TRWYDDEDU 2003: CAIS I AMRYWIO TRWYDDED EIDDO – THE COVE, 17 -19 WATER STREET, Y RHYL

Ystyried cais i amrywio Trwydded Eiddo yn unol ag Adran 34 Deddf Trwyddedu 2003 ar gyfer The Cove, 17 -19 Water Street, y Rhyl (mae amlinelliad o'r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm).

 

Nodwch y drefn i’w chymryd gan yr Is-bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon).

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD, yn destun amodau, cymeradwyo’r cais mewn perthynas ag amrywio'r oriau a ganiateir ar gyfer gweithgareddau trwyddedadwy yn unol â'r cais i 3.00am o ddydd Sul i ddydd Iau, a gwrthod yr elfen o’r cais sy’n ymwneud â diwygio’r amodau mewn perthynas â goruchwylwyr drws.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â diweddariad ar lafar –

 

(i)        derbyniwyd cais gan Ms. A. Nelson i amrywio trwydded eiddo bresennol ac ymestyn oriau gweithredu yn The Cove, 17 – 19 Stryd y Dŵr, Y Rhyl a diwygio amodau presennol mewn cysylltiad â goruchwylwyr drws (Atodiad A yr adroddiad);

 

(ii)      mae’r ymgeisydd wedi gofyn am awdurdodiad i ymestyn yr oriau fel a ganlyn -

 

GWEITHGAREDD TRWYDDEDADWY

DIWRNODAU PERTHNASOL

AMSEROEDD

Gwerthu alcohol (i’w yfed ar ac oddi ar y safle)

Dydd Sul - dydd Iau

11.00 – 03:00

Darparu cerddoriaeth wedi’i recordio

Dydd Sul - dydd Iau

11.00 – 03.00

Darparu cerddoriaeth fyw

Dydd Sul - dydd Iau

11.00 – 02.00

Oriau agor yr eiddo

Dydd Sul - dydd Iau

11.00 – 03:00

 

(iii)     mae’r drwydded eiddo bresennol (Atodiad B yr adroddiad) yn awdurdodi darparu gweithgareddau trwyddedadwy fel y rhestrir uchod ar ddydd Gwener  a dydd Sadwrn (Atodiad B yr adroddiad) ac roedd y cais yn berthnasol i ddydd Sul – dydd Iau yn unig. Mae’r gweithgareddau trwyddedadwy yn dod i ben am hanner nos ar hyn o bryd;

 

(iv)     mae’r cais hefyd yn gofyn bod amodau'r drwydded bresennol sy’n gysylltiedig â goruchwylwyr drws yn cael eu diwygio fel a ganlyn -

 

  • Dydd Sul i ddydd Iau – 1 goruchwyliwr drws rhwng 21:00 a 03:00
  • Dydd Gwener a dydd Sadwrn (a Gwyliau Banc/ Digwyddiadau) – 2 oruchwyliwr drws rhwng 21:00 a 03:00

 

(v)      derbyniwyd un sylw ysgrifenedig (Atodiad C yr adroddiad) gan Barti â Chysylltiad yn ymateb i’r hysbysiad cyhoeddus yn ymwneud yn bennaf ag aflonyddwch posibl yn sgil sŵn gyda nifer o recordiadau sŵn eisoes wedi cael eu cyflwyno i gefnogi’r sylw (a ddosbarthwyd yn flaenorol);

 

(vi)     ni fu proses o gyfryngu rhwng yr Ymgeisydd a’r Parti â Chysylltiad yn llwyddiannus yn yr achos yma;

 

(vii)    mae’r Atodlen Weithredu arfaethedig sydd wedi cael ei chynnwys fel rhan o’r cais yn manylu  nifer o gamau arfaethedig i hyrwyddo’r pedwar amcan trwyddedig o ganlyniad i’r amrywiad (Adran M, Atodiad A yr adroddiad);

 

(viii)  yr angen i ystyried y cais gan ystyried Datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; Canllawiau a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol a deddfwriaeth berthnasol arall a sylwadau perthnasol a ddaeth i law, a

 

(ix)     yr opsiynau sydd ar gael i’r Is-bwyllgor wrth benderfynu ar y cais.

 

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu’r adroddiad gan fanylu ar ffeithiau'r achos.  Fe dynnodd sylw’r Aelodau at y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan yr Ymgeisydd i gefnogi ei chais oedd yn cynnwys llythyrau gan breswylwyr cyfagos a manylion y mesurau rheoli sŵn (a ddosbarthwyd cyn y cyfarfod).

 

CAIS YR YMGEISYDD

 

Roedd Ms. A. Nelson (Ymgeisydd) yn bresennol i gefnogi’r cais.

 

Gan roi ychydig o gefndir, eglurodd Ms. Nelson ei bod yn rhedeg y busnes ers 2019. Roedd cais yr amrywiad yn ymwneud yn bennaf ag ymestyn oriau trwyddedu dydd Sul – dydd Iau o hanner nos i 3.00am yn unol ag oriau gweithredu arferol nos Wener a nos Sadwrn.  Mae’n bosibl na fydd yr oriau gweithredu llawn yn cael eu defnyddio’n rheolaidd, dim ond pan fyddai angen.

 

Ymatebodd Ms. Nelson i gwestiynau’r aelodau fel a ganlyn -

 

·         roedd hi’n ymgysylltu’n llawn gyda’r Heddlu ac roedd hi’n aelod gweithgar o Gynllun Gwarchod Tafarndai ac yn hyrwyddo ymgyrchoedd ‘Time for Home’ a ‘Gofynnwch am Angela’

·         roedd safleoedd trwyddedig eraill yn yr ardal yn gweithredu oriau hwyrach ac roedd y stryd yn brysurach yn hwyr nos, felly byddai ymestyn oriau trwyddedig presennol yn cael effaith fawr ar hyfywedd y busnes yn y dyfodol.

·         gofynnwyd am y newidiadau arfaethedig i amodau goruchwyliwr drws er mwyn adlewyrchu’r newid i oriau gweithredu; y bwriad oedd cyflogi un goruchwyliwr drws i ddechrau ond petai’r oriau hwyrach yn llwyddiant a bod y niferoedd yn cynyddu, fe ellir ailasesu’r sefyllfa a chyflogi goruchwylwyr drws ychwanegol fel y bo’n briodol; roedd pob aelod staff wedi cael hyfforddiant i ddelio â gwrthdaro

·         derbyniwyd un cwyn am sŵn ym mis Gorffennaf 2021 drwy’r Swyddog Gorfodi Trwyddedu a chymerwyd camau i sicrhau nad oedd y gerddoriaeth yn rhy uchel a bod y drws blaen yn parhau ynghau

·         nid yw’r Heddlu wedi cael eu galw ar gyfer unrhyw fater sy’n ymwneud â phroblem yn yr eiddo; mae’r Heddlu wedi cael eu galw gan y busnes ar ddau achlysur oherwydd digwyddiad y tu allan, ond nid oedd yn gysylltiedig â nhw 

·         cafodd cwynion eu rheoli drwy benderfynu ar y math o ddigwyddiad (os o gwbl) yr oedd yn cael ei briodoli i’r eiddo gyda’r bwriad o fynd i’r afael â’r mater – dim ond un cwyn a dderbyniwyd ym mis Gorffennaf 2021 a chymerwyd camau i sicrhau bod y drysau blaen yn aros ynghau a bod y gerddoriaeth yn cael ei gadw lefel resymol

·         roedd hi wedi bod yn ymwneud â’r diwydiant lletygarwch ers peth amser ond nid oedd hi wedi cael llawer o brofiad gyda chwynion am sŵn – roedd hi’n ymwybodol bod y trwyddedai blaenorol wedi cael cwynion am sŵn ond roedd yn credu eu bod wedi cael eu datrys

·         hi fyddai’n bennaf gyfrifol am sicrhau bod y camau a fanylwyd yn yr atodlen weithredu i hyrwyddo amcanion trwyddedu yn cael eu cynnal ond rhoddodd sicrwydd y byddai rheolwr bar profiadol gyda thrwydded bersonol hefyd yn cael ei ch/gyflogi yn yr eiddo a bod pob aelod staff wedi cael hyfforddiant priodol

·         roedd hi’n gwbl ymwybodol o Amcanion Trwyddedig ac roedd hi’n eu hyrwyddo

·         roedd mesurau lleihau sŵn a gymerwyd yn cynnwys cael gwared ar y seinyddion o flaen y bar fel mai dim ond y seinyddion yng nghefn y bar oedd yn gweithio ac roedd sgriniau Persbecs er mwyn lleihau sŵn wedi cael eu harchebu i’w gosod dros y gwydr

·         diwrnodau prysuraf yr wythnos oedd dydd Mawrth a dydd Sul – roedd yna lawer o gystadleuaeth am fusnesau gyda lleoliadau eraill yn yr ardal, ac roedd cwsmeriaid yn dueddol o ymweld â’r eiddo o tua 11 – 11.30pm ymlaen.

·         o ran y pedwar recordiad sŵn a gyflwynwyd gan y Parti â Diddordeb, mae’n ymddangos nad oedd yna batrwm, roedd tri o’r recordiadau wedi’u gwneud tua 9.00pm ac un yn hwyrach ar nos Sul – derbyniwyd yr unig gŵyn ffurfiol ym mis Gorffennaf 2021 pan gafodd cerddoriaeth gefndir ei chwarae heb unrhyw reswm ynglŷn â pham ei fod yn tynnu sylw penodol ato na lefelau sŵn yn uwch ar yr achlysur hwnnw. 

 

SYLWADAU GAN AWDURDODAU CYFRIFOL

 

Cadarnhaodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu nad oedd unrhyw sylwadau ffurfiol wedi’u derbyn gan Awdurdodau Cyfrifol ond dywedodd bod Adain Rheoli Iechyd yr Amgylchedd/Rheoli Haint y Cyngor wedi gofyn bod yr amodau presennol yn cael eu cadw ar y drwydded a bod y rheini’n cael eu dilyn.  Roedd Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru Gogledd Cymru wedi cadarnhau nad oedd ganddynt wrthwynebiad i’r cais.

 

SYLWADAU PARTÏON Â CHYSYLLTIAD

 

Derbyniwyd un sylw ysgrifenedig (Atodiad C yr adroddiad) gan Mr. N. Moorcroft, preswylydd cyfagos gyda nifer o eiddo yn yr ardal yn gwrthwynebu i’r cais ar sail aflonyddwch sŵn yn deillio o’r eiddo.

 

Fe soniodd Mr. Moorcroft am gynllun y safle i ddangos lleoliad ei gartref a’i denantiaid mewn cysylltiad â’r eiddo.  Roedd yn cydnabod y cydbwysedd rhwng eiddo busnes a phreswyl yn yr ardal a dywedodd yn hanesyddol bod problem wedi bod ag aflonyddwch sŵn a oedd yn dueddol o waethygu a gwella pan fyddai trwyddedai/rheolwyr yr eiddo yn newid.  Cyfeiriodd at strategaethau monitro sŵn amrywiol a oedd yn ymwneud yn ddiweddar ag Ap ‘Noise’ drwy gyswllt o Adran Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor – yn anffodus yn sgil problem dechnegol nid oedd modd cael gafael ar y recordiadau ac felly roedd wedi rhoi’r gorau i recordio.  Dywedodd Mr. Moorcroft bod y lefelau sŵn yn deillio o’r eiddo wedi cynyddu ar ôl i gyfyngiadau Covid gael eu llacio ym mis Gorffennaf ac oherwydd y broblem dechnegol gydag Ap ‘Noise’, nid oedd modd casglu tystiolaeth am yr aflonyddwch sŵn drwy’r dull hwnnw er mwyn mynd i’r afael â’r mater.

 

Fe eglurodd Mr. Moorcroft effaith andwyol y niwsans sŵn arno fo a’i denantiaid nad oeddynt yn gallu eistedd yn eu hystafelloedd blaen na defnyddio ystafelloedd gwely sydd yn wynebu’r blaen dros fisoedd yr haf nac agor y ffenestri oherwydd bod y sŵn o’r busnes yn rhy swnllyd.  Roedd mynychwyr oedd yn ymgynnull y tu allan i’r eiddo i ysmygu hefyd yn achosi niwsans sŵn gyda 22 cwsmer wedi’u cyfrif am 1.15am ar un noson benodol, yn ogystal â’r gerddoriaeth swnllyd yn chwarae gyda’r drws yn llydan agored.  Roedd gan yr eiddo system mynediad dwbl gyda’r ddau ddrws yn cael eu cadw ar gau, ond anaml iawn roedd y drws blaen yn cael ei gau, dim ond yn ddiweddar gyda’r tywydd oerach roedd hynny wedi digwydd – dros fisoedd yr haf roedd y drysau wedi’u cadw ar agor ac roedd lefel y sŵn mor ddrwg nad oedd o a’i denantiaid yn gallu cael gwesteion ac nid oedd modd iddynt ddefnyddio ystafelloedd blaen.  Cwestiynodd Mr. Moorcroft beth oedd hygrededd y llythyrau gan denantiaid yn y wybodaeth ychwanegol o ystyried y sŵn gormodol oedd yn deillio o’r eiddo.

 

I gloi, fe ailadroddodd Mr. Moorcroft bod y busnes yn cael ei weithredu mewn modd oedd yn cael effaith andwyol ar ei les o a'i denantiaid.  Nid oedd ganddo unrhyw broblem gyda'r busnes ond roedd angen iddo weithredu yn unol a’i amodau trwyddedu er mwyn mynd i'r afael â niwsans sŵn a'i effaith ar breswylwyr.

 

Gan ymateb i gwestiynau aelodau, dywedodd Mr. Moorcroft -

 

·         nid oedd wedi cwyno i Heddlu Gogledd Cymru gan eu bod wedi ei gwneud hi’n glir mai asiantaethau eraill oedd yn delio â materion sŵn

·         bu rhywfaint o ddryswch dros ddefnyddio Ap ‘Noise’ oherwydd ymateb awtomatig ‘waiting approval’ gan y Cyngor – yn anffodus roedd o’n credu bod yr oedi oherwydd adnoddau staff estynedig ond mewn gwirionedd, problem dechnegol oedd hi sydd bellach wedi cael ei ddatrys ac fe allai ail ddechrau defnyddio Ap 'Noise' - serch hynny yn sgil y broblem honno, nid oedd wedi gallu recordio ar yr adeg roedd y sŵn gwaethaf yn dod o'r busnes.

·         roedd yn hyderus y byddai Adain Iechyd yr Amgylchedd/Rheoli Haint y Cyngor yn gallu rheoli problem sŵn mewn cysylltiad â’r busnes

·         fe soniodd fwy am sŵn gan gwsmeriaid yn ymgynnull y tu allan i’r busnes yn oriau mân y bore, gan ddeffro preswylwyr a’u hatal rhag cysgu, fe fyddai hyn yn ymestyn drwy’r wythnos petai’r cais yn cael ei gymeradwyo

·         nid oedd y trwyddedai yn gweithredu’r busnes yn unol ag amodau’r drwydded, gan gadw drysau blaen ar agor ac ymestyn y busnes tu allan

·         roedd un o’i denantiaid wedi rhoi cyfnod rhybudd ar fflat oherwydd lefelau sŵn oedd yn deillio o’r busnes, a bu’n rhaid rhybuddio tenant oedd ar fin symud i mewn am lefel y sŵn o’r busnes ar hyn o bryd, ond gobeithio y bydd modd eu rheoli.

·         o ran mesurau lliniaru sŵn yn cynnwys addasiadau seinyddion, roedd yn cydnabod bod gwelliant wedi bod yn lefelau’r sŵn yn ddiweddar yn sgil cau’r drysau blaen oherwydd y tywydd oerach, byddai rheolaeth iawn o’r drysau blaen gan staff drws yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran hynny hefyd

·         roedd y recordiadau sain oedd wedi’u cymryd o’i ystafell blaen yn rhoi rhyw syniad o lefelau sŵn dros yr adegau tawelach o ystyried nad oedd modd recordio ar adegau prysurach oherwydd problemau technegol gyda'r Ap

·         roedd y niwsans sŵn wedi effeithio ar les gan ei fod yn cael ei ddeffro bob awr o’r nos a methu cysgu; roedd yn cydnabod ei bod yn stryd brysur ac nad oedd modd priodoli’r holl sŵn gyda’r busnes, ond byddai gweithredu i'r amodau trwydded presennol yn cael effaith fawr ar lefel y sŵn yn gyffredinol 

·         nid oedd yn gallu rhoi union ddyddiad pan gafodd ei ddeffro am 1.15am ar fore Sul gan ei fod yn digwydd mor aml ac nid oedd yn ddigwyddiad unigryw

·         roedd 22 o gwsmeriaid wedi ymgynnull y tu allan i’r busnes ar un achlysur yn chwerthin, gweiddi a jocian yn oriau mân y bore gan fod yn swnllyd iawn ac nid oedd staff drws yn rheoli’r cwsmeriaid yma tu allan

·         roedd yna broblemau sŵn hanesyddol gyda’r eiddo oedd yn cael eu datrys nes bod perchnogaeth y busnes yn newid pan fyddai’r problemau yn dechrau eto – roedd cyfranogiad Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd/ Rheoli Haint a Thrwyddedu fel arfer yn datrys y mater.

 

DATGANIAD TERFYNOL YR YMGEISYDD

 

Yn ei datganiad terfynol dywedodd Ms. Nelson ei bod yn deall sylwadau Mr. Moorcroft ac ar ôl bod yn y busnes ers peth amser roedd hi’n cytuno nad oedd hi’n sefyllfa ddelfrydol o ran y sŵn oedd yn cael ei greu, ond roedd hi’n ceisio rhedeg busnes. Fe ymatebodd i faterion penodol a godwyd gan Mr. Moorcroft -

 

·         nid oedd ganddi gysylltiad penodol gyda’r tenantiaid hynny oedd wedi darparu llythyrau i gefnogi’r cais ac oedd yn prydlesu yn ardal y dafarn - dim ond un gwrthwynebiad a gafwyd gan Mr. Moorcroft, ond nid oedd yr un o'i denantiaid wedi cyflwyno sylwadau ar eu pen eu hunain

·         roedd hi’n derbyn cyfrifoldeb llwyr am y drysau sleidio oedd yn cael eu gadael ar agor yn sgil yr angen am system awyru ychwanegol yn dilyn Covid-19 gan nad oedd yna ffenestri yn y busnes - serch hynny roedd y drysau'n cael eu cau 9.30pm pan roedd cerddoriaeth swnllyd yn cael ei chwarae yn y busnes

·         roedd yna fathau gwahanol o gerddoriaeth ar nosweithiau penodol o'r wythnos, er enghraifft ar nos Wener gyntaf y mis roedd yna fand roc ond nid oedd yna gwynion yn deillio o hynny; nid oedd DJs yn cael eu defnyddio bellach heblaw ar nos Fawrth sef noson brysuraf yr wythnos

·         o ran y niwsans sŵn gan bobl yn ymgynnull y tu allan, tra’i bod yn derbyn bod pobl yn mynd allan i ysmygu, roedd hi’n stryd brysur gyda siop cebab a safle tacsis gerllaw, ac felly nid oedd modd priodoli'r holl sŵn i’r busnes

·         gan egluro’r anawsterau wrth geisio sicrhau bod y drysau’n aros ar gau drwy’r amser o ystyried mai hi oedd yr unig staff bar oedd yn gweithio yn ystod cyfnodau tawel ac felly roedd hi’n gyfrifol am redeg y bar a rheoli’r drws – petai trwydded hwyrach yn cael ei chaniatáu yna byddai staff drws yn y busnes bob dydd o’r wythnos a byddai modd iddynt fonitro’r drws yn well

·         nid oedd y drws yn cau’n awtomatig; roedd yn ddrws tân ac nid oedd modd ei addasu

·         roedd hi’n anodd ymateb i’r recordiadau sŵn, roedd un yn cynnwys grŵp o ddynion yn canu ond nid oedd hyn yn gyffredin i’r busnes gan nad ydynt yn darlledu unrhyw chwaraeon, ac o ran cwsmeriaid yn ysmygu tu allan fe fyddent yn cael eu rheoli'n well y tu allan i’r eiddo yn hytrach na’u symud nhw lawr y stryd lle byddent yn fwy tebygol o achosi mwy o broblemau

·         cymerwyd camau i leihau sŵn – roedd seinyddion wedi cael eu symud o flaen y busnes, roedd sgriniau persbecs wedi cael eu harchebu i’w rhoi ar y ffenestri ac roedd yna declyn darllenydd desibel yn y busnes er mwyn recordio.

 

Gan ymateb i gwestiynau terfynol rhoddodd Ms. Nelson eglurhad pellach am yr anawsterau yn sicrhau bod y drysau blaen yn cael eu cadw ynghau o ystyried mai un person oedd ar ddyletswydd (oherwydd diffyg cwsmeriaid) oedd yn gyfrifol am fonitro’r bar a drws.  Roedd hi’n haws rheoli pan roedd staff drws ar ddyletswydd gan mai nhw oedd yn gyfrifol am fonitro’r drysau blaen er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cadw ynghau.  Cadarnhaodd Ms. Nelson y byddai hefyd yn fodlon ymgynghori gydag Adain Iechyd yr Amgylchedd/Rheoli Haint y Cyngor er mwyn cytuno ar gynllun i leihau sŵn.

 

GOHIRIAD I YSTYRIED Y CAIS

 

Ar y pwynt hwn (10.40am), daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben i bawb arall, ac aeth yr Is-Bwyllgor Trwyddedu ati i ystyried y cais mewn sesiwn breifat.

 

PENDERFYNIAD A’R RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

PENDERFYNWYD, yn destun amodau, bod y cais o sylwedd sy’n gysylltiedig ag amrywio oriau a ganiateir ar gyfer gweithgareddau trwyddedadwy y gwnaed cais amdanynt hyd at 3.00am dydd Sul i ddydd Iau yn cael ei gymeradwyo, a bod elfen y cais mewn cysylltiad â diwygio amodau mewn cysylltiad â goruchwylwyr drws yn cael ei wrthod.

 

Dyma’r amodau i gael eu rhoi ar y drwydded yn ymwneud â mesurau lleihau sŵn er mwyn hyrwyddo Amcanion Trwyddedu, yn benodol Atal Niwsans Cyhoeddus -

 

·         ymgynghori a chytuno ar bolisi lleihau sŵn, ei gynllunio, ei weithredu a’i fonitro gydag Adain Iechyd yr Amgylchedd/Rheoli Haint y Cyngor, ni fydd cytundeb o’r fath yn cael ei wrthod gan Adain Iechyd yr Amgylchedd/Rheoli Haint y Cyngor

·         gosod sgrin lleihau sŵn proffesiynol ar ddrysau blaen yr eiddo

·         bod y drysau blaen yn cael eu goruchwylio drwy’r amser heblaw mewn argyfyngau er mwyn gallu cadw at amodau 1 a 2 sydd eisoes yn bodoli mewn cysylltiad â Niwsans Cyhoeddus.

 

Y rhesymau dros y penderfyniad yw -

 

Wrth benderfynu ar y cais roedd yr Is-bwyllgor Trwyddedu wedi ystyried yr adroddiad a gyflwynwyd gan y Swyddog Trwyddedu yn ofalus ynghyd â’r sylwadau ysgrifenedig a wnaed gan y partïon a’r cyflwyniadau llafar yn ystod y gwrandawiad ac ymateb i gwestiynau.  Roedd yr Is-bwyllgor hefyd wedi ystyried ffactorau eraill yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, ganllawiau perthnasol y llywodraeth oedd yn ymwneud â Deddf Trwyddedu 2003, a Datganiad Polisi Trwyddedu y Cyngor.  Ystyriodd yr Is-bwyllgor sylwadau i gefnogi’r cais ond rhoddasant lai o bwyslais ar y sylwadau hynny na rhai Mr. Moocroft a gyflwynodd ei sylwadau ar amser ac roedd yr Is-bwyllgor yn credu bod ei dystiolaeth yn ddibynadwy a chymhellol.

 

Daeth yr Is-bwyllgor Trwyddedu i’r casgliad, o ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd gan Mr. Moorcroft o ran y niwsans sŵn oedd yn gysylltiedig â’r busnes, bod Amcan Trwyddedu Niwsans Cyhoeddus wedi’i gyfaddawdu.  Serch hynny, daethant i’r casgliad y gallai hyn gael ei reoli gydag amodau priodol oedd yn deg i’r Ymgeisydd a Mr. Moorcroft. Roeddynt yn credu bod Mr. Moorcroft yn dyst cymhellol ac wedi rhoi eglurhad clir o’r niwsans sŵn roedd o a’i denantiaid wedi’i brofi o’r busnes, o ran y gerddoriaeth sydd yn cael ei chwarae yno, a’r mynychwyr yn ymgynnull tu allan.  Roedd yr ymgeisydd yn derbyn y gellir priodoli rhywfaint o'r sŵn i'w busnes a'i bod wedi cyfeirio at nifer o fesurau a gymerwyd i fynd i'r afael â'r broblem, yn cynnwys addasiadau i seinyddion y tu mewn i'r busnes a'r sgrin persbecs a fydd yn cael ei osod i leihau sŵn, a chadarnhaodd y byddai'n fodlon ymgynghori a gweithio gydag Adain Iechyd yr Amgylchedd/Rheoli Haint y Cyngor ar fesurau lliniaru pellach.  Gyda hyn mewn golwg, penderfynodd yr Is-bwyllgor Trwyddedu i osod nifer o amodau ar y Drwydded Eiddo mewn cysylltiad â mesurau lleihau sŵn roedd yn credu oedd yn angenrheidiol ac yn gymesur er mwyn hyrwyddo Amcan Trwyddedu Niwsans Cyhoeddus.

 

Wrth benderfynu ar yr elfen o’r cais oedd yn ymwneud â diwygio amodau mewn cysylltiad â goruchwylwyr drysau, daeth yr Is-bwyllgor Trwyddedu i'r casgliad bod gan oruchwylwyr drws rôl allweddol i'w chwarae wrth leihau lefelau sŵn pan fyddai cwsmeriaid yn cyrraedd a gadael.  Ar ôl clywed y dystiolaeth, yn enwedig o nodi fod yna broblemau gyda sŵn yn hwyr min nos ar ddiwrnodau gwahanol, a’r Ymgeisydd yn cyfaddef mai nosweithiau Mawrth oedd ei nosweithiau prysuraf, nid oedd yr Is-bwyllgor Trwyddedu eisiau ymlacio’r gofyniad i gael o leiaf dau oruchwyliwr drws yn y busnes ar yr adeg hynny o’r noson.  Roedd yr Is-bwyllgor yn credu bod ganddynt rôl allweddol i'w chwarae wrth reoli drysau blaen yr eiddo ac yn cyfaddef bod llawer o'r broblem sŵn yn digwydd pan mae'r drysau ar agor pan y dylent fod ynghau.  Roedd yr Is-bwyllgor hefyd yn nodi bod goruchwylwyr drws yn chwarae rôl allweddol wrth gadw trefn yn yr eiddo ac yn credu y byddai lleihau’r ddarpariaeth staff drws y ôl y cais yn mynd yn groes i hyrwyddo Amcan Trwyddedu yn gysylltiedig ag Atal Niwsans Cyhoeddus gan arwain at risg amlwg o broblemau sŵn yn deillio o’r busnes i fod yn niwsans i breswylwyr gerllaw.

 

Rhoddwyd crynodeb i bawb o’r penderfyniad yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, a chyhoeddwyd penderfyniad â rhesymau llawn wedi hynny.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.55 am.

 

 

Dogfennau ategol: