Eitem ar yr agenda
CYFRIFOLDEBAU RHEOLI PERYGL LLIFOGYDD I FFOS Y RHYL A GWTER PRESTATYN
Ystyried
adroddiad gan Reolwr Perygl Llifogydd y Cyngor (copi ynghlwm) sydd yn rhoi
casgliad i’r Pwyllgor o’r astudiaeth ar y cyd dan arweiniad Cyfoeth Naturiol
Cymru, i welliannau posibl i reoli Ffos y Rhyl a Gwter Prestatyn. Mae’r adroddiad yn ceisio adborth yr aelodau
ar ganfyddiadau a chasgliadau’r astudiaeth.
11:05am – 12:05pm
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd, gyda
chefnogaeth y Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol a’r Rheolwr
Perygl Llifogydd yr adroddiad Cyfrifoldebau Rheoli Perygl Llifogydd i Ffos y
Rhyl a Chafn Prestatyn. Yn ogystal â swyddogion Cyngor Sir Ddinbych,
roedd tri chynrychiolydd o Gyfoeth Naturiol Cymru yn bresennol ar gyfer y
drafodaeth - Keith Ivens, Daniel Bryce-Smith a Paula Harley.
Roedd yr adroddiad yn cyflwyno casgliadau’r astudiaeth ar y cyd, dan
arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru, i ystyried a ellid gwneud gwelliannau i’r
drefn o reoli Ffos y Rhyl a Gwter Prestatyn, y draeniau a’r carthffosydd
cyfagos – rhwydwaith cymhleth o gyrsiau dŵr yn ardal y Rhyl a Phrestatyn, a oedd yn cynnwys cyrsiau dŵr naturiol,
rhai a oedd wedi’u haddasu, yn ogystal â dyfrffyrdd wedi’u hadeiladu. Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu
cyfrifoldebau pob sefydliad o ran rheoli llifogydd a lliniaru llifogydd.
Ar ôl y llifogydd a effeithiodd ar rannau o’r Rhyl a Phrestatyn
ym mis Gorffennaf 2017, cychwynnodd Cyfoeth Naturiol Cymru adolygiad ar
hydroleg a threfn reoli a chynnal a chadw Ffos y Rhyl a Gwter Prestatyn, sy’n
cael eu cyfrif yn gyrsiau dŵr “prif afon”. Cytunodd Cyngor Sir Ddinbych a Dŵr Cymru i gefnogi Cyfoeth Naturiol Cymru â’r prosiect, a fyddai hefyd, gobeithio, yn rhoi gwell
dealltwriaeth ynglŷn â sut mae asedau pob sefydliad yn gweithio gyda’i
gilydd, yn enwedig pan mae glaw trwm.
Cynhaliwyd y
prosiect mewn tri cham.
(i)
Roedd Cam 1 yn cynnwys astudiaeth i fodelu’r perygl o
lifogydd, er mwyn rhoi gwell dealltwriaeth i Gyfoeth Naturiol Cymru am hydroleg
dalgylchoedd yr afonydd.
(ii) Roedd Cam 2
wedi arwain at adroddiad rheoli dalgylch, a oedd yn cynnig trosolwg eang o’r
drefn o reoli Ffos y Rhyl a Gwter Prestatyn a’r ardaloedd o amgylch y ddau gwrs
dŵr.
(iii) Mae Cam 3 hefyd
wedi adeiladu ar yr argymhellion yn adroddiad rheoli Cam 2 ac wedi cynnwys
trafodaethau â thimau cynnal a chadw gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru i
ystyried effeithiau’r gwaith cynnal a chadw mewn gwahanol is-rannau o’r cyrsiau
dŵr. Roedd rhywfaint o waith eto i’w wneud o ran llunio cynllun cynnal a
chadw a rheoli cynhwysfawr a byddai angen ymgynghori â’r
cyhoedd a budd-ddeiliaid i wneud hyn.
Dangoswyd
cyflwyniad gan swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru i’r Pwyllgor a oedd yn
amlinellu’r gwaith a wnaed gan Gyfoeth Naturiol Cymru, CSDd
a Dŵr Cymru. Roedd y tri cham cyntaf wedi’u cyflawni bellach, a byddai’r
canfyddiadau’n caniatáu i dimau rheoli perygl llifogydd ddatblygu strategaethau
rheoli a chynnal a chadw hirdymor.
Roedd y dull a
ddilynwyd ar gyfer y trydydd cam yn seiliedig ar dystiolaeth gan ddefnyddio
modelu hydrolig manwl. Roedd y gwaith
hwn wedi cynnwys asesiad o effaith llystyfiant sianel (garwder), lefelau’r
gwelyau, a rhwystrau mewn lleoliadau allweddol. Mae hyn wedi gwella
dealltwriaeth Cyfoeth Naturiol Cymru o waith cynnal a chadw lleol a llywio
technegau rheoli effeithlon sy’n seiliedig ar beryglon ym mhob is-ran.
Yn ystod y
trydydd cam, roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gallu nodi cyfleoedd posibl ar
gyfer ymyriadau cyfalaf er mwyn lleihau'r perygl o lifogydd hefyd. Roedd yn
cydnabod y perygl presennol o lifogydd i gymunedau Prestatyn a’r Rhyl, ac mae
cynlluniau ar waith i gynnal gwerthusiad llawn o ddewisiadau ar gyfer gwaith
gwella, gan ddechrau gydag Achos Amlinellol Strategol yn 2022.
Yn ystod y drafodaeth:
·
diolchodd aelodau i swyddogion
am y gwaith a wnaed, fodd bynnag, roedd rhai yn teimlo y dylai rhai agweddau ar
y gwaith fod wedi’u gwneud yn gynharach.
·
Cadarnhaodd Cyfoeth Naturiol
Cymru fod materion fel cynnal a chadw gerddi a waliau eiddo, a’r angen i
ddiogelu darnau ac ati rhag mynd i mewn i Ffos y Rhyl neu syrthio i mewn iddi
ac achosi rhwystrau, yn fater i berchnogion glannau'r afon, h.y. perchnogion
eiddo unigol. Nid Cyfoeth Naturiol Cymru
oedd perchnogion y Ffos. Roedd ganddynt bwerau wedi’u caniatáu o ran gwneud
gwaith i liniaru'r perygl o lifogydd o’r cwrs dŵr. At y diben hwn, roedd gan Gyfoeth Naturiol
Cymru bwyntiau mynediad mewn lleoliadau penodol ar hyd y Ffos er mwyn galluogi
mynediad er mwyn gwneud y gwaith cynnal a chadw angenrheidiol. Roedd hyn yn osgoi’r angen i geisio cytundeb nifer o berchnogion glannau'r afon er mwyn
gwneud gwaith hanfodol o ran cynnal a chadw amddiffynfeydd rhag llifogydd.
·
Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y
byddai’n cysylltu ag Adran Gwasanaethau Cyfreithiol y Cyngor i gadarnhau a oedd
y Cyngor yn berchennog glannau’r afon ar gyfer unrhyw ran o Ffos y Rhyl neu
Gwter Prestatyn.
·
Cadarnhaodd swyddogion Cyfoeth
Naturiol Cymru fod y rhaglen flynyddol o waith cynnal a chadw i atal llifogydd
wedi’i chyflawni ar y Ffos a’r Gwter o ddiwedd mis Awst ymlaen, pan oedd y
tymor nythu adar wedi dod i ben.
Dechreuodd y gwaith cynnal a chadw ar y rhannau isaf, gan weithio tuag
at y rhannau uchaf.
Felly:
PENDERFYNWYD yn amodol ar y sylwadau
uchod:
(i)
derbyn cynnwys yr adroddiad, yr atodiadau a’r cyflwyniad; a
(ii) gofyn i swyddogion Cyngor
Sir Ddinbych sefydlu a oedd y Cyngor ei hun yn
berchennog glannau'r afon ar gyfer unrhyw ran o Ffos y Rhyl neu Gwter
Prestatyn.
Dogfennau ategol: