Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD ADRAN 19 - YMCHWILIAD I LIFOGYDD AR 20 IONAWR 2021

Ystyried adroddiad gan Reolwr Rheoli Risg Llifogydd y Cyngor (copi ynghlwm) sydd yn cyflwyno adroddiad Adran 19 statudol i’r Pwyllgor am lifogydd Ionawr 2021 ac yn ceisio cefnogaeth yr aelodau i gael sicrwydd gan Gyfoeth Naturiol Cymru y gweithredir ar yr argymhellion a nodir yn yr adroddiad.

 

10:05am – 11:05am

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd, a’r Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol a’r Peiriannydd Perygl Llifogydd Adroddiad Adran 19 - Ymchwiliad i Lifogydd ar 20 Ionawr 2021 (a ddosbarthwyd eisoes).

 

Yn ystod eu cyflwyniad, gwnaethant egluro fod Storm Christoph wedi dod â gwyntoedd cryfion, glaw trwm ac eira rhwng 18 a 20 Ionawr 2021, gyda’r glawiad dwysaf yn digwydd dros Ogledd Cymru a gogledd Lloegr, gan ddod â llifogydd lleol i lawer o ardaloedd. Adroddodd y Swyddfa Dywydd fod 50 i 100mm o law wedi cwympo’n eang ledled Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, gyda dros 100mm ar draws ardaloedd ucheldirol Cymru. Profodd Sir Ddinbych effeithiau'r Storm hon, gyda glaw trwm ac estynedig yn peri llifogydd i oddeutu 67 o gartrefi a 6 busnes ar 20 Ionawr. Roedd mwyafrif y llifogydd yn dod o ffynonellau prif afonydd. Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru, fel yr awdurdod rheoli risg llifogydd perthnasol ar gyfer prif afonydd, wedi cynnal ei ymchwiliadau llifogydd ei hun. Roedd adroddiadau ymchwilio i lifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi’u cynnwys fel atodiadau i’r adroddiad ymchwiliad trosfwaol.

 

Roedd gan Gyngor Sir Ddinbych, fel Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, ddyletswydd o dan Adran 19 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr i archwilio llifogydd yn ei ardal.

 

Diben adroddiad yr archwiliad oedd mynd i’r afael â’r cwestiynau allweddol canlynol:

 

·         Pam ddigwyddodd y llifogydd?

·         Pa mor debygol y bydd llifogydd o’r raddfa honno yn digwydd eto?

·         Pa welliannau oedd eu hangen i sicrhau bod risg llifogydd y Sir yn cael ei rheoli’n briodol yn y dyfodol?

 

Cyn dechrau’r drafodaeth, dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor fod y Grŵp Tasg a Gorffen Rheoli Perygl Llifogydd a Pherchnogaeth Tir Glannau Afon, a oedd yn archwilio materion llifogydd a materion perchnogaeth tir ar hyn o bryd wedi sylweddoli bod y rhain yn feysydd hynod o gymhleth.  Roedd sefydliadau fel Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Cyngor yn awdurdodau rheoli risg, fodd bynnag, yn anaml iawn mai nhw oedd y perchnogion tir oedd â chyfrifoldeb i sicrhau bod afonydd a chyrsiau dŵr a oedd yn croesi eu tir yn cael eu cynnal a'u cadw.

 

Gan ymateb i gwestiynau aelodau’r Pwyllgor, darparwyd y manylion canlynol: 

 

·         Eglurodd swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru fod perchnogion tir, fel perchnogion glannau’r afon yn gyfrifol am gynnal a chadw afonydd o fewn ffiniau eu tir. Roedd Cyngor Sir Ddinbych (CSDd) a Chyfoeth Naturiol Cymru yn awdurdodau rheoli perygl llifogydd, a Chyfoeth Naturiol Cymru oedd yn gyfrifol am brif afonydd a chyrsiau dŵr mwy a CSDd oedd yr awdurdod rheoli risg ar gyfer cyrsiau dŵr arferol. 

·         Gallai Cyfoeth Naturiol Cymru a CSDd ddefnyddio eu pwerau i wneud gwaith ar ddyfrffyrdd at ddibenion lliniaru perygl llifogydd posibl. Pe bai perchennog tir am wneud gwaith, roedd ganddynt hawl cyfreithiol i’w wneud, fodd bynnag byddai angen i’r gwaith hwn sicrhau nad oedd effaith andwyol ar natur, ecosystem yr afon nac ar bobl eraill. Byddai angen Trwyddedau Gweithgarwch Perygl Llifogydd cyn i unrhyw waith gael ei wneud.

·         Nodwyd bod Llanynys wedi’i adael allan o’r adroddiad. Gofynnodd yr aelod lleol fod Llanynys yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad oherwydd nid oedd am i’r pentref fethu allan ar unrhyw waith lliniaru perygl llifogydd posibl yn y dyfodol.

·         Nid oedd cyfeiriad yn yr adroddiad at golli Pont Llannerch, oherwydd bod yr adroddiad yn delio ag effaith llifogydd ar eiddo. Fodd bynnag, nid oedd hyn mewn unrhyw ffordd yn lleihau’r effaith yr oedd colli’r bont wedi’i chael ar y cymunedau roedd yn eu gwasanaethu na’r rhwydwaith trafnidiaeth ehangach yn y sir.  Roedd ymarfer ymgynghori cyhoeddus ar ddatblygu cyswllt cludiant yn ei le wedi dod i ben yn ddiweddar, ac roedd y canlyniadau’n cael eu dadansoddi ar hyn o bryd.

·         Cadarnhaodd Swyddogion eu bod wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru (LlC) i edrych ar amddiffynfeydd llifogydd naturiol, a gobeithiwyd y byddai hyn yn datblygu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Fodd bynnag, dywedwyd pe bai’r amddiffynfeydd naturiol yn orlawn o ddŵr, yna effaith fach fyddai o ran lleihau llifogydd.

·         Cadarnhawyd nad problemau o ran draenio achosodd y llifogydd yn ardal Stryd Clwyd Rhuthun. Roedd y llifogydd o ganlyniad i gyfaint enfawr o ddŵr na fyddai unrhyw gynllun amddiffyn rhag llifogydd wedi gallu ei atal.  Roedd draeniau a cheunentydd yn cael eu clirio’n rheolaidd. Roedd systemau draenio priffydd yn cael eu harchwilio a’u glanhau o leiaf unwaith y flwyddyn, fodd bynnag roedd ardaloedd problemus yn cael eu clirio’n amlach.

·         Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi diweddaru ei waith modelu perygl llifogydd ar ardal Rhuthun yn dilyn llifogydd mis Ionawr 2021.  O ganlyniad, roedd yn gwneud cais am drwyddedau ar hyn o bryd i wneud rhagor o waith lliniaru perygl llifogydd yn yr ardal ac roedd gwaith i fod i ddechrau’r wythnos wedyn ar y bwnd yng Nghae Ddol.

·         Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn edrych ar y posibilrwydd o gynnwys mesurau perygl llifogydd ar gyfer Afon Ystrad ym Mrwcws fel rhan o adolygiad ehangach o’r rhwydwaith.

·         Cytunodd swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru a CSDd na allai’r naill sefydliad na’r llall barhau i frwydro yn erbyn natur.  Byddai angen i’r sefydliadau, yn ogystal â phreswylwyr, ganfod ffyrdd o weithio gyda natur, gan gynnwys addysgu preswylwyr am sut i liniaru a rheoli eu perygl eu hunain o lifogydd. 

 

Nododd Aelodau eu pryderon o ran y diffyg cynnydd canfyddedig gyda'r Hen Garchar yn Rhuthun, ac roeddent yn teimlo nad oedd y gwaith atgyweirio’n cael ei flaenoriaethu.  Nid oedd yn debygol y byddai’r safle, a oedd yn brif atyniad i dwristiaid, yn ôl yn weithredol tan fis Gorffennaf 2022, hanner ffordd trwy’r tymor twristiaeth nesaf.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor fod preswylwyr/perchnogion busnesau mewn eiddo a oedd wedi dioddef llifogydd yn ardal Stryd y Felin/Stryd Clwyd Rhuthun wedi cael copi o Adroddiad Ymchwiliad Llifogydd Adran 19, a’u bod wedi anfon cwestiynau ymlaen i’r Pwyllgor eu gofyn ar eu rhan.  Darllenodd yr Is-gadeirydd y cwestiynau a oedd yn ymwneud â chyfrifoldebau’r Cyngor o ran rheoli perygl llifogydd, materion sy’n ymwneud â draenio a mater a oedd yn ymwneud â falf unffordd wedi’i lleoli ger yr Hen Garchar.  Dywedodd Swyddogion fod y materion a oedd yn ymwneud â chyfrifoldebau rheoli risg y Cyngor a draenio eisoes wedi’u hegluro yn ystod y drafodaeth.  Pwrpas y falf unffordd oedd atal dŵr o Afon Clwyd rhag mynd i'r system ddraenio gan achosi rhagor o broblemau.  Roedd y falf wedi gweithredu yn ôl y disgwyl.  Roedd yr ymholiad a oedd yn ymwneud â cheunentydd y briffordd wedi’u rhwystro wedi’i drin yn ystod Cam 2 o Weithdrefn Gwyno’r Cyngor ac nid oedd swyddogion mewn sefyllfa i roi rhagor o sylwadau ar hyn o bryd oherwydd ei bod yn bosibl y caiff y mater ei gyfeirio at Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer ymchwiliad pellach.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth fanwl:

 

PENDERFYNWYD –

 

(i)        derbyn canfyddiadau a chasgliadau Adroddiad Ymchwiliad i Lifogydd  Ionawr 2021 Adran 19; a

(ii)       nodi’r sicrwydd gan Gyfoeth Naturiol Cymru y byddai’r argymhellion a nodwyd yn ei adroddiadau archwiliadau llifogydd yn cael eu cyflawni.

 

 

Dogfennau ategol: