Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

Rhybudd o Gynnig

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Paul Penlington ar ran y Grŵp Plaid i’w ystyried gan y Cyngor Llawn (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Paul Penlington ar ran Grŵp Plaid Cymru y Rhybudd o Gynnig canlynol ar gyfer sylw’r Cyngor Llawn:

 

‘Er mwyn lleihau prinder staff, ac i sicrhau bod ein dinasyddion mwyaf bregus yn cael gofal priodol, bod y Cyngor hwn yn ysgrifennu at lywodraeth y DU i ofyn i weithwyr gofal cymdeithasol gael eu dynodi ar frys fel gweithwyr medrus fel eu bod yn bodloni gofynion mynediad y system mewnfudo ôl-Brexit sy’n seiliedig ar bwyntiau, a gyflwynwyd yn Ionawr 2021.’

 

Ymatebodd yr Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth, y Cynghorydd Bobby Feeley. Diolchodd y Cynghorydd Feeley i Grŵp Plaid Cymru am gyflwyno’r Rhybudd o Gynnig i’r Cyngor Llawn gan ei fod yn tynnu sylw at y prinder dybryd o weithwyr gofal cymdeithasol. Roedd y ddeddfwriaeth y cyfeiriwyd ati yn rhwystr arall eto i ychwanegu at recriwtio a chadw staff gofal cymdeithasol ar yr adeg hon, nid dim ond yn Sir Ddinbych  ond ledled Cymru a’r DU. 

 

Mynegodd y Cynghorydd Feeley ddicter nad oedd gweithwyr gofal cymdeithasol wedi eu dynodi fel gweithwyr medrus ac o’r herwydd nad oeddent yn bodloni gofynion mynediad y system mewnfudo ôl-Brexit sy’n seiliedig ar bwyntiau, a gyflwynwyd yn Ionawr 2021 ac a gyfeiriwyd ati yn y Rhybudd o Gynnig. 

 

Roedd y Rhybudd o Gynnig wedi rhoi cyfle i’r Cynghorydd Feeley roi gwybod i aelodau am y gwaith caled oedd wedi digwydd yn y cefndir cyn gynted ag y cyhoeddwyd bwriadau’r Llywodraeth.  Hyd yn oed yn 2019 bu Cabinet a Swyddogion  Cyngor Sir Ddinbych yn cynnal trafodaethau â Llywodraeth Cymru a’r Swyddfa Gartref  am hyn. 

 

Drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, cyfrannodd Cyngor Sir Ddinbych at ymateb polisi Conffederasiwn GIG Cymru i system mewnfudo’n seiliedig ar sgiliau Llywodraeth y DU, sef y Papur Gwyn, a’i gymeradwyo ym mis Medi 2019.  Amlygodd yr adroddiad y byddai’r deddfau newydd yn cael effaith negyddol ar y gweithlu gofal cymdeithasol, oedd eisoes wedi profi prinder difrifol ac anawsterau recriwtio staff newydd.   Cadarnhaodd y Cynghorydd Feeley y byddai’n rhannu’r adroddiad â’r holl aelodau yn dilyn cyfarfod y Cyngor Llawn.

 

Hefyd, roedd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Nicola Stubbins, yn ei rôl fel Llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ar y pryd wedi cyhoeddi datganiad i’r wasg ym mis Medi y llynedd yn galw am i weithwyr gofal gael eu cynnwys ar y rhestr o alwedigaethau lle’r oedd prinder. Eto, cadarnhaodd y Cynghorydd Feeley y byddai’n rhannu copi o’r datganiad i’r wasg â’r holl aelodau yn dilyn cyfarfod y Cyngor Llawn.

 

Er gwaetha’r holl ymdrechion hyn, cafodd y system mewnfudo newydd ei chyflwyno heb ddynodi’r gweithlu gofal cymdeithasol fel gweithwyr medrus ac nid wyf yn obeithiol y bydd y ffaith bod Sir Ddinbych  ar ei phen ei hun yn galw ar Lywodraeth y DU yn cael yr effaith a ddymunir.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Feeley sicrwydd i’r Cyngor Llawn bod Cyngor Sir Ddinbych, drwy Swyddogion  ac Aelodau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a San Steffan ar y mater mwy o sut i gael system gofal cymdeithasol oedd yn urddasol a chynaliadwy a chydnabu rôl werthfawr pawb oedd yn gweithio yn y sector.  

 

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Penlington y Rhybudd o Gynnig ac eiliwyd gan y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies.

 

Ar y pwynt hwn, gofynnodd y Cynghorydd Paul Penlington am bleidlais wedi’i chofnodi. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd fod angen i bum aelod oedd yn bresennol gefnogi pleidlais wedi’i chofnodi. Cododd 6 aelod eu dwylo i gefnogi pleidlais wedi’i chofnodi.

 

Cynhaliwyd y bleidlais ac roedd y canlyniad fel a ganlyn:

 

O BLAID – Y Cynghorwyr Brian Blakeley, Joan Butterfield, Ellie Chard, Ann Davies, Meirick Lloyd Davies, Hugh Evans, Bobby Feeley, Huw Hilditch-Roberts, Alan Hughes, Alan James (Cadeirydd),Brian Jones, Pat Jones, Gwyneth Kensler, Richard Mainon, Christine Marston, Barry Mellor, Melvyn Mile, Bob Murray, Merfyn Parry, Paul Penlington, Peter Prendergast, Arwel Roberts, Peter Scott, Glenn Swingler, Tony Thomas, Rhys Thomas, Julian Thompson-Hill, Graham Timms, David G. Williams, Emrys Wynne a Mark Young.   (31)

 

YN ERBYN – 0

 

YMATAL – 0

 

PENDERFYNWYD pasio’r Rhybudd o Gynnig a bod y Cyngor yn ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn gofyn am i weithwyr gofal cymdeithasol gael eu dynodi ar frys fel gweithwyr medrus fel eu bod yn bodloni gofynion mynediad y system mewnfudo ôl-Brexit sy’n seiliedig ar bwyntiau, a gyflwynwyd yn Ionawr 2021.

 

 

 

Dogfennau ategol: