Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DIGWYDDIAD LLIFOGYDD 9 CHWEFROR 2020 - ADRODDIAD YMCHWILIO I LIFOGYDD ADRAN 19

Ystyried adroddiad gan y Peiriannydd Perygl Llifogydd, Wayne Hope, o’r ymchwiliad i’r llifogydd ar 9 Chwefror 2020 (copi ynghlwm)

 

Cofnodion:

 

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Brian Jones Adroddiad Ymchwilio i Lifogydd Adran 19 ar Ddigwyddiad Llifogydd 9 Chwefror 2020.

 

Ar 9 Chwefror 2020, cafwyd llifogydd helaeth ar draws Sir Ddinbych o ganlyniad i Storm Ciara. Ers hynny, mae swyddogion y Cyngor, yn ogystal â swyddogion o Gyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru, wedi cynnal ymchwiliadau i’r llifogydd er mwyn deall y rhesymau pam y digwyddodd y llifogydd, y tebygolrwydd y bydd yn digwydd eto ac i asesu p’un a ellir rhoi mesurau ar waith i leihau llifogydd yn y dyfodol.

 

Dechreuodd Keith Ivens o Gyfoeth Naturiol Cymru gyda’r ymholiadau a godwyd am Lanelwy. Cadarnhaodd fod yr hyn a ddigwyddodd ym mis Chwefror 2020 wedi bod yn ddigwyddiad eithafol. Roedd yr amddiffynfeydd newydd wedi cael eu hadeiladu a’u cynllunio ar safon amddiffyn 1 mewn 100 mlynedd yn cynnwys caniatáu ar gyfer newid hinsawdd. Yr hyn a welwyd yn y dadansoddiad o’r digwyddiad yn Atodiad B oedd dadansoddiad hydrolegol o’r digwyddiadau oherwydd Storm Ciara.

 

Amcangyfrifwyd bod Storm Ciara yn ddigwyddiad 1 mewn 250 / 1 mewn 300 mlynedd ar ei gwaethaf. Yn syth ar ôl y digwyddiad, holwyd pam bod gorlifo wedi digwydd mewn un lleoliad penodol. Cynhaliwyd trafodaethau helaeth gyda’r cynllunwyr ynghyd â modelu eang ar ôl y digwyddiad i ddeall beth oedd wedi digwydd yn y lleoliad hwn. Roedd hyn wedi’i ddatrys gyda’r cynllunwyr ac arweiniodd at y gwaith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd yn Llanelwy. Roedd gan gymuned Llanelwy amddiffyniad da iawn ac roedd 370 eiddo wedi cael eu hamddiffyn, a fyddai wedi cael llifogydd fel arall.   

 

Methiant recordydd lefel dŵr yn Llanelwy dan yr A55. Y math o offer a osodwyd yn y lleoliad hwnnw oedd trawsddygiadur pwysedd oedd â therfyn uchaf ac isaf, ond roedd wedi pasio’r terfyn uchaf. Roedd y trawsddygiadur pwysedd yn dal yn ei le ond bellach roedd sensor lefel uwchsonig ychwanegol yn wynebu am i lawr wedi ei osod ar Bont Spring Gardens oedd yn galluogi Cyfoeth Naturiol Cymru fonitro lefelau’r dŵr ac a oedd yn bwydo i’r model rhagamcanu llifogydd ar gyfer Afon Elwy.

 

Amddiffyn cymunedau gwledig - Edrychwyd ar ardal Wigfair a Ffordd Dinbych Isaf fel rhan o gynllun Llanelwy i benderfynu a ellid cynnwys rhai o’r eiddo ar hyd yr ardal honno yn y cynllun. Ar yr adeg honno, penderfynwyd na ellid cynnwys yr eiddo gan y byddai’n gwneud y cynllun yn aneconomaidd, ac felly ni ellid mynd â hyn y ei flaen.   Cynigiwyd a rhoddwyd amddiffyniad ar lefel eiddo i nifer o’r eiddo.  

 

Roedd marc cwestiwn ynglŷn ag adolygu amlinellau mapiau llifogydd yn yr ardaloedd hynny. Dros y 12/18 mis diwethaf, roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i adolygu, diweddaru a newid yr hen fapiau llifogydd oedd ar gael a rhyddhawyd mapiau llifogydd newydd o’r enw Asesiad Risg Llifogydd Cymru yn gynharach eleni oedd yn edrych ar yr holl lifogydd o ddŵr wyneb, llifogydd o afonydd, llifogydd heblaw’r prif afonydd i gyd mewn un lle. 

 

Roedd amddiffyniad ar lefel eiddo yn argymhelliad 1-5 mlynedd Cyfoeth Naturiol Cymru. Roedd peilot amddiffyn ar lefel eiddo wedi cael ei gynnal yn ardal Llanfair TH.  Byddai canlyniadau’r peilot yn cael eu hasesu ac yna byddai’n edrych ar gymunedau bychan gwledig na fyddai’n elwa o gynllun mwy a hefyd ar ddewisiadau eraill, amddiffyn ar lefel eiddo yn un ohonynt.  

 

Yn anorfod, roedd hi bob amser yn anodd mewn cymunedau bach mwy gwledig i gyflawni’r manteision o ran costau i gynllunio a delio â chynllun mwy, a dyna pam y cynhaliodd Cyfoeth Naturiol Cymru asesiad o ddewisiadau eraill. Edrychodd Cyfoeth Naturiol Cymru ar geisio cyflawni’r lefel amddiffyniad mwyaf i’r nifer fwyaf â phosibl o eiddo.

 

O ran y cwestiwn am falf wedi cael ei hagor yn Llanelwy - nid falf ydoedd mewn gwirionedd, ond fflap oedd wedi codi a’i ddal yn ei le, felly roedd yn fflap oedd yn cael ei fwydo gan disgyrchiant a oedd angen pwysau dŵr i’w wthio ar agor. Roedd y gyfundrefn arolygu wedi cynyddu o gwmpas hynny i sicrhau ei fod yn gweithio fel y dylai yn ystod digwyddiadau ac wedyn.

 

Roedd y Cynghorydd Peter Scott wedi anfon ymholiad at Gyfoeth Naturiol Cymru am Fferm Glan Llyn. Roedd swyddogion o Gyfoeth Naturiol Cymru wedi ymweld â Fferm Glan Llyn a chafwyd trafodaethau am eu cynlluniau, oedd yn bositif iawn, ond yn anffodus, roedd y ffenestr ar gyfer cyllid Rheoli Llifogydd Naturiol ar gau felly ni fyddai cyllid grant ar gael ar hyn o bryd.   Byddai ymateb llawn yn cael ei ddarparu i’r Cynghorydd Peter Scott.

 

Roedd y Cynghorydd Arwel Roberts wedi codi’r perygl yn Rhuddlan. Roedd y perygl yn Rhuddlan yn rhan o Strategaeth Afon Dyfrdwy a Chlwyd ac roedd mwy o berygl oherwydd newid yn yr hinsawdd. Yn Rhuddlan roedd perygl deuol o lifogydd o’r llanw ac o’r afonydd.  Cynhaliwyd adolygiad tua dwy flynedd yn ôl ond roedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn fodlon bod popeth fel y dylai fod ar hyn o bryd o safbwynt y llanw.  Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydnabod bod cynnydd mewn stormydd a chynnydd mewn llif o afonydd a byddai’r darn hwnnw o waith wedi cael ei ystyried fel rhan o’r gwaith ychwanegol yn Llanelwy.  Byddai ymateb llawn yn cael ei ddarparu i’r Cynghorydd Arwel Roberts.

 

O ran yswiriant, roedd wedi’i gydnabod bod gan yr eiddo a effeithiwyd gan lifogydd un ai premiymau uwch neu eu bod yn gorfod talu mwy cyn y byddai’r yswiriant yn rhoi arian ychwanegol. Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru, os oedd preswylwyr yn byw mewn ardaloedd lle ceir perygl o lifogydd ac wedi cael eu heffeithio gan lifogydd, dylent drafod gyda’u cwmnïau yswiriant ond hefyd dylent gysylltu â’r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol, oedd yn Elusen Genedlaethol.  Byddai’r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol yn gallu rhoi cyngor annibynnol ond roedd y Cynllun Flood Re hefyd, sy’n gallu helpu i roi cyngor i bobl sy’n cael anawsterau ag yswiriant. Penderfyniad cwmni yswiriant unigol oedd dewis yswirio eiddo neu beidio a byddent yn ystyried y perygl oedd yn gysylltiedig â hynny. Ni fyddai cwmni yswiriant yn edrych ar fapiau llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru o reidrwydd a byddent yn gwneud y penderfyniad eu hunain. Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhan o’r ffordd y mae cwmnïau yswiriant yn penderfynu ar eu premiymau. 

 

Roedd materion yn Llanynys o fewn y rhestr argymhellion tymor canolig fyddai’n cael eu hymdrin â nhw rhwng 1 – 5 mlynedd. Roedd wedi bod yn heriol iawn gan fod y llifogydd wedi digwydd ar 9 Chwefror 2020 ac aeth y wlad i gyfnod clo ym mis Mawrth 2020. Roedd llawer o bobl yn gweithio o gartref, yn addysgu yn y cartref ac er nad yw’n esgus, roedd yn rhaid ystyried yr holl argymhellion a’r gwaith sydd wedi’i gyflawni. Roedd yn parhau’n her ac roedd Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn profi heriau o ran contractwyr, cyflenwyr yn rhoi gwybodaeth a chael gwybodaeth gan gontractwyr ac ati oedd hefyd mewn cyfnod clo. Roedd hefyd wedi bod yn anodd iawn cael syrfewyr allan i’r safle.  Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru, oedd yn amlwg yn cynnwys llawer o gyfyngiadau o ran sut roeddent yn gweithredu, ac yn ogystal â gwarchod y staff, roedd angen gwarchod y gymuned hefyd.  Roedd angen gwneud mwy o waith yn Llanynys gan nad ymdriniwyd â’r mater hwnnw ac roedd ar y rhestr tymor canolig, ond byddai ymateb llawn yn cael ei ddarparu i’r Cynghorydd Merfyn Parry.

 

Roedd Trwyddedau Gweithgaredd Perygl Llifogydd yn eu lle ar gyfer unrhyw waith ar brif afonydd neu o fewn saith metr i’w glannau. Roedd yn rhaid i unrhyw strwythur oedd angen mynd dros neu o dan brif afon gael Trwydded Gweithgaredd Perygl Llifogydd ac asesu pa effaith oedd yn ei gael ar y perygl llifogydd mewn mannau eraill ond hefyd o ran yr effaith amgylcheddol e.e: pysgodfeydd, bioamrywiaeth, ecoleg ac ati, y system afonydd. Roedd proses ar gyfer gwneud cais am drwydded ac os oedd unrhyw un yn gweithio ar brif afonydd byddai angen iddynt wneud cais i Gyfoeth Naturiol Cymru am y drwydded honno. Os oeddent yn gweithio ar afonydd heblaw’r prif afonydd, yna byddai’r drwydded honno’n cael ei chyhoeddi drwy’r Awdurdod Lleol. Roedd angen dilyn proses gyfreithiol i gael trwydded.   

 

Roedd perygl llifogydd ar hyd a lled y sir yn bryder i’r Awdurdod Lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru ond roedd y Prosiect Rheoli Llifogydd Cenedlaethol yn edrych ar y dalgylch (roedd dalgylch Clwyd yn cynnwys Afon Clwyd, Elwy a Dyfrdwy). Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn edrych ar ffyrdd o ddal llif yn ôl yn y dalgylch a allai fod o fudd i’r cymunedau i lawr yr afon. Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhagweithiol, ond roedd yn rhaid iddynt gofio, gydag effaith newid hinsawdd bod pethau’n ymddangos fel petaent yn gwaethygu ac nid yn gwella, felly dim ond hyn a hyn ellid ei wneud i wrthweithio natur.

 

Cadarnhaodd Keith Ivens fod gan Cyfoeth Naturiol Cymru raglenni, cynlluniau tymor canolig a hir oedd 5-10 mlynedd ymlaen yn edrych ar nifer o amddiffynfeydd, cynlluniau presennol ac yn edrych ar safon yr amddiffyniad presennol. Gyda’r rhagamcaniadau diweddaraf ar newid hinsawdd, roedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu’r cynlluniau i weld a oeddent yn dal yn addas i'r diben ar gyfer nawr ac i’r dyfodol. Pan oedd unrhyw welliannau neu waith uwchraddio’n digwydd, byddai effaith newid hinsawdd yn cael ei ystyried fel rhan o hynny, a byddai’r cynnydd a ragwelir mewn llif a lefelau hefyd yn cael ei ymgorffori i’r gwaith. 

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr bod y cyfrifoldeb dros lifogydd yn fater o gynllunio at argyfwng. Byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r holl aelodau pan fydd diwygiadau wedi’u gwneud i arferion presennol. Byddai’r Prif Weithredwr yn briffio’r Aelod Arweiniol Cynllunio Rhag Argyfwng, y Cynghorydd Mark Young, ac yn syth wedyn byddai penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch sut i fynd â hynny yn ei flaen o ran ymgysylltu â’r aelodau yn ehangach.

 

Roedd yr Awdurdod Lleol wrthi’n creu cynllun amddiffyn yr arfordir arall i ymdrin â’r perygl o lifogydd yn y dyfodol ym Mhrestatyn a’r Rhyl.

 

Diolchwyd i Keith Ivens am fynychu ac ymateb i gwestiynau’r Aelodau.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Brian Jones, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Peter Scott y dylid derbyn yr adroddiad.

 

Cynhaliwyd pleidlais a chytunwyd yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

(i)            Bod Aelodau yn ystyried yr adroddiad ymchwilio llifogydd ac yn rhoi eu barn a’u sylwadau.

(ii)          Bod y Cyngor yn ceisio sicrwydd gan Gyfoeth Naturiol Cymru y bydd yr argymhellion a nodwyd yn adroddiadau archwiliadau llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu cyflawni.

 

 

Dogfennau ategol: